Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
39 articles on this Page
.Willi,mtmTT^^™rwir»nr.-ir-rr-—-…
.Willi,mtmTT^^™rwir»nr.-ir-rr- —- .r^Xr-i Y GERI MARWOL. Bu pedwar o bersonau farw o'r geri ddydd Llun yn Havre. Cymerodd pedwar ar ddeg 0 farwolaeth.an le yn Mkaris yr un dydd ac yn amgylchoedd y ddinas bu tri farw. Torodd achos newyddallan yn Brussels ddydd Llun, a phedwar yn nghymydogaetk Molan- beck. Ynyr Hague, ddydd Llun, cafodd teithiwr masnachol sydd yn aros mem. llety yno ei daro gan y geri Asiaidd. Bu deg o bersonau farw yn St. Petersburg ddydd I Llun. Yn Berlin, yr un dydd, aed a saith o ddyoddefwyr i'r ysbytty. Yn Boumania y mae yr afiechyd yn ymledaenu yn enbyd, ac yn neillduol yn nghymydogaeth Car j ova. WEDI TORI ALLAN YN HULL. Derbyniwjd mynegiad swyddogol, y dydd 1 o'r blaen, gan y Bwrdd Llywodraeth Leol oddiwrth y swyddog meddygol yn Hull, yn nghylch y geri ar fwrdd yr agerlong Esper- anga. Gadawodd y llong Hull, ddydd Sul, j y 18fed cyfisol, am Hamburg, yr hwn le a gyrhaeddwyd ar y 19eg. Hi a adawodd II Hamburg ar yr 22ain, C, a chyrhaeddodd Hull ar y 24ain. Pan y'i harchwiliwyd gan y meddyg caed fod pawb yn iach; ond C, yn mhen yr awr wed'yn cafodd y cadben, 39 oed, ei daro yn sydyn gan y geri ar ol iddynt gyrhaedd y lie. Aed a'r dyoddefydd i ysbytty, a chymerwyd enwau a thrigfod yr holl ddwylaw, tra yr aed a'r llong allan o'r doc i'wphuro, ac ni clianiatawyd i neb fyned yn agos ati. Y mae y cadben yn gwella gystal a'r disgwyliad.
PENLINIO I OROGI EI HUN.
PENLINIO I OROGI EI HUN. Am dros wythnos y mae pobl yn y rhan ogleddol o Ynys Wyth wedi bod yn cael eu I cyffroi yn nghylch ystranciau llafurwr amaethyddol a'i enw Covell, yr hwn a goll- odd ei reswm ac aeth oddiamgylch. hefo gwn gan ddyweyd ei fod yn myn'd i saethu ei hue. Cyn i'r heddgeidwaid gael gafael ynddo efe a ofynodd i un dyn ei saethu; ac yn y modd hwn caed yr arf o'i law. Y mae wedi bod yn crwydro oddiamgylch bron yn noeth; ond nos SuI cafwyd ei fod wedi ym- grogi mewn ysgubor yn agos i Ballaugh. Gan fod y rhaff yn rhy isel efe a benliniodd i gyrbaedd ei amcan. Cynbaliwyd trenghol- iad yn y prydnhawn. Ymddengys ei fod wedi bod yn llafurio o dan yr argraph fod ei fam, ei chwaer, a'i frawd wedi cael eu cvoHL ac fod ar yr heddgeidwaid eisieu ei grogi yntau. I amddiffyn ei hun cariai ddwy gareg. Y mae llawer wedi bod yn chwilio am dano, ond heb gael dim o hyd iddo.
METHDALIAD CLERIGWR.
