Hide Articles List

21 articles on this Page

BRENINIAETH - PA MOR GOSTUS…

EIN PERTHYNASAU TRAMOR.

"Y FRENINES A CHYMRU."

ADDYSG GREFYDDOL.

|SIR ABERTEIFI.I

" YMGOM DAFYDD." -----..-

News
Cite
Share

YMGOM DAFYDD." [AT EI HAWDWR.] SYR, âDiolch i chwi fel llenor medrus am wneyd sylw o'm hysgrif goegaidd," oblegyd anaml y mae dynion mawr yn gwneyd sylw o fabanod. Dywedasoch "nad pawb yn ardal Pencader sydd yn deilwng o'r enw dynion, yn enwedig y rhai hyny ag ydynt erioed wedi ymrestru ar lyfr mawr Titotaliaeth." Pen- cader, wyla a galara, ymwisga mewn sachlian a Iludw, am i ti gael dy ddarostwng gymmaint gan y dynion hyny sydd wedi ymrestru ym myddin dirwest. Ond yn ol eich ymresymiad chwi, y mae cynneddfau a galluoedd preswyl- wyr yr ardal yr un mor isel, yn enwedig y rhai hyny sydd a'u henwau ar lyfr Eglwys St. Mair, ac ar lyfr y Capel Annibynol yn y lie' Pa beth, tybed, sydd yn iselhau dyn wrth ddod yn aelod o gymdeithas ddirwestol, mwy na phan y daw yn aelod o ryw gyfundeb crefyddol 1 Dywedwch fy mod yn anwybodus o'r Seisoneg ac o'r Bibl. Cyfaddefaf fy an- wybodaeth, ond, chwareuteg, babi ydwyf, a gallaf, gobeithio, maes o law, ddysgu, ac os gwelwch yn dda, syr, cymmeraf wers genych bob wythnos yn y cyfryw bethau, a byddaf ddiolchgar am dani. Cyfeiriwch at ryw frawddeg anrammadegol o'm heiddo; os gwelwch yn dda astudiwch yr englyn canlynol o waith Caledfryn- Os gellant ddyfeisio gwallan-gofrestr, Neu gyfrif man feiau. Ehodreswyr, rhigymwyr gau, Ni ddaliant ar feddyliau. Dywedasoch, fod rhyw duedd mewn babanod i gael Ilyfrau yn eu dwylo ym mhell cyn y byddont yn medru eu deall, yn enwedig os bydd pictwrau ynddynt. Dywed hen air- Fel ei hiin trby,-a arall." Ac y mae pawb sydd yn hoff o bictwrau gwenoliaid, rhodau nyddu, &c., yn credu fod pawb ereill fel eu hunain. Ac felly hawdd y gellwch chwi a Pegi faddeu i mi am hoffi gweled y cyfryw. Yr ydych yn ceisio barnu fy mhroffes; cofiwch yr ymadNdd-" A pha farn y barnoch y'ch bernir." Diammheu mai fy anallu i siarad ydyw yr achos nad ydych wedi fy neall mewn cyssylltiad a "chreu y ddiod feddwol yn ei flurf bresennol." Treiwch eto, y mae ynoch allu annrhaethol. Dywedaf fod Paul o dan ddwyfol ysbrydoliaeth pan yn gorchymyn i Timotheus ymarfer ychydig win, ond cofiwch mai er mwyn ei gylla" y gwnaeth hyny. Mae'r meddyg lawer tro yn rhoddi ychydig lattddnum i'r claf, ond pe rhoddai lawer gwnai ^n ol pob tebyg ei ladd. Yr ydych yn orselog aroa Ysgrythyr i brofi eich pwnc. Felly mionau. Bu llawer o'r fath yn y byd o'r blaen. M*e llawer o ddadleu wedi bod ar Etholedig- aeth," II Y Bedydd," a'r 11 Drindod a'r Undod," 6olly mae Jlawer o Ysgrythyr wedi ei defnyddio gan bob plaid, ond er hyny hyd heddyw y mae y pynciau heb eu setlo 1 foddlonrwydd. Felly ar ddirweafc. Yr ydych chwi yn gredwr mawr mewn coniac, a minnau mewn dwfr. Gyda golwg ar fusnes Lot, yr ydwyf yn credu fod pobpeth wedi ei gofnodi yn yr Ysgrythyr, un a'i ynte i'w hefelychu, neu i'w gochelyd, ac os na a ydyw hanes Lot i'w ochelyd, y mae i'w 'efelychu. Rhoddwch ddiolch i Pegi am addaw tegan i mi. Gwelaf fy mod yn ei ffafr, a diammheu genyf y caf ryw ddydd fy mabwys- iadu i'w theulu, ac felly gobeithiaf gael ambell i ddracht.âYr eiddoch, JONATHAN. [Diolch i Dafydd a Jonathan. Yr ydym o'r farn fod darllenwyr Y JOURNAL yn barod i weled pob u o honynt yn gwneyd ei exit-ar y pwnc (fe ymddengys i ni) annyddorol sydd don sylw ganddynt.âY GOL.]

! GELLI AUR.

PENCADER.

TREGARON.

nYSTRAD MEURIG.

LLANLLWNI.

[No title]

BYRION.

EIN PENLLYWYDD.

ENGLYNION

LLUN FY NGHARIAD.

CEILIOG Y COED.

Y CANARY.

At Olygydd Y JOURNAL.

LLAFAR GWLAD.

AT EIN GOHEBWYR.