Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

FFRWYfHLONDEB.

News
Cite
Share

FFRWYfHLONDEB. Dyma yr amser i dalu sylw neillduol i effaith achles ar y tir drwy edrych ar y cnydau fel yr addfedant. Y mae y canlyniadau yn awr ger ein bron; y mae pob cae ar y fferm fel tudalen 6 lyfr agored-Ilawlyf r wedi ei ysgrifenu mewn iaith eglur a semi, yr hwn a ddywed wrthym mewn ffordd nas gall dim arall wneyd, am gyflwr y tir, ac am ddrwg neu dda y ffordd a arferwn i amaethu. Dylai pob ffermwr gofio y dylai tir cyn y gallo wneuthur hyn gael ei drefnu a'i ddos- parthu, a'r dwfr arno gael ei droi yn y ffordd oreu yn bossibl. Nis gall achles brofi o'r defnydd mwyaf i dir nad yw yn cael ei sychu neu ei ddyfrhau yn briodol. Heblaw hyny, y mae yn rhaid talu sylw i'r amser a'r modd y rhoddir achles i'r tir, os y byddir am gael yr oil a ddymunir oddiwrtho. Y mae arbrawf- iadau mewn gwahanol leoedd wedi ein dysgu bellach mewn llawer o bethau yng nglyn a'r hyn y dylid ei ochel a'r hyn y dylid ei ddef- nyidio, ond nid ydys wedi cael digoh o wy bod aeth i roddi cyfeiriadau pendant am danynt. Dibyna llwyddiant y ffermwr ar fod iddo achlesu ei dir yn ei amser priodol, a hyny o flwyddyn i flwyddyn. Ar yr un pryd dylai dalu y sylw priodol i gynnildeb a'r ffordd oreu y gall roddi yr achles i'r tir; fel y gallo gael cymmaint o gynnyrch oddiwrth yr achles a'r tir ag sydd yn ddichonadwy. Fel y cyrhaedda y cnydau at addfedrwydd yr ydym yn gallu gweled pa un a fyddwn wedi bod yn llwydd- iannus a'i peidio yn y gwaith pwysig hwn, oherwydd gan nad pa mor anffafriol y bo y flwyddyn, y mae ffermwriaeth dda yn sicr o wneyd ei hol bob amser. Yrydys yn gwybod am un cnwd o farlys yn awr, yr hwn sydd yn fwy boddhaol na nemawr yn y wlad. Hauwyd ef ar dyddyn a gymmerwyd yn 1887. Tir trwm ydyw, ac yr oedd y pryd hwnw mor llawn o ddant y ci ag y gallasai yn rhwydd fod. Arferwyd pobpeth ag a allesid mewn ffordd o aradu, a llyfnu, a dulliau eraill, yn y gwanwyn a decbreu yr haf y llynedd. Yr oedd y tymmhor yn rhy wlyb i losgi bieting a chludwyd yr oil o'r borfa yn dommenau mawrion, a pban oedd y tir mor lan ag y gallesid ei wneuthur, achleswyd ef yn drwm yn y rbycbau o'r ystabal a'r beudy, a hauwyd y gwreiddiau ynddo-mangold yn gyntaf, yna maip ac erfyn gwynion. Yr unig broffid, neu yn hytrach ennill, a gafwyd am yr holl waith hwn y llynedd a ddaeth oddiwrth y defaid a adawyd i mewn ynddo. Ond bu y defaid o fendith iddo drwy gynnorthwyo gwaith y ffermwr i achlesu y tir. Aradwyd ef yn union y dybenodd y defaid ag ef. Hauwyd barlys ynddo yn gyntaf peth ar ol hyny, ac y mae y cnwd toreithiog a gyfyd yn awr yn dangos fod yr arbrawf yn berffaith ddiogel. Ar