Hide Articles List

2 articles on this Page

Ystoriau y Gauaf.

News
Cite
Share

Ystoriau y Gauaf. YR HEN AMSER GYNT. Creadur hynod i'm golwg ydyw yr asyn, gyda'i gynffon fain, ei aeliau trwch, a'i glust- iau hirion. Braidd na thybiai un ar yr olwg gyntai fod ei glustiau yn rhy hirion i gyfateb i'w gorph, tra y mae ei wisg lwyd o liw lludw yn peri iddo edrych fel pe byddai yn ganrif- oedd o oedran, er na fydd, o bosibl, uwchlaw ei ddengmlwydd oed. Nid wyf fi yn ddigon o naturiaethwr i wybod hyd einioes asyn ar y cyfartaledd, ond credwyf ei fod yn alluog i fyw yn hir iawn. Y mae gan felinydd yn Meirion asyn o'r enw Jac, ac edrychai yn hen iawn pan welais i ef gyntaf erioed a'r tro di- weddaf y bu'm yno, ar ol blynyddau lawer o absenoldeb yn Arfon, nid edrychai Jac yr un gronyn hynach, ond o'r ddau yn ieuengach Yn wir, ni phallasai ei lygaid ef, ac yr oedd ei gerddediad mor ysgafn a heinyf ag erioed. Ac er cymaint o asynod a welais o fan i fan, ni ddigwyddodd i mi weled ond un ohonynt erioed wedi marw; a rhyw gam a gawsai hwnw, onide gallasai fod yn fyw eto. Er mai golwg ddiniwed a llwfr sydd ar yr asyn, eto i gyd y mae yn llawn triciau ac yn ymladdwr dewr. > Ni phetrusai weithiau ymosod ar ddyn. Gall oddef llawer o ddirmyg, a'i dalu yn ol hefyd pan dery hyny yn ei ben. Mae yn greadur iacb, gwydyn, ac amyneddgar, a'i nerth yn fawr, ag ystyried ei faintioli. Ar ol ei ddysgu yn dda, y mae yn hynod o wasan- aethgar i'w berchenog, o'r hyn leiaf cyhyd ag y gadawer iddo gael tipyn bach o'i ffordd ei litin. Nid yw yii hof fo gerdded yn gyflym, er y gall fyned yn gyflym odiaeth pan y gwel hyny yn oreu, Gresyn fod cymaint o faeddu ar greadur bychan mor dnefnyddiol. Ond o'i holl neillduolion ei fref ofnadwy sydd yn tynu mwyaf o sylw. Credaf, pe gellid dysgu mil o fulod i frefu j gyd ar unwa tb, au dwyn i ben un o drumiau y Transvaal, a'u gcrchy- xoyn i roddi un fref fawr, hivilaes, a chroch, y bycldr i y swn yn ddigon i ddychrya y Boeis oddiyno bob copa walltog oliervnt, yn cwbl gredu fod ciwed o ellyllon yn myned i ruthro arnynt ar unwaith. Y mae brtfiad disymwth asyn yn y nos mewn lie unig, yn swn mor oer- aidd a chras a phe byddai anghenfil hyll yn brefu arnorn o'r tyniyd. O: d y peth casaf ynddo ydyw ei gnafcidd-drj. Y mae golwg fel'.y trno yn mrobmnn, s st gymysgedig a chryn raddau o hunanoldeo. Nis gallai ar- lunydd gael gwell gwrthddrych i dynu darlun 0 gnafeidd-dra oddiwrtho nag asyn llwyd yn yn ymgiymu'n llechwraidd ar y bwriad o roddi hergwt i'w farchogwr oddiar ei gefn. Byddwch dyner wrtho, a gwna bron bob peth a geisiweh ganddo, ac y mae rywsut yn gwybod i'r dim pan fyddwch yn ceisio gormod. Dyna'r fath greadur ydyw asyn. Flynyddau maith yn ol, preswyliai gerllaw i bentref y Friog dyddynwr lied glyd ei am- gylchiadau o'r enw Jonnas. Hen lane oedd, ac yn byw ar ei