Hide Articles List

16 articles on this Page

Advertising

"Y GWIR YN ERBYN Y BYD." .I

CAMBRIAN RAILWAYS.

Advertising

RHEITHOR FFLINT ETO.

News
Cite
Share

RHEITHOR FFLINT ETO. Cyfeiriasom yn ein rhifyn diweddaf at ymddygiad rheithor Fflint, ac at yr hynod- rwydd a ddisgynodd i'w ran, trwy ei waitli I' yn difenwi coffadwriaeth Mr Tom Ellis, ac yn dwyn cyhuddiad i'w erbyn. Awgrymir ei fod wedi ca.sglu cyfoeth ar gefn ffermwyr lychÃn Meirionydd. Eithr darfu i Syr John Brun- ner gyfiawnhau Mr Ellis, gan ddangos nad oedd rithyn o sail i'r hyn a adroddai, ac uad oedd y Seneddwr talentog wedi derbyn cim oddiwrth ei etholwyr, heblaw iddynt è.dwyn traul ei etholiad ddwy waith. Wedi cael ei osod yn iawn ar y pwnc hwn, a phrofi iddo fod yr hyn a ddywedasai yn gamgyhuddiad disgwyliai y wlad yn gyffredinol i'r rheithor ymddiheuro, a datgan ei ofid am ei fod wedi cael ei gamhysbysu. Ond nid oedd y rhai a ddisgwylient felly yn adnabod rheithor Fflint; y mae efe, fel y mae yn amlwg, wedi ( cael ei wneyd ó glai tipyn yn v/ahanol i'r cyffredin. A dyma ef yn ysgrifenu llythyr maith i'r "Times," i'r hwn newyddiadur y mae holl bersoniaid Cymru yn anfon eu owyn- ion ac yn lie datgan gofid, fe a yn miaen ar linellau hollol anibynol. Yn y lie cyntaf, haera fod Syr John Brunner wedi anfon ei atebiad i holl newyddiaduron Radicalaidd Cymru, gan awgrymu ar iddynt gondemnio y rheithor hyd yr eithaf. Yn hyn eto nid yw y I y gwr parchedig yn iawn: rywsut, tyna oddi- ar ei ddychymyg yn helaeth wrth ysgrifenu yr hyn a eilw efe yn hanes. Ond y peth mwyaf difrifol yn y llythyr yw, nad yw yn cyfeirio at y cyhuddiad cyntaf yn erbyn Mr Ellis, i'w gyfiawnhau nac i ymddiheuro o'i herwydd, ond yn hytrach rhydd i'r cyhoedd grynhodeb o'i bregeth. A'r fath bregeth! I Nid oes ynddi, fel y croniclir hi ganddo ef, un gair o efengyl, ond gwneir hi i fyny o ymos- odiad ar yr hyn a eilw y rheithor yn Galfin- iaeth Ddiweddar. Pa beth a olygir wrth y term hwn, nis gwyddom. A ydyw holl en- wadau Anghydffurfiol Cymru yn perthyn i'r Calfiniaid diweddar, ai ynte y Methodistiaid yn unig sydd yn cael eu cynwys ? Yr ydym yn adwaen Ymneillduwyr y IHwysogaeth yn lied dda, ac yr ydym yn. ddigon sicr na ddiolchent o g-wbl i reithor Fflint am eu gwahanu oddiwrth eu brodyr y Methodistiaid yn y pwnc yma. Y tri v cyfeiria v rheithor atynt fel cynrychiolwyr Calfiniaeth Ddiwedd- ar ydynt Thoma.s Gee, John Parry, Llan- nrmon: a T. E. Ellis. Yn sicr, hona holl Ymneillduwyr Cymru hawl i'r enwogion hyn nid dynion sect oeddynt, ond dynion J cenedl ac fel eiddo cenedlaethol yr edrychir [ arnynt ar ol idefynt farw. Ceisio llwydo'r dwfr a wna y rheithor. Ni ddylai gael ei 'I oddef i wneyd y fath beth. Dylai gael ei ¡ orfodi i brofi ei gyhuddiad vn erbyn Mr Ellis, neu ynte, fel boneddwr, dylai gyfaddef iddo gael ei gamarwain, a chyfaddef ei ofid o'i her- wydd. Nid oes un ffordd ganol iddo: dylai, er ei fwyn ei hun a'i barch, gymeryd un o'r ddwy.

Dlgwyddlad hynod yn y Rhyl.

Mr Asqnith ar hwnc y degwm.i

-_-----_.. 1 B'le mae'r Byd…

" Cloddio hyd ddwrn y Cleddyf:

Cyngaws dyddorol o Sir Caernarfon.

Yr irgyfwng yn Transvaal.

BABANOD AR DAN, AC YN YMLOSGI

Advertising

Marwolaeth Ryfpdd yn Wrecsam

DISGLEIRDEB YR HArL.

Advertising