JACK Y LLONGWR|1899-07-01|Y Werin - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

17 articles on this Page

JACK Y LLONGWR

News
Cite
Share

JACK Y LLONGWR CEISIO DEDDFr I ATHRYLITH. Beth yw dirgelwch llwyddiant captan Hong llwyddianus ? Deajltwriaeth o ddeddfau y pvyitoe(ld a'r moroedd. Cyd- nabyddla fod y deddfau hyny yn uwch na'i allu ef, ac ni oes ganddo er ddim i 'neyd ond ceisio gweithredu hyd eithaf ei wybod- aeth a'i brofiad i 'neyd ei ora o'r amgylch- iada' gwrthwynebus. Tydio ddim am weithredu amsar gwynt croes yr un fath ag amsar gwynt teg, gan fod mor ffol a chredu y bydd iddo 10 tod yn alluog i droi deddf gwynt croes i fod yn ddedclt gwynt teg iddo fo. Nid fo sydd i reoli deddf y gwynt a deddf y mor ond efe sydd i gydymfrurfio hyd eithaf ei allu a'i wybodaeth o'r deddfau hyny. Nis gall ere wneyd deddf ei hun ag a fyddo yn uwchraddol i ddeddfau Natur. Byddai i yn gofidio yn fawr na welid mwy o ddynion yn nglyn a'n sefydliada' cy- hoeddus a chrefyodol ni, tebyg i gaptan llwyddianus. Be' geir yn y sefydliada' hyny? Yn gynta' oil ceir llawar iawn- y rhan fwya' o lawer o'r prif aeloda'—yn ddynion ddidalent, ond arianog. Mae'r giang yma yn meddwl yn siwr y gallan' hw reoli pobpeth a phawb. Beth yw sail eu tybiaeth ? Dyna ydio: gan 'u bod nhw wedi bod yn llwyddianus mewn rhyw un cyfeiriad, credant y gallant fod yn mhob cyfeiriad, ac na feiddia neb eu gwrth- wynebu. Dynion gwyntog ydyn' hw, cyfoethog, ond didalent. Dyma'r giang a feiddiant fyned yn erbyn deddf amgytch- ivda' cymydogaeth. Ni fynant hwy uf- uddhau i farn prpfiad a doethineb: y nhw sy'n iawn, a phawb er'ill heb fod felly. Fel hyn y pengaledant ac yr ant i ddin- ystr. Ceisiant osod eu hunain yn ddeddf uwch law peb deddf arall. Y diwedd yw eu dymchweliad hwynt hwy eu hunain, a mawr ddrwg i'r gymydogaeth. Gwyr y cyfarwydd a'r meddylgar fod petha' yn dwad i gyfarfod dyn weithiau nad oes dim modd eu gorchfygu. Y cwbl fedr 'neyd ydi g'neyd fel bydd capten llong llwyddianus yn ei 'neyd ar y mor,-tacio a llywio yn ofalus pan y bydd y gwynt yn groes, ac nid ceisio hel y gwynt croes a'i gadw mewn sach! Yn amal iawn bydd yr anoethineb mawr o geisio rheoli deddf fwy hefo deddf lai yn dwad i'r golwg fwya' mewn cysylltiad a chrefydd. r fod achos crefydd yn enill lluaws o ddynion talentog i fod yn bre- getnwrs a blaenoriaid, etc cawn fod Ilawer o ddynion talentog a gwir athrylithgar ALLAN O'R PWLPUD A'R SET FAWR. Yn wir, ceir nid ychydig o honyn' hw allan o'r addoldai ol tw geddar. Beth yw y rheswm fod can lleied o ddynion athryl- ithgar yn bregethwrs neu yn flaenoriala., Beth yw y rheswm fod cymaint o ddynion ddidalent, tra chyffredin mewn dawn a dy-g, yn y pwlpuda' a'r seti mawr? Y rheswm yn ol fy mara i ydi hyn nis gall athrylith fyw dan ddeddf a osodwyd gan ddyn, tra y mae y cyfryw ddeddf i ddyn- iou ddichlent 4 di-athrylit.h uwchlaw y perffeithrwydcl y gallant hwy byth obeithio ei gyraedd. Sut y gall dyn athrylithgar fyw dan reolau a dynwyd allan gan bac o ddynion na wyddant o gwbwl am athryl- ith? Dywedir am ddyn athrylgar, os y bydd efe yn cicio yn erbyn tresi y rheolau enwadol ac yn mynu myned ffordd arall, mai