METHDALIAD CLERIGWR. i Parch C. S. Newham, Ficer Presto- btonecloiigh, ger Bolton, yn cael ei ar- •°u r?1 -h^aliadol Bolton. Yr oedd « vi? ddyledionjTi l,147p Os 4c, a'r unig eiado oedd ei fywoliaeth, yr hon a brisid fel yn Werth 1,160P. Gwnaed rhai dat- guddiedigaetbau rhyfedd yn ystod y gwran- dawiad. Gwariodd y methdalwr 120p i ad- gyweirio y Ficerdy, ar y dybiaeth y buasai y gynulleidfa yn cyflawni eu baddewid i wneyd casgliad da at y draul; ond un bychan iawn a wnaed, a bu raid iddo ef ei wneyd i fyny. Nis gallai roddi cyfrif o'r derbyniadau a'r taliadau, gan na fyddai yn cadw llyfrau, ac yr oedd y trysorydd wedi colli yr eiddo yntau. Yr oedd arian yr Eglwys a'i arian yntau wedi eu cymysgu. I Ar un achlysur derbyniodd 25p oddiwrth I Gymdeithas Adeiladu yr Eglwys, a chan nad oedd gan y wardeniaid gyfrif yn y bane, rhoddodd yr arian yn ei enw ei hun. Gan ei fo- CL 1>n>11 oTnnm^n^n Trim i>ui nnd411 y 25p hefyd wedi myn'd, a du raid i'r war- deniaid dalu am y gwaith y bwriadwyd yr arian hyn ar ei gyfer. Bu o'i blwyf yn ystod yr haf, ac nid oedd neb ond y warden- j iaid yn gofalu am yr Eglwys. Yn Belgium J l?u» a gwertbodd ei oriawr aur yno am ei fod mewn angen am arian, er i'w wraig yru 40p iddo. Addefodd iddo brynu modrwy ddeiamwnt yn mis Mai diweddaf i'w rhoddi yn anrheg i ferch ieuanc, er ei fod yn gwy- bod o'r ^goreu ei fod mewn anhawsderau ar- lanol- Benthyciodd' 350p oddiar ewythr ei wraig. Bu hefyd yn cael symiau gan fenthycwyr arian o Lundain a Leeds, ac yn talu 60 y cant o log iddynt. Yr oedd bill of sale hefyd ar ei ddodrefn. Galwodd y der- bynydd swyddogol ei sylw at y swm o 12p -a<r^^ni °(^<^arno am swpera ddarparwyd ar g^er y noson y cynhaliwyd conffirmasiwn yn yr eglwys fis Mai, a gofynodd ai nid gwell fuasai i'r methdalwr fod wedi hysbysu yr esgob o'i sefyllfa na pharotoi y fath swper costus ar ei gyfer. Addefodd y dyledwr y buasai, ond ei fod yn ystyried ei bod yn rnwyinedig arno i groesawu yr esgob yn y moddhwnw. Yr oedd nifer mawr o filiau am win, gwiriodydd, a chwrw heb eu talu, a dywedodd y derbynydd swyddogol fod 119p wedi eu gwario er 1889. Dywedodd y dyled- wr fod llawer wedi cael eu defnyddio ar yr eglwys, ond nas gallai ddyweyd pa faint. Cafodd yr archwiliad ei gau.
YU HWSMON A I FEISTR.
YU HWSMON A I FEISTR. Achos Dyddorol o Fon. Yn Llys Man-ddyledion Llangefni, ger- bron y Barnwr Syr Horatio Lloyd, ddydd Mawrth, dygwyd cynghaws yn mlaen yn erbyn H. Hughes, Cafnau, Llanfechell, gan Owen Hughes, ei ddiweddar hwsmon, am ei gyflog. Ymddangosai Mr Thornton Jones, Bangor, ar ran y gwas, a Mr Williams, Caer- gybi, ar ran y meistr. Mr Thornton Jones, wrth agor yr achos, a ddywedodd fod yr erlynydd wedi rhoddi mis o rybudd i ym- adael ar ganol y tymhor oblegid nad oedd yno le priodol i gysgu, nad oedd y bara yn gymhwys, a bod yn rhaid iddynt fwyta cig tarw oedd wedi bod yn wael ac y buwyd yn defnyddio gwenwyn i geisio ei wella. Galwyd ar yr erlyayddf yn mlaen i gadarn- hau yr hyn ddywedodd ei gyfreithiwr. Rhaid oedd iddo gysgu, meddai, ar wely peiswyn, yn yr hwn yr oedd ysgall, y rhai a'i pigai yn y nos (chwerthin). Am y bara, yr oedd hwnw wedi llwydo cymaint fel nad allent ei fwyta y diwrnod cyntaf, ac felly gwnaed ef yn fara llaeth dranoeth (ehwerthin). Bu raid i'r gweision fyned fwy nag unwaith i Dregela i brynu bum. Aeth- ant at y meistr i gwyno, a rhaid oedd iddo gyfaddef y bu iddynt gael gwell bwyd, ac y buasai ef yn aros yno i orphen y tyruhor oni bai i gig y tarw a laddwyd gael ei roddi o'u maenan. Bu'r tarw yn wael, ac yn y di- wedd bu raid ei ladd. Buwyd yn rhoddi llawer^ o feddyginiaethau iddo. Cadwyd rhan o'r cig ar gyfer y gweision, ac oherwydd 'hyny ymadawodd yr hwsmon—Mr Williams ar ran y diffynydd a ddywedodd fod yr er- lynydd wedi ymadael er cael ychwaneg o i gyflog yn y cynhauaf, a gwadai yn y modd mwyaf pendant fod y bwyd a roddid o flaen I y gweision yn anghymwys. Gwadai hefyd fod cig y tarw yn afiach, ac fod y meistr ei hun wedi addaw bwyta rhan o hono.- Y Bamwr a ddywedai y dylai dyn wedi gwneyd diwrnod caled o waith gael lie cysurus i gysgu, a bwyd priodol. Ni buasai ef yn gweled bai ar y dynion pe yr elent oddiyno y munud y rhoddwyd cig y tarw o'u blaenau, 0 os nad oedd yn gymwys i'w fwyta. Rhodd- o dd ddyfarniad o blaid yr erlynydd.
