Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR,I

------Y BALA.

. CORWEN.:

. CYMDEITHASAU LLENTDDOL,…

CYNGHOR DOSPARTHI UWCHALED.

. LLANDRILLO.

News
Cite
Share

LLANDRILLO. Ymweliad a Gwlad Canaan.-N os Fer- cher, yn Ysgoldy'r Bwrdd, cafodd nifer fawr o drigolion yr ardal yr hyfrydwch o wrando ar Mr J. Parry, U.H., Bala, yn adrodd hanes ei daith i wlad Canaan, a'r prif leoedd yr ymwelodd a hwynt, Hefyd, daeth Mr Parry a nifer dda o lantern slides ardderchog gydag ef, y rhai a ddangoswyd yn y modd goreu trwy gyfrwng y llusern gan Mr Alien Lett- some, Arlunydd, Llangollen. Llanwyd y gadair yn anrhydeddus gan Mr L, Lloyd John, Corwen. Am y ddarlith rhaid dweyd ei bod yn ddyddorol dros ben ac yn ystod dwy awr o arnser, rhoddodd Mr Parry, wrth fynd yn mlaen, oleuni newydd ar lawer o ymadroddion a hanesion ynglyn a Palestina a gofnodir yn y Beibl. Cafodd y gwrandawiad mwyaf astud ar hyd yr amser, a thystiolaeth pawb ydyw eu bod wedi cael llawer o fwyn- had ac adeiladaeth trwy wrando y ddarlith hon. Ysgol y Faerdref. Prydnawn Gwener, cafodd plant Ysgol Sul y Faerdref, yr hyn y mient wedi arfer gael er's llawer o flynydd- j oedd, sef cael eu gwahodd gan Mr a Mrs. Jarrett i Plasynfaerdref i fwynhau gwledd de, &c. Yr oedd golwg trefnus a siriol iawn ar y plant bach, a diau eu bod yn edrych yn mlaen er's tro at y wledd. Treuliasant rai oriau yn ddifyr ar ol y te mewn chwareuon diniwed, a gwrando offeryn yn canu ac wrth ymadael cafodd pob un orange a mince pie gan Miss Jarrett a Mr. E. Jones Jarrett. Hefyd, dylid dweyd ddyrfod iddynt cyn ym- adael ddiolch a rhoddi cheers calonog i rodd- wyr y wledd. Priodas.-Eiddunwn i'n hoffus gyfaill, Mr. Thos. Williams, Llawrcilan, a'i briod hawdd- gar, oes faith a dedwydd yn eu sefyllfa newydd

ANERCHIAD ^

Cyfarfod Llandrillo* ®adolig…

Advertising

. CYNWYD.