dyn cyfnewidiol ydio. Choelia'i fawr. Mae ffordd athrylith mor anhysbys i'r cyff- redin ei feddwl, ag ydyw ffordd yr eryr i'r dryw bach. Fydda'i yn synu dim at rai dynion eu bod yn methu byw mewn rhyw enwad neillduol: y mae eu hathrylith yn rhy fyw i oddef cymeryd eu caethiwo gan reolau cast iron yr en wad, ac y mae eu gonestrwydd yn rhy nerthol i'w caniatau i aros mewn enwad ag sy'n cael ei reoli fwy gan ddeddf y bedd na chan ddeddf bywyd a dadblygiad. Nis gellir rheoli athrylith gan ddeddfau ddyfeisiwyd gan feddyliau sectol. Dan yr hen oruchwyliaeth, nid oes genym ond hanes ychydig iawn o ddynion athrylith- gar yn byw ac yn bod dan reolau y ddeddf t-ere^moniol. 'Roedd Mcises yn fwy na'r gyfundrefn a sefydlodd. Torodd athrylith Esaiah i bob cyfeiriad, a dangosodd i'r bvd ddyfodol gwell na dyddia' ffurfia' a seremoniau. Yr un fath ellir ddweyd am Jeremiah ac Ezecial ac eraill. Os sylwch chi, er fod dan yr hen oruchwyliaeth son am ysgol y prophwydi, ychydig iawn o son gewch chi am stiwdants yr ysgol hono. Tydi presenoldeb dyn mewn coleg ddim yn profi ei fod o yn ddyn athrylithgar. Yn amal iawn cewch y penbwl mwya' yn pasio ora. Mae efrydydd athrylithgar yn methu dysgu y gwersi yn unol a'r drefn ddangosir iddo, ond er hyny gall gael gafael ar bethau trwy nerth ei athrylith yn well nag y gall yr ysgolheigion yn bur amal. Gwell gan y bobol wrando arno fo nag ar y dysgedigion. Nid gwiw disgwyl iddo lwyddo mewn dim ond yn ei ddull ei hun o 'neyd pobpeth. Y mae cymaint o fywyd yn ei enaid fel nas gall oddef bod dan iau enwad neu blaid. Oherwydd gor- roes enwad a chaethiwed plaid, y mae llawar achas da, wedi colli dynion ar- dderchog. Oherwydd peth fel hyn, y mae dyniou bychain mewn cyrhaeddiada' medd- yliol, wedi dyfod i awdurdcd mewn llawar eglwys, ac wedi myned yn fwrn ar yr eg- lwy-i. Iechyd i galon crefydd fyddai cael ymadael a'r criw i gyd. Bydda'i yn ofni yn barhaus nad oes le i athrylith mewn llawar iawn o'n heglwysi. Mae yno gyf- lawnder o le i ddynion didaient a cnyf- oethog. Y canlyniad ydi cyffredinedd, marwei<M-dra, diffyg, gwreiddiolder, un- flfurfiaeth a diflasdod. Pan y bendithia Duw ddyn ao; athrylith, gellir gwelad hyny yn y fan, nid yn unig yn nghynyrch medd- ytiol y dyn, ond hefyd yn mharodrwydd y bobol i wrando arno ef. Waeth i chi beidio, deyd fod dyn yn wr mawr, yn meddu teitla' ar ol 'i enw, yn perthyn i rhyw rai urddas- 01, ac yn ddyn cyfoethog, os na fydd ganddo athrylith. Pwdin clai fydd o wedi'r cwbwl. Edrychwch chi ar wyr athrylithgar Cymru, a chewch welad mai nid oherwydd dim arall y daethon' hw i sylw y byd. Nid cyfoeth, nid cysylltiad perthynasau. nid safle gym- deithasol sy'n g'neyd dyn i gael ei ystyried yn athrylithgar, ond rhodd Duw yn enaid y dyn. Bydd Duw fel pe yn g'neyd sport am ben crefyddwyr a phawb. pan y cwyd Ef fachgen tlswd 0 FOL Y CLAWDD, ac y gesyd ef yn arwr i'r wlad mewn dawn, a gallu. ac atdyniad! Nis gall na blaenor, 11a gweinidog, na gormeswr cyfoethosi, nac eglwys gadw athrvlith i lawr. Yr ydan ni wledi gjwelad e^livys yn" c&tgan trwy y balot nad oedd rhy; fachgen ddim yn meddu seal] ii f0fj yn breerethwr, ac yr ydiin ni heddyw yn