Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
MANION.
MANION. Ni bydd atal dyweyd byth ar anwariaid. 0 Algeria y ceir y rhan fwyaf o gore. Dywedir fod dau o bob tri o ddynion Prydain yn defnyddio tybaco. Gellir gwneyd 170 cwpanaid ag un pwys 0 de. Bydd Cyngrair Presbyteraidd y Byd yn cyfarfod yn Toronto, Canada, Medi 21. Etholir merched i eistedd yn Senedd Ynys yr la. ''j Yehydig o bobl a llygaid gleision gan- ddynt geir na allant wahaniaethu lliwiau. Y mis diweddaf allforiodd Japan werth 3S,232p o matches. Un dda am drwsio sanau yw Madame Patti. 0 grwyn bleiddiaid y gwneir memrwn y banjos goreu. Gall Ymherawdwr Germani ymffrostio fod ganddo fil o siwtiau dillad. Yn bur fuan caiffYsgotyn ei ordeinio yn offeiriad Budhaidd yn Ceylon. Y mae agos i gymaint arall o bersonau ar bob milldir ysgwar yn Ewrop ag sydd yn Asia. Gwahardda cyfreithiau Norway a Sweden i fynachdai a lleiandai gael eu sefydlu yn y gwledydd hyny., Mae cyflogau mor isel yn India fel y gellir cael dyn i wneyd gwaith ty am 8s y mis. Ni ofynant ond am un pryd y dydd. Fe ddelir mwy o eogiaid yn afonydd yr twerddon nag yn holl afonydd Prydain Fawr. Yn y dull y darperir ef yn unig y gwahan- iaetha te du a the gwyrdd. Gellir cael y ddau fath o ddail ar yr un planhigyn. Y sgrienodd Mr Ruskin 64 o lyfrau, a 0 derbynia tua 4000p y flwyddyn oddiwrth ei gyhoeddwyr. Bu 800 o bersonau farw yn y Punjaub yn ystod y flwyddyn ddiweddaf drwy gael eu brathu gan nadroedd. C, Bwriada Byddin Iachawdwriaeth gario yn mlaen eu gweithrediadau ar raddfa eang yn yr America. Pan y syrthia pont neu adeilad yn Bul- garia tefiir yr archadeiladydd i garchar, a chedwir ef yno hyd nes y gall brofi mai nid arno ef yr oedd y bai am y trychineb. Dywedir fod Beibl Cromwel yn meddiant Miss Ninj, Cromwell, o Detroit, un o linach yr hen amddiffynydd. Argraphwyd y llyfr yn 1591, a chynwysa y Salmau mydryddol gyda nodiant cerddorol. Mae yn ffaith fod mwy o bobl yn marw trwy hunan-laddiadau yn y wlad hon. Y flwyddyn ddiweddaf yr oedd 24 o bob cant yn fenywod. Fel y cynydda gwareiddiad mae y dull hwn o farw yn cynyddu. Rhoddodd boneddwr gusan i foneddiges ar yr ystryd yn Valparaiso, ac am hyny dedfrydwyd of i 60 niwrnod o garchariad. Apeliodd yn erbyn y ddedfryd, ond cafodd 30 niwrnod arall atynt. j Mae Ja-oau yn parotoi yn helaeth ar gyier aaeiladu llcngau rhyfel dur o'r fath oreu, ac yn adeiladu gweithfeydd cyffelyb i'r rhai perffeithiaf yn Ewrop. Mae yn y wlad hefyd adnoddau at wneuthuriad llestri o'r fath. Gan fod y genedl yn un ryfelgar a chyfosthog, bydd yn debyg o feddu llynges nerthol yn y dyfodol. Pan fydd plentyn farw yn Greenland rhoddir ci byw yn y bedd gydag ef, fel ar- weinydd i baradwys, am y credir y gall ci wneyd ei ffordd i unlle. Bydd brodorion rhanau o Awstralia yn tynu ewinedd y marw rhag iddo grafu ei ffordd o'rbedd a myned yn ellyll gwaedlyd. Mewn parthau o Rwsia rhoddir tystlythyr o gymeriad da yn llaw y marw i'w gyflwyno i St Pedr wrth borth y nefoedd. Dywed cylchgrawn meddygol fod bechgyn yn tyfu fwyaf yn yr ail flwydd ar byiytheg; merched yn y bedwaredd ar ddeg. Mae bechgyn yn gryfach na merched hyd yr unfed flwydd ar ddeg; merched sydd gryfaf hyd yr ail flwydd ar bymtheg; o hyny allan y bechgyn sydd gryfaf. Yehydig fydd plant yn enill o ran corph o Tachwedd i Ebrill, o Ebrill i Gorphenaf enillant mewn taldra ond collant mewn pwysau, o Gorphenaf hyd TachvVedd enillant yn gyflym mewn pwysau ond nid mewn taldra.