[No title]
Dygwyddodd tan angerddol ddydd Sul y 19, Geibet Strasse, yn nghymydogaet Mlilenborst, Hamburg. Pan gafodd y j fflaman eu diffodd, cafwyd hyd i weddillion llosgedig tri o blant bach. Mewn perthynas i'r mynegiad yn nghylch y Budget a wnaed yn ddiweddar gan Brif Weinidog Awstralia Ddeheuol, y mae yn ei egluro yn swyddogol y disgwylir i'r ^yddyn arianol derfynu gyda gweddill. /j0e^d Sfweddill o l,000,000p i fyny i 1887, ond er y pryd yna yr oedd wedi cael ei ostwng.i lai na 700,000p. ostwng.i lai na 700,000p.
Y DDEISEB YN ERBYN MR BALFOUR.'
Y DDEISEB YN ERBYN MR BALFOUR. Bernir mai yn mis Rhagfyr y gwrandewir y ddeiseb yn erbyn dychweliad Mr Balfour fel aelod Seneddol dros ddwyreinbarth Man- chester. Mae y ddwy blaid wrthi yn brysur yn casglu tystiolaeth.au, a dywedir y bydd datguddiedigaetbau rbyfedd yn cael eu gwneyd.
CLADDU EU CUSAN YN Y MOR.
CLADDU EU CUSAN YN Y MOR. Y mae llong Eidalaidd wedi codi i fyny faril yn y mor, yn cynwys potel seliedig a parchment ynddi, dyddiedig Medi 5ed, 1890, ac wedi ei arwyddo gan J. M'Farlow a Henrietta Hellbridge, gan fynegi eu bod wedi penderfynu claddu yn y mor eu cusan olaf."
DAMWAIN I MR JOHN DILLON,…
DAMWAIN I MR JOHN DILLON, Å., Cyfarfyddodd Mr John Dillon, A.S., a damwain enbyd yn Nulyn ddydd Sul. Yr oedd yn gyru gartref o Orsaf Westland-row ar gerbyd, pryd v cwympodd y ceffyl. Brif- wyd gwyneb Mr Dillon yn ddifrifol, torwyd un o esgyrn ei fraich chwith, ac ysgydwyd ef drwyddo.
EI LLETHU I FARWOLAETH.
EI LLETHU I FARWOLAETH. Darfu i blentyn dwy flwycld a haner oed, a'i henw Maud Johnson, merch Robert Johnson, insurance agent, Nelson, tra'n chwareu wrth ymyl ei chartref, brydnawn ddydd Llun, dynu drosodd plate glass case trwm ag oedd ar le llithrig, nes iddi gael ei llethu i farwolaeth.
LLOFRUBDIAETH ALTHORP.
LLOFRUBDIAETH ALTHORP. Fel yr hysbyswyd mewn rhifyn blaenorol, y mae George Macrae yn aros ei brawf yn ngharchar Northampton ar y cyhuddiad o lofruddio dynes ieuanc o'r enw Annie Pritohard, Dywedir yn awr y dygir Annie Pritcbard yn mlaen yn ystod y prawf, a thrwy hyny profir yn ddiamheuol mai rhanau o gorph rhyw ddynes arall a ddarganfydd- wyd ger Althorp. Deil yr heddgeidwaid i gredu yn wahanol.
[No title]
Ddydd Llun, yn Ngwrecsam, dedfrydwyd John Morris i chwe' mis o lafur caled am ymosod ar ac yspeilio hen wr o'r euw Miller- ship o 8p. Yn Widnes, ddydd Llun, cafodd Anni, Firth, yn byw yn Farnworth, ei thraddodi i sefyll ei phrawf yn y brawdlys ar y cyhudd- iad o gelu genedigaeth ei phlentyn y caed ei gorff mewn twll iludw.
SEFYLL ALLAN A LLADD EII HUN.I…
SEFYLL ALLAN A LLADD EI HUN. Y mae glow a'i enw Astin, yr hwn a fuasai yn sefyll allan am ryw wythnos, wedi cyflawni hunanladdiad yn Accrington, drwy ymgrogi. Yr oedd wedi bod yn isel ysbryd, ac wedi datgan ei ofn fod ei berthynasau yn dechreu blino ei gadw.
