Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

RHYDYWERNEN.

CORWEN.

News
Cite
Share

CORWEN. BWRDD. Y GWABCHEIDWAID. dydd Gwener. Ionawr 2.-Prosenol :-Dr. Jones (cadeirydd); Mri. John Lloyd, R. R. Roberts, a H. Rees, Corwen J.Hughes ac R,O.Roberts, Gwyddelwern W.E.Wil liams, Llangar; Parch. Ivan T. Davies a H. Davies, Llandrillo; J. Roberts, Cerrigydruidion S. Will- iams, Glyntraian; John Williams, John Roberts, ac R.M.Davies, Llangollen (gwledig); Miss Barker, a J. Nanson, Llangollen (dinesig); Thomas Jones a John Roberts, Llanfihangel G.M.; Simon Jones, Llangwm Dr. Walker, Jobn Evans (clerc) E. Derbyshire ac E. Foulkes (swyddogion Elusenol); R. Williams (meistr.) Cyfrifon.-Rhoddwyd yn allan-gynorthwy- on yn ystod y pythefnos diweddaf,—dosbarth Corwen, trwy law Mr. E. Derbyshire, 58p us 7ci 195 o dlodion; pythefnos cyferbyniol y llynedd, 55P 13s oc i 205 o dlodion. Nifer presenol yn y Ty 60, wythnos gyferbyn- lol y llynedd 51. Cynorthwywyd 57 o grwydriaid yn ystod y pythefnos diweddaf ar gyfer 27 am y pythefnos cyferbyniol y llyn- edd. Talu y Trelhi-Sylwyd fod yr Undeb er's rhai misoedd yn nyled y Trysorydd, a chyfar- wyddwyd y Clerc i anfon at bob un o'r Over- seers i ddweyd y bydd yn ofynol iddynt rhag llaw dalu y calls yn llawn erbyn y dyddiau y byddant yn ddyledus-gwneir hyn yn gyson I gan rai, tra y mae eraill yn hir ymarhous. Dywedodd amryw o'r Gwarcheidwaid fod casglwyr y trethi yn cael mwy o drafferth nac a ddylent, trwy fod llawer o'r trethdalwyr dan yr argraph nas gellir gorfodi iddynt dalu hyd ddiwedd yr haner blwyddyn, yr hyn sydd yu gamgymeriad. Gofynwyd i gynrychiolwyr y wasg wneyd sylw arbenig o hyn, a rhoddKar ddeall fod y dreth yn ddyledus ar bawp dranoeth y diwrnod yr arwyddir llyfr y dreth gan yr ynadon, ac nad yw yn ofynol i'r casg- lwr alw gyda neb rhagor nag uuwaith. Os na thelir i'r casglwyr yn brydlon nis gallant hwythau dalu i'r trysorydd, a'r canlyniad fydd dyrysu pob peth. Y Nadolig—Hysbysodd y Meistr fod pobl y Ty yn dymuno arno ddiolch drostynt i'r Gwarcheidwaid am eu gwledd Nadolig, yr hon a fwynhawyd yn fawr gan bawb. Hefyd ddarfod i Dr. Jones yn ol ei garedigrwydd arferol roddi gwydriad o gwrw i bob un o'r dynion gyda'u cinio ddydd Nadoiig, a baco iddynt. Hefyd anfonodd Miss Barker, Llan- gollen, de, siwgr, baco, &c., fel ac i bawb gael rhywbeth oeddynt yn ddewis oreu. Anfonodd Cadben Best ddeg cwpl o wningod, a Mri. J. Parry & Co., barsel da o oranges, melusion, &c., i;w rhanu rhwng y merched a'r plant, Derbyniwyd y "Graphic" yn wythnosol ar hyd y flwyddyn oddiwrth Mrs. Cross, Llangollen, ac hefyd Yr Wythnos a'r Eryr,' a'r Llangollen Advertiser," oddiwrth berchenogion y newyddiaduron hya. Ar gynygiad Mr. J. Nanson, yn cael ei eilio gan y Parch. Ivan T. Davies, pasiwyd diolchgarwch i'r rhai a enwyd am eu caredig- rwydd

Advertising