'-b..GLYWSOCH CHWI
b.- GLYWSOCH CHWI Fod lluaws mawr wedi myned i fyny mewn cerbydau i Gwmllan i weled Mr Gladstone ddydd Mawrth ? Eu bod yn tyru yno ar feirch, mewn cer- bydau, ac ar draed ? Fod y rhan fwyaf wedi myned a d'od yn ddibrofedigaeth ? Nas gellir dyweyd hyn am un parti o Gaernarfon aeth yno mewn cerbyd ? Er iddynt gychwyn yn ddigon prydlawn ei bod yn hwyr arnynt yn cyrhaedd yno ? Fod yr hen geffyl wedi bod yn nogio ar y ffordd ? Nad oedd gwlawlen y masnachwr hwnw yn gallu ei argyhoeddi i fyned yn ei flaen ? Nad oedd neb wedi rhoddi llith iddo ar hyd y ffordd ? Fod un o'r teithwyr wedi cymeryd tru- garedd arno, a rhoddi sandwich oedd gan- ddo yn ei boced i'r ceffyl ? Iddo mewn canlyniad fyned yn mlaen am ychydig latheni ? Ei fod wedi sefyll drachefn gan ddisgwyl cael sandwich arall, ond nad oedd yr un iddo i'w gael ? Eu bod yn barnu mi Tori oedd y march, ac felly nad oedd yn foddlawn i'w cludo i weled Mr Gladstone ? Y bu raid iddynt gerdded o Gwmllan i Rhyd-ddu, a cheisio gwasanaeth y march tan i'w cludo yn ol i Gaernarfon ? • Eu bod wedi pasio penderfyniad yn un- frydol nad oedd y ceffyl hwnw yn teilyngu swper y noswaith hono ? Beth mae'r Methodistiaid yn wneyd ? Gwel y Byd Crefyddol yn y Genedl yr wyth- nos nesaf. Am y wledd i'r Arglwydd Faer yn Mangor ? Bod y Celt yn dweyd fod amryw yn sadach ar eu traed yn myned i'r ciniaw na phan yn doi oddiyno yn hwyr y nos ? Fod Ficer Caernarfon wedi gwrthod bwyta ei giniaw am mai Dr Hughes, Engedi, oedd wedi gofyn bendith arno ? Beth mae'r Bedyddwyr yn wneyd ? Gwel y Byd Crefyddol yn y Genedl yr wythnos nesaf. Fod tref Porthmadog yn fyw trwyddi yr wythnos ddiweidaf ? Fod y llawenydd yn fawr oblegid llwydd- iant cymaint o'r beirdd yn Eisteddfod y Rhyl? Fod Cynhaiarn a Gwilym Eryri wedi eu hanrhydeddu yn fawr, ond mai Iolo Caer- narfon a goronwyd ? Fod brwdfrydedd y bobl am Iwyddiant y cor yn anesgrifiadwy ? Fpd bechgyn y pellebyr y diwrnod hwnw wedi cael mwy o waith nag arfer ? Eu bod i'w gweled yn gwibio ol a blaen gyda phellebron yn hysbysu y canlyniad? Ea bod wedi penderfynu yn barod bar- otoi ar gyfer Eisteddfod Pontypridd ? Fod y Gatrawd Gymreig wedi dod i'r dref ddydd Iau ? Fod golwg ysblenydd ar y dref, a byw- iogrwydd anarferol i'w ganfod yn mhob cyfeiriad ? Fod y trigolion wedi cael eu boddhau gyda'u hymwelwyr, ac yn arbenig gyda'r arddamjosiad o dan gwyllt yn yr hwyr ? Betlrmae'r Wesleyaid yn wneyd ? Gwel y Byd Crefyddol yn y Genedl yr wythnos ( nesaf. Fod un brawd wedi canu y pill a ganlyn i'r fuwch ymosododd ar Mr Gladstone yn Mhenarlag y dydd o'r blaen :— The cow that ran The Grand Old Man Is worthy of immortal fame- She'll rarely rise To starry skies A constellated Primrose Dame." Am y merched ieuano rheini o ———— sydd wedigwirionieupenau am y deshreuwr canu ? Y bydd ymryson yn eu plith braidd bob Sul yn yr awydd cryf fydd arnynt eisieu i'r llanc fyned gyda hwjj i gael te? Mai y prif reswm dros eu bod mor egniol ydyw na. fyddant byth yn cael cynyg ar gariad, ac felly eu bod am wneyd eu g -ireu cyn yr el y flwyddyn Naid heibio? Mai gobaith gwan sydd iddynt, gan na chymer y llanc ushod ei gario gyda p)b awel? Am y merched hyny o'r un ardal a aeth i Dinas Dinlle mewn cerbyd y dydd o'r blaen? Eu bod wedi peri gryn drwbwl i'r cer- bydwr trwy beidio talu eu cludiad ? 11 Mai gwell ydyw iddynt dalu gan gynted ag y gallant neu bydd y canlyniadau yn ddifrifol ? Mai digalon iawn oedd rhai o weithwyr Chwarel y O-il, wrth ei gweld yn bwrw gwlaw dydd Mawrth, Medi 6ed f Eu bod wedi codi yn fore iawn y diwrnod hwnw, er bod yn y gwaith crbyn pump, er mwyn cael mynd adref un o'r gloch, wedi gwneyd eu diwrnod i fyny, i weled y sowldiwrs yn N ghaernarfon? Eu bod wedi eu siomi trwy gael gwlaw y tro hwn, yr mi modd a diwrnod y Flower Show yn Penygroes y llynedd? Mai codi yn fore ddarfu iddyat boreu Llun ar ol Gwyl Llafur, i wneyd i fyny y boreu golltsgnt? Mai ail duechreu ar hen arferiad o godi yn fore ydyw peth fel hyn ? Fod cwyn gyffredinol gan weithwyr y Dyffryn oherwydd hyn? Mai nid ar y goruchwylwyr mae ybai am y gweithio direol fel hyn ? Beth mae'r Annibynwyr yn wneyd ? Gwel y Byd Crefyddol yn y Genedl yr wythnos nesaf. Am y te parti gynhaliwyd yn D-n ychydig amser yn ol ? Nad oedd yno ddigon o ymenyn ar gyfer y rhai ddaeth yno i wledda ? Fod amryw ranau ereilk o'r parotoadau i'w gweled yn ddiffygiol ? I Mai peth pur chwith oedd gweled un- rhyw ddarpariaeth ar ol ynglyn a'r hen sef- ydliad hwn ? Mai llwyddiant perffaith fyddai yn arfer bod byd y flwyddyn hon ? Fod dyfalu mawr beth oedd y rheswm am yr anrhefn y tro hwn ?
YN EISIEU.
YN EISIEU. Mae llawer o bethau yn eisieu y dyddiau hyn, o brithir newyddiaduron gan hysbysiadau yn gofyn am gyflenwad o'r hyn sydd yn eisieu gan wahanol bersonau ac ardaloedd sydd yn teiinla eu hangen. Ond y mae un peth yn eisieu yn fwy na'r oil, sef gwellltad buan i bawb sydd yn dioddef oddi wrth anhwylderau y cylla, yr afu, y giau, a'r ysgyfaint, a thwymynau a chlefydau sydd yn ymosod ar filoedd o drigolion ein gwlad. Mae cyflenwi'r angen hwn, a rhoddi gwellhad buan i'r dioddefwyr yn beth dichonadwy, ac o fewn cyrhaedd pawb, sef trwy ddefnyddio Quinine Bitters Gwilym Evans, mewn pryd. Y mae y meddyglyn rhagorol hwn erbyn hyn yn fyd-adnabyddus, a chydnabyddir yn mhob man nad oes dim a all gystadlu a Quinine Bitters Gwilym Evans, mewn effeithiolrwydd i symud ymaith holl anhwylderau y cylla, yr afu, y giau, | a'rfrest. Mae yn ami wedi llwyddo i symud yr J anhwylderau hyn, pan oedd pob- meddyginiaeth [ arall iccdi mcthu. Nid yw byth yn siomi. i Rhoddwch brawf arno. Gwertliir gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un. Os [ "bydd anhawsder i'w gael, anfonir ef yn ddidraul j dnvy y post, am y prisiau hyn gan y perchenog-' ion:—Quinine Bitters Manufacturing Company, J limited, Lutnelli, South Wales.
