Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

IN LOVING MEMORY

News
Cite
Share

IN LOVING MEMORY Of T. J. FREME, Esq., Glan Ceirw, Gerrigydruidion, who fell &sleep in Jesu, aged 28 years. Whom the gods love die young." Pan y chwyddai 'i galon bur Dan ei ieuanc fron, Fe ddaeth awel finiog cur Gwywodd fynyd hon Angeu du, di-dosttir erch Gwae i ti erioed Sathru blodau gwridog serch Dan dy halog droed. Bywyd ieuanc, gwylaidd, gwyn, Fu ei fywyd ef, Fel y blodyn ar y bryn 0 dan wenau'r nef; Bywyd tlws fel breuddwyd hardd, Llawn o hedd a swyn, Fel afonig loew, hardd, Neu gynghanedd fwyn. Chwerw ydoedd gwel'd y bedd Du am dano'n cloi, Gwelld y gwrid fu ar ei wedd Wedi bythol ffoi; Lie mae'r fron fu gynt yn d&n ? Lie mae blodau Mai Wrident ar ei ruddiau glSn ? Dan y pridd a'r clai! Fedr bedd, er maint ei rym, Gloi ar fywyd da Fedr awel angeu llym Wywo blodyn ha' ? Fedr byd, nac uffern drist, Na marwolaeth wyw, Fyn'd a phlentyn Iesu Grist- Fe ddaw eto'n fyw. Melus yw'r adgofion sy' Heddyw dan fy mron, Am ei holl rinweddau cu, Am ei wyneb lion Pery ei gymeriad. hardd, A'i rinweddau ef, Fel y glesni dwfn a chwardd Ym mhellafion nef. Gras a hedd fu'n gwneud eu nyth Dan ei fynwes wiw, Ac yn chwareu yno byth- Adar gwynion Duw; Ond mae'r adar wedi ffoi Mwy o'r fron ddi-hedd, Ac mae yntau wedi ei gloi Yn y distaw fedd. Ddaw ef eto yn ei ol ?" Medd fy nghalon friw, Ddaw,ef eto yn ei ol ? Mcdd anwyliaid gwiw. Mae fy mron yn oer, ddi-hedd, Gwagder ynddi sydd Ar dywarchen las ei fedd Syrth fy neigryn prudd. Fel y plyg y lili wen 0 dan ddafnau'r wawr, Plygodd yntau 'i ieuanc ben Dan ei degwch mawr; Ond daw'r blodyn eto'n fyw 1 arogli'n her, 0 dan wenau eariad Duw Hwnt i haul a ser. i Daw fy nghyfaill yn ei ol, Wedi'r bythol daw, Pan yr egyr bedd ei chol Yn y farn a ddaw; Fe ddaw 'nghyfaill eto'n fyw 0 ddyfnderau'r bedd, Wedi ei wisgo a delw Dow Ar ei newydd wedd. Wedi i'r seintiau groesi'r llf; Nibydd tewi a son Am ruddfanau Calfari Ac am waed yr Oen; Tragwyddoldeb gloew fydd Yn ymdoni o'u blaen, Hwythau'n nofibln fythol rydd Yn ei donau glan. Nautglyn Bd. School, G. JOHBS. Denbigh, Jan. 16, 1903.

Advertising

Darnau i'w hadrodd yn Nghyfarfod…

! PENDERFYNIAD PLENTYN.

YSGOL Y BWRDD,

Advertising