Hide Articles List

3 articles on this Page

J;;. .Ystoriau y Gauaf. $——

News
Cite
Share

J Ystoriau y Gauaf. $ ââ YR HEN AMSER GYNT. Flynyddau maith yn ol preswyliai yn Xlwyngwril hen wreigan ddifyr, ddoniol, a adwaenid yn bell ac agos wrth yr enw Yr Hen Earged Shon o'r College." Bu ei henw yn fath o enw teuluaidd yn mhIwyf Celynin am ddegau o flynyddoedd. Hyd yr wyf yn cofio, brodor o Dalyllyn oedd, a'i henw morwynol oedd Margaret Jones. Crydd oedd ei gwr, o'r enw John Thomas, o ardal y Bwlch, ger Llanegryn. Dyn bychan iawn o gorpholaeth oedd, oblegid yr hyn y gelwid ef yn "Jack Bach y Bwlch." Ond er lleied oedd, yr oedd yn ymladdwr heb ei fath, pan yn ei ddyddiau goreu. Twlcio a,i ben fel hwrdd y byddai wrth ymladd, ac nid oedd odid un yn y wlad a fedrai droi mo'i drwyn." Dywedid y tarawai ei ben trwy ddrws ffawydd modfedd o drwch heb fod yn ddim gwaetb, Yr oedd Margaret Shon o faintioli cyffredino), ac yn nodedig o landeg pan yn ferch ieuanc. Bu farw wedi gwthio yn bur agos i gant oed. Yr oedd yr oreu yn ei dydd am ddawnsio, a chanu gyda'r tanau a'i dawn i adrodd ys toriau yr hen amser gynt yn ddiareb i'r wlad. Yr oedd hi a'i gwr yn dra derbyniol a chymeradwy gan bawb o'r pentrefwyr. Ond y gcreu am yr Hen Farged o'r College oedd ei geirwiredd diamheuol. Mae y chwedl ganlynol yn seiliedig ar a glywais ganddi hi ei hun yn ei hen ddyddiau, a chlywodd ereill yr un peth ganddi lawer gwaith a sicrhai fod y cyfan cyn wired a'r pader." Ond dyma'r chwedl Yr oedd yn noson hyfryd, a'r lloer yn llawn Ilonaid, fel yr oedd yn hawdd gweled y cyfan i fewn ac allan. Rywbryd yn y nos, teimlai yr Hen Farged rywbeth yn gwasgu ei gardd- wn yn annicddefo), ac yn tynu yn ei biaicb, fel yn ceisio ei chael allan o'r gwely. Agor- odd ei llygaid, a beth a welai end rhyw gor- ach gwyneblwyd, ar ffurf ddynol, yn sefyll wrth ochr y gwely, a phan welcdd hi yn deffro, gollyngodd ei afael, a diflanodd o'i golwg. Mynegodd y peth j'w gwr, yr hwn a daerai inai breuddwydio a wnaethal. Ond yr oedd hi yn rhy siwr o'i phwnc, a dangosodd iddo ei garddwn ag ol y gwasgu ar-no yn amlwg. Nid hir y bu'r cor baeh heb dalu ymweliad cyffelyb a hi. Pan lyddai y lloer yn llawn yr ymddangosai iddi amlaf, fel pe buasai am roddi pob chwareu teg iddo i'w gweled. Parhaodd i wneyd hyn am o gylch blwyddyn ac yr oedd ei gwr erbyn hyn wedi dyfod i'w weled mor eglnr a hithau. Tybient mai un o epil y Tylwyth Teg ydoedd y cor bach a medayiiasant am siarad ag ef i wybod ei neges. Er gwroled oedd John Thomas, yr oedd meddwl sm siarad ag un o fodau jhyfedd gwlad Hud a Lledrith yn gyru rhyw iasau a fferdod drwy bob cymal yn ei gorph. Ac nid gwell Margred ond cadwai ei hof- mau iddi ei hun, am y credai mai a hi yr oedd a fynai y dirgelwch. Fel yr oedd y lloer yn nesu at y Hawn y mis hwnw, yr oedd eu hofnau yn cryfhau, fel os dywent y swn lleiaf yn eu hystalell wely, meddylient yn y man mai y cor oedd yn liyfod. Eto yr oedd swyn rhyfedd yn y peth. Clywsant amrai o'r Tylwyth Teg yn dwyn ariam lawer i dylodion, ac yn eu gwneyd yn foaesddigion dros y gweddidl o'u hces. O'r ochr arall, clywsant am ereill o honynt wedi cipio personau i lywle na chlybuwyd pyth air ø'u hanes. A pha un o'r ddaa ddosparth â oedd yr hwn y bwriadent siarad ag ef pan fyddai y lloer yn Mawn y tro nesaf oedd yn bwyaig. Yr oedd un peth yn addawol, sef fed y cor yn ddiweddar wedi newid ei ddull « wasgu garddwn Marged i ysgwyd llaw a hi, a nedio'n siriol a'i ben wrth ddiflanu, Ond daeth yn noson i'r lloer fod yn llawn I ac fel arfer wele y cor bach wrth srehwyn y gwely, "Dyma