TREIALONBYWYD.
TREIALONBYWYD. HANESTN AM STREIC. [GAN ELLDEYRN.] Yr oedd y diwrnod yn dywyll ac oer, a'r olygfa yn brudd ac unig, fol y crwydrwn oddiamgylch pyllau glo gwaith y G- Yr oedd y gweithydd wedi sefyll, a'r dymon ar streic. Yr oedd y rhan fwyaf o'r glo oedd ar enau y pyllau wedi ei werthu nid oedd ond ychydig yn aros, a gwa- herddid i'r tylawd loffa dim o hwnw. Yr oedd y gauaf yn galed ac yn oer, a dioddefiadau y teuluoedd tlodion yn an- rhaethol. Edrychai pob man yn unig fel y bedd ei hunan, tra y crwydrwn o gwmpas mewn myfyrdod prudd. Yn ddisymwth, gwelwn blentyn yn codi oddirhwng un o'r sypynau glo. Safodd o fy mlaen, a'i wyneb yn welw fel marwolaeth, gan grynu fel deilen tra yr ymgripiai iasau o ofn a dychryn ar hyd ei lwydfoch deneu, welw, nychlyd. "Peidiwch a dychrynu, fy machgen," meddwn wrtho, ni wnaf niwed i chwi." Yr oedd y creadur bach yn ddrych o dristwch. Ai nid ydych yn d'od yma i'm cym-: eryd i fyny am bigo y glo ?" gofynai yn ddychrynedig; ai nid y meistradoedd a'ch, anfonodd ?" Wrth ei draed yn awr canfyddwn lestr bychan yn llawn o'r glo gwerthfawr. Nid oes genym dewyn o dan yn y ty," meddai dan wylo, a gwasgu y llestr gyda'i ddwylaw bychain, gleision, a haner rhew- edig, "ae y mae fy nain yn crynu ac yn gruddfan tra'n gwasgu y baban i'w mynwes oer." Teimlwn fy nghalon yn fy ngwddf, a'r dagrau yn ymruthro i'm llygaid er fy ngwaethaf. A pheth yw eich enw ?" gofynwn. Gwilym, syr." Ac ymha le mae eich tad ?" Nid wyf yn gwybod," atebai'r plentyn. A ydyw ef wedi marw ?" Efallai, ond nis gwn." A pha le y mae eich mam ?" Dirgrynai ei wefus deneu, welw. Mae mam wedi mynd allan i weithio cyn y dydd, syr. Y mae hi yn myn'd allan i olchi pan gaiff hi waith. Caiff nain a minau swper pan ddaw yn ol, ac oh! syr, cawn dan hefyd, o ran fe fydd main yn oer ac yn flin- edig." Wei," meddwn. gan ymdrechu gyda'm teimladau, gadewch i mi lenwi eich llestr, ac mi a'i cariaf adref i chwi." Felly fu. A chawsom ein hunain cyn hir yn sefyll ar drothwy hofel druenus, yr hon a alwai yn gartref." Cartref, wir! Dir- myg ar yr enw anwyl. Petrusai y plentyn ychydig cyn agor y drws.— 0, syr, ai nid un o'r meistriaid ydych ?" gofynai, gyda'r dagrau yn llifo dros ei rudd. Na atto Duw," atebwn. Ac nid ydych yn dod yma in troi o'n cartref ?" Peidiwch ag ofni, fy machgen," medd- wn, dan wenu, yr wyf yma fel cyfaill, ac nid gelyn." Efe a agorodd y drws mewn atebiad. Cartref Llawr moel, gwely, cadair, a grat ddidan ac oer. Cartref trueiniaid Yn ymyl y grat hwn ymgwrcydai hen wraig, ac eira pedwar ugain mlynedd ar ei phen, gan suo canu mewn llais toredig i faban a ddal- iai yn ei breichiau baban, neu swp o garp- iau, nis gwyddwn i. Distaw, distaw, fy maban gwyn," hi furmurai, gorwedd yn llonydd fy nhrysor -ni chaiff yr un o'r meistradoedd dy gy- ffwrdd di—paid ag ofni." Ar y cyntaf hi syllai arnaf gydag ed- rychiad hurt, megis pe yn syllu i rhyw bell- derau yn y dyfodol draw. Oh y gruddiau gwelwon, gwag, y dwylaw crynedig, yr edrychiad dieithr, y corph crynedig, a'r gwar crymedig !-olion trallodion bywyd. Ai un o'r meistradoedd ydych ?" gofynai mewn llais bloesg a chryglyd. "Nage, nage," meddwn, gan wenu. Dylaswn wybod hyny," ebe'r hen gread- ures, "nid yw y diafol byth yn dyfod gan wenu, ac—ac," meddai, dan ostwng ei llais, ac maent oil wedi gwerthu eu hunain i'r diafol. A wyddech chwi hyny f" Nid at?bais, ac aeth hithau yn mlaen i fao canu i'r baban yn ei breichiau. Ust, fy maban gwyn," meddai, ust, y ae dy dad yn dod adref heddyw. A welsoch chwi mohono ?" gofynai yn sydyn gan droi ataf yn wyllt; "a welsoch chwi Goronwy, fy machgen nobl ? Dyna fachgen, syr Edrychai y bachgen arnaf gyda llygaid taer a gwlybion. Goronwy yw fy nhad," meddai, "yr hwn aeth i ffwrdd o cartref ymhell, ymhell yn ol." Agorwyd y drws yn awr, a daeth dynes ieuanc tua deg ar hugain oed i mewn: Edrychai yn flinedig ac yn oer, a dangosai ei gwyneb gwelw, prudd, ei bed yn prysur farw o doriad calon. It "Mam," meddai, "daeth y bonelldwr a llonaid y llestr o lo—edrychwch "Ust, Ust!" sisalai'r nain; "mae y baban yn cysgu. Peidiwch a'i ddeffro i drueni. Pan ddaw newyn ac oerni, bendith yw cael cysgu. Ust Ust! fy maban gwyn." "Maeyn rhaid fod y plentyn yn oer," meddwn wrth y fam. Edrycha ei ddillad yn deneuon a gwaelion." Nid baban gwirioneddol mohono.' ebai'r plentyn, ond darn o bren, a rhaid i nain druan gael ei alw yn faban." "Ie," ebai'r fam, bu farw'r baban y boreu y cymerwyd fy Ngoronwy anwyl i ffwrdd. Cymerwyd rheswm mam druan i ffwrdd yr un boreu, yr hyn sydd yn fendith fawr. Hi a garai y baban a Goronwy fel ei henaid ei hun." Erbyn hyn, yr oedd yr hen wraig wedi syrthio i gwsg ysgafn o flaen y tan siriol. "Goronwy!" murmurai, "Mae Goronwy yn dod adref heddyw. Raid i fy maban ddim wylo mwy. Dim newyn na syched mwy. Mae dy dad yn dod adref heddyw." Am ba ddiwmod du yr ydych yn siarad, a phwy a aeth a'ch gwr i ffwrdci gofynwn. Crynai y bachgen, gan ymgripio yn nes at ei fam. Petrusai hithau. "Gwilym," meddwn, "cymerwch yr arian yma, ac ewch i'r siop nesaf. Dywed eich mam wrthych beth i'w brynu." Aeth y bachgen, ond aflonyddid fy ysbryd gan ei lygaid taer, difrifol—llygaid ymha rai ni lechodd erioed oleuni hyfryd plen- tyndod; llygaid a edrychent ar y byd drw-y gwmmwl tylodi a thrueni. Yna dechreuodd y fam: "Yr ydych yn cofio, fe ddichon, syr, streic fawr y glowyr yn 18-. Yr oedd Goronwy, fy ngwr, yn erbyn y streic, er y dechreu. Wel, syr, daliodd y dynion allan am fisoedd, gan obeithio gwella pethau yn y dyfodol. Nid wyf yn cofio gauaf mor ffyrnig erioed. Yr r, oedd Goronwy wedi myned allan i fenthyca llestriad o 16. Yr oedd ei wedd yn welw fel marwolaeth pan ddychwelodd, a llechai rhywbeth yn ei lygaid a barodd im' lewygu gan ofn. Beth, Goronwy,' meddwn, I fy machgen, beth y w 'r olwg yna sydd amat ?' Pwyntiodd at y llestr gwag mewn atebiad. Gwrthodasant roddi dim i mi," ebai yn floesg ac yn araf. "A phaham?" gofynwn inau yn gryn- edig. "Maent yn penderfynu ein troi o'r ty bore yfory," meddai yntau yn chwerw. "Mae yna ddynion yn dod i gymeryd ein lleoedd am gyflogau llai." (Tw orjphen yn y nesaf.)
[No title]
Beth mae'r Methodistiaid yn wneyd ? Gwel y Byd Crefyddol yn y Genedl yr wythnos nesaf? COCOA CADEURY.—Dyma'r Cocoa sydd y addianol ar adnoddau cnawd- gynyrehiol ac y rosglwyddo nerth a grymusder" arosol. -Hoath
MR. GLADSTONE YN' NGHWMLLAJS.
MR. GLADSTONE YN NGHWMLLAJS. Derbyniad Brwdfrydig. Hawdd oedd gweled foreu Mawrth fod I rhywbeth anarferol ar gymryd lie yn nghymydogaethBeddgelert. Erfody tywydd yn anffafriol, eto dylifai y cerbydau gor- lwythog tuag yno o bob cyfeiriad, a chafodd swyddogion y rheilffordd gul i Rhyd-ddu ddiwrnod prysurach nag a gawsant erioed o'r blaen. Hwyliai pawb eu camrau tua Chwmllan, ar lethr y Wyddfa, ac yno ar lethr y graig, gryn 1,400 troedfedd yn uwch nag arwynebedd y mor, yr oedd llwyfan gyfieus wedi ei chodi, yn ymyl y ffordd new- ydd a wnaeth Syr Edward Watkin o Nant Gwynant i ben y Wyddfa.. Amcan y cyn- ulliad yn wreiddiol oedd agor y ffordd new- ydd a'i chyflwyno am byth at wasanaeth y cyhoedd. I'r dyben hwnw sicrhaodd Syr Edward wasanaeth Prif Weinidog y deyrn- as, ond rywfodd, yn nghanol y brwdfrydedd anghofiwyd pob peth am y ffordd ac ni ynganwyd gair am dani yn ystod y cyfarfod. Bernid fod ryw gryn ddwy fil wedi dringo yr ochrau serth i gael golwg ar a chlywcd un o'r gwleidyddwyr galluocaf a welodd y byd erioed. Cyn i Mr Gladstone gyrhaedd c'mwyd y don "Pen Calfaria," o waith Mr William Owen, Prysgol, o dan arweiniad Mr W. J. Williams, Caernarfon. Erbyn hyn yr oedd y tywydd yn ffafriol iawn, a'r heul- wen yn goreuro un o'r golygfeydd harddaf yn Nghymru. Cyn darfod canu, gwelwyd Mr Gladstone yn dod i fyny mewn cerbyd. Gydag ef yr oedd Mrs Gladstone, a dau o'u plant, sef Mr Herbert Gladstone, A.S., a Mrs Drew. Rhoddwyd y fath fanllefau o gymeradwyaeth iddynt nes oedd hen greigiau yr Eryri yn diaspedain. Arweiniwyd hwy i'r llwyfan gan Syr Edward Watkin, yr hwn a lywyddodd y gweithrediadau. Cyflwyn- wyd dwy anerchiad i Mr Gladstone,—y naill gan Gymdeithas Ryddfrydol Ffestiniog, a'r llall gan chwarelwyr Llanberis. Cyn i Mr Gladstone godi, canwyd Caned nef a daear lawr ar y don Llanfair gan y gynull- eidfa fawr. Pan gododd Mr Gladstone ar ei draed, nis gallai fyned yn ei flaen am beth amser gan gymeradwyaeth y dorf. Edrychai yn heinyf ac ysbrydol, ac yr oedd ei lais yn hynod hyglyw. Rhoddodd ganmoliaeth uchel i alluoedd cerddorol y Cymry, a thai- odd deyrnged i allu Mr Thomas Ellis yn nglyn a'r mesur tir i Gymru a ddygodd yn inlaen y Senedd dymhor diweddaf. Dywedai Mr Gladstone fod ei araeth y pryd hwnw wedi agor ei lygaid ef ar bwnc y tir yn Nghymru, a chaffai y mater sylw buan y Llywodraeth newydd. Nid oedd angen iddo ddyweyd dim