-DIRWYN CYNDFTTIIAS ADEILADU…
-DIRWYN CYNDFTTIIAS ADEIL- ADU I FYNY. Mewn cyfarfod o gyfranddalwyr y London Provident Society and Bank, ddydd Llun, mynegid y byddai i ddiffyg o werth 16,347p godi oddiwrth werthiant gorfodol eiddo; ond ychwanegodd y llywodraethwr fod sefyllfa pethau yn sicrhau na byddai y cyfranddal- wyr ar eu colled. Pasiwyd penderfyniad o blaid dirwyn y cwmni i fyny.
Y GERI MARWOL.
Y GERI MARWOL. Dywed hysbysrwydd o Berlin, er gwaeth- af a ddywedir i'r gwrthwyneb yn swydd- ogol, fod y geri yn ymledu yn gyflym yn Roumania. Adroddir am achosion a mar- wolaethau newyddion yn Havre, St. Peters- burg, a Hamburg. Yn y lie olaf y mae yr adroddiad swyddogol yn dangos fod y cwbl o'r achosion o'r geri i fyny, i'r 24ain cyfisol yn 17,157, ac o'r rhai hyn bu 7,339 farw.
GWENWYN AC ELLYN.
GWENWYN AC ELLYN. Y mae dirgelwch y gwenwyno yn Bromp- ton wedi cymeryd ffurf hynod o gyffrous. Aeth Dr Heron ddydd Sadwrn i westy wrth ymyl y Strand; a chan beidio gwneyd dim dirgelwch o'i enw, efe a aeth i aros yno. Prydnawn Sul efe a gafwyd vn farw—efe a laddodd ei hunan, gan adael, fel mae'r son, fynegiad sydd yn dyfod i'r un peth a chyf- addefiad yn nghylch marwolaeth Ruby Rus- sell. Fodd bynag y mae wedi Ilacld ei hun. -¡''T'f tL ..I_fi4¡:
IHUNANLABDIAB MEWN jLLEIANDY.
HUNANLABDIAB MEWN LLEIANDY. Cafwyd y Chwaer Maximan, yr hon a aeth i'r lleiandy dair blynedd yn ol, yn farw y Sadwrn wrth droed darlun cysegredig yn lleiandy Chwiorydd Trugaredd yn Agram, Croatia. Bernir mai gwenwyno ei huna.n a wnaeth. Yr oedd hi yn amlwg wedi bod yn dioddef oddiwrth wallgofrwydd cref- yddol, ac yr oedd yn feunyddiol yn gosod ei hunan allan fel|pechadur mawr ac annheilwng i fyw.
LLOFRUDDIO EI GWR.
LLOFRUDDIO EI GWR. Cafodd Hannah Roche, gwraig i gludydd yn Waterford—yr hon sydd yn y ddalfa ar y cyhuddiad o achosi marwolaeth ei gwr, drwy daflu llusern paraffin ato, yr hyn a'i llosgodd i farwolaeth-ei dwyn gerbron y dydd o'r blaen yn Waterford i gael ei phrofi ar y cyhuddiad o lofruddiaeth wrfoddol. Dywedodd y carcharor, pan glywodd ddy- farniad y Ilys-" Y cwbl sydd genyf fi i ddyweyd ydyw fod yna eiddigedd rhyngddo ef a myfi am y ddwy flynedd ddiweddaf."
HELYNT RHWNG GWR A GWRAIG.
HELYNT RHWNG GWR A GWRAIG. Gwysiodd Ellen Houghton, yn byw yn Walton, ei gwr, yn Llys yr Ynadon Sirol, Is- lington, ddydd Llun, am ymosod ami. Addefid fod y gwr wedi taro ei wraig, ond efe a ddywedodd ei bod hi wedi bron ddwyn yr holl ddodrefn o'r ty, ponio'i ddillad, ac felly yn y blaen. Addefodd yr achwynyddes ei bod hi, er yn derbyn 32s yr wythnos gan ei gwr, wedi cael, yn enw ei gwr, fenthyg arian am log hynod o uchel. Barnodd y fainc fod bai mawr ar y wraig, ond dirwy- asant ef i os a'r costau.
