Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

ARAITH MR GOSCHEN.

News
Cite
Share

ARAITH MR GOSCHEN. Mae darn o dir yn sir Stafford a elwir y Potteries—math o faes y croclienydd-Ile y gwneir llestri pridd o wahanol fathau. Yr wythnos ddiweddaf bu Mr Goschen, Canghell- ydd y Trysorlys, yno yn dweyd ei feddwl am areithiau Mr Gladstone ychydig amser yn ol. Prif nod ei araith oedd amddiffyn y Llywod- raeth yng ngwyneb yr ymosodiadau a wneir 0 Z3 arni gan Mr Gladstone ac eraill. Ni chafwyd dim gan y Cyn-brifweinidog yng Nghernyw a Dyfnaint yn amgen na bara wedi llwydo. Nid oedd dim un pwynt newydd yn yr oil a ddywedodd, ac y mae yn hawdd deall beth oedd syndod Mr Goschen, wedi cerdded dros ryw erw o hanes taith Mr Gladstone yn y Times, i weled fod cyn lleied i gyhuddo y Lly- wodraeth o hono wed'r cyfan. Yn fyr, dyma beth ydyw cyhuddiadau Mr Gladstone--ein bod yn rhoi'r iau ar war y Gwyddelod, yn trin Gwerddon fel pe bai yn fath o wlad y Pwyliaid, ac nad yw y Gwyddelod yn bobl rydd. Y mae y cyhuddiadau hyn, un ac oil, mor anghall fel y maent yn ateb eu hunain pan y gwneir hwy. Yn ei araith ni wnaeth Mr Goschen ond dweyd pethau sydd yn wybyddus i holl ddeiliaid y Frenines wrth ddangos fod gan y Werddon fwy o gynnrychiolwyr mewn Z5 cymmhariaeth i'w phoblogaeth nag un rhan arall o'r deyrnas, fod y Wasg Wyddelig mor rhydd ag eiddo Lloegr neu Ysgotland, neu'r Wasg mewn unrhyw wlad yn Ewrop, fod rhyddid ymadrodd mor ddilyffethair yno ag y gall yti thwydd- fod. Am y cyhuddiad arall fod cyfreithiau anghyfartal i'w cael yn Lloegr Z5 a'r Werddon, yroll sydd eisieu ei ddweyd yw nas gall un cymmundeb iaeti mdeithas o bobl t,Y yn Lloegr wneyd ond yr hyn sydd gyfreithlou, a bod yr hyn sydd yn annghyfreithlon yn y Werddon yn annghy- Z5 freithlon hefyd yn Lloegr. Dywedodd Mr Gladstone y gwrthodir Llywodraeth Leol i'r Gwyddelod am eu bod yn genedlgarol. Nid oes gan genedlgarwch ddim i'w wneuthur a'r pwnc, ond cyn hired ag y gwneir sefydliadau dinesig a lleol yn y Werddon yn beiriannau lladrad a gwrthryfel, annichon yw estyn Lly- wodraeth Leol iddi. Y mae rhyw wawr o obaith, fodd bynag, yn tori ar Werddon yn awr, y daw yn debyg i ranau eraill o'r Deyrnas Gyfuuol. Fe gadarnhawyd sylwadau Mr Goschen ddiwrnod neu ddau yn ddilynol gan Mr Chamberlain, yr hwn a ddywedai fod yr amser yn cyflym agoshau pan y gall y Llywodraeth gyflawni ei bwriadau a'i chynlluniau addaw- edig er penderfynu pwnc y tir yn y Werddon. Ac y mae ei gwrthwynebwyr poethaf yn ym- dawelu a distewi. Nis gallant ammheu y bendithion a gais y Weinyddiaeth Undebol gyflwyno i'r Werddon, a pha faint bynag eu 0 casmeb at ei gwaith, yr hwn a dyr odditan eu traed bob esgus dros beri cynhwrf, mae yn amlwg y taflant y rhwystrau a allant ar ei ffordd. J •, .t..

[No title]

MR GLADSTONE A DADSEFYDLIAD…

Y CYMRY AC ANUDONIAETH.

[No title]

COD NEWYDD ADDYSG.

j •, g ADDYSG YNG NGHYMRU.

",ll EIN DA PLUOG.

GWYDDONIAETH A FFERMWRIAETH

[No title]

Y TYWYDD A'R FFERM.

"CN YDAU AC ANSAWDD Y TIR.

Y DD AM WAIN FAWR AR REIL-FFORDD…

LLEDAENU CLEFYDAU HEINTUS.

LLANARTH.

(Hflhc&iadh.

AT EIN GOBEBWYR OYMREIG.

[No title]

[No title]

CYNGHRAIR Y CLAN-NA-GAEL.

Y DDWY OCHR.