Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

LLANFIHANGEL G.M.

News
Cite
Share

LLANFIHANGEL G.M. Cyfarfod y Calan,-Hyfrydweh mawr genym allu dweud ddarfod i Wyl Flynyddol Ysgolion Sabbothol Llanfihangel a Llangwm droi allan yn hynod o Iwyddianus eleni yn mhob ystyr. Nid oes dadl nad ydyw y sefydliad hwn yri gwneyd dirfawr les yn yr ardal a'r arda'oedd hyn, ac os oes rhywbeth yn werth cefnogaeth gan rai sydd yn caru lies yr ardal, yn sicr hwn ydyw. Mae cyfarfodydd fel hyn wedi bod i laweroedd yn arweiniad campus i feusydd cyfoethog llenyddiaeth, cerddoriaeth, &c Mae clod mawr yn ddyledus i'r cyfeillion oedd yn rhoddi amryw o'r gwobrwyon, a gellir eu cyfrif fel y sawl sydd yn caru lies goreu yr ardal, a hyderwn y dilynir eu besiampl gan eraiU yn y cyfarfodydd dyfodol. Y llywyddion eleni oeddynt y Parch. Lewis Owen, Llanfihangel, a Dr. H. H. Davies, Cerrigydruidion, end lluddiwyd yr olaf i allu bod yn bresenol gan ei amgylchiadau fel meddyg, ond gofalodd am anfon swm anrhydeddus yn rhodd i'r dnsorfi, am ba un y teimlai pawb yn hynod ddiolchgar i'r boneddwr caredig. Arweinydd yr Wyl ydoedd y talentog Mr. Tom Owen, Hafod Elwy, yr hwn fel arfer nad oedd ball ar ei arabedd, a rhyfeddwn (chwedi y Parch. .Lewis Owen na ddewisai Eisteddfod Cerrigydruid- ion facbgen o'u plith eu hunain fel Tom Owen, yn lie ceisio rhai o bell i fod yn Arweinwyr. Disgwyl- iwn y cymerant yr awgrym. Cyfeiliwyd ar yr offeryn gan Miss Jones, DJnmael. Trysorydd yr Wyl ydoedd Mr. Thomas Ellis, Tyuchaf. Yr Ysgrifenydd ydoedd Mr. P. Ll. Edwards, Myfyr House, Llanfihangel. Gwasanaethwyd fei Beirniaid gan y personau can- lynol-Cerddoriaeth, Proff. J. Owen Jones, A R.C.O., Wrexham, a chredwn na bu beirniad mwy diduedd yn sangu llwyfan yr un Gylchwyl debyg yn unman. Dyma y tro cyntaf i Mr. Jones fod yn Llanfihangel, ond gobeithiwn mai nid dyma yr olaf ychwaith. Rhyddiaetb, Parch. A. Jones, Gro. Arholiadau, Parch. J. Henlyn Owen, Dinmael. Barddoniaeth, Mr. Tom Owen, Hafod Elwy. Amrywieeth, Parch. R. A. Jones, Gro, a Mr. J. W. Jones, Glasfryn. Gwnaeth pawb eu rhan yn y modd goreu, ac i fodd- lonrwydd cyffredinol. Hefyd, yr oedd cyflawnder o De rhagorol wedi ei ddarparu yn yr Ysgoldy a Ware- house y Shop fel arfer, a Iluaws o foneddigesau mwyaf cymwys fu erioed yn sefyll wrth fwrdd te yn gweinyddu yn siriol, er cyflenwi -angenion y canoedd ymwelwyr, a hyderwn iddynt gael tal da am eu llafur, Yr oedd rhif yr ymgeiswyr ar y gwahanol destynau yn lluosog iawn, ac hefyd yn uchel o ran safon. Dechreuwyd CYFARFOD Y PRYDNAWN am 1 o'r gloch, ac aed yn mlaen trwy y Rhaglen yn y drefn a ganlyn-Ton Gynulleidfaol, Wynnstay," aryygeiriau "Am yr Vsgol rad Sabbothol," &c. Arholiad ar Efengyl Matthew ii, iii, iv., i rai dan 13 oed—1, Lilly Myfanwy Jones, Hafotty'r Tyisaf; 2il, Edith Jane Hughes, Llechweddygaer-y ddwy o Llanfihangel; 3ydd, Mary Elizabeth Owen, Bryn- hyfryd, Llangwm. Unawd i blant dan 14 oed, Gweddi Plentyn. ymgeisiodd 13, laf, Arthur Jones, Bryndu, Cefn- brith 2il, Alice Evans, Ty'nrhyd, Cerrigydruidion. Adrodd Emyn 308 o Lyfr Hymnau y M C., i rai dan 10 oed—laf, Mary Williams, Arddwyfaen, Llan- gwm 2il, Edward Roberts, Penybanc, Llanfihangel. Adrodd wrth rif Efengyl Luc ii, i rai dan 14 oed —Robert Morris, Tal Cefn Isaf, yn unig ddaeth yn mlaen yr hwn aeth drwy ei waith yn rhagorol iawn, heb fethu gymaint ag unwaith. Yr oedd hyn yn syndod, ac ystyried ei fod mor ieuanc, yn sicr y mae dysgu rhanan o'r Ysgrythyr fel hyn yn costio llafur dirfawr, ac mae yn debyg o lynu yn y cof yh y dyfodol. Gwobrwywyd y bachgen bychan yn nghanol y brwdfrydedd mwyaf. Deuawd, i blant dan 14 oed Goleu ar y lan, laf, Alice Evans a Laura Jones, Cerrigydruidion 2il, Catherine Alice a Jane Ellen Jones, Penygaer (dwy chwaer). Yn nesaf cafwyd anerchiad byr a phwrpasol gan y Llywydd, y Parch. Lewis Owen, Gweinidog. Traethawd, Nodweddion Cymeriad Elias," yn ol I Brenhinoedd, xvii-xxii I af, Keturah Jones, Bryn Eryr, Llanfihangel; 2il, Willie Hughes, Crown Inn. Unawd Bass, Y Bachgen Dewr (Dr. Parry), i jrai heb enill gwobr o'r blaen, gwobr MedalArian-laf, Arