Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

. Y GOLOFN GYMREIG.

News
Cite
Share

Y GOLOFN GYMREIG. AT ARWEINWYR RHYDDFRYDOL TOWYN. Carwn fel trethdalwr a Rhyddfrydwr gael gwy. bod pa le mae y teulu uchod yn byw, neu pa le mae ytgrifenydd lleol, os oes y fath un mewn bod yma. Yr ydym wedi dewis Aelod Seneddol er's amser maith ac eto i gyd nid yw Mr Osmond Williams, A.S. wedi bod yn anerch ei etholwyr yn Nhowyn hyd y dydd hwn. Pa le mae y drwg? Mae Mr Williams wedi bod drwy pob rhan o'r sir, hefyd wedi bod wrth ein hymyl, sef Abergynolwyn a manau eraill, a pasio un o brif drefydd Meirion, ao un fu yn bleidiol iawn i Mr Williams. Credwnmai nid ar Mr Williams y mae y bai, oherwydd dywed- odd yn ddiweddar yn un o'i areithiau ei fed yn myned i bob man yn y sir lie y caiff wahoddiad. Credwn y dylem gael gwybod, fel etholwyr, dipyn am bynciau mawr y dydd, sef Mestu Addysg a. Fiscal Policy Mr Chamberlain. Paham na chawn glywed ychvdig ar y rhai hyn, yr wyf wedi siarad eydag amryw o Ryddfrydwyr ac y maent yn I y ogwyddo o ran eu daliadau at Mr Chamberlain. Mae genym yn Towyn un o ddynion goreu y sir, os nnd y goreu mown amryw siroedd, sef Mr Haydn Jones, Y.H., yn enwedig ar v Mesur Addysg. A gaf fi fel etholwr apelio at Mr Jones am gael cyfar- fod yn fuan yn Towyn, a chael ein Haelod a Mr Jones ac eraill i siarad ar y pynciau uchod. Un peth arall garwn alw sylw yw pa le mae ar. wemwyr Dirwest y lie. Ni welais i erioed gymamt wedi meddwi yn Towyn a nos Sadwrn diweddai. Pale yr oedd ein heddgeidwaid, mae yr Act newydd yn dweyd y gallent gymeryd dyn meddw i fynu, er fod amryw o rai hyn nos Sadwrn ni chymerwyd un i fyny. Maent yn gwneyd llawer o dwrw gyda ychydig o goed ddaw i lan y mor. Bydded iddynt wneyd eu dyledswydd gyda meddwon y lie, dyna yw dymuniad J J TRETHDALWR.

MARKETS

[No title]

ABERYSTWYTH TOWN COUNCIL.

Advertising