GOLT JFA GYFFROUS WRTH LIAIADR…
GOLT JFA GYFFROUS WRTH LIAIADR Y NIAGARA. Gw inidog Dewr a Beiddgar. Dygwyddodd un o'r damweiniau mwyaf cyffrous a gymerodd le erioed yn hanes Rhaiadr y Niagra, ddydd Sadwrn. Yr oedd mintai o Toronto, yn cynwys Mrs Grimason, ei dwy ferch, y Parch John Ramsay, Ballymoney, y Werddon, a dau foneddwr arall, yn croesi y bont newydd ychydig o dan y rhaiadr, pryd y llithrodd Mrs Grimason dros ochr y bont. Nis gall- asai dim ond gwyrth, megys, ei hachub rhagk iddi ddisgyn i'r Uyn tro gwyllt oedd dan- odd. Eto, y mae yn rhyfedd adrodd, aeth ei thraed yn rhwym rhwng pibelli y nwy sy'n croesi y bont, a dyna lie yr hongiai, a'r dyfroedd chwyrn yn taro yn erbyn rhan o honi. Darfu i'r Parch Mrs Ramsay, gan amlygu cryn hunanfeddiant, neidio dros y railing, a disgyn, law dros law, ar y cables i'r lie yr oedd y foneddiges yn crogi. Gan osod ei goesau yn gadarn o gylch y girder, efe a ymaflodd yn Mrs Grimason i'i freich- iau, cododd hi o'r lie peryglus, a daliodd hi nes y gallodd y bobl ostwng rhaffau a thynu'r ddau i fyny yn ddyogel. Diangen- rhaid yw dyweyd mai Mr Ramsay yw arwr y dydd. Yr oedd yn Toronto yn y Pan- Presbyterian Conference.
[No title]
Y mae y Gweinidog Groegaidd at Faterion Tramor wedi anfon gwrthdystiad at Alluoedd Cytundeb Berlin yn erbyn gwaith y Lly- wodraeth Bwlgariaidd yn can yr ysgolion Groegaidd yn Burgas.
GWRTHRYFEL YN WINDSOR.!
GWRTHRYFEL YN WINDSOR. Y mae gwrthryfel wedi tori allan yn mhlith y 1st Life Guards sydd yn Windsor. i Dywedir fod anfoddlonrwydd wedi cael ei achosi gan ymarferiadau diangenrhaid. Foreu Sul caed allan fod holl gyfrwyon y C squadron, yn rhifo tua 80, wedi cael eu tori drwodd. Cyfyngwyd hwy i'r lluestai drwy'r dydd; a pharasant gryn ddychryn i rai yn byw yn y gymydogaeth drwy ganu yn uchel, a chadw twrw.
NIWEIDIO PWLL GLO.
NIWEIDIO PWLL GLO. Gwneir ymchwiliad gan heddgeidwaid sir Fflint i ymgais ddieflig a wnaed i ddinystrio gwaith glo y North Leeswood. Ymddengys fod nifer o ddynion wedi myned i lawr i'r gwaith, ac wedi niweidio y peiriant a godai ddwfr o'r pwll. Tynasent i lawr y propiau a gynhalient y neufwd, fel ag y byddai iddo syrthio i lawr. Yn ffodus gwelodd nifer o ddynion cyn dechreu gweithio y niwed a wnaed. Pe syrthiasai y nenfwd tra ybuasai y dynion yn gweithio, lladdesid llawer.
CYFLAFAN YNYS MANAW.
CYFLAFAN YNYS MANAW. Ddydd Mawrth dechreuodd prawf George Barker James Cooper ar y cyhuddiad o lof- ruddio ei wraig mewn gwesty yn Douglas ar y 3ydd cyfisol. Nid hwn yw y prawf terfynol arno. Cymerid dyddordeb anghy- ffredin yn y gweithrediadau, ac ymgasglodd canoedd lawer oddeutu y llys, a chafodd y carcharor ei hwtio ganddynt pan ddygwyd ef i'r llys. Ymddygai yn hollol hunanfedd- ianol, oddieithr pan wnaeth un tyst gyfeir- iad ei fod yn bur hoff o'r wraig drancedig. Yn ei araeth agoriadol dywedodd cyfreith- iwr y Llywodraeth fod Cooper a'i wraig wedi dod drosodd i'r ynys o Lerpwl, ac wedi myned i aros i'r Regent Hotel. Boreu dranoeth cafwyd hyd i'w wraig yn gorwedd yn farwjar lawr yr ystafell wely, a'r carcharor yn gwneyd ei oreu i sychu y gwaed, gan ddefnyddio bob peth oedd o fewn ei gyrhaedd, ac hyd yn nod ei grys. Yn ymyl yr oedd cyllell boced wedi ei gorchuddio a gwaed. Fe ddygid tystiolaeth yn mlaen i brofi fod Cooper wedi arfer camdrin ei wraig, ac iddo addef ei fod wedi ei chwipio y diwrnod cynt. Bygythfodd fwy nag unwaith gymeryd ymaith ei bywyd, a'r noson cyn iddi farw dywedodd Cooper wrth forwyn yn y gwesty y byddai yn sicr o dalu iddi am rywbeth. Profai y pethau hyn fod y dyn yn coleddu teimladau drwg at ei wraig, a chredai nas gallai y rheithwyr wneyd dim ond dych- welydrheithfarno "Lofruddiaeth wirfoddol." Gwrandawyd amryw o dystiolaethau i brofi hyn, a gohiriwyd y prawf.
[No title]
Yn Berlin, Germani, y mae dioty ar gyfer 185 o'r trigolion. Lleihau mae y tai dir- westol.