gwelad y bachgen hwnw wedi cyrhaedd un o'r safleoedd mwyaf dylanwadol yn ein gwlad, trwy ei athryl- ith a'i haeddiant personol ei hun, heb gy- morth na phres na dylanwad cvfeillion o fath yn v bydL Lie irni ei ddibriswyr o heddyw? Lie mae'r bobol hyny a gred-ent fc- gynyn hw allu i welad "t>ilant ? Mae llowar o honyn' hw yn y bedd, heb adael dim ar eu hola' i neb wbod 'u bod nhw wedi bod ar y ddaear yma, ac y mae y lleill yn fvw heddyw, heb gymaint ag un o hcnyn' hw wedi dwad i enwogrwydd? Lie mae J4 bachgen athrylithgar? Mae o heddyw yn un o'r dynion mwyaf adna- byddus Cymru, ac yn dylanwadu mwy ar feddvlia' y wlad na holl gethwrs Cymru hefo'u gilydd! Dyna chi bedi nerth ath- rvtrjnh! Na cheisier byth lyffetheirio athryiith I Gadawer iddi ddadblygtt yn unol a'r ddeddf a roddodd Duw iddi. Yn- fydrwydd Ikiasai disgwyl i'r wenol gyd- I. ymffurfio a deddf bywyd y pryf genwair! Fasa waeth i mi fod heb ddwad i LANBERIS yma, gan feddwl a/m seibiant. Y mae galwadau parhaus yn dwad ata'i o bob man, ae mi 'rydw'i bron a myfnaid at Puleston Jones i ofyn ia ydio ddim yn gwbod am rhyw ddyn ifanc fasa'n leicio bod Y11 breifat secretari i Jack y Llongwr, trwy fod cym'int o lythyra' yn dwad ata'i o bob man. Fedra'i byth ddwad i ben i atab yr holl lythyra'. Mae pobol wedi mynad i gredu pob peth bron am dana'i. Mae nhw yn meddwl y gallai'i gau ceg rhyw ddynas tua' LLANLLYFNI rhag yfad o honi y stwff sy'n g'neyd hi yn wirionach nag y mae hi; neu greu heddweh yn mysg lot o ddirwestwrs (ym- ddengys eu bod nhw wedi mynad ar 'u spri trwy yfad gormod o'r ysbryd drwg); neu ddwad i gadw seiat i G neu fynad yn llywydd neu yn arweinydd mewn eisteddfod; neu ddweyd pa ffirm ydi yr ora i roddi arian ynddi; neu feirniadu traethoda' ar banes tri o blwyfi neillduol; neu dJradldodi dlartith ar nherthia' &c., &c., &c. Basach yn synu petaswn i yn rhoi cynwys rhai o'r llythyra' mwya' per- sonol. Er engraifft: Be sy'n dda at gael gwallt? Atebiad: Arm a, ac yna gellir prynu wig. "Mae'r gwas yma yn chwyrnu yn 'i gwsg, a phan yn effro taera na fydd o ddim yn chwyrnu, a dywed y coelia fo'i glutetia' hun o flaen clustia' pobol ereill. Beth fasa chi yn gynghori ?" Atebiad Dweiyd wrtho io am gajdw1 yn effro yn ystocl y nos er miryn iddo fo fod yn sicr na fyddai o ddim yn chwyrnu, a chysgu yn y dydd pan fydd pawb er'ill yn gweith- io. Gallidisicrhau. na chwyrnai o ddim wrth beidio cvsgu, a gallai ymddiried yn 'i glustiau. "A 'newch chi ddeyd sut i gael gan y gonod yma fynad i'r capal yn amlach?" Atebiad: Prynu rhwbath newrdd iddyn' hw 'i wisgo sy'n beth reit dda am 'neyd merchad fynad i'r capal. Mae y teiliwr a'r grosar yn pwyso arna'i am 'u pres. A wnewch chi ddweyd wrtha'i sut i ddwad allan o drafferth fel hyn ?" Atebiad: Peidio mynad i drafferth o'r fath eto. Mae Bila wedi gwelad y b&ker hwnw o ymyl Y GROESLON yn mynad yn amal iawn ar ei beic i Gaer- iiarfou i edrach am 'i galon felus. Ar y cynta' yr oedd Bila yn methu deall Y11 iawn p'run ai yn Nghaernarfon ynte yn ymyl y Groeslon yr oedd y craswr yn gweithio, trwy 'i fod mor amal yn Nghaer- narton. i()üd nv^icti gfneyd ymchwiliad gwelodd Bila fod gan y craswr le i grasu