Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

" PRIF ANGEN CYMRU.

News
Cite
Share

PRIF ANGEN CYMRU. Gan yr Hybarch. DDEON HOWELL, Tyddewi. Beth ydyw ? Diwygiadau gwleidyddol, medd rhai. Mwy o gyd-deimlad a chyd- weithrediad rhwng gwahanol ddosbarthau cymdeitbas, medd eraill! Gweinidogaeth fwy dysgedig, ac ymroddgar, medd eraill. Gwell trefniadau iecbydydol a cbymdeith- asol, medd eraill. Pethau pwysig, gwir bwysig, bob un o honynt; ond ai y rhai hyn yw prif angen Cymru ar hyn o bryd ? A chaniatau eu bod yn ddymunol, ac y gellid eu cael, a wnant hwy gyflawni prif angen Cymru ar yr adeg bresenol? A wnai y pethau hyn a'u cyffelyb halltu a lefeinio cym- deithas, gwrthweithio tueddiadau llygredig yr oes, carthu ac adnewyddu bywyd teuluol a chymdeithasol y genedl, ac, yn flaenaf o bob peth, ei dyrcbafu i safon uwch o ran iechyd moesol, yni ysbrydol, a brwdfrydedd cref- yddol ? Ai y pethau hyn ddylai gael y lie blaenaf a mwyaf difrifol yn meddwl a myfyr- dod pob dyn a dynes sydd a lies blaenaf eu gwlad a'u cenedl yn barhaus ar lechau eu calon ? WeJ, nid wyf am farnu eraill, na thros eraill; ond yn ol fy mam gydwybodol i, y mae peth arall llawer mwy pwysig, mwy angenrheidiol, a mwy anhebgorol na'r pethau a enwyd peth wna gyrhaedd hyd at wraidd bywyd y genedl peth wna gynyrchu ffrwythau ac effeithiau mwy nerthol a chyffredinol na'r oU o honynt yn nghyd; peth mwy parhaol ei ddylanwad, a chynwysfawr ei fendithion, tymhorol ac ysbrydol, sef yw hyn-ADFYWIAD YSBRYDOL Nid Diwygiad, ond Adfywiad nid cynhyrfiad lleol, y fath a geir mewn cys- ylltiad a Chenhadaeth Blwyfol," neu "Gen- hadaeth Gydamserol," ond math o or-lanw ysbrydol, yn gor-lifo yr holl wlad, a wnai drwytho pob dosbarth a Bedydd yr Ysbryd Glan. Onid hyn yw prif angen Cymru ar hyn o bryd ? Oni theimlir yr angen hwn, i raddau mwy neu lai, gan braidd bawb sydd yn eu proffesu ac yn galw eu hunain yn Gristionogion ? Onid gwir am ein hamser ni fel am amser Haggai-" Hauasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall ?" &c. Ni fu erioed gymaint o breg- ethu, ond beth am yr effeithiau ? Onid yw y gwasanaethau, y cylchwyliau, y cyfarfodydd o bob math, a'r dyfeision o bob math i ddenu gwrandawyr, wedi myned braidd yn orth- rymus? Oni chlywir cwynfan ar bob llaw oherwydd y claerineb, y eysgadrwydd, a'r dideimladrwydd ysbrydol sydd fel hunllef yn haner lethu crefydd y wlad ? 0 bob cyfeir- iad fe ddaw yr achwyniad fod y Weinidogaeth wedi colli ei nertb, ei min, a'i gallu argy- hoeddiadol; ac nad yw mwyach fel gordd yn dryllio, nac fel cleddyf yn clwyfo, nac fel udgorn yn dihuno. Y mae'r pregethu, meddir, yn alluog, ysgolheigaidd, dyddorol, ac addysgiadol; ond nid oes ond ychydig o eneiniad ac arddeliad yn cydfyned Ag ef-nid oes dwysbigo cydwybodau, na dadorchuddio cyflyrau, fel yn yr amser a fu. Y mae hen ymadroddion yr amser gynt, megys argy- hoeddiad, troedigaeth, edifeirwch, mabwysiad, marw i bechod, hunanffieiddiad, a'r cyfryw, wedi myned i raddau pell yn ddieithr a diystyr. Y mae yr hen brofiadau a gynrych- iolid gan yr ymadroddion hyn wedi myned yn fath o fossils, heb fywyd ynddynt. A pheth yw y canlyniad ? Dywedir fod addol- iad teuluol yn prysur ddiflanu, ac mai eithriad yw cael teulu yn ymgynnH foreu a hwyr i addoliad yr aelwyd. O'r braidd y gwna yr Ysgol Sul ddal ei thir. Mae y cynulleidfa- oedd mewn llawer ardal yn hytrach yn lleihau, Y mae cadwraeth y Sabbath yn bwnc dad- leuol, a'r cyfarfod gweddi fel yn ymylu ar y darfodedigaeth. Nid yw duwioldeb crefydd- wyr mwyach yn ddychryn i annuwiolion ac nid oes gwahaniaeth hanfodol rhwng llawer o hroffeswyr a moesolwyr y byd. Y mae awdurdod y Beibl a gwirioneddau sylfaenol Cristionogaeth yn cael eu pwyso a'u mesur yn nghlorian rheswm a beirniadaeth, fel pe na baent ond mympwyon dynol. Y mae cred- iniaeth ddiysgog yn yr anweledig, y gwyrthiol, a'r goruwchnaturiol yn fath o bynciau agored. Gwir fod nifer y Cymunwyr ar y cwbl ar gyn- ydd, ond nid yw Swper yr Arglwydd yn "wledd o basgedigion breision" fel yn y dyddiau gynt, ac ni edrychir ami gyda'r parchedig ofn oedd yn nodweddu Cymry duwiol yr amser a fu. Nid yw yr achos dir- westol yn gwbl mor llewyrchus ag y bu, tra y mae melldith yr yfed yn uchel ei ben mewn tref a gwlad. Mae y blys am bleser fel wedi cwbl feddiann yr oes sydd yn codi; a cheir cyrnanfaoedd y bel droed yn atdyuu mwy na chymanfaoedd yr Efengyl, a hyny yn Nghymru Wel, os hyn, i raddau mwy neu lai, yw cyflwr pethau yn ein plith (ac os ceir fod y darlun wedi ei orliwio, nid oes neb a lawen- ycha yn fwy na myfi), onid yw yn llawn bryd i ni wynebu y gwirionedd, a hunan-ymholi beth sydd wrth wraidd y drwg ? Beth ddywed y Gair? "Eich anwireddau a ys- garodd rhyngoch chwi a'ch Duw, a'ch pech- odau a guddiasant ei wyneb oddiwrthych." Wel a gawn ymfoddloni i bethau fel y maent ? Ai dyma safon crefydd y Testament Newydd ? Ai hon yw y grefydd sydd i orchfygu y byd ? Ai at beth fel hyn yr ymgnawdolodd Mab Duw, ac y caflawnodd waith ein Prynedig- aeth? Braidd na pharlysir y pin wrth ys- grifenu y geiriau! Oni fwriadwyd Eglwys Dduw i fod yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu bansrog ?'' Oni arfaethwyd hi i fod yn llawn o ysbryd ymos- odol, ac i fod ar ei heithaf i efengyleiddio yr holl fyd-y byd cartrefol yn gystal a'r byd tramorol ? Ond ai hyn yw ei hysbryd ? Dechreuad dirywiad," medd un o brif dduwinyddion Cymru, "yw bunan-foddhad." Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion Beth oedd cenadwri yr Amen at Eglwys y Laodiceaid ? Mi a adwaen dy weithred- oedd di, nad ydwyt nac oer na brwd mi a fynwn pe bait oer neu frwd. Felly, am dy fod yn glaear, ac nid yn oer nac yn frwd, mi a'th chwydaf di allan o'm genau." Dyna dynged! Gwareded Duw ni rhagddi! Ond beth am y feddyginiaeth ] Nis gall fod dadl ar y pen hwn. Os oes y fath beth a gwirionedd rhwng clorianau Gair Duw, yn ddios dyma fe, sef mai YSBRYD Duw yw unig ffynhonoll bywyd ysbrydol; nad oes modd cynyrchu nac adfywio y bywyd hwn trwy unrhyw foddion ar wahan addiwrth offerynol- iaeth yr Ysbryd—" Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy YSBRYD, medd Arglwydd y lluoedd "-a bod y Person Dwyfoi