Advertising
HIGHEST Diplomas, Gold Medals, J Special Certificates of Ment> I BRITT:RJE -:F:D: HONORS 11 A t all the Great Exhibitions of the World. J. PROFESSOR Sir Erasmus Wilson I Late President of the Royal College of Surgeons, England. "Tbe use of a good soap is certainly calculated to pre- serve the skin in health, to maintain its complexion and tone, and prevent it falling into wrinkles. PEARS' is a name engraved on the memory of the oldest inhabitant; and | PEARS' SOAP is an article I of the nicest and most careful I manufacture, and one of th.e most refreshing and agreeable I of balms for the skin." DEARS £ SOAP MAKERS By Special Appointment TO HER MAJESTY The Queen AND Mr. John L. Milton Senior Surgeon St. Jokn's Hospital/ortlu Skin,London. From time to time I have tried verymany different soaps and after five-and-twenty years careful observation in many thousands of cases, both in hospital and private practice, have no hesitation in stating that none have answered so well or proved so beneficial to the skin as PEARS' SOAP. Time and more extended trials have oniy served to ratify this opinion which I first expressed upwards of ten years ago, and to increase my confidence in this admirable preparation." L 4 HIS ROYAL HIGHNESS THE Prince of Wales. MClt r¡ ;2 0" I I f, -=====.
Y GATRAWD GYMREIG.
Y GATRAWD GYMREIG. Ddydd Llun ymadwodd yr ail adran o'r Gatrawd Gymreig o Wrecsain gyda cher- bydres arbenig i Aldershot, wedi cwblhau eu hymdaith drwy Ogledd Cymru. =
0LYNYDD MR SPURGEON.
0LYNYDD MR SPURGEON. Dywedir fod peth anfoddlonrwydd yn bodoli yn mhlith un adran o eglwys y Tabernacl, yn erbyn yr alwad a roddwyd i Dr Pierson i ddyfod yno i'w bugeilio. Teimla y rhai hyn yn gryf o blaid galw Mr Thomas Spurgeon, mab y diweddar weinidog.
CYMDEITHAS ADEILADU ARALL…
CYMDEITHAS ADEILADU ARALL MEWN HELBUL. Anfonwyd cylchlythyr at gyfran-ddalwyr Cymdeithas Adeiladu Kent a Surrey, yn galw cyfarfod cyffredinol i benderfynu pa fodd i ddirwyn y gymdeithas i fyny, gan fod ei chyflwr yn gyfryw nas gall gario busnes yn mlaen. Mae y cyfrifoldeb yn 132,622p, a'r eiddo yn ddim ond 70,109p.
ARDDANGOSIAD GAN IYEITH-WYR…
ARDDANGOSIAD GAN IYEITH- WYR LERPWL. Cynhaliwyd arddangosiad mawreddog gan weithwyr Lerpwl brydnawn Sadwrn diwedd- af. Ffurfiwyd gorymdaith yn ymyl y St George's Hall, ac aethpwyd i'r Exhibition Ground, Edge Hill. Bernid fod deng mil yn yr orymdaith. Anerchwvd y dyrfa oddiar bump o lwyfanau, a phasiwyd penderfyn- iadau yn galw ar y Senedd ddeddfwriaethu mewn gwahanol gyfeiriadau er budd y dos- barthiadau gweithiol.
[No title]
Yn Japan y mae 1717 o filldiroedd o reil- ffyrdd. Rhoddwyd i lawr sylfeini twr Syr Edward Watldn yn Llundain, yr hwn sydd i fod yn uwch na Thwr Eiffel yn Paris. Derbynia Mr Sims Reeves ddeg swllt ar' hugain yr awr am ddysgu cerddoriaeth yn Ysgol y Guildhall; ac yn ychwanegol at hyny caiff ran o'r arian a delir gan y dis- gyblion. Mewn rhai parthau o Affrica gwneir mas- nach mewn cricied. Megir hwy, ac yna fe'u gwerthir am bris pur dda. Mae'r brodorion yn hoffi eu swn, gan y tybiant ei fod yn dwyn cwsg i'w ganlyn.
DYN^'A" PliSBWAR LLYGAJ).
DYN^'A" PliSBWAR LLYGAJ). Dywedir fod un o'r enw Ahunad Rafi, tra ar ei siwrnai o Ratif i Bossarah, wedi gweled dyn yn Ashra Mutoer gyda phelw-,tr o lyg- aidganddo. Yr oedd dau ohonynt yn y lie arferol, a'r ddau arall uwchben yr aeliau.
TYNU LLUNIAU.