bara, &c., yn ymyl y Groeslon, a phobty serch yn Nghaernarfon. Drwg gen'i ddeall fod mwy o sylw yn cael 'i roddi gan y craswr i bobty serch nag i'r llall,— ffordd iawn i ddyfetha bara, a gobeithion bywyd. Ond hwyrach hofyd fod gan y craswr rhyw reswm dros 'i ymddygiad. Saeisnes ydi'r lodas, ond nis gall o siarad Saesneg. Dywed y boys mai y beic fydd yn siarad drosto fo, achos tydi ddim ods gan y beic pa iaith i siarad: gall siarad pob un cystal a'u gilydd. Mae iserch y craswr yn boeth iawn, — mor boeth a'i bobty tua'r Groeslon. Ond mae rfrna'i ofn yr a tan y pobty allan, trwy fod y craswr mor amal yn Nghaernarfon, ac mor hwyr yn mynad yn ol. Os na rydd o y job gar- wriaeth hon heibio a i helynt mwy o la war nag a aeth iddo hefo maeddu y Jersey froc wen. Baswni yn ei gynghori i ofyn i'w gariad felus, yn Saesneg, fel %yn: -W, il iw wass mi froc Jersey very glan iw no, wass iw dw, wass iw, yn ies ? 0, bydda, bydda, mi fydda'i yn beirn- iadu gethwrs a gweinidogion yr un fath ag y bydda'fn beirniadu meidrolion ereill. 'Rydw'i wedi hen ddweyd fod y wlad yn camgymeryd yn ddybryd trwy barchu gor- mod ar gethwrs a gweinidogion, ar draul anwybyddu gweision a phlant er'ill Duw. Galla'i ddeyd fod y gweinidog hwnw a elai i'w gyhoeddiad ar y Sul, hefo tri er'ill, yn pechu gym'int a phetasai o yn chwar- elwr cyffredin o ardal Penygroes yn mynad i rywla oddicartra ar y Sul. Gwir bob gair am lawar o ferchad ifanc mai mynad i'r oedfa nos Sul y byddan' hw ER MWYN CAEL EU GWELAD. Welir mo honynt yn y capal yn y bora nao yn yr Ysgol SuiI, ond lwc owt am nos Sul! Allan a nhw yn ngogoniant yr ys- bryd drwg, a hwyliant i'r capal fel llonga' wedi eu rigio i fyny i gael eu gwelad, ac i ddim arall. Mae nhw yn perthyn i'r brid hyny fydd yn cael eu gwelad yn mhob cyfarfod pregethu, ond an amal iawn yn eu capal eu hunain. Dymunaf ddweyd nad ydi CROMWEL, FOITRCROSSES, ddim wedi fy nigio i. t'Dwn i ddim beth feuuyliodd o am hyny. Hwyrach 'i fod o yn un hoff o ddigio yn swta ei hun, am djdlm byd. Fedra'i d,dim deyd pa mor hyll y mae o, ond gwn beth mae y merchad yn ddeyd am dano, a tydi merch- ad ddim yn rhyw bell iawn o'r CWTS un amsar. Gwir, Crcmwel, fod miloedd bob wsnos yn ymryson am gael fy stwff allan o fy locar yn UY Werin." Mae petha' yn Fourcrosses a'r ardaloedd yr un fath ag mewn lleoedd er'ill. 'Ron i yn gwbod am yr hea Owen Jones, Plasgwyn, yn dda, naown 'i fab, Owen Jones, y tafl-leisydd, yr hwn sy'n byw tua Phla-ilholi, lrwy'n meddwl. Mia.e'n anhawdd i Cromwel na neb arall ddeyd am unrhyw ddyn o bwys yn yn ac Eifionydd, y 60 mlynadd dweutha yma, nad ydw'i yn 'nabod y cyf- ryw. Bu Owen Jones, y tafl-leisydd, yn perfformfo yn Lerpwl -a mana' er'ill, a buom yn gwrando aofno fo, k buom yn aros yn yr un ty a fo hefyd. Llawar iawn o sport gefais gydag o 'rioed. Adwaenwn lawar o flynyddoedd yn ol G. Price, Cil Lnuiart, hen Gristion sgwar, heb ddim lee yn 'i broffas o. 