Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

DIENYDDIAD YN RUTHUN.

V"l vS^/ Lakenbam.

IMAEWOLAETH-DE. JOSEPH PARRY.

--.....I CORWEN.

At Gyngor Sirol Meirion.

CERRIGYDRUIDION.

News
Cite
Share

CERRIGYDRUIDION. Dy' Gwyl Dewi.-Y mae pwyllgor Eis- teddfod Gadeiriol Cerrigydruidion wedi pen- odi dydd Gwener, Chwefror 27ain, i ddathlu Gwyl Nawdd Sant Cymru, Cynhelir yr wyl yn flynyddol yn Ngherrigydruidion, ac y mae gan lawer tref a phentref mwy poblogaidd lawer iawn i'w ddysgu oddiwrth ardal Cerrig. Llywyddir yr wyl eleni gan y Cynghorwr Aneurin 0. Evans, Maer Dinbych, ac y mae telynor, hefyd, wedi ei sicrhau. Gwasan- aethir wrth y berdoneg gan Miss Rowlands, Cymro, tra y disgwylir Llyfrbryf ac enwogion eraill i areithio. Datgenir gan Miss Kate Jones, Tynygraig, ac eraill. Paratoir y wledd eleni gan Mr Parry, Queen's, ac y mae ei enw ef an sicrwydd o wledd ardderchog. Yn yr ysgol Genedlaethol, fel arferol, y cynhelir y wledd.—GOHEBYDD.

Superphosphate fel Gwrtaith…

Advertising