Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

I PENNOD I. i__

News
Cite
Share

I PENNOD I. i 1 YN Y GOEDWIG. | Yn nyddiau olaf Mai, 1793, yr oedd un o'r catrodau anfonwyd o Paris i Lydaw gan Santerre yn araf deimlo ei ffordd yn mlaen drwy goedwig anhygyrch Sandraie. I Ni rifai y gatrawd yn awr fwy na thri chant I o wyr, gan fod y rhyfel creulawn wedi ei | hanrheithio. Pan gychwynai y gwahanol gatrodau o Paris rhifent bob un naw cant a j deuddeg o wyr. Ar y dydd cyntaf o Fai I anfonwyd deuddeng mil o fil wyr o'r brif- ddinas Ffrengig i Lyclaw. Erbyn diwedd Mai, allan o'r deuddeng mil hyn yr oedd wyth mil wedi trengu. Ar yr 28ain o Ebrill aeth gorchymyn allan oddiwrth y Commune yn Paris nad oeid y milwyr i ddangos yr un drugaredd, nac i'w cheisio ychwaith. Gan hyny yr oedd yn rhaid i'r gatrawd gaiodd ei hun yn nghanol coodwig Sandraie gadw gwyliad- wriaeth fanwl. Amhosibl oedd iddynt deithio yn mlaen 3,11 gyflym. Rhaid oedd edrych ar dde ac aswy, yn mlaen ac yn ol, ar yr un pryd. Dywedodd rhywun y dylai milwr feddu llygaid ar ei gefn. Ni bu hyn yn fwy gwir erioed nag am y gatrawd an- ffoaus hon ar hyn o bryd. Enillodcl y goedwig enw drwg iddi ei hun. Dan gysgod ei phrenau hi, yn mis Tachwedd, 1792, y torodd y rhyfel cartrefol erchyll allan gyntaf. Ymrithiai y Mosque- ton, y cripil ffyrnig, yn y rhanau tywyllaf o honi; ac yr oedd nifer y llofruddiaethau a gymerodd le yn ddigon i beri i wallt dyn sefyll ar ei ben. Ychydig o leoedd arswydid rhagddynt gymaint a'r fangre hon, as felly yr oedd y milwyr ar eu gocheliad wrth dreiddio i mewn iddi. Teithiai y milwyr yn mlaen yn araf, gam ar ol cam, gan dori eu ffordd drwy y dyrysni. Yn mhell uwchlaw cyrhaedd eu bidogau, ehedai yr adar yn yr awyr, ac ym- byngciai rhai eraill ar gangau'r coed. Lie enwog yn adeg headwch oedd y fan hon i ddal adar. Yn. awr dynion oeddynt yn geisid eu dal. Weithiau elai creyr glas heibio iddynt, yr hyn a brofai fod corsydd gerllaw. Etodalient i Yvthio yn mlaen, mewn amheuaeth aphryder, fel pe buasent yn ofni cwrddyd yr hyn y chwilient am dano. Dro ar ol tro deuent ar draws olion hen wersyufaoedd,-pentwr o ludw, y glaswellt wedi ei fathru, ffyn wedi eu gosod ar ffurf croes, a gwaed i'w weled yma ac acw. Yma y buwyd yn parotoi bwyd, acw y buwyd yn adrodd gweddiau Eglwys Ehufain, ac yn y fan hon y trinid briwiau y clwyfedigion. Ond yr oedd y sawl fu yn gwneyd hynny wedi diflanu. Pa le yr oeddynt ? Efallai eu bod yn ddigon pell, ac efallai eu bod yn ymguddio yn ymyl, a gynau llwythog yn eu dwylaw. Nid oedd modd dweyd; i bob ymddangos- iad gellid tybied mai y gatrawd yr ydym ni wedi ffurfio cydnabyddiaeth a hi oedd yr unig rai o deulu dyn oedd yn y goedwig. Aeth y milwyr yn fwy gwyliadwrus: iddynt hwy yr oedd yr unigrwydd a'r ta- welwch yn anvydd o berygl. Nid oedd neb yn y golwg; felly ofnent yn fin-y rhag i rywrai ddod ar eu gwarthaf. Fel rhagoeheliad anfonwyd deg ar hugain o'r dynion ar y blaen, o dan awdurdod rhingyll. Gyda'r rhai hyn yr oedd un o'r merched a ganlynai y gatrawd o le i le. Gwell ganddi oedd cael bod ar y blaen. Er fod y perygl yn fwy, gallai weled ychwaneg gyda'r milwyr hyn nag a allai pe arosasai gyda chorph y gatrawd. Yn sydyn prof odd y dynion deimladau tebyg i ekldo heliwr pan fydd yn agos i'r hyn fyddo yn ei hela. Dychmygent eu bod yn clywed swn anadliad gerllaw, a thybient eu bod yn gweled rhyw symndiad yn mhlith y dail. Gwnaethant arwyddion ar eu gilydd. Gwelsant y llecyn y symudai rhywbeth. Ffurfiasant gylch crwn o ynau, a'u ffroenau yn cyfeirio i'r un canolbwynt. Arosai y ir,il,ff-yr yn barod i