'Rwy'n meddwl 'i fod o yn frawd i Captan Rees Jones, captan y tugboat yn Mhorthmadog, hen longwr iawn, yn swingio 'i freichia' wrth gerddad, ac yn gwisgo 'i het ar ochor 'i ben,—pob modfadcl o hono fo yn llongwr. Dyma hefyd G. Owen, Plas y Mel, hynod am ei ddiliiweidrwydd, a Mr Parry, Fronerch, dyn a gair da iddo ol rownd; R. Thomas, Bwlchylfordd, hen godwr canu ar hyd y blynyddoedd, a chauddo lais fel udgorn,- yr oil wedi eu cludo i fynwe3 y ddaear, o ran 'u cyrph, ond eu heneidia' wedi mynad i fvnwes Naf. Mae dylanwad 'u bywyda' pur nhw yn bod heddyw yn yr ardaloedd. y Gwn yn well na llawar pa beth a nawd hefo'r ferch ifanc ragorol hono am BRIODI DYN O'R BYD, a gwn pa beth a 'nawd hefo merched ifanc rhagorol er'ill hefyd. Mae mewn amball i enwad yn Nghymru waeth agwedda' nag sy' ar Baibyddiaeth rhonc. Mae y Pab- yadion yn dal allan fod gorchymynion yr Eglwys a'i Synoda' o gym'int pwys a'r Deg Gorchymyn. Ond am rai enwada' yn -^ribymru, dysgant mai y Bt^ibl ydyw yr unig safon i fynad wrtho, ond gweithred- ant fel arall. Tynant allan reola' o'u heiddo eu hunain a gosodant hwy ar yr un safle ag amoda' derbyniad i Deyrnas Nef. Dyma i chi beth gwaeth na Phabyddiaeth, a'r un peth yn union a gondemniwyd yn ddifloesgni gan yr Athraw Mawr. Mae gan y bobol hyny sy'n trci persona' o'r seiat am briadj persona' o'r byd, waed, llawar un ar eu pena'. Cromwel anwyl, mi wn i am wraig ifanc brydferth sy7 hedd- yw yn ei bedd oherwydd cael ei throi o'r seiat am briodi dyn o'r byd,—cystal dyn a'r gweinidog a'r blaenoriaid a'u torasant hi allan o'r seiat. Os oedd yn ddrwg iddi hi briodi dyn o'r byd, yr oedd yn ddrwg yn y gweinidog am eu pricdi nhw ac os oeui. yn ddrwg iddo fo'u priodi nhw, fe ddylesid fod wedi rhoddi y sac iddo fonta' hefyd. Ond fel yna y mae hI: un dyn yn cael ei anfon i'r carchar am edrach dros y clawdd i gae, a'r lleidr a aeth i'r cae a dwyn y coffyl yn myned yn rhydd. Oher- wyad i'r wraig ifanc brydferth, dduwiol, .a, briodi dyn o'r byd—er iddo ef ddwad i'r seiat hefo hi cyn pen yohydig o ddyddia' —taflwyd hi allan o'r seiat. Poenodd, di- hoenoctd, a bu farw o'r darfodedigaeth. 0 ang^iyfiawnder ofnadwy! 0 greulondebl O'r cam dychrynllyd a wnawd ag enw y tyner lesu! I lawr a Phabyddiaeth Ym- neiiHiuol! I lawr a thraddodiada' culion y tadau anwybodus! I fyny a Theyrnas lesu o Nazareth. T maith a lleni cul famau dynion ffughoniadol, oddiar gariad Duw Anfeidrol! Rhyddid i'r Gwirionedd redeg! Eled gwybodtili o gariad Duw yn Nghrist yn etifeddiaeth i bawb nes di- flanu o gulni, anoethineb, creulondeb, a Phaganedddiwch rheola' sectol o'n plith! Felly wir! Ac y mae E. O. J., PENMABNMAWR, yn g'neyd 'i ora glas i gael allan pwy ydw'i. l''a.sa raid idd'o fo ddim. Mi 'rydw'i yn 'i 'nabod yn iawn. Treiad o gofio dipyn yn nghylch rhyw hen longwr fyddai yn dwad i'w siop o bron bob nos ychydig o amsar yn ol. Er nad ydw'i ddim yn broffeswr mewn colag, 'dwy'i ddim yn ama n}), fedra'i ddeyd rhyw ychydig o eiria mewn tuag wvth o ioithoedd. Hwyrach mai rhwbath fel yma sy' wedi arwain E. O. J. i feddwl fy mod i yn hen foy clyfar. Ond y mae canoedd o longwrs yr un fath a fi i'w cael yma ac acw. Yn Mhenmaen- mawr y mae O. Jones, o Nefyn gynt, yn Citdw siop drygist yrwan. Mae gen i gof am Captan W. Thomas, Nefyn, a Captan Roberts, ieu., Nefyn, yn deyd fod O. Jones yn un iawn am stwff at ddiffyg treul- iad, a chlyw'is J. Edmunds Jones, relivin