dir ei hun. Pentwr o hun- anoldeb oedd Mr Jonas, o wadn i goryn, yr oil a berthynai iddo yn fawr, ac ef ei hun yn fwy na'r cwbwl. Efe, mewn gair, ydoedd y gwr mwyaf yn y lie y piyd hwnw, Fel pob .c:1yn arall yr oedd ganddo yn-cau hefyd ei feiau, un o ba rai ydoedd hela benlhyg oddiar ei gymydogion. Yr oedd yr arfeiiad anny- wilnol hon wedi myned yn gymaint o ail natur iddo fel nas galiai yn ei fyw el rhoddi heibio. Benthyciai bob math o bethau ond arian, heb eithro petbau mor gyffredin a Iiawdd eu cael a hen fotymau, edafedd, a odwyddau. Yr oedd fel yn gwneyd ei ffor- tiwn wrth fenthyca. Ac nid hyny yn unig, ond benthyciai beunydd amryw o'r un pethau ag yr oedd ganddo gyflawnder ohonynt ei tiunan. Annyben yn dychwelyd y benthyg adref ydoedd, a mawr yr adgh)fleusdra a barai hyny i ami un ag oedd yn ceisio ei fodd- loni yn unig am ei fod yn dipyn o wr mawr, Ryw ddiwinod, daeth gilvici sydyn arno i Ddclgellau, i ddeibyn swm o arian a adawsid â¢$, V â¢â¢ iddo gan fodryb iddo a fuasai farw ychydig cyn hynny. Yr oedd peth fel hyn wrth fodd ei galon, gan ei fod yn hoff o arian, ac ac yn gryn dipyn o gybydd. Nid or:dd rheilffordd yn y wlad eto, ac yn anflfodus yr oedd rhywbeth y mater ar y ceffyl a farchogai. Felly, ben- thyciedd asyn un o'i gymydogion, yr hwn, gyda llaw, oedd yn digwydd bod yn denant bach iddo. Dywedi y tenant ei fod yn es- mwythach i'w farchcgaeth nag fuasai un o'i geffylau ag oedd eisoes yn y maes yn aredig, er nad oedd o gylch wyth o'r gloch yn y bore. Cyfrwyodd y tenant yr asyn, enw yr hwn oedd Comet, gyda phob brys, ac ymaith a Mr. Jonas fel dyn yn meddwl am fusnes. Gan ei fod yn wr tal, gyda choesau mor hirion, a chanddo fanteU fawr yn cyrhaedd at ei sod- lau, nid oedd odid ddim o'r asyn yn weledig ond ei ben a'i gynffon, a swn ei draed, gyda'u clit clat, clit, clat," fel swn rhyw felin fach yn malu'r daith o dan y cyfrwy. Nid oedd Mr. Jonas ar y goreu yn rhyw lawer o farch- ogwr, a chan mai dyma'r tro cyntaf iddo er- ioed fod ar gefn asyn, teimlai rywbeth yn chwithig, os nid ofnus. Daeth i'w gof yr hyn a glywsai am gastiau asyn, a'r fynyd y dig- wyddai i Comet foeli ei glustiau, gwyro, neu ostwng ei ben yn sydyn, meddyliai ei fod ar ryw falais ddrwg. Ar y un pryd gobeithiai y goreu, yn enwedig tra yr oedd yn myned i dderbyn y fath swm a arian a adewsid iddo yn ewyllys ei ardderchog hen fodryb, ac i fod yn y dreflan erbyn unarddeg o'r gloch i'r funyd. Cyn ei fod wedi myned uwchlaw rhyw bum milldir o ffordd,meddyliodd Comet ei fnd wedi cario digon arno, a rhoddod ar- wydd o hyny, drwy daro ei ben ar y ddaear, a rhoddi y fath ysgytiad iddo ei hun ag a fu agos a thaflu y marchogwr i'r Hawr. Yn gweled nad oedd ysgytiau yn ddigon, dech- reuodd fyned yn ei ol yn wysg ei gefn yn gynt nag yr aethai o'r blaen yn wysg ei ben. Gwylltiodd hyn Mr Jonas, ac am y