fo 1 Shon/' ebai Marged, ¡ "siarada a fo "Na, na-na-i, yn. wirionedd i, Margred, ych di sydd i wneud gynta," at- ebai Shon, a chuddiodd ei ben dan y dillad Modd bynag, casglodd Marged ddigon o nerth i ddweyd Nos dda wrtho pan oedd yn diflanu, heb ddweyd dim mwy ei hun, a theimlai ei gwynt yn hallt, a'i chalon yn curo yn uchel yn ei gwddf wrth ddweyd dim ond hyny. Y tro nesaf y daeth siaradodd a Marged ohono ei hun, Dywedai fod swm mawr o arian yn nghadw iddi dan faen mawr ar fyn-, ydd Glanachles, a'i fod wedi bod yno yn eu gwylio iddi er dyddiau Iwl Caesar, a dymunai arni ddyfod gydag ef yno i'w derbyn, gael iddo gael rhyddhad o'i ymddiriedaeth. Ac fel arwydd iddi fod y trysor yno, y codai du corniog o lanerch yn ymyl y lie. Nid oedd neb ond hwy ill dau i fyned yno, a hyny yn y nos, pan fyddai'r lleuad yn llawn. Neu, os oedd yn ofni ei ganlyn ef, am iddo fyned yno ei hun felly, ac yr agorai ef y fyn- edfa i'r seler dan y maen cyn ei ddyfod yno, ac yr elai ymaith i'w wlad ei hun. Ac os ei hun yr elai, nad ydoedd i gymeryd neb arall gyda hi, neu y cyfodai tymhestl ddirfawr o fellt a tharanau yn ei herbyn, ac y collai y trysor am byth. Ac os nad oedd yn barod i gydsynio a'r telerau y noson hono, y rhoddai fis o amser iddi wneyd ei meddwl i fyny. Cytunodd Marged felly. Cyn ymadael, dang- osodd y cor iddi beth o drysor y guddfan ac yr oeddynt yn aur pur. Parodd clywed y pethau hyn i Marged ail feddwl, ac arswydo. Canlyn bod o'r fath yn y nos i le mor unig Beth os mai arweiniad i wlad Hud a Lledrith oedd y fynedfa i'r seler dan y maen mawr, o'r Ile Da ddychwelai hwyrach byth yn ol ? Ac os ei hun yr an- turiai, nid oedd hyny yn gwneyd efallai mo'r perygl ronyn llai. Wedi'r cwbl, yr oedd meddwl am gael y fath swm o arian yn ei dyrysu yn lan. Ryw ddiwrnod, digwyddai fod ar neges yn siop Mr. Lloyd, Llanegryn, yr hwn a gadwai bron bob math o hen arian. Ar ol ei holi am y cor, dangosodd iddi amryw ddarnau henafol, a gofynai o hyd, "Y rhai'n oeddan rjhw, Marged ?" a hithau'n ateb bob tro, Nage, Mr Lloyd, ddim yn debyg, syr," Ond pan ddangosodd un dernyn dywedai yn y fan, Dyna nhw yr arian, Mr Lloyd ie, yn wir, yr un fath yn union J" Egiurodd Mr Lloyd iddi fod y math hwnw o arian wedi eu "cweinio" yn amser Iwl Csesar, ac felly agos i ddwy fil o flynyddau o oedran, fel y dyw- edasai y cor Yn hytrach na gwneyd yn ol y telerau, cymerodd Marged ddau o fechgyn lysti o'r pentref gyda hi i'r mynydd, gyda phawb ei raw a'i gaib i agor y seler dan y maen, a hyny liw dydd goleu. Pan wrth y llanerch frwyn, wele globyn o Iwdn du corn- iog yn codi, fel yr arwydd, ac ymaith ag ef. Dechreuodd y bechgyn ar eu gwaith o ddifrif, ond nid cynt yr oedd eu ceibiau yn y ddaear nag wele storm ofnadwy o fellt a tharanau yn tori arnynt, ac yn rhuo yn y wybrenau nes oedd y ddaear yn crynu Tarawodd un fellten yn erbyn y maen mawr nes oedd ffag- lau o dan yn gwau o'i amgyleb, ar ol yr hyn yr ymdaenodd rhyw darth a thywyllwch rhyf- odd fel pe buasai yr haul yn myned i fachlud ganol dydd. Ffodd yr anturiaethwyr i lawr y mynydd am eu hoedl, ac wedi derbyn ami i godwm a chlais, cyrhaeddasant bentref Llwjyngwril gyda brig yr hwyr. A'r peth sydd yn rhyfedd yw, nad oedd neb yno wedi clywed dim o'r storm a ruai mor ofnadwy Ni welodd Marged y cor bach ar ol hyn, ond credai hyd ei bedd fod yr arian yno o hyd I Beth bynag arall sydd yn y chwedJ, y mae yn ddangoseg lied gywir o'r math o chwedlau gauag ag oedd mewn cylchrediad mor bell yn ol a dyddiau yr Hen Fargred Shon o'r College, a chyn hyny hefyd. I barhau.

[No title]

Advertising