offisar, Nefyn; William Jones, Liberal Club;' Williams, Bank (gynt), ao er'ill,— yr oil o Nefyn-yn brolio O. Jones fel un da at fendio cwn. Gwelais yr assistant sy' hefo O. Jones, ugeinia' o weithia' pan oedd o hefo Dr. Davies yn Mhenygroes. Buom yn y surgery un tro pan oedd dyn wedi brifo hefo eeffyl a throl, a helpais i ctdal y dyn tra yr oedd Dr. Davies yn 'i ddressio fo, a thra y daliai yr assistant y bandages. Mae'n debyg fod yr assistant yr un mor ddoniol eto ag oedd o pryd hyny. Ond nid hefo Dr. Davies yn unig ydw'i wedi 'i welad o a fonta wedi ngwelad ina'. Aiae o wedi trampio cryn dipyn fel fy hun- an. Tebyg ydi 'i fod o yn parhau yn foy smart am geffyl o hyd. Tydw'i ddim yn ama dim na fasa fy injian tynu llunia yn gallu cael snap siiota o'r merched fydd yn golchi cerig y drysa' fora dydd Sul. Mae'n bosibl iawn y bydd y gwaith yn cael 'i neyd yn nghynt nag y mae llawar yn feddwl. Tjjdi ddim Uws i mi 'rwan dynu Hun y dyn hwnw sy' wedi tori 'i fwstash, achos os ydi'i gariad o yn methu 'nabod o, ffarwel i neb arall 'neyd. Ydi, ydi, y mae yn biti na fasa'r Hen Gorph yn bildio at 'u capal, er mwyn g'neyd lie i'r bobol hyny sy'n myn'd i roi tro ar nos Sul yma ac uacw yn Mhenmaenmawr. 'Rwy'n deall trwy y telephon fod fy llith dweutha ond un wedi bod yn detYll siarad yn y gwaith setts, LLITHFAEN, yn y pentra, ar hyd y dydd, a chyda'r nos, ac hyd yn nod yn nghowrt y capeli ddydd Sul. Bu betio ar fy nghownt i yn y Vic- toria Inn nos Sadwrn, rhwng William Wil- liams, y crydd, a lot o foys. Myna.i Wil- liam Williams i bawb ddeall 'i fod o yn gwbod pwy oedd Jacko, ond taerai y boys na wydda fo ddim. Rhoddai o bunt i lawr slap y gwyddai o yn iawn pwy oedd- wn i, a deydodd mai boy o Lithfaen oedd- wn i, a'm bod i heb fod yn feddianol ar gomon sens. Deydodd y boys wrtho fo fod diffyg comon sens nes o lawar at y crydd nag at ben Jack y Llongwr, ac fod yn biti na fasa Jack wedi deyd yr hyn wydda fo am lo y crydd. Lie tendar iawn yn nghalon y crydd cedd lie y llo, am fod ganddo y fath feddwl o'r llo; ac mi a.eth petha' braidd yn gynhyrfus pan dwtsiwyd yn y lie hwnw. Cof gen'i fod ar fy nhramp yn ardal Llit-hfaen tua dwy flynadd yn ol pan y gofynwyd i ffarmwr gan ddyn: "A oes arnoch ohi isio llo,—llo gwrw du nobl ofnadwy, ac asgwrn ynddo fo ?" "-t aint ydi'i oed o?" "0, tydi o ddim wedi dwad eto," ebrai y gwerthwr, "ond llo felly fydd o pan ddaw o, achos un felly fydd gan y fuwch acw bob amsar." Synais i gryn dipyn at fod hen longwr wedi rhoi dresal rhy uchel i'r llo hwnw a fu farw trwy gael rhy fychan o fwyd a gormod o ymborth wedyn. Dylsai hen longwr wbod sut i rigio i fyny Ho i gadw llo, peth siwr iwn ydio. Ond y mae y bra.wd hwn yn enwog am ddwad a llong o Ddublin i Lanaelhaiarn ei hun, tra yr oedd y captan a'r met yn cysgu. Dyna chi all dyn yn 'i elfon neyd. Tydi rkyw fistec bach hefo g'neyd dresal rhy uebel at fagu llo ddim i'w gydmaru a'r gorchest- waith o hwylio Hong o Dublin i Lanael- naiarn heb neb ond efe ei hun i Plioyd yr boll waith. e Rhaid i'r ddau foy hyny o ardal Llith- laen fod yn smartkeh i ddal gwragedd gweddwon nag i ddal merched ifano. Tydi gwraig weddw ddim heb wbod