TYNU LLUNIAU. Hysbysir fod gwr o'r enw Dallmeyer wedi gallu gwneyd gwydrau gyda pha rai y gellir tynu darluniau o bellder mawr. Tynwyd lluniau mynyddoedd yn Switzerland o bell- der o ddeng milldir yn llawer mwy eglur nag y gwneid cynt o bellder o ychydig gan- oedd o latheni.
LLOSGI PONT I DDINYSTRIO TREN.
LLOSGI PONT I DDINYSTRIO TREN. Y mae pont y rheilffordd dros y Medjir- dah, rhwng South-el-Araba a Beja, wedi cael ei llosgi, fel y credir, gan Arabiaid, gyda'r amcan o ddinystrio ac yspeilio y tren. Yn ffodus derbyniwyd yr hanes am ddin- ystrio'r bont mewn pryd i ochel y trychineb.
GWRTHRYFEL YN WINDSOR.
GWRTHRYFEL YN WINDSOR. Y mae gwrthryfel wedi tori allan yn mhlith y 1st Life Guards sydd yn Windsor. Dywedir fod anfoddlonrwydd wedi cael ei achosi gan ymarferiadau diangenrhaid. Foreu Sul caed allan fod holl gyfrwyon y C squad ron yn rhifo tua 80, wedi cael eu tori trwodd. Cyfyngwyd hwy i'r lluestai drwy'r dydd a phavasant gryn ddychryn i rai yn byw yn y gymydogaeth drwy ganu yn uchel, a chadw twrw.
SEFYLL ALLAN MAWR YN YM YL.
SEFYLL ALLAN MAWR YN YM YL. Cynhaliwyd cynhadledd rhwng cynrych- iolwyr y meistri a'r dynion yn masnach y cotwm yn Manceinion, ddydd Llun; ac a r ran y dynion mynegid na dderbynid mot gostyngiad bwriadedig o 5 y cant yn y cyf- logau; ond fod y dynion yn barod i gyd- weithredu i gwtogi cynyrch. Gwrthododd y meistriaid ystyried y cynygiad yna, fel y mae sefyll allan pwysig yn ymyl.
GWENWYN AC ELLYN.
GWENWYN AC ELLYN. Y mae dirgelwch y gwenwyno yn Brompton wedi cymeryd ffurf hynod o gyffrous. Aeth Dr Heron ddydd Sadwrn i westy wrth ymyl y Strand; a chan beidio gwneyd dim dirgelwch o'i enw, efe a aeth i aros yno. Brydnawn Sul efe a gafwyd yn farw—efe a laddodd ei hunan, gan adael, fel y mae'r son, fynegiad sydd yn dyfod i'r un peth a chyfaddefiad yn nghylch marwolaeth Ruby Russell. Fodd bynag, y. mae wedi Uadd ei hunan.
CEFFYL YN NEIDIO I'R MOR.
CEFFYL YN NEIDIO I'R MOR. Gyrid ceffyl a cherbyd ysgafn ar hyd y cei yn Douglas, ddechreu yr wythnos. An- esmwythodd y ceffyl, a neidiodd dros y cei i'r dwfr. Taflwyd y gyriedydd yn erbyn rigging llong bysgota, a gallodd afael mewn rhaff, ac felly arbedwyd ei fywyd. Dwy droedfedd o ddwfr oedd yn y lie ar y pryd; a chan i'r ceffyl ddisgyn gryn 30 troedfedd, lladdwyd ef yn y fan.
BREUDDWYD.
BREUDDWYD. Un noson yr wythnos ddiweddaf mi a orweddais, ac a gysgais, ac a freuddwydiais freuddwyd. Nid yn fynych, Mr Gol., y byddaf yn breuddwydio, ac nid yn fynych ychwaith y bydd breuddwydion yn cael lie ar fy medd vl ar ol iddynt fyned heibio; ond yr oedd y breuddwyd hwn yn wahanol, Nis gallaf ei anghofio, gan ei fod yn dyfod 1 fy meddwl yn barhaus. Fel hyn yr oedd Gwelwn fy hun yn sefyll o flaen palas Mr Tordyn, yr hwn sydd yn ynad heddwch dros y Sir. Tra yr oeddwn yno yn sefyll gwelwn gerbyd Dr Bigfee (yr hwn hefyd sydd yn ynad), yn gyru yn gyfiy-in i gyfeiriad y palas, ac yn sefyll wrth y brif fynedfa. Di#gynodd y meddyg ac aeth yn syth i ddrws y front, yr hwn a agorwyd gan Mr Tordyn ei hun, ac arweiniodd y meddyg i mewn. Cyn fod y drws wedi ei gau cefais inau fy hun i mewn ac yn dilyn y ddau i ystafell wedi ei ddodrefnu yn hardd; ond nid oedd yr un o honynt fel pe yn gwybod am fy mhresenoldeb, fel y dengys eu hymddiddan yn mhellach. Rhoddodd