am Ddadgysylltiad—a chyda Dadgysylltiad, wrth gwrs, meddai, yr oedd Dadwaddoliad hefyd—gan ei fod yn sicr fod ei wrandawyr wedi gwneyd eu meddyliau i fyny arno. Diweddodd drwy ofyn iddynt ganu drachefn. Cydymffurfiwyd a'i gais, a chanwyd Bydd myrdd o ryfeddodau," ar y don Babel," a Duw mawr y rhyfeddodau maith," ar y don" Huddersfield," ac ym- ddangosai Mr Gladstone fel yn mwynhau y pleser mwyaf. Yna cafwyd anerchiadau gan Mr Bryn Roberts, A.S., a Mr Thomas Ellis, A.S., ac ar gais y dorf, gan Mr Lloyd George, A.S., yr oil yn Gymraeg, oddigerth yehydig eiriau. Rhoddwyd derbyniad ardderchog i'r tri Chymro hefyd. Rhoddwyd banllefau o gymeradwyaeth i Mr Gladstone, Mrs Glad- stone, ac i Syr Edward Watkin, ac aeth Mr a Mrs Gladstone i'r cerbyd, ac arosasant yn ymyl tra y diweddid y gweithrediadau trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." Dilynwyd y cerbyd at hafotty Syr Edward gan y dyifa fawr, a dangosasant eu cymeradwyaeth drachefn pan yr aeth i'r ty. Cyfarfod hynod ydoedd hwn a gynhaliwyd yn y cwm ang- hysbell ar ochr y Wyddfa, a theimlai pawb mai araeth bwysig i ddyfodol Cymru oedd yr un a gafwyd gan Brif Weinidog y wlad. Gallwn ddyweyd yma y ceir araeth Mr Gladstone bob gair yn Y Genedl nosaf, yn nghyda'r areithiau ereill. Yn y boreu bu Mr Gladstone yn talu ym- weliad a phont Aberglaslyn, acaeth ugeiniau i'w ganlyn. Ar ei ddychweliad i'r pentref cyflwynwyd iddo bar o hosanau gwlan gan Mr John Roberts, y postfeistr, yr hwn a sylwodd ei fod yr un oedran a'r Prif Weini- dog. Derbyniodd Mr Gladstone y rhodd yn ddiolchgar, a dywedodd fod Mr Roberts yn cario ei oed yn well nag ef. Ymadawodd yn nghanol banllefau y dorf. Yr oedd y tywydd ddydd Mercher yn nghymydogaeth y Wyddfa yn decach nag y bu er's dyddiau lawer. Penderfynodd Mr Gladstone geisio myned i ben y Wyddfa, a chychwynodd cf, ei briod ac amryw eraill o hafdy Syr Edward Watkin tuag unarddeg y boreu. Aeth ant i fyny gan belled a Bwlch- ysaethau, ond yma digalonodd Mrs Glad- stone, wrth ganfod pa mor serth oedd y llwybr. Nid oedd ar Mr Gladstone ofn myned i fyny, ond ar y pryd cauodd niwl ar gopa y Wyddfa, a pbau welodd hwnw gwrandawodd ar Mrs Gladstone, a rhoddodd heibio y bwriad i ddringo i fyny. Yn yr hwyr bu cor buddugol Porthmadog, dan arweiniad Mr Bannet Williams, yn canu ar y lawnt o flaen y ty. Boreu Iau ymadawodd Mr Gladstone o Nant Gwynant. Aeth mewn cerbyd drwy Beddgelert i Borthmadog, ac yna gyda'r gerbydres i'r Abermaw. Cafodd dderbyn- iad croesawgar ar hyd y ffordd, ac arbenig yn yr Abermaw, lie y cyflwynwyd anerch- iad iddo.
DAtfWAIN AXlxEUOL YN RHIWABON.
DAtfWAIN AXlxEUOL YN RHIW- ABON. Yr oedd Pryce Reece yn gyru nifer o wageni rheilffordd o'r neilldu yn nglofa y Vauxhall, ger Rhiwabon, ddydd Llun, pryd y cafodd ei wasgu rhwng dwy ohonynt. Cariwyd ef adref gan ei gydweithwyr, ond bu farw yn mhen ychydig oriau. Gadaw- odd wraig a thri o blant i alaru ar ei ol.
DAM WAIN ANGEUOL YN BETHESDA.
DAM WAIN ANGEUOL YN BETHESDA. Nos Iau cynhaliwyd trengholiad ar gorph, Mr Thomas Jones, llafurwr, a drigai yn Nhalybcnt. Y diwrnod cynt yr oedd ef a thri dyn arall yn codi darn o graig gyda chraen. Rywfodd syrthiodd y graig, a throdd yr handl gyda chyflymder mawr, gan daro y trancedig yn ei ben. Bu y truan farw yn mhen yehydig oriau. Dychwelwyd rheithfarn, Farwolaeth ddamweiniol."
TRYCHINEB AKIANOL YN LLUNDAIN.…
TRYCHINEB AKIANOL YN LLUNDAIN. Fel y crybwyllasom yn ein rhifyn di- weddaf, ataliodd Ariandy y London and General ei daliadau. Mewn canlyniad i hyny aeth Cymdeithas Adeiladu y Liberator i drybini, a gwrthodwyd talu arian allan o honi. Ychydig ddyddiau yn ddiwedd-, arach dygwyddodd yr un anffawd i'r Lands' Allotments Company. Dydd Gwener dra- chefn rhoddodd yr House and Land Invest- ment Trust rybudd nas gallent hwythau ychwaith wneyd taliadau. Rhwng yrgwa- hanol sefydliadau y mae dros chwe' miliwn o bunau yn y chwareu. Man fasnachwyr a ty-ddalwyr bychain yw y personau sydd yn debyg o ddyoddef fwyaf o golled. Ofnir fod ychwaneg o gymdeithasau a chwmniau ereill mewn perygl.
GWBTHDAKAWIAD GER BOSTON.
GWBTHDAKAWIAD GER BOSTON. Cymerodd gwrthdarawiad le ar y rheil- ffordd ger Boston nos Sadwrn, trwy yr hwn y lladdwyd wyth ac y clwyfwyd pump-ar- hugain o bersonau yn ddifrifol,
[No title]
Beth mae'r Bedyddwyr yn wneyd ? Gwel y Byd Crefyddol yn y Genedl yr wythnos nesaf,
LLYS TRWYDDEDU CAERNARFON.