castia'r bvd. Gail fod y boys yn methu cael tshians i gaei sgwrs hefolr ddwy wraig weddw, faint roddan' hw i mi am ihtroduotshion ? Rhaid i mi gael cofnodi gwroldeb a hun- an-aberth y ferch ieuanc hono o Lithfaen yn ddiweddar. Yr oedd hi yn dod mewn car o BwHheli i Lithfaen nos Sadwrn, pryd bu mid i'r cariwr stopio. yn Llannor, o herwydd fod, un o'r Ibncia' oe<M yn y oar isio glasiad o gnvrw. Gafaelodd v fereh ifanc am dano, a deydodd:—"Er dy fod ti yn hyll iawn wedi meddwi, yr wyf yn barod i roddi cusan i ti os peidi di a mvnad i nol chwajieg o ddiod feddwol." "Odd godda, bei jingo, dowch i mi gusan," ebrai mab Syr Shion Heidden. Gafaelodd yr hogan am dano, a rhoddodd globan o gusan fawr iddi, nes yr oedd yn clecian dros y pentra, ac eisteddodd y boy yn foddlawn yn y cerbyd. Wei, am LLANBERIS yma yrwan. Mae yma rai gwellianra' er's pan v buom i yma ddweutha. I oreadur a ffhrafid drwg gyno fo, peth braf ydi cael ffyrdd da Mae yma ffyrdd rhagorol. trwelaf fod yma lampia', ond trwy fod y tywydd mor boeth, 'doeddanjiw ddim yn cael u gola. Ofnid y poethai yr awyr pe y golemd nhw. Dyna y rheswm roddwvd i Bu dros na oleuid mo'r lampia'. Rhaid nad oes yma ddim llawar o ben lancia fel fy hunan, achos y niae y boblogaeth wedi cynyddu, a llawar o fisitors vn dwad yma. Siomedigaeth i'r lie fydd rehre y Wyddfa. Bydd y bobol yn mynad yn stret o stashion y London a North-Western ac am stediion y Vv vuita. Wedi dwad i lawr ant yn stret yn u hola am steshion y London a North- WestOrA. Y bobol gaiff y broffid fwya' oddiwrth v lie ydi cwmnia' y relwes, ae nid y pentrefwyr. Gall y fisitors yrwan fyn d i ben y Wyddfa ac yn ol yr un diwrnod, pryd o'r blaen nas gallent. Dyna golled fawr i'r gwestywyr yn y pentref. Stalwm byddai pobol yn dwad yma i aros o ieia am wsnos, a llawar iawn o sport a se.a wrth fynad i ben y Wyddfa Vu yr hoa ddull. Ond heddyw y mae gogoawuit | y cwbwl wedi diflanu. Mae dyddia' ponies yr hen Armsdon a'r hen Evan Roberts, ac er'ill, wedi darfod. Basa ffitiach i Gynghor y Plwy' startio rhywbeth fel attractshion yn y pentref. Beth petacai g'neyd parade ar hyd y llyn, a chael bands yno i chwareu? Os bydd isio tipyn o gol I tario bydd yn dda gen i roi fy ngwasan- aeth. Medraf hefyd chwareu piccolo, con- sartina, a ffidl. Peth arall faswn i yn 'i awgrymu: prynu stemar fechan neu ddwy i fynad hyd y llyn am ychydig o bres. Ar- dderchog fuasai peth fel yma. 'Does isio dim ond sgwrio llygada' pobol y lie yn agorad. Yn amal dawn 'does neb yn ddallach i adnodda' 11a na'r trigolion 'u hunain. 0, y mae yma le prydferth! Dvmunwn fyw a'i stretsio hi yma! Dau I lyu acw a mynyddoedd megis yn oeri ein tf.ted ynddynt y tywydd poeth yma! Pan yn Bethesda buom lawar gwaith yn sefyll wrth Goedyparc i sylw ar y gwahanol chwarelwrs yn dwad o chwarel Braichy- cafn, ac wrth y Commercial yn Mlaenau Ffestiniog i weled rhai yn dwad o chwareli Ffestiniog. Cefais olygfa gyffelyb yma, ac aefchum at Bont y Bala. Arhcsais yno am yohydig, a dyna y corn yn canu. Yn fuan I wedyn gwelais dyrfaoedd o'r chwarelwrs yn dylifo ar hyd y ffordd. Sylwais fod y | cwbwl bron oedd yn gweithio yn rhan isa' y chwarel yn rhoi 'bout ship i fyny hyd y [ ffordd oedd yn mynd i'r ochor draw. Gof- ) ynais beth oedd hyn yn ei olygu, a deydwyd I' wrtha i mai noson y tal oedd hi, ac fod y dynion yn mynd i nol 'u cyfloga. Golygfa brydferth oedd yr hyn a welwn i. Ystyr- iwn y gweithiwrs yn bobol hapusa ar wynab I y ddaear yma. Pa mor hapus bynag oedd Mr As.