Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LLENYDDOL. -

| GLYNDYFRDWY.

News
Cite
Share

GLYNDYFRDWY. Y Mesur Addvsg.—Yn Ysgoldy y Bwrdd, bu cyfarfod cyhoeddus lluosog a brwdfrydig nos Iau, yn nglyn a'r Ddeddf Addysg. Llyw- yddai y Parch. H. C. Williams. Corwen. Prif siaradwyr oeddynt y Mri. A. Osmond Will- iams, A.S., Evan Jones, U.H., Bala; Parchn. William Williams, a T. E. Waters. Dyma y waith gyntaf i ni gael ein haelod anrhydeddus i'n hanerch. Yr oedd y pwyllgor wedi gwneud trefniadau i groesawu yr aelod anrhydeddus, trwy i Seindorf Bres Glyndyfrdwy, yn nghyda rhai yn cario fflamdorchau, fyned i'w gyfarfod. Yr oedd yr orymdaith yn un fawr a hwyliog. Cafwyd anerchiad campus gan yr aelod. Yr oedd yn condemnio y bil fel y pethgwaethaf basiwyd yn Senedd Prydain Fawr er's yn agos i 200 mlynedd. Hefyd, yr oedd yn condemnio Ty'r Arglwyddi fel y Ty mwyaf diwetth. Cafwyd sylwadau da a phwrpasol gan y siaradwyr eraill. Pasiwyd penderfyniadau fod i ni wrthwynebu y mesur yn mhobpeth cyfreithlawn nes y ceir gwelliant mawr arno. Cafwyd cyfarfod campus yn mhob ystyr. Talwyd dioSch i'r holl siaradwyr yn enwedig yr aelod anrhydeddus. j

Advertising