Hide Articles List

2 articles on this Page

Ystoriau y Gauaf.'

News
Cite
Share

Ystoriau y Gauaf. YMWELIADAU RHYFEDD YR HEN LADY. LAWFELEN." Saif Ynysfaig Uchaf ar fryn coediog gerllaw pentref bychan y Friog, yn Ngorllewin Meir- ionydd. Lie hyfryd odiaeth ydyw, yn cyn- wys rhai o brif deleidion bryn a dol, cwm a nant. Oddiar y bryn, ceir goiygfeydd dihafal ar Abermaw, a'i phont enfawr yn croesi y Fawddach o'r naill ochr i'r llall, ar hyd yr hon y rhed y rheilffordd. I'r gorllewin, dros y mor, y gwelir Dyffryn Ardudwy, mynyddau Arfon, Enlli, a phen tir Aberdaron. I'r dwy- rain, y salf chwarelau yr Henddol, Goleuwern, a Gwaith Mwn Cyfaneddfawr, tra ychydig yn fwy i'r de yr ymgyfyd mynydd mawr Gallty- ffynnonrydd, a'i ben fel yn cyrhaedd yr wy- bren. Gwyneba y palais i'r mor, ac o'i flaen y mae gardd ragorol, gydaiiwybtau graianog, a brydferthir blodau bythwyrddion a pher- sawrion. My little paradise y galwai un o berchenogion Seisnig y lie. Yn ddiweddar, gwnaed ychwanegiadau pwysig at y pen gog- leddol i'r hen balasdy, a'r lie wedi cael ei dro yn hotel o'r enw Fairbourne yr hen enw Cymraeg wedi ei golli fel hyn mewn un Saes- neg Dywed rhai mai llygriad ydyw faig o'r hen air Cymraeg aig. Os felly, golygfa Ynys- faig y mor. Y mae tri o leoedd yn ymyl eu gilydd yn dwyn yr un enw, sef, Ynysfaig Uchaf, Ynys- faig Isaf, a hen amaethdy a elwir yr Hen Ynysfaig, a ddefnyddir yn awr fel ystahl i'r palas. Yr olaf, yn ddiau, ydoedd y cyntaf a adeiladwyd erioed yn y lie a hawdd gweled oddimewn iddo y rhaid ei fod yn amryw gan-' rifoedd o oedran. Cynwysai yr etifeddiaeth gynt y tair Ynysfaig, y Penrhyn, a'r rhan fwyaf o bentref y Friog, etc. Treiglodd y lie o law i law, ac o berchenog i berchenog o bump i saith o weithiau, o fewn fy nghof i Dywed y traddodiad y prydwyd yr etifedd- iaeth hon, ganrifau yn ol, gan ryw Ysgotyn o'r enw Campbell, am y swm bychan o dri chant o bunau ond erbyn hyn y mae yn werth amryw filoedd. Gyda threigliad amser daeth Y nysfaig Uchaf yn gyrchfan ymweiydd nosawl tra hyn- od, er dychryn, syndod, ac anghyfleusdra i bwy bynag a ddigwyddai fod yn byw yn y palas ar y pryd. Cyrnerodd yr ym weliadau hyn le o bryd i bryd am oesau, a hyny mor ddgveddar a rhyw ddeg a phedwar mlynedd j yn ol. Yr oedd son mawr iawn am y peth pan oeddwn i yn blentyn tua phump oed. Gelwid yr ymweiydd dyeithr, gan y rhai a'i gwelsant yn sicr meddynt hwy, yr I-len Lady Lawfelen." Boneddiges brydweddol, ganol oed ydoedd, yr hen lady, yn ymwisgo yn wastad mewn du, yn ol ffasiwn rhyw ddau can' mlynedd cyn hyny. Weithiau, gweiid hi yn ymrodio yn hamddenol oamgylch y palas, gan edrych fel pe buasai mewn rhyw boen meddwl mawr. Bryd arall, eisteddai ar y bryn gyferbyn a'r ty, gan wylo a gruddfan, fel pe buasai yn gal- aru ar ol rhywun. Nid anfynych yr edrychai i mewn drwy ffenestr y gegin neu'r parlwr, b er dychryn a braw i bawb a'i gwelai. Yr oedd arnynt ofn siarad a hi, oblegid y dyeithr- wch annaearol o'i hamgylch. Beunydd hefyd y'i gwelid yn cerdded oamgylch yr HenYnys- faig, ac yn syllu ar y lie gyda chymaint hoffder ac edmygedd a phe buasai wedi bod yn hen gartref iddi. Fel hyn yr oedd neges a phob dim a berth- ynai i'r "hen Lady Lawfelen" yn ddirgelwch perffaith i bawb. Er y cwbl, credai y rhai mwyaf pwyllog nad oedd y greadures amgen na rhywun wedi cyfarfod a rhyw brofedigaeth neu gilydd, ac yn dyfod allan feUy dan leni'r lips i sibrwd ei gofid yn nghlust y gwynt, ac i ymgynghoti a'r cysgodion. Ac eto, o ba le y daethai yno ? Nid oedd neb wedi cael hyny allan er pob ymchwiliad. A phaham y dewisai y palasdy hwn mwy na rhyw le arall fel ei chyrchfan nosawl ? Yr sedd rhyw d-ywyllwch yn y peth drwy'r cyfan a buasai medru cael allan pwy, beth, ac o ba le yr oedd yr hen lady hynod yn dyfod, yo rhoddi esmwythad meddwl i ami un heblaw y rhai