Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

»C^U»vdR DINESI6 1 BALA'

LLANDDERFEL.

News
Cite
Share

LLANDDERFEL. Cyngherdd.-Nos Wener diweddaf cynhal- iwyd budd gyngherdd yn Ysgoldy y Bwrdd er cynorthwyo Mr Wm, Edwards, garddwr. Yr oedd yr amcan yn deilwng o'r gefnogaeth wresog a gafodd. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Ivor 0. Wynn Williams, Ysw. Yn ab- senoldeb Mr Hugh E'lis arweiniwyd yn fed- rus gan Mr J. Llewelyn Jones. Aed trwy y rhaglen fel y canlyn-Alaw Gymreig, "Hafod y wraig lawen," gan Mr Willie Jones a'i barti. Can, "Y bachgen dewr," gan Mr R. Thomas, y Bala. Detholiad ar y Gramophone gan Mr John Evans, Llandrillo. Deuawd, "What are the wild waves saying ?" gan Misses Kitty a H. A. Roberts, y Bala. Adroddiad, "Tori amod priodas," gan Mr David Lloyd, Bethel. Unawd, "Y Bugail," gan Ap Gwrtheyrn, y Bala. Rhangan, "0 mor ber," gan barti Mr R. E. Roberts. Detholiad ar y Gramophone gan Mr J. Evans. Canu penillion telyn gan Eos Gwenol. Can, "Love the pedlar," gan Miss Kitty Roberts, Bala, encoriwyd, ac ail ganodd. Pedwarawd, "Ysbryd yw Duw," gan barti o'r Bala. Anerchiad pwrpasol gan y llywydd, Detholiad ar y Gramophone g,m Mr Evans Can, "Bwthyn yr arnddifad," gan Miss H. A. Roberts, y Bala. Deuawd, "Ar- wyr Cymru Fydd," gan Mri Roberts a Thomas, Bala. Can, Llwybr y Wyddfa," gan Miss Kitty Roberts. Detholiad ar y Gramophone. Ton gan y parti. Can gan Ap Gwrtheyrn. Adroddiad, Twr Babel," gan Ap Barwn. Deuawd, "Excelsior," gan Mri Roberts a Thomas, Bala. Detholiad ar y Gramophone. Pedwarawd, "The heavenly song," gan barti o'r Bala. Ar gynygiad Mr Simon Roberts, yn cael ei eilio gan Mr R. N. Jones, talwyd diolch cynes i bawb a gym- erodd ran. Wedi i'r cor ganu "Comrades' song of hope," terfynwyd trwy ganu "Hen b wlad fy nhadau." Cafwyd cyngherdd rhagor- ol a hwyl arw gyda'r Gramophone ar gais Mr Evans canodd Eos Gwenol benillion tel- yn, y rhai a ail ganwyd gan yr offeryn rhyfedd n ZD Cyfeiliwyd yn fedrus gan Miss Hughes, Try- weryn View, Bala, a Miss Edith Davies, Llan. dderfel.—GOHEBVDD. Cvfarfod LlenyddoL—Mae'r cyfarfod uchod bron yn ymyl, a swn paratoi j'w glywed drwy yr ardal. Mae cynyrchion yn llifo i mewn o wahanol barthau o Gymru a phrifdrefi Lloegr. Cyfarfod ydyw hwn o dan nawdd cynideithas pobl ieuainc yr.Annibynwyr, a dyma'r cyntaf, Hyderwn yn fawr y coronir eu hymdrechion a llwyddiant, ac un ffordd tuag at hyny yw i bawb roddi eu presenoldeb mor gryno ag y gellir. Felly, cofied pawb am nos Iau, Chwef- ror 26ain. Y MESUR ADDYSG.—Dymunwn argymhell pob Ymneiliduwr i fyned i wrando Mr J. R. Jordan, Bala, nos Lun nesaf yn anerch ar y Mesur uchod a sut yr effeithia ar ardal fel Llandderfel.

Advertising