danio ar dderbyniad archiad y rhingyll. Ond yn y cyfamser yr oedd y ferch wedi mentro edrych i mewn i ganol y llwyn; a phan oedd y rhingyll ar fedr rhoddi gor- ,y chymyn i danio, gwaeddodd y ferch, Ar- hosweh! Trodd at y milwyr, a dywedodd, Peidiwch tanio," a thaflodd ei hun i ganol y twmpath. Aeth rhai o'r dynion ar ei hoi. Ymguddiai rhywun ynyEwyn. Eisteddai dynea ar y glaswelit, a baban yn sugno ei bron, a chysgai dau blentyn arall, a'u penau yn gorphwys ar ei gliniau. Dyna'r perygl y bu y milwyr ynddo "Beth wnewchyma?" gofynai y ferch oedd gyda'r milwyr iddi. Cododd y ddynes ei phen i fyny. Ai gwallgof ydych i fod yn y fath le," parhai'r ferch, ac ychwanegodd, "Bu agos iawn idcli fod ar ben arnoch." Dynes sydd yma," meddai wrthy milwyr drachefn. "Ynsicr ddigon, gallwn weled hyny," ebai un ohonynt. "Dod i'r goedwig fel hyn i gael eich lladd—pwy erioed glywodd son am y fath ynfydrwydd ?'' Ymddangosai y ddynes fel pe wedi syfr- danu; ac edrychai o amgylch yn hurt ar y gynau, ar y cleddyfau, ar y bidogau, ac ar y gwynebau mileinig oedd y tu ol iddynt. Deffrodd y ddau blentyn, a dechreuasant wylo. Mae amaf eisieu bwyd," meddki un ohonynt. 'Rwyf wedi dychryn," ebai'r Hall. Parhai y baban i sugno ei fam, ac meddai y ferch wrtho, Fe wyddost ti yn iawn beth yw y peth goreu," a safai y fam yn i gan fraw. Gwaeddodd y rhingyll allan, Peidiwch 11 ft a dychryn yr ydym yn perthyn i Gatrawd !Y y Cap Coch." I Cry no id y ddynes o'i phen i w thraed, a sefydlodd ei golwg ar wyneb garw y swyddog; O'r braidd y gellid gweled dim o hono ond ei aeliau, blew ei wefus, a'r ddau lygaid oeddynt yn fiflaehio megis tan. Pwy ydych ?" gofynai y rhingyll. Llygadrytnodd y ddynes amo, yn fwy dychryiiedig na chynt. Dynes ieuanc ydoedd, end yn deneu a llwyd ei gwedd, a charpiau oedd am dani. Gwisgai y gorchudd arferol gaii ferched Llydewig, a thros ei hys- gwyddau yr oedd hugan. Nid oedd esgid- iau am ei thraed, y rhai oeddynt friwedig ac yn gwaedu. Cardotes yàyw," ebai'r rhingyll. Beth yw eich enw P" gofynai'r ferch oedd gyda'r milwyr. "Michelle Flechard," murmurai'r ddynes yn ddigon aneglur. Beth yw oed hwn ?" gofynai eilwaith, gan roddi ei llaw ar ben y baban, ond ni ymddangosai y ddynes fel pe yn ei ddeall. Gyfynais beth oedd ei oed," meddai' drachefn. "0 meddai'r fam, "deunaw mis." Wel, mae yn un mawr iawn. Dylech ei ddiddyfnu, a dysgaf finau iddo fwyta." Teimlai y fam yn awr yn fwy hyderus, a daifgosai y ddau blentyn mwyaf fwy 0: gywreinrwydd nag o ofn. ) A! meddar'r fam, y mae amynt eis- ieu bwyd, ac nid oes genyf ychwaneg o lefrith." Rhcddwn iddynt rywbeth i fwyta," 1 atebai'r rhingyll, "ac i chwithau hefyd. Ond nid dyna'r owbl. Gadewch i ni glywed both yw eich golygiadau gwleidyddol." j Rhoddasant fi mewn lleiandy, ond yr wyf wedi priodi yn awr. Dysgodd fy chwiorydd fi i siarad Ffrancaeg. Rhoddas- ant ein pentref ar dan. Bu raid i ni redeg i ffwrdd mor gyflym fel na chefais amser roddi esgidiau am fy nhraed." 14 Gofyi-iais i chwi beth. oedd eioh golyg- iadau gwleidyddol," meddai'r rhingyll mewn ton awdurdodol. Nid wyf yn deall ystyr yr hyn a ddy- wedweh," ebai'r wraig. Onid ydych yn gwybod y bydd merched yn myned allan i ysbio, ac y byddwn yn arfer saethu y rhai hyny ? Dowch, dowch: dywedwch ar unwaith beth ydych, mae'n rhaid i ni gael gwybod." (I'w barhaM.)

GWLEIDYDDWYR A'U lIAR-EITHIAU.

[No title]

GLYWSOCH CHWI j i

---i '93 !

[No title]

HUNAN-LEIDDIAID. :*,.,.

[No title]

GWAITH DWEH CLWT-YBONT.,

GWENDID. g; t

[No title]

MYN'D 0 BATAGONIA. !

JIAIXG DDIRWESTOL. |

PWLLHELI. !

Advertising

[No title]

Advertising