Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

Til EM AR BYNCIAU'R DYDD.

News
Cite
Share

Til EM AR BYNCIAU'R DYDD. BWRDD YSGOL CAERFYRDDIN A'R BEfBL, Yr ydym yn metliu dirnad beth sydd wedi dallu Ymueillduwyr tref Gristionogol Caer- m fyrddin fel ag i wrthwynebu darlleniad o Feibi anwyl Iestl, A rhodd deheulaw Duw yn y Bwrdd Ysgol! Nidydym yn gwybod am un dref yn Nghymru yn fwy dyledus i'r Beibl na Chaerfyrddin, yr hon "sydd wedi ei dyrchafu hyd y nef o ran breintiau ond yr ydym yn gobeithio na bydd tynu lawr arni mewn sarhad a chywilydd yn y dy- fodol am i rai geisio diystyru "Llyfr y llyfrau," yr hwn a gofleidiai yr hen deidau Protestanaidd wrth yr ystanciau, dan ganu yn orfoleddus yn ngafael ei wirioueddau bywiol- Af at y stane i drengo, Mi hunaf yn y fflam Cyn rhoddaf byth i fyny Hen 'Feibl mawr' fy mam." Wel, os oedd dyled arnynt hwy yn yr oesoedd aeth heibio i sefyll i fyny dros anrliydedd y Beibl," pan nad oedd ei oleuni wedi ymdaenn i'r graddau y mae yn bresenol, pa taint mwy y dyleoi ni yn yr oes oleu lion ? Y mae yn rhaid i bob dyn ystyriol gyfaddef mai i'r Beibl y mae Prydain Fawr yn ddyledus am ei llwyddiant gwladwriaethol, a'i gogoniant moesol a chrefyddol, yr hyn sydd yn ei gwneyd yn brif destyu edmygedd holl wledydd gwar- eiddiedig y byd. Yn ngwyneb hyn oil, byddai Z5 Z5 yn waradwydd i bobl "gwlad y Beiblau a'r Testamentau" i gadw y Gyfrol Santaidd allan o'r ysgolion dyddiol, yn rulit rai y codir i fyny ieuenctyd yr oes. Yn sicr, nid yw banner awr bob boreu yn ormod o amser i ddarllen ei wirioneddau, hyd yn nod yn "ysgolion y Byrddau," a rhoddi pob chwareu teg i ram- made. daiaryddiaeth, hanesiaeth, rhifyddiaeth, gwyddoniaetb, &c. Yn wir, nid oes lawer o swyddi yn ein gwlad nad oes gwybodaeth o'r Beibl yn angenrheidiol yn yr arholiadau rhag- barotoawl, heb son am y pulpit Cymreig a Seisnig. Addefir yn gyffredin (gyda yr eithriad o rai aelodau y Bwrdd Ysgolion) y dylai gwybodaeth o'r Beibl i fod yn sylfaen pob gwybodaeth arall, ac i iawn gyfeirio meddyliau a mouldio cymeriadau ein dynion ieuainc yn nghyflawniad o'u gwahanol swyddi a Z!1 a'u galwedigaethau. 0 ganlyniad, yr ydym yn dymuno cydnabod gwroldeb a sense of duty y Prif-athraw Brown, ae Eglwyswyr ereill sydd ar Fwrdd Ysgol Caerfyrddin, am eu hymdrecli canmoladwy (er eu bod yn y lleiafrif) i roddi y lie dyladwy i'r Beibl yn mblith llyfrau ereill yn yr ysgolion dan sylw, yr hwn fydd yn addurn ac yn anrliydedd i'r lleill. Bravo, wroniaid y Beibl gwrthsefwch yspryd anffyddol yr oes yn beu- derfynol. Ni adeiladwyd Rhufain mewn un dydd; "dyfal done a dyr y gareg," ie, calonau adauiantaidd. Parhewch i ddan- gos eich egwyddorion yn ddirgel ac ar gyhocdd, ac yn "ngwyneb haul a llygad goleuni; fe syithia caerau rhagfarn a clmlni Z5 C5 wrth chwythu ag udgyrn y gwirioneddau Beiblaidd a safadwy. Mor anghyson mae rhai wrth ganu Aed Efengyl ar adcnydd dwyfol wynt un diwrnod, gyda lnvyl noilldnol, ond y diwrnod arall ceir hwy yn ceisio bolltio y drysau, ac yn cau r ffenestri yn erbyn y "deheuwynt" balmaidd sydd i wncyd "plallhigioll" ieuainc yn "brenau cyfiawnder," a'r anialwch anghwr- eithiedig yn ardd baradwysaidri. Y mae vn IIawn bryd i Ytlmeillduwyr ac Eglwyswyr i ymuno a'u gilydd yn ysbryd cariad a thang- neferld i feithrin egwyddorion y Beibl yn niynwesau a chalonau y bobl ieuainc, fel y byddont yn gryfion i wrthsefyll profedig- aethau'r byd, ac i rodio llwybrau rhinwedd a chrefydd yn ngoleuni dysglaer yr Ysgrythyr Lan, o herwydd cofier mai y "plentyn yw tad y dyn."

LLOFRUDDIAETH ERCHYLL YN .ABERTAWE.

[No title]

LLYTHYR RHEIDIOL.

YMNEILLDUAETH YN DDRWG.

TROEDIGAETH WLEIDYDDOL GWEINIDOG…

CAERFYRDDIN.

DADL FFERMWYR MYRDDIN A PENFRO.

[No title]

CAIO.

Y CYNGHOR SIROL. i

CAIO.

Y CYNGHOR SIROL. i

CLADDEDIGAETH SYR JOHN MOOllE

LLITH YR HEBOG.

[No title]