hwn, gyda'i drysorau a ras a bendithion, at wasan- aeth pawb a'i derbynio yn ol y drefn ordein- iedig. Dyma'r athrawiaeth sydd wrth wraidd yr Efengyl. Dyma sydd yn gwahaniaethu Cristionogaeth oddiwrth holl grefyddau eraill y byd a dyma sydd yn gwahaniaethu gwir Gristionogaeth oddiwrth bob rhith o honi. Crefydd yr Ysbryd Glan". y byddai hen seintiau Cymru yn arfer galw gwir grefydd; a chrefydd yr Ysbryd Glan yw yr unig feddyg- iniaeth ar gyfer anhwyldeb moesol ac ysbrydol Cymru ar hyn o bryd. Beth oedd dydd y Pentecost ond math o ernes ac esiampl o'r hyn y bwriedid i'r oruchwyliaeth bresenol fod ? Nid esiampl o ran yr amlygiadau allanol, ond yr un o ran effeithiau argyhoeddiadol, a'r dylanwadau goruwchnaturiol, Bai dyn, ac nid ewyllys Duw, ydyw yr achos nad yw yr un nerth, arddeliad, ac awdurdod yn cydfyned a phregethiad yr Efengyl o oes i oes, Nid peth lleol, amserol, a therfynol oedd y tywalltiad hwnw o'r Ysbryd Glan, ond ffrwyth a chanlyniad cydymbiliad a dysgwyliad y dysgyblion am y deng niwrnod rhwng yr Esgyniad a'r Pentecost ydoedd a sicr yw y byddai i iawn ddefnydd o'r un moddion ddwyn yr un effeithiau. Wele, ni fyrhawyd Haw yr Arglwydd, fel na allo achub ac ni thrymhaodd ei glust ef fel na alio glywed." A bydd cyn galw o honynt, i mi ateb ac a hwy eto yn llefaru, mi a wrandawaf." Os chwychwi, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch ro'i rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad o'r nef yr » ofyno ganddo ?" J, beth J1 ar y ddaear am ddiffi » 0 fy yiH' ofynant, efe a wneir iddy ydy ato^ hwn sydd yn y ,ne^fftU yn eu hysty/ adroddion hyn I w deal y Ac a ydynt yn para yn 0'u „ngb4' dod, V yn y/i^dd,o»debf '> Ydynt, cyn wired a ff? }ly, y i newidioldeb Duw. • mewo ar !t gal°D pe ceid ond dau neu dri iA&^i ac ymrwymo, ac ytoro Q»r ad erfyn ac ymbil am gyA j fal-barba-^ fl- 0$ a'r anogaethau hyn, a a U hyny, a dysgwyl yn 1 0f>&i » j, V wrandawiad, y mae m t eu c)toSo^' Duw wedi eu llefaru y cm os0dd a maent wedi eu eyflawm eU cy j0jj, ac nid oes a all atal na r wad^wC ,J0S, ond anghrediniaeth ac Nid gweddi ffurfiol, g ae^ ^aflyd sg0g,,J taenneb di-ildio tnat h derUs, &L0\ i Jacob, gyda sicr^^<4 dd 1* .[fw diamheuol am atebiad, y (( jjid h dwyn i gyd-feddwl ■a D" jjuo- yn tynu Duw °*i lwy^ vf!^ Duw sydd yn tynu ^y0.1^ dy ran^vs Ddarllenydd a figfy bendigedig hwn? A dw vvneud hyn yn brif wrtbtf* ? Ac & foreu a hwyr a chanoj 1 iveW' dy oreu i ddwyn eraill &>' ? M# fel ag i greu cylch o 0 I b fri 0fel fraint—mavvr hefyd yw J, a dis^ '» O narwygity D^foe flaeo » toddai y mynyddoedd anadl, tyred oddiwrth y fel 1 0$ anadla ar y lladdedig100, j^yotj .i fel byw!" "Deffro di ddeheuwynt, a chwyth a gwasgarer ei pherarogla Bywha dy waitb, P dy bofl f 'Ewy'n ofni'r bedd heb vf D Dalier sylw—pe ^g°le2 fy nghenadwri olaf i n1 J. \>t far°» e lied Cymru, cyn fy ngwy^ Aff A tragwyddoldeb eisioes y ytfrf hi—sef mai prif angen Q\o,k anwyl ar hyn o bryd. y ysW trwy dywalltiad millduoij "N efol J ubil, ar I" Gad i'm wel,d y b,)reu PYS9 66, ~4.a weddaf a ysgrifenwyd g ■— ..1'11

Advertising