LLYS TRWYDDEDU CAERNAR- FON. Dydd Sadwrn diweddaf, cynhaliwyd y Ilys gohiriedig dros ddosbarth Caernarfon, er gwrandaw ;.chosion yn y rhai y gwrth- wynebid i nifer o dafarndai. Yr ynadon a eisteddent ar y fainc oeddynt y Cadben Wynn Griffith (oadeirydd). Mri J. Menzies, D. P. Williams, John Robinson, George Farren, a Dr Roberts. Cefnogid yr holl dai gan Gymdeithas Tafarnwyr Mon ac Arfon. SNOWDON RANGER HOTEL. Mr Lloyd Carter a apeliai am drosglwydd- iad o drwydded y Snowdon Ranger Hotel I oddiar Ann Covell i'r tenant presenol. Ar ran yr heddgeidwaid gwrthwynebai Mr Mostyn Roberts, oblegid ddarfod i wraig y ty gael ei dirwyo am fod yn feddw yn ei thy ei hun.-Gohiri wyd y cais hyd y Ilys gohir- iedig yn mhen pymthegnos, ond yn y cyf- amser caniatawyd awdurdod tymhorol i werthu, COMMERCIAL INN, PENISA'RWAEN. Apeliwyd am drosglwyddiad trwydded y Commercial Inn, Penisa'rwaen, oddiar T. T. Jarvis i Capten David Williams, gynt o Borthdinorwig, yr hwn sydd wedi bod yn cadw y ty er's mis Mai diweddaf. Ym- ddangosodd Mr E. Honoratus .Lloyd (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr Lloyd Carter) dros yr apelydd, a gwrthwynebid y cais ar ran dirwestwyr gan Mr MO!lltyn Roberts ar y tir nad oedd angen am y ty, ei fod yn anhawdd i'r heddgeidwaid ei arolygu, mai I ty perthynol i ddarllawyr ydoedd, nad oedd yn cael ei gario yn mlaen yn briodol, ac nad oedd cyfleusderau y ty yn gyfryw ag i hawlio trvrydded. Dywedodd Mr Roberts nad oedd ond oddeutu cant o dai yn nghym- ydogaeth y dafarn, ac yr oedd mwyafrif mawr y trigolion wedi arwyddo deiseb yn erbyn parhad y ty i'r amcanion presenol. Hefyd, nid oedd yn cael ei gario yn mlaen yn briodol, gan y gellid galw tystion i brofi ddarfod iddynt weled dynion meddw yn' dyfod oddiyno.—Y Parch Isaac Jones, Pen- isa'rwaen, a dystiodd ddarfod fr gwa- hanol gynulleidfaoedd crefyddol yn yr ardal ddatgan eu barn yn erbyn y ty trwy ysgrifenu eu henwau ar bapyr. Yr oedd y tyst yn parotoi i ddangos y ddeiseb i'r Ilys, ond gwrthwynebwyd oblsgid nad oedd yn dystiolaeth.—Dywedodd Mr Roberts ei fod yn ddangosiad cywir o farny gymydogaeth. Gofynodd Mr D, P. Wil- liams hefyd pa fodd yr oedd barn y cyhoedd i gael ei chymeryd ond yn y dull hwn. A oedd yn rhaid dwyn yr holl drethdalwyr i'r Ilys i roddi eu tystiolaeth ?—Mr Lloyd: Gallech alw nifer sylweddol ohonynt i bron nad oes angen am y ty. Ni chaniatawyd y ddeiseb fel tystiolaeth. Cafwyd tystiol- aethau cadarnhaol nad oedd angen am y ty gan Owen Jones, Minffordd; Owen Ro- berts, Brynhyfryd; R. O. Jones, W. Speke- man, D. Prosser, O. G. Jones, Caedreiniog; ac eglurodd Mr Mostyn Roberts fod ganddo bymtheg o dystion ychwanegol os y dymunai y fainc eu clywcd. Cafwyd tystiolaeth hefyd gan Capten Williams, tenant y ty, yr hwn a wadodd fod yn ei fwriad ar un adeg i ymadael o'r ty; ond galwyd Mr W. D. Pritchard, Clwtybont, i ddweyd iddo glywed y tenant yn dweyd nad oedd y busnes yn talu a'i fod bron ag ym- adael o'r ty. Ar ol ystyriaeth o tua chwarter awr, hysbysodd y cadeirydd fod y fainc yn rhanog ar yr achos, ac nid oedd gobaith y deuent i ddealltwriaeth. Caffai yr achos ei ohirio am bymthegnos, pryd yr hyderai ef yr eisteddai mainc arall arno. TAI YN MHESYGSOES. Gwrthwynebai yr heddgeidwaid i'r Prince of Wales Hotel, Penygroes, ar y tii- ddarfod i'r tenant a drigai yno cyn yr un presenol J gael ei ddirwyo am ganiatau meddvvdod; { ond nid oedd dim yn erbyn y ty er y Ilys trwyddedol gohiriedig diweddaf.—Caniata- wyd y drwydded. Bu yr heddgeidwaid yn Uwjtidianus Yh eu gwrthwynebiad i'r Pembroke Arms, Peny- groes, ar y tir nad o-idd busnes yn cael ei wneyd yno, ac nad oedd angen am dano. NANTLLE YALE HOTEL. Yr heddgeidwaid hefyd a wrthwynebent i adnewyddiad trwydded i'r ty a enwir uchod i Thomas Griffith. Y rheswm ydoedd ddar- fod i'r tenant gael ei ddirwyo am fcddwi yn ei dy ei hun. Gan fod y ty wedi ei gario yn mlaen yn briodol yn ddiweddar caniatawyd y drwydded; ond dywedodd y cadeirydd wrth Griffith mai gobaith gwan fyddai ganddo i gael adnewyddiad arall os y tro- seddai eto megis ag y gwnaeth. cl GRUGAN ARMS, GROESLON. Mr Lloyd a ofynodd am adnewyddiad trwydded y Grugan Arms i John Ebenezer Jones, i'r hyn y gwrthwynebid gan Mr R. A. Griffith ar ran yr heddgeidwaid, ar y tir fod y tenant wedi ei ddirwyo ddwywaith. Siaradodd Mr Mostyn Roberts ar ran per- chenog y ty, gwraig weddw ag y buasai yn golled enfawr iddi pe y cauid y ty.—Tyst- iodd y Sergeant Thomas, Penygroes, nad oedd ganddo ddim yn erbyn y ty er y llys trwyddedu diweddaf.