Hide Articles List

21 articles on this Page

BRENINIAETH - PA MOR GOSTUS…

EIN PERTHYNASAU TRAMOR.

"Y FRENINES A CHYMRU."

ADDYSG GREFYDDOL.

|SIR ABERTEIFI.I

" YMGOM DAFYDD." -----..-

! GELLI AUR.

PENCADER.

TREGARON.

nYSTRAD MEURIG.

LLANLLWNI.

[No title]

BYRION.

News
Cite
Share

BYRION. Bu llifogydd echrydus yn Japan y mis cyn hwn. YMLEDA haint y pytatws yn gyflym yn y Werddon. YB oedd 83,340 o wallgofiaid yn Lloegr ddechreu y flwyddyn hon. GWELL yw cau y ffenestri mewn ystorm o fellt a tharanau. CYRHAEDDODD Ymherawdwr Germani i'r wlad hon ddydd Iau diweddaf. FE dybir mai pum mlynedd ar hugain ar gyfartaledd yw hyd oes dernyn 0 arian. GELLIR danfon llytbyr yn awr o amgylch y byd mewn naw a thriugain o ddyddiau. CYNNALIWYD Eisteddfod Llandeilo ddydd Llun. Llanelly aeth a'r brif wobr am ganu. I WELLA y wich wach ar esgidiau dylid sogno y gwadsau mewn olew had llin. FE gyfrifir fod dau mwy o oledd yn y twr sydd yng Nghastell Caerphili na thwr Pisa. NID yw Mr Gladstone byth yn cymmeryd te oni bydd wedi ei wneuthur gan ei wraig. DYWHDIB fod Ysgotland ar y cyfan yn sychach na Lloegr, a Lloegr na'r Werddon. CYHOBDDWYD Eisteddfod Genedlaethol1890 ym Mangor fawr yn Arfon y Llun diweddaf. DYWEDIB gan ohebydd yn y New York Times fod y rhyfel yn Hayti yn fwy o gigydd-dra na dim arall. GWARIA pob un naw swllt ar gyfartaledd am lyfrau, cyfnodolion a newyddiaduron yn, y wlad hon. RHYDD boneddwr o'r enw Mr David Evans L50 o ysgoloriaeth i Ysgol Rammadegol Brycheiniog. MAE oddeutu deuddeg miliwn yn ennill eu bywioliaeth wrth eu deng ewin" yn y wlad hon. CYRHAEDDODD treth yr incwm y pwynt isaf yn 1874-5 pan yr oedd yn ddwy geiniog y bunt. Y DYWYSOGES LOUISE yw y seithfed wedi y Gorchfygiad Normanaidd a briododd un o'r deiliaid. DARLLEXWYD Bil Addysg Ganolraddol yng Nghymru yr ail waith yn y Senedd nos Fawrth yr wythnos hon. Bu farw merch yn ddiweddar yn Birming- ham oherwydd rhwymo ei gwasg yn rhy dyn fel ag i rwystro i'r gwaed gylchredeg. EISTEDDA Mrs Harriet Beecher Stowe, awdures "Caban F'ewytbyr Twm," am oriau yn canu ei hoff emynau. AR y Fainc Esgobol yn y wlad hon fe eistedda deuddeg sydd yn llwyr ymatlalwyr oddiwrth ddiodydd alcoholaidd. ANAML y ceir achos o Ddarfodedigaeth mewn plant: y mae yn fwyaf cyffredin rhwng 25 a 30. Y MOTTO ar sel Cynghor Sirol Penfro yw, Mewn undeb mae nerth." Nid ydys wedi clywed pa un ai Saesneg ai Cymraeg yw. Y blaenaf sydd yn taro oreu yn y Little England beyond Wales." DAW Cincinnatti yn fwy parchus o'r Sul fel yr heneiddia. Mae y Maer wedi gorchymyn i'r polis i roddi y gyfraith mewn grym yn erbyn pawb a wnant unrhyw waith nad oes gwir angen am dano. DYDD Mawrth diweddaf yr oedd cynghaws gan Mr J. Gibson, golygydd a pherchenog y Cambrian News, Aberystwyth, yn erbyn golygydd y Goleuad, am y tybiai fod yr olaf wedi ei ysglandrio. Cafodd Mr Gibson .