Mr Tordyn orchymyn i un o'r mor- wynion i ddod a dwy botelaid o wirod j i'r bwrdd a dau wydryn, i'r hyn yr ufudd- hawyd, a gadawyd y ddau i helpu eu hun- ain. Dowch, Dr," ebai Mr Tordyn* nid wyf yn meddwl i chwi fod yma ar ol t mi gael hwn i mewn. Credaf ei fod yn haeddu y ganmoliaeth uchel roddir iddo gan bawb." Wedi i'r Dr ufuddhau trwy draflyncu rhan o gynwys y gwydryn, a lanwyd iddo gan Tyrdyn, gellid ei glywed, rhwng mygu a thagu, yn dweyd, "Campus yn wir, ar- dderchog, &c." O'm rhan fy hun," ebai Tordyn, yr wyf yn methu dirnad paham y mae y dir- westwyr yna mor benboeth yn erbyn cy- meryd glasiad weithiauostwff fel hwn." "Yr ydych, wrth son am ddirwestwyr," ebaiDr Bigfee, "yn fy adgofio fel y maent wedi penderfynu gwrthwynebu amryw drwy- ddedau yn y dosbarth, ac y maent bob amser yn ceisio argraffu ar feddwl pobl y dylid mynd a busnes y trwyddedau o'n dwylaw ni fel ynadon a rhoddi yr hawl i'r trethdal- wyr. Rhaid i ni fynd yn erbyn hyn, ac heblaw hyny gwyddoch pwy ydyw cyf- reithiwr y dirwestwyr; bydd raid, os y gellir, myned yn ei erbyn yntau, Y mae yn ormod o I Ryddfrydwyr, ni ddylai enill yr un case, os y gallwn ei rwystro." "Pur wir," ebai Mr Tordyn, ac yr wyf yn meddwl nas gallwn wneyd dim yn well na rhoddi ein penau yn nghyd heno, a cheisio cynllunio pa fodd iddo golli yr achos sydd ganddo mewn llaw." "Wel," ebai y Dr, "ni fydd hyny ond gwaith cydmarol hawdd. Dyna y tafarnwr yn Eglwyswr selog: ac os y bydd yn rhy feddw i fyned i'w wely ambell nos Sadwin, bydd yn gofalu bod yn yr eglwys bore dranoeth, yn enwedig os y bydd yn Sul y Cymmun; a chan ei fod mor grefyddol, nid rhyfedd ei fod mor gymeradwy gan Mr Boldew, y parson, fel y gwnai unrhyw beth er ei fwyn." Heblaw hyny, gwyddoch fod Mr BOTaew yn gyfaill mynwesol i Mr Goodfomothing, parson Llanllonydd; a dyna Mr Goodfomothing yn fab-yn- nghyfraith i'r Ynad Trwyngoch, a chanddo ddylanwad mawr arno. Cynllun rhagorol ynte," ebai Tordyn, fyddai anfon y tafarnwr at Mr Boldewiddyweyd ei gwyn, byddai iddo ef ddylanwadu ar barson Llanllonydd, a hwnw drachefn gyda'i dad- yn-nghyfraith; ac, ond ini ei gael ef yn einhochr byddwn yn all right." Iel dyna yr unig ffordd," ebai Dr Bigfee; "a chan fy mod yn debyg o weled y tafamwr yfory, hwyrach y byddai yn well i mi gry- bwyll y peth wrtho. Gan gofio, y mae genyf glaf y drws agosaf iddo, ac yr wyf wedi addaw galw yno heno, efallai y caf wcled y tafarnwr yr un pryd. Rhag i mi. fod yn hwyr iawn yr wyf am ddyweyd nos dda i chwi yrwan, Mr Tordyn, achofiwcham y llys trwyddedau, er rhoddi ein cynllun mewn gweithrediad." 0, pob peth yn iawn, Dr; a chan fod yn rhaid i chwi gael myn'd, nid oes genyf ond dymuno nos dda i chwithau, a gobeithio y bydd i chwi lwyddoi gyda'r cynllun." Ar hyn mi a ddeffroais, ac oni bai mai breuddwyd oedd buaswn yn dyweyd yn ddi- floesgni fod yn hen bryd rhoddi rheoleiddiad y fasnach feddwol yn nwylaw rhywun heb- law yr ynadon. HYWEL LYGAD CWSG.
Bangor-
Bangor- Mae W. 0. Williams, Manchester House Bangor, yn dymuno diolch i'w luasog gwsmerjeja am y gefnogaeth a dderbyniodd yn ystod ei Sale, ac hefyd yn eu gwahodd i weled y stoc helaetb o nwyddau newydd at y tymhor am brisiau hynod o isel, wedi eu prynu a gofal neillduol yn Llun- dain a Manchester. Telerau, arian parod yn unig