yr un fferm y mae caeaid o wenith cryf yr olwg yn dangos fod yr amaethwr yn gywir ei farn o barthed i effeithiau yr achles a rodd- wyd i'r cae y llynedd. Y mae y corsenau yn agos i 6 troedfedd o daldra, a choronir hwy gan y fath dywysenau godidog, fel y bydd yn gnwd gyda'r goreu yn y wlad. Yn agos atto y mae cnwd o wenith a elwir y Salvator, corsenau yr hwn sydd yn agos i 7 troedfedd o uchder, ac am yr hwn y dysgwylir pethau mawrion. Fe fydd eisiau cryn lawer o dail ar y tir hwn y flwyddyn nesaf. Mewn caeau eraill, lie yr hauwyd barlys ar ol barlys, yr oedd haen o achles celfyddydol yn ddigon i gynnyrchu cnwd rhagorol. Efallai mai un o'r arwyddion goreu i farnu Ilwyddiant amaethyddiaeth yn ddiweddar yw y pwysigrwydd a roddir yn awr ar fwyd cym- mysg i anifeiliaid ac achles cymmysg i'r tir. Mewn lie o'r enw Woburn y mae fferm i'w chael ar yr hon y gwneir arbrawfiadau, a gwelir yno fod achles yn cynnwys elfenau halenaidd a mwnawl yn cynnyrchu cnydau da, tra y mae rhanau eraill ar yr un lie sydd wedi cael achles mwnawl neu halenaidd yn unig yn ftydio lawer yn waeth. Y mae yr arbrawf- iadau a wneir yleni yn bwysicach fyth, yn gymmaint a bod y tywydd wedi bod yn hynod flafriol i achles fferyllawl wneyd yr hyn a all i'r tir. Wrth ddefnyddio achles fferyllawl jr mae yn rhaid arfer gqfal arbenig rhag gwas- traffu dim, a gweled bod ei rinwedd yn gwneyd' • ei waith cyn gynted ag y gallo. Ni ddylid rhoddi achles o'r fath, os na welir fod gwlaw yn agos, neu fe fydd yn fwy o golled nag o ennill i'r ffermwr. Dylid arfer gofal hefyd rhag ei ddefnyddio yn rhy gynnar neu yn rhy ddiweddar. Y mae profiad rhai amaethwyr llwyddiannus yn dangos na roddwyd ef o gwbl yn rhy gynnar i dir pori, o herwydd yr oedd mor llawn o wreiddiau fel y llyncwyd yr halen oedd ynddo yn union y toddid ef, ac y mae yr effaith arafach a ddilyna y mwnawl yn llawn mor sicr. Y me profiad yr unrhyw amaethwyr hefyd yn dangos y gellir ei arfer gyda chnwd o litfur gauaf neu wanwyn wrth ei hau, yn unig os bydd y tir yn un cymmhwys iddo. Dylid bod yn ochelgar iawn i'w ddefnyddio ar dir trwm iawn, oherwydd os gadewir ef ar led ar yr wyneb, fe all llawer o hono gael ei olchi ymaith gan y gwlaw. Yng nglyn a'r pwnc o achlesu, yng nghyd a ffrwythlondeb y tir, efallai nad ydys wedi talu y sylw dyladwy i'r gwasanaeth a fedr defaid roddi yn y cyfeiriad hwnw.

',.GWARTHEG CYMREIG.

ANGENRHEIDIAU GIEIR.

MESCJR Y DEGWM.

DIRYWIAD GLADSTONIAETH.

"YR ESTRONES."

CENARTH.

BYRION.

Y FWYELL.

ENGLYN

Y GOLOMMEN.

Y GATH.

Y MILGI.

YMDAITH Y TYMMHORAU.

YMLADD TEIRW YN YR HISPAEN.

DOS YM MLAEN.

BRWYDRO ETHOLIADOL. ---

LLANYBYDDER.

AT EIN GOHEBWYR.

CYSTADLEUAETH EISTEDDFODOL.