a drigent yn y palas ar y pryd. I wneyd y drwg yn waeth, yr oedd rhyw haint ryfedd ar yr anifeiliaid, yn enwedig y gwartheg, fel nad oedd braidd o un dyben ceisio eu magu yno. Ac, yn wlr, nid oedd neb a gymerai y tir yn gallu llwyddo mewn dim, Oddiwrth hyn aeth yr ofergoelus i briodoli yr holl ddrygfyd i ryw ddrwg ddylan- wad o eiddo yr Hen Lady Lawfelen, ac i'w chyfrif yn dduwines. Yn ganlynol, aethant at y 1! gwr cyfarwydd i geisio ei hel ymaith ond yno'r oedd trwy'r cyfan. Y peth rhy- feddaf ar berson yr hen lady ydoedd ei liaw dde, yr hon oedd o liw melyn, o'r melynaf a welwyd erioed. Dyna'r achos o'i galw Yr Hen Lady Lawfelen." Gwisgai faneg ddu am ei Haw chwith, ond byddai ei llaw dde yn noeth. Estynai y llaw bron weithiau at am- bell un fel i ysgwyd dwylaw. Anturiodd rhyw fyrbwyll wneyd hyny; ond gwasgwyd ei law mor galed fel y bu yn methu a gweithio am wythnosau ac arhosodd rhyw felynwch ar ei law, tebyg i'r eiddo yr hen lady, am fisoedd lawer! Ni ofynasai y dyn ddim Iddi hi, ac ni ddy- j wedodd hithau yr un gair wrtho yntau ond cyflawnodd y tro brwnt yn ddistaw a disere- moni, fel pe buasai yn gwneyd y peth goreu ar ei Ies Aeth ei hymweliadau rhyfedd yn amlach ac yn hyfach, fel y dylai i mewn i'r ty, er i'r drysau oil fod yn gloedig. Ryw noson, clywent hi yn agor drws y ffrynt, ac yn cerdded i fyny y grisiau, gan agor cloiai pob ystafel!, a'u hedrych yn fanwl fel pe buasai yn chwilio am rywbeth. O'r diwedd daeth i mewn i'r ystafell wely lle'r oedd y gwr a'r wraig yn gorwedd, ac ar ol nodio ei phen a chynyg iddynt ei brawychus law felen, aeth ymaith gan gloi y drysau ar ei hoi. Yr oedd canwyllyn oleuyrvyr ystafell,fel nad oedd modd ei chamgyrneryd am rywun neu rywbeth arall. Yr oedd holl agoriadau y ty yn ddyogel yn ystafell-wely y penteu!u. Ni chymerodd j ddim o'r ty, ac yr oedd y tro hwn o'i heiddo yn ddyeithrach na'r cyfan.. Bi* yn ymddwyn feI hyn yn hir. Parodd hyn i rai oddiallan ddyfod i wyJio y ty, ac i geisio cael allan y dirgelwch. Bob | yn dipyn rhoes i fyny ymweliad a phob un o ystafelloedd y palas ond y seler. Yno, bell-1 ach, clywid hi bob nos, yn chwalu, ac yn chwilio nes oedd y ty wedi myned yn an-j nioddefol i fyw ynddo,a'r landlord yn ystormio nad oedd y cyfan ond triciau drwg o eiddo rhywun i wneyd na' chymerai neb y lie am bris yn y byd. Penderfynodd nifer o fcchgyn yr ardal fyned i wylio y seler eto, a bod un ohonynt i fyned i; I lawr, gyda goleu, i siarad a'r Lady Lawfelen. deued a ddelai. Llechodd y dynion mewn congl yn ymyl, a phan glywsant ei swn antur- iodd y gwron agor y clo. I lawr ag ef i'r seler. Buyno yn hir, a phan ddaeth yn ei ol yr oedd ei wyneb cyn wyned a'r gaichen a chrynai fel deilen. Methwyd byth a chael gan y dyn ddyweyd pa beth a glywsai yn y seler, heblaw iddo glywed pethau brawychus iawu, ond fod y lady wedi ei rybuddio rkag eu mynegi i neb, o dan y perygl o gael ei law dde cyn felyned a'r eiddio hithau dros y gweddill o'i oes, os nid cyfarfod a marwolaeth ddamweiniol yn fuan ar ol hyny Dyna'r peth olaf a glybuwyd am ymweliadau yr Hen Lady Lawfelen a phalasdy henafol Ynysfaig Uchaf, ac y mae y cyfan yn ddirgelwch hollol hyd y dydd hwn Yr esboniad a roddai rhai i'r peth ydoedd hyn,-mai un a fuasai yn perchen yr etifedd- iaeth ganrifau cyn hyny oedd yr hen lady, ac a gawsai ryw gam, hwyrach ei llofruddio, a bod ei hyspryd yn methu cael llonyddwch heb ddatguddio y cyfrinach ofnadwy i rywun yn y lie. Tybient y gallai fod ei llaw felen yn arwyddlun o'r cyfoeth mawr a fuasai ganddi unwaith; yr oedd mor debyg i liw aur. Dyna eu barn hwy. Er mai hawdd fyddai codi gwrthddadl gref yn erbyn ymddangosiad per- sonau meirw o'r byd anweledig yn yr oes hon, eto i gyd, y mae mwy nag a feddylier heb fod n hollol rydd oddiwrth y fath syniad hyd yn nod yn ein dyddiau ni.

Advertising