tro cyntaf rhoddodd i Comet fflangelliad a barodd iddo garlamu rhagddo i'r iawn gyfeiriad. Ond yn fuan safodd mor sydyn nes yr oedd y march- og bron ar ei ben dros ei glustiau, a rhodd- C, odd iddo ei hun ysgytiad neu ddau ffyrnig ZD ereill. Ar ol chwareu y pranciau annifyr hyn amryw filldiroedd yn mhellach, dechreu- odd grafu coesau hirion Mr Jonas yn y clodd- iau bob ochr i'r ffordd, nes yr oedd ei lodrau a'i gnawd yn rhwygiadau, ac yn y diwedd rhoddodd iddo y fath hergwd sydyn, nes yr oedd yn mesur ei hyd yn ffos y clawdd. Dal- iodd ei afael yn y ffrwyn drwy y cyfai;, ac er holl ystrywiau castiog yr asyn, llwyddodd i gael ei hun i'r cyfrwy, yn llwch a llaid i gyd drosto. Cerddodd Comet rhagddo ar ol hyn heb ddangos dim mwy o'i gastiau nag ambell un o'r ysgytiadau atgas rheiny, hyd nes yr oedd yu nghanol y dreflan. Ond pan yma, trodd ei ben yn sydyn tuag adref, gorwedd- odd dan ei farchog, a dechreuodd frefu mor groch nes oedd yr heolydd yn crynu. Casgl- odd hyn dwr o blant o'i amgylch, y rhai a chwarddent, dan guro dwylaw, am ben y cyfan. Ni welwyd y fath ologfa chwerthin- 11yd yn y dreftan erioed. Ar ol hir frefu, neidiodd yr asyn i fyny, a'i farchogwr gydag ef, a cbarlamodd yn ol i gyfeiriad ei hen wlad. Son am arafwch asyn yn wir 1 Ni fu erioed y fath redegfa ar Epsom Downs a'r rhedegfa hon o eiddo Comet yn ol i'w hen wlad. Carlamai ymaith fel cysgod, gan chwipio y gwynt a'i gynffon, a chwipio nenfwd y byd a'i garnau. Yn gweled ei berygl, plethodd Mr. Jonas ei goesau hirion am ei fol, a chyd- iodd a'i ddwylaw yn dyn yn ei glustiau, nes yr oedd yn un cwman ar ei gefn, yn cael ei ysgubo ymaith megys mewn corwynt. Cyn- yrchai Comet y fath wynt wrth redeg, fel y cipiwyd het gantellog fawr Mr. Jonas dros y gwrych, a'i berwig o liw coch gyda hyny, nes oedd ei ben moel yn edrych mor llymrlg a meipen. Pan yn carlamu felly trwy'r tollfar, taranai'r ceidwad am doll, gan regi nad oedd yr un o'r ddau wedi talu'r tro o'r blaen. Ar ol cyrhaedd gyferbyn a thy ei feistr, safodd Comet o flaen y drws, a rhoddodd yr ysgytiad olaf iddo ei hun am y diwrnod hwnw. Gwel- "fcoestr. | Stir sai gwr y ty yr helynt ^rW^erbyD elrfrtb^ ac yr oedd yn y drws yn"j yn H gjgtr gyda phob brys Heb Ldd>f D,bâi f i'w ddweyd, dywedai, R fl0Ch A bach, welais i erioed W dwyn y benthyg adref nior â gawsoch chwi ehh arian, sy <ai W' Cau dy geg, Seimon, ^e(Ji & mewn nwyd wyllt, yr bfO» ffwl perffaith o honot ^oCtor heddyw. Mi gai di dalu r â a r chodiad yn dy rent gyda J gic i'r asyn nes yr oedd e oddiwrth ei droed. â ge]l a0j Ar ol c'lymu ei gadach chw' -h gorchymyn i Seimon fy~De. jjff # het cantel mawr, a'i berwig lwybrodd i'w dy ei hun y alf iV jjjC cholledig, Bu yn well n ^entbycl. ond y goreu o'r cwbl y^ 0gd asyn na dim ara!l ocdiar w ar ol hyny. Does dim 0%, ben'W« rheol o fod yn rhy br

Advertising