-Iiet-un Smith, perchenog y chwarel, j doedd o ddim yn fwy hapus na'i wcithwyr. Y diwrnod hwnw elai mwynhad bywyd gwii-ioneddcl i gannoedd o gartrefleoedd. Llanenychai calouau y tadau, y mamau, y plant, a'r siopwyr. Bydda i yn ystyried ffrwyth llafur gonest y peth melusa dan haul. Gresyn fod dim yn dwad i ymyryd a rhyddid a chysur y gweithwyr diwyd a, gonest. 'Does dim byd harddach na meistr I cyfiawn a theg, stiwardiaid gonest a gofal- us, a gweithwyr yn cael cyflogau priodol, digon o waith a digon o ahvad am gynyrch y gwaith hwnw. Mewn llafur y mae gwir elw i'w gael-elw arian, ac iechyd a gwir fwynhad bywyd. Camgymeriad mawr ydi dweyd mai mewn gwneyd dim y mae plesar. 'Doedd y dynion ddim _yn dychwelyd O'T gwaith yr un fath. Deuai rhai ar feics; cerddai eraill fel petasan nhw yn brysio amsar saethu yn y chwaral, tra yr arosai un dosbarth i gerddad yn araf ar hyd y ffordd. 'Drychodd ugeinia ata i, ond 'doedd neb bron ohonyn nhw yn 'nabod i yn ol y ciiawd. Yn yr hwyr aethum i welad effeith- ia v tal ar y siopa. Dyna lie yr oedd y siopwrs yn ffeiar awe 'u gora yn syrfio gcocls ac yn sgwario cownts gymint fyth a fedran nhw. Wel aethum toe at Ian y llyn, ac er fy syndod dyma un o'r hogia yn deyd 'i fod o yn siwr fy mod i yn un o'r lladron ag oedd y plismyn yn methu ddal yn Nghaernarfon. Deydwyd fy mod yn atab i'r desgrifiad a roddwyd, mewn llawar peth. Aeth si drwy y pentra ynghylch y matar, ac mi deimlais i mai gwynebu am y ffordd bost oedd ora i mi. Meddyliais beth pe basa rhyw ladrad yn digwydd yn y lie tra yr ceddirii i yno, ba-Fa yn bur ddrwg arna i, trwy fy mod yv rddyn diarth. Aethum i fyny o'r pentra ac i gyfeiriad Llainwen. a thrwy y Fron Gcch, a heibio y Ceunant,&c. Erbyn hyn yr oedd pawb yn parotoi swpar, ac yr oedd yno dwrw ac ogla ,ffrio yn mhob cyfeiriad. Ogla sosinjis glywn i fwya. Ond yr o'n i yn deall nad oedd busnes sosinjis duim mor fywiog byth er's pan y bu y dyn hwnw yn yr Hall yn dangos y pictiwrs ag oeddynt yn darlunio sut y gneid sosinjis. Mae fy mywyd i wodi dangos ma itrwy ffydd yn siwr y bydd byw dyn. Bwyteais filoedd o betha gan gredu fod pobpeth yn ol reit. Pe taswn i yn gwbod pobpeth, mae'n debyg na faswn i wedi bwyta llawar peth. Aethum at fy merth am y nos, yn blinedig. Sosinjis ac wyau geis i i swpar, hefo coffi, y cwbwl wedi 'u cwcio yn dda iawn. 'Roedd gwraig fy nhy lodgin yn lan a charedig, ac yn hoff iawn o fy holi, fel bydd merchad mown oed.

I- ar ILlofruddlo Baban yn…

Boddlad Alarus yn Llansantffraid.

"Wedi ei Iddal."

Advertising

IAnghysondeb Arglwydd Rosebery

Advertising

A MOST DELICIOUS LEMONADE.

CAMBRIAN RAILWAYS' TRAIN SERVICE.

-.. Gladdu'r Meistr a Chladdu'r…

Caniballaeth yn Klondyke.

GWYLIAU HAF.

Advertising

Dadgys)lltiad a Dadwaddoliad.

Ffrwydrlad Nwy yn Nghaer.I

- Plaid Cymreig yi y Senedd.

Ceffyl Boulanger.