£50 a'r costau am ei drafferth. CYFARFUODD cynnrychiolwyr glofeistri Dur- ham a'r mwnwyr yng Nghastellnewydd ar Dain yr wythnos ddiweddaf i ystyried pwnc y cyflogau. Wedi siarad am hir amser cynnyg- iodd y meistriaid godiad o 10 y cant. Y mae y glowyr yn gofyn am 20 y cant. CYMMERADWYIR Gwasanaeth Claddu neill- duol gan Esgob St. Albans i'w arfer wrth gladdu rhai heb eu bedyddio. Arferwyd ef ychydig amser yn ol yn angladd un o warden- iaid plwyf Coggeshall, yr hwn nid oedd wedi ei fedyddio. FE greodd Dr. Parry, y cerddor, olygfa yn Eisteddfod Towyn, Meirionydd, ddydd Llun yr wythnos hon. Gofynid iddo siarad yn yr iaith fain er mwyn hwylusdod 11 ein gohebwyr arbenig," ond gommeddodd. Wedi beirniadaeth hir yn Gymraeg gwnaeth a hi yr un fath a Thalhairn a'i Greadigaeth er ys talwm yn y Berffro-ei rhwygo yn yfflon. Wrth reswm nis gallesid gadael i hyn basio yn ddisylw. Gwnaed sylwadau ar y peth, a chydiodd y Doctor yn ei het ac allan ag ef. Y MAE Prif Gwnstabl swydd Caerlleon-gawr wedi cyhoeddi rhybudd rhag penaduriaid drwe. llawer o ba rai sydd ar dreigl ar hyn o bryd. Maent wedi eu gwneuthur mor gywrain fel nas gellir braidd gwahaniaethu rhyngddynt a rhai da. Seiniant yn debyg i aur ac y maent o fewn i ychydig yr un bwysau a'r penaduriaid cyfreithlawu. Yr unig ffordd i'w gwahaniaethu yw drwy graffu ar y llythyren "a" yn Victoria, yr hon sydd allan o'i lie, neu islaw y llinell. Daw yr arian drwg yma oddiwrth haid o ddynion cyfrwys-ddrwg. Dylid bod yn ochelgar iawn yn erbyn rhai o'r dynion sydd wedi cyrhaedd y deyrnas. CYMMERODD prawf Elizabeth L&nden le yr wythnos ddiweddaf. Cyhuddid hi o lotgi tafod ei mab a phocer coch. Gofynasai y garchares i un o'i chymmydogion pa fodd i wella ei mab o'r arferiad o ddweyd celwydd, a dywedwyd wrthi am losgi ei dafod a phocer poeth. Gwnaeth yn ol y cyfarwyddyd, yr hwn a roddwyd mewn cellwair, a thynwyd dynion i'r lie gan ysgrecbfeydd y crotyn. Yn ffodus ni chafodd ei safn ei llosgi yn ddrwg. Dywedodd gwr y ddyr.es nad oedd neb yn gofidio mwy am y tro na'i wraig, a gorchymyn- wyd iddi ddyfod i dderbyn ei dedfryd pan ofynid am dani gan y Llys. DARGANFUWYD ogof yn agos i ffrydiau French Creek, yn Reading, Pennsylvania. Oddimewniddiyroedd ysgerbwd a photelwerdd wrth ei ymyl. Yn y botel yr oedd llythyr at Miss Virginia Randolph, Richmond, Virginia. Yr oedd yr ysgrifenwrâArthur L. Carrington âgyda Washington yn Valley Forge yn 1778. Torwyd y cyssylltiad rhwng cwmni a aethai allan mewn ymchwil am ymborth a chorph y fyddin, ac ymguddiodd Carrington yn yr ogof. Taniodd y gelyn amryw ergydion at y gwiad- garwr, a chyffrodd un o'r bwledau garreg fawr yr hon a gwympodd ar enau yr ogof gan ei garcharu oddi fewn. A dyna fu ei ddiwedd a'i lythyr oedd y llawysgrif, yn cynnwys cy- faddefiad o gariad digyfnewid. Ym monwent Richmond fe geir y beddargraff canlynol- "Bu farw wedi tori ei chalon, ar y laf o Fawrth, 1780, Virginia Randolph, yn 21 mlwydd a naw diwrnod oed."

EIN PENLLYWYDD.

ENGLYNION

LLUN FY NGHARIAD.

CEILIOG Y COED.

Y CANARY.

At Olygydd Y JOURNAL.

LLAFAR GWLAD.

AT EIN GOHEBWYR.