Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

[No title]

LLITH MERI JOS.

News
Cite
Share

LLITH MERI JOS. "Meri," meddai Robin y nos o'r blaeny wyt ti'n dallt pwnc y tir yma, dwad ?" Wel, rydw i'n mentro meddwl fod gin i grap go lew arno fo. Be sy'n dy ddrysu di,- Robin?" J A dyma Robin yn deud gair o'i brofiad. Roedd o wedi clywad speech Gladstone yn Cwmllan, ac wedi ("arilan fod yna row ofnadwy ar gount y busnas. Un ofnadwy ydi'r hea Gladstone yma, wel di, Meri; hen wr dros i bedwar igian yn gafael mewn p-vnc mor ddyrys a phwnc y tir. Be ydi dy syniad di, Meri, am y comisiwn jana ffiilr nhw'n son am dano p" "A deyd y gwir, toes gin i feddwl yn byd o'r peth." Yn diar mi, Meri, sat rwyt ti'n deyd fel yna? Roeddwn i'n ineddwl mai peth clyfar gynddeirics oodd y comisiwn yma." Wel mi roi fy rhesyina, a mi gei ditha farnu drostat dy hun.. Yn un peth mi fydd yn anodd iawn cael gin y ffarmwrs roi tystiolaeth yn erbyn y landlords. Rhaid cofio fod y ffarmwrs yn hollol at drugaredd y landlords. Mae ar bob ffarniwr ofn colli i ferrn; ne ofn fethu cael un i'w feibion, ac mi fydd yn amhosibl bron i cael nhw i ddeyd dim yn wael am yr un landlord o flaen y comisiwn. Ac os na fedrir i cael nhw, dyna hi'n 61 ofar. Achos y mae'r baich o bron y cyhuddiada yn gorphwys ar ysgwydda'r ffarmwrs. Y ffarmwrs ydi'r cyhuddwyr, ac nid y landlords." Felly, Meri, dyna dy reswm cynta, a ma o yn un go dda hefyd. Ond bwria fod y ffarmwrs yn dwad ymlaen, ac yn deyd y caswir am y landlords heb ddim lol yn y byd. Lie byddat ti wedyn P" Ia, bwriwn fod y ffarmwrs yn gneyd fel hyn, faint well allan fyddan ni yn y diwadd ? Mi wyddon rwan sut ma petha; faint fwy fyddan ni'n wbod ar ol i'r comisiwn fod yn eistedd am ddeunaw mis ? A phe tasan ni'n gwbod mwy, beth well fasan ni ? Yr un fath fydda'r landlords yn union wedyn. Mi fyddan yr un mor greu- lon, yi un mor Doriaidd, ac yn llawn mor ffond o hela petris ae o chwilio am Eglwys- wrs i'w rhoi yn y ffermydd gweigion." "Wel, Meri, hwrach y caen ni fesur tir, ac y bydda hwnw yn sicrhau rhent resymol, sicrwydd daliad, ac ad-daliad am well- iantau." Da iawn. Mi leiciwn i weld y petha yna, a mi naen lawar iawn o ddaioni. Ond inistec fydda meddwl y basa pwnc y tir wedi setlo am byth ond i cael nhw. N a, mae pwnc y tir,. yn ol fel yr ydw i yn edrach arno, yn myned yn llawar pellach ac yn llawer dyfnach na'r pethau hyn. Nid pwnc rhwng y tenant a'r landlord yn unig ydi pwnc y tir. Beth am y labrwr, druan ? Dyma ti wedi taro ar gwestiwn campus rwan, Meri. Rydw ina yn methu gweld fod y labrwr yn dwad i fewn. i'r un comisiwn na'r un mesur tir." "Fel hyn mae hi,. Robin: Mae enillion. y tir yn cael eu rhanu rhwng tri dosbarth o bobol-y landlord, y tenant, a'r labrwr. Rwan rydw i'n dal fod y labrwr yn cael thy fychan, y ffarmwr yn cael rhy fychan, a'r landlord yn cael gormod." "Da iawn, Meri; dyna'r gwir i'r dim." A pheth arall hefyd, Robin: y bobol bia'r tir, hyny ydi, yr holl genedl. Ac yn lie bod y rhenti yn mynd i bocedi un dosbarth o bobol, a hwnw'r dosbarth sala o bawb, mi ddylai fynd i'r holl genedl." Aros di, Meri, go brin rydw i yn dy ganlyn di rwan. Sut rwyt ti'n deyd ?" Mi fuom yn sbonlo y mater yn hir i Robin, ond rydw i'n meddwl, rhag i fy llith i fynd yn rhy faith, mai'r peth gora ydi gadael y gweddill o'r ymddiddan hyd ryw dro. eto. Ond mae gen i un gair o awgrym. Mae'r gaua yn dwad, a'r peth leiciwn i welad yn mhob pentra fydda clas i stydio pwnc y tir. Ardderchog o beth fydda gweled meibion a gweision ffarmwrs pob cymydogaeth yn dwad at i gilydd un nosen bob wsnos i siarad ac i ddadla y pwnc yma hefo'i gilydd. Yr anhawsder fyddai cael arweinydd ar y clas, ond siawns nad oes ymhob pentra riw un a chanddo fo ddirnadaeth go lew ar y mater. Dyma rai o'r prif bynciau ellid gy- myd i fyny: Pwy oedd bia'r tir ar y dechra? Sut yr aeth y tir i feddiant y landlord ? Yn mha fodd y mae hyny yn effeithio yn ddrygionus ar y ffarmwrs, y labrwrs, a'r genedl gyffredinol? Be ydi'r reswm fod oimin o weithwyr o'r wlad yn mynd i'r trefydd ? Sut ma'n bosibl datrys pwnc y tir ? Beth ydi athrawiaeth Henry George ? Beth sydd i feddwl wrth genedl- aetholi'r tir ? Be ydi ystyr y frawddeg, "Y tir i'r bobl "? A ydyw yn bosibl gneyd i ffwrdd a drygau landlordiaeth heb neyd i J ffwrdd a landlordiaeth ei hun ?

YN EISIEU.

IY LLYSOEDD TRWYDDEDU.

Advertising