Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

GAIR YN EI BRYD.

News
Cite
Share

GAIR YN EI BRYD. Nis gall dim fod yn fwy amserol ac at y pwynt nag ymadroddion Arglwydd Randolph Churchill yr wythnos hon yn Walsall. Y maent yn deilwng e sylw Ceidwadwyr ar bob pryd, ac yn neillduol felly yr adeg bresennol. Un o brif amcanion ei Arglwyddiaeth yw gwneyd egwyddorion Ceidwadol yn dderbyniol gan y Werin, ac y mae yn llwyddo yn ei aracan. Ymddengys fod cryn ragfarn mewn blynyddau sydd wedi bod ym meddyliau y lluaws yn erbyn Ceidwadaeth. Tybient mai credo wleidyddol i'r mawrion a'r cyfoeth- ogion, ac yn neillduol y tirfeddianwyr, ydocdd. Y mae Arglwydd Churchill yr wythnos hon (a llawer gwaith o'r blaen, yn wit.) wedi dangos fod y dyb hono yn gyfeiliornus, ac y gall y bobl gyffredin dderbyn egwyddorion Ceidwadol a bod yn Uawn mor ddedwydd a llwyddiannus, a mwy felly, na phe byddent oil yn Radical- iaid. Dyma ei eiriau ef ei linn Yr wyf wedi arfer meddwl fod Ceidwadaeth pan ddeallir hi yn drwyadl gan y lluaws, yn sicr o roddi prawf iddynt ei bod yn anbebgorol i lwyddiant a daioni y wlad, ac yn gysson a'r rhyddid mwyaf a ellir fwynhau. Nid oes genym ddim i gywilyddio o'i blegid mewn my Ceidwadaeth nid oes genym ddim i'w gudtlio; yr hyn oil a ddymunwn ei wneuthur yw egluro athrawiaethau Ceidwadol yn drwyadl i'r ethol- wyr ym mhob man." Nid oes dadl am dani nad yw y Ceidwadwyr wedi esgeuluso addysgu y bobl a bod y gelyn- ddyn" Radicalaidd wedi dyfod i mewn i'r maes ac hau efrau ynddo tra yr oeddent hwy yn cysgu. Gan liyny y mae pob rheswm yn a y galw atnynt i ddihuno at en gwaith, a chydio ynddo o ddifrif-nid fel rhai yn hanner ammheu pa un a ydyw Ceidwadaeth yn iawn ai peidio, ond fel rhai yn credu mai yr ochr hono i wleidyddiaeth y wlad hon yw yr oreu yn bossibl. Dylai pob Ceidwadwr, ac yn neillduol pob un sydd a dim cyfrifoldeb swyddogol ym mhlaid y Ceidwadwyr arno; deimlo yu llwyr argyhoeddedig ei fod yn gwneyd gwaith da. Y mae ammheuaeth yn cynnyrchu clauarineb, a cblauarineb ddiofal- wch, a diofalwch fethiant. Tebyg na chawn etholiad cyfFredinol am oddeutu tair blynedd, ond nis gallwn deimlo yn sicr. Fel y dywedai ei Arglwyddiaeth Y mae bywyd Parliament fel bywyd dyn yn ansicr. Nis gall neb ddweyd wedi i Barlia- ment barhau am dair blynedd pa bryd y daw I ei ddiwedd. A chwi a ddylech gofio y rhaid i'r dynion mawr galluog ydynt yn gofalu am fuddiannau eich plaid yn Llundain fod ar eu gwyliadwriaeth ).arliatis pa bryd y daw yr amser goreu a mwyaf cyfleus i gael etholiad cyfFredinol ac appelio at lais y wlad." Dywedai ym mhellach mai diffyg gofal a diwydrwydd sydd wedi anafn y Ceidwadwyr yn benaf hyd yn hyn, a chyfeiriai at rai o'r peryglon sydd ar ei ffordd yn y cyfnod presen- nol. Gallant dybied fod eu wrthwynebwyr yn wanach nag ydynt. Gallant gymmeryd yn ganiattaol fod eu sefyllfa ymranedig yn ormod o rwystr ar eu ffordd i ymuniawnu mwy. Ond ni ddylai dim felly beri i'r Ceidwadwyr hepian a huno. Mae Mr Gladstone yn llu ynddo ei hunan. Y mae gafael gref ganddo ar y wlad ac yn gyfarwydd a phob math a'r ddull gwleidyddol o ryfela. Nid am ddim y mae wedi treulio banner can mlynedd o fywyd seneddol. Trwy ymdrechion diflno i oleuo yr etbolwyr a ddadleu gwahanol bwyntiau ammheus a hwynt, er symmud eu rhagfarn yn erbyn y Weinyddiaeth bresennol, y gall y Ceidwadwyr orchfygu pan y daw yn frwydr-brwydr a sefydla dynged yr Ymherodraeth hon. Y mae hyn oil yn cyfeirio sylw Ceidwadwyr at un ddyledswydd arbenig, yr hon ni ddylid er dim ei hesgeuluso, a dyma hi- COFRESTRER COFRESTRER 0 hyn i ben wythnos fe welir ar ddrws pob Eglwys a Chapel yn y wlad restr yn cynnwys enwau yr etholwyr. Y mae y rhestr hon o'r pwys mwyaf. Nid yw bob amser yn gywir. Gwyddom am engreifftiau o enwau yn cael eu gadael allan—nid yn fwriadol, ond o herwydd esgeulusdod neu ddiffyg gofal. Os na bydd enw yr etholwr ar y rhestr ni bydd ganddo hawl i bleidleisio yn yr etholiad nesaf. Amcan ei chyhoeddi fel yma wrth ddrysau tai cyhoeddus fel eglwysydd a chapeli ydyw rhoddi cyneustrar i'r etholwr wybod a ydyw ei enw fel etholwr ar lyfr y cofrestrydd ai peidio, gan hyny y mae yn ddyledswydd ar bob etholwr i fynu gweled a ydyw ei enw i mewn. Nid digon fod ya hen etholwr ac nad oes cyfnewidiad wedi bod yn ei Ie-fe eill fod ei enw allan, a gwell iddo weled a ydyw. Os nad ydyw dylai fyned i swyddfa y Gymdeithas Geidwadol yn ei gymmydogaeth, a gosod ei gwyn a'i hawl i mewn yno. Mae o bwys hefyd i'r rhai sydd heb bleid- lais, ond yn meddu hawl gyfreithlon i'w chael, fynu gweled ar unwaith y bydd i'w henwau fod ar restr y pleidleiswyr nesaf. Mae cannoedd o'r dosparth yna i'w cael yn y wlad a chollir llawer o honynt bob etholiad. Ni ddylai neb ddysgwyl i'r goruchwyliwr Ceid- wadol mwyaf bywiog a Uygadog yn un o'r 8iroedd wneyd pobpeth dros yr etholwyr. Rhaid iddynt hwy wneuthur amryw fan bethau drostynt eu hunain. O'r hyn lleiaf dylent weled pa un a yw eu henwau ar y llyfr, ac os nad yw mynu gweled y bydd yno erbyn y tro nesaf.

BIL Y DEGWM.

TREULIAU ADDYSG.

MR. PARNELL YN EDINBURGH.

PWNC YR ORGRAFF.

FFERMWYR ANGHYMMEN.

PRIODAS MISS E. BEATRICE JONES-PARRY,…

ENWAU.

YMGOM.

[No title]

BYRION.

llarddoitiactlt.

^lohcbiactlt.

LLAFAR GWLAD.

YR EGLWYS A'R F ASN ACa FEDDWOL