—Ni chaniatawyd y drwydded, a gwrthododd y fainc addaw ei hadnewyddu hyd yn nod pe y rhoddid tenant newydd i mewn. VICTORIA VAULTS, PORTHDINORWIGF. Ar gais Mr R. A. Griffith adnewyddwyd trwydded y Victoria Vaults, Porthdinorwig, i Charles Roberts ,yn ddiwrthwynebiad. CROSS KEYS, CAEATIIRAW. Yr oedd yn ddealledig- y gwncid cais am adnewyddiad trwydded y ty uchod, ac ym- ddangosodd Mr Mostyn Roberts yn barod i wrthwynebu. Fodd bynag ni wnaed y cais am y drwydded; ond pan oedd y llys ar fedr cofrestru hyn fel eu dyfarniad, eglurodd Mr Carter fod yn ei fwriad ef ofyn f'> adnew- yddiad y drwydded yn y llys gohiriedig yn mhen pymthegnos. Nid oedd mewn sefyllfa i wneyd hyny yn awr gan fod y tenant a fu yno ddiweddaf, J. W. Morris, wedi dianc ymaith. Byddai ganddo enw newydd i'w gyflwyno yn y Ilys gohiriedig.—Protestiodd Mr Roberts yn erbyn yr oediad, gan ei fod wedi gorfod cadw nifer mawr o dystion yn y Ilys trwy y dydd mewn disgwyliad am i'r achos gael ei wrandaw.—Cydsyniodd y fainc i'w ohirio. BARMOUTH TAVERN, LLANLLYFNI. Dyina'r a(hos olaf a wrandawyd. Apel- iodd Mr E. H. Lloyd am adnewyddiad y drwydded i Owen Hughes, a gwrthwyneb- wyd ar ran y dirwestwyr gan Mr Mostyn Roberts. Cofus i lawer o frwydro gymeryd lie yn nglyn a'r ty hwn yn y llys trwyddedu y flwyddyn ddiweddaf. Gwrthododd y Ilys y drwydded y tro hwnw, ond caniatawyd hi drachefn gan y brawdlys chwarterol.—Y tyst penaf yn erbyn y waith hon ydoedd y Parch Ceidiog Roberts, Llanllyfni, a chy- merodd ami i wrthdarawiad le cyd- rhwng y gwr parchedig a Mr Lloyd a barai gryn ddifyrwch yn y llys. Prif wrthwyn- ebiad y tyst i'r ty ydoedd nad ,oedd ei angen ac nad oedd ddim ond ty i yfed. Nid oedd ychwaith ond ychydig o fusnes yn cael ei wneyd ynddo.—Gal wyd ar Thomas Ed- wards, un o overseers y plwyf; D. Washington Davies, a W. Morgan Jones, i dystio fod y ty yn ddiangenrhaid, a dywedodd Mr Mos- tyn Roberts fod ganddo naw eraill a fuasent yn prod yr un peth.—Owen Hughes (y tenant), a Joseph Hartley, cynrychiolydd y Mri Greenall, Whitley, a'u Cwmni (perchen- ogion y ty), a dystiasant fod mwy o fusnes yn cael ei wneyd yno yn awr nag o'r blaen. I-Wedi gwrandawiad o tua dwy awr pen- derfynodd y fainc adnewyddu y drwydded.
[No title]
Y PLESER 0 FWYTA. AC YFED.—Golchwck les- tri brecwast, cinio, a the gyda Hudson's Extract of Soap. Gwna i saim hedeg! Ni bydd byth yn casglu! Nid yw yn gadael arogl. Mae yn gwne yd cyllill, ffyrc, llwyau, a pha beth. bynag olchir gydag ef, yn neillduol o lan a phur, a thrwy hyny y mae y plesera'r dyogehveh o fwyta ac yfed yn llawer mwy.
rhoddi^offeiriad pabaidd IN…
rhoddi^offeiriad pabaidd IN NGHARCHAR. Yr wythnos hon cyhuddwyd y Tad Hum- phreys o godi cynhwrf yn New Tipperary ddiwrnod yr etholiad cyffredinol. Gwrthod- odd y Tad a gwneyd ei ymddangosiad yn y llys blaenorol, a rhoddwyd gwarant allan i'w ddal, ond daeth yn mlaen yn wirfoddol. Ymvrodd yr ynad a'r Tad pan oedd yn croesholi un o'r tystion, ac aeth yn ymrafael rhyngddynt. Archodd yr ynad i'r offeiriad wneyd ymdcliheurad, ond gwrthododd hwnw wneyd. Y diwedd fu i'r Tad Humphreys gael ei daflu i garchar am ddiystyru y llys. Danfonwyd ef i'r orsaf gan dyrfa fawr, a dangoswyd y gymeradwyaeth fwyaf iddo.
[No title]
Beth mae'r Wesleyaid yn wneyd ? Gwel y Byd Crefyddol yn y Genedl yr wythnos nesaf.
GWENDID.
GWENDID. 0 dan y pen hwn gellir rhestra lluaws o'r anhwylderau y mae y teulu dynol yn ddarostyng- edig iddynt, megys anhwyldeb cyifredinol, llewygon, iselder ysbryd, colliad' grym, diffvg yni, nychdod, a'r cyffelyb. Dyoddefa lluaws mawr o'r ddynolryw oddi wrth rai o'r anhwyl- derau hyn, y rhai ydynt mewn gwirionedd yn ganlyniad naturiol anmhuredd neu ryw dditfyg yn eu hadnoddau bywydol. Nid oes dim cyffelyb i Quinine Bitters Gwilym Evans at buro a chyfoethogi y gwaed, a rhoddi yni a bywiog- rwydd adnewyddol i'r cyfansoddiad. Meddyg- iniaeth adgryfhaol yw Quinine Bitters Gwiiym Evans, yr hon sydd wedi ei pharotoi yn hollol o gyffyriau llysieuol, aa mae yn cynorthwyo a hwylusu gweithrediadau natur, trwy gryfhuu y cyfansoddiad, a chynorthwyo y bwyd-dreuliad, a thrwy hyn y maeyn hwylusu y gweithrediadau, yn cryfhau y gewynau ar. giau, yn puro a ffrwythloni y gwaed, yn bywiocau yr ysbryd, yn adloni y meddwl a'r tymherau ac yn symud ymaith atalfeydd yn yr ermigau bywydol. Nid oes dim i'w gydmaru a Quinine Bitters f Gwilym Evans at gryfhau y cyfansoddiad pan wedi ei wanhau trwy unrhyw achos. Mae y Quinine Bitters yn nerthu a chadarnhau y rhanau gweiniaid o'r cyfansoddiad y rhai ydynt oherwydd eu gwendid y mwyaf agored i anwyd a'i ganlyniadau. Gochelwch gael eich twyllo i gymeryd dim arall dan enw cyffelyb. Gwerthir Quinine Bitters Gwilym Evans gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un. Neu anfonir ef am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddi wrth y perchenogion: Quinine Bitters Manufacturing Company, Limited, Llanelli, South Wales.
[No title]
Beth iu,,teir Annibynwyr ya wneyd ? Gwel y Byd Crefyddol yn. y Genedl yr wythnos nesa
Advertising
t} GOFYN WCH AM HUGHES'S BLOOD PILLS EDRYCHWCH YN FANWL AR BOB BOX A byddwch yn SICR na byddwch yn ca.el eich twyllo, a GWELWCH Fod y TRADE MARK sef (Llun CALON) ar bob Blwch. Y mae un- rhyw Pills a gynygir yn Ddymvarediad a Thwyll, "I I-. 21 I .111 1, AC NID YDYNT YR IAWN BELENAU, ac ni chynwysant yr un rliinweddau a HUGHES'S BLOOD PILLS. UOCHELWCH Bersonau anonest y rhai a ymostyngent mor isel nes ymgeisio twyllo trwy werthu Pills diwerth yn lie y rhai Pur. Y mae y UHYBUD1) hwn yn dclylaAm i'r Cyhoedd er eu hamddiffyniad, er mwyn iddynt sicrhau y Pills gwirioneddol, ac fel y gallont. ochelyd y masnachdai hyny lie y mae twyli yn cael ei ymarfer. GOFYNWCH am HUGHES'S BLOOD PILLS a Llun Calou ar bob blwch. Gwrthod- weh bob peth arall. GWAED DRWG. OCURVF. WAED DRWG. O CURVY. CROEN GLEFYDAU. X>OEN PEN. ROEN GLEFYDAU. JL OEN PEN. A FU DDRWG. "PILFFYG TRAUL. ZTLFU DDRWG. UlFFYG TRAUL. NERVOUSNESS. RI WYNEGON. ERVOUSNESS. VJTWYNEGON. BILIOUSNESS, /^LEFYDAU ARENAU. ILIOUSNESS. V_YLEFYDAI; ARENAU. (! Y maent yn iachan pan bydd pobpeth arall yn metlm. Heb oedi danfoner am Box o "Hughes's Blood Pills" P-ydt Llun Calon ar y Label. Peidiwch cymoryd dim arall. Ar werth am Is He, 2s 9c. 4s 6e. Gyda'r Post am Is 3c, 11c, 4s oddiwrth y Perchenog, JACOB HUGHES, M AN Tj FAC TURING CHEMIST, PEN ARTlI.
LLITH 0 BIVLLHELI.
LLITH 0 BIVLLHELI. Anwyl Mistar Glygwr,—Dyma fi yn fuw ac yn iach yr wsnos yma etto. Mau gin. i gimint i ddeud wrtho chi yr wsnos yma, fel nad wn i yn y bud beth i ddeud gynta. Mi ddechreua i trwy ddeud tipin am ymweliad y soldiars a'r dre yma. Fel yr ydach chi yn gwbod mi ddoth y soldiars yma dudd Merchar (wsnos i Merchar dweutha) ac yn c' "a wir mi oedd yma olygfa ardderchog iawn; ac mi roudd pobol y wlad wedi dwad yma bron i gyd, gan nad oudd y rhan. fwua o honyn nhw rioud wedi gweld soldiars o'r blaen. Chwara teg i hen bobol y wlad hefyd mi euthon adra yn suful, ac yn rispectabl iawn i gyd; ond am bobol y dre yma, 'roudd eu hym- defygiad yn waradwuddus iawn. Yr ouddwn i yn arfar meddwl mai merchaid ifainc sad a duwiol iawn oedd yn y dre yma ond dyn am gwarchod i, beth pe tasa chi yn ei gweld nhw dudd Merchar, chau yr un aoldiar ei pasio nhw, nad ouddan nhw yn rhythu yn ei wynab o, a bron iawn a gafal ynddo. A phan oudd hi yn dcchra twllu-at y nos, roudd na tua, pump neu chwech o ferchaid ifainc efo pob soldiwr. Ac yr ouddan nhw yn cerdded efo nhw tan riw dro o gwmpas ymddangosiad yr haul bora draniiocth. Man peth fel hyn yn beth sobor iawn i. feddwi am dano, ac yn wir roudd wn i bron yn meddwl mai breuddwydio yr oeddwn i, neu fy mod i wedi cymud y gous i Lerpwl ne Llunden heb wbod i mi fy hun. Dyna. ydi testyn siarad pawb ddaw i'r gweithdy yma—son am ferchaid ifainc Pwllheli efo;r soldiwrs. Ond rai ddoth yma ziw hen fachgan o Llithfaun i drwoio ei sgidia ddou ac yr oudd o yn deud wrtha i ei fod o wed'i gweld merch ifanc efo un o'r soldiwrs yn ymyl pentra Llithfaun, pan yr oudd o yn mynd adra yn ngherbyd Ond wauth i mi dewi a srvn am y soldiwrs y rhagor, mau nhw wedi dangos llawer iawn i mi ar sefyllfa fousol y dre ma; ond dwn i ddim ydir bai i gid ar y merchaid ifainc. Mau arna i ofn iod diffig yn rhwla arall. Mau yma lawar iawn o son am steddfod y Rhyl yn Y gweithdy yma o dro i dro. Pobol Porthmadog ddaru ei gnend hi yn arw yno ynte. Wei wir rhaid > yr Iolo allan o gystadlu bellach, dynamo wedi mund a'r goron eto, ao wedi y fyfyrdaith hefud. Mi roedd yn d wn gan y dre yma dduall fod Beren h yn cadtv urddas y cwr yma i fynu, ac^&u Die y gwas yma (un o Edarn ydi 0}.-1ll deud ei fod o wedi clywad yn dai-dw mai Beren oedd yr ail i Iolo ar y fyfyrdaith. Y mau rhiw son am gael Stedd- fod o riw fath yn y dre yma yr ha nesa, os nad ydi pobol Salam am gyfarfod y Pasg eleni am y budd y capal yn caul ei altro. Un o'r newyddion gora i mi o Steddfod y Rhul oedd clywad am lwiddiant Misdar Ben Lewis o Rhydyclafdu, yr hwn sydd yn awr yn Liundan. Ma pawb yn gwbod mai fo sudd wedi gneud y darlunia ardderchog sudd yn "Rhys Lewis" (nofal anfarwol Danial Owan). Rydw i yn credu fod yr hen Ben y bachgian clyfria wclsoch chi rioud, ond mau yn rhaid i mi dewi. Rouddwn i wedi meddwl deud gair am fusues y tafarna, a'r ddiod feddwol, ac am fusnes y treio am dafarna i lany mor, ond wrach y budd gin i air ar hyn yr wsnos nesa. Yr ydw i yn mund i Nefyn cyn y Sul, ac fe allai i Edam hefud—mi fudd gin i air am danun nhwtha y tro nesa.- Y l' eiddoch, fel arfar mewn brus, RHYiI MORGAX Y CRYDD. Argraphwyd a chyhoeddwyd dros y Welrdi. National Press Company, Limited, gan. D. W. Davies a.'i Gwmai, yn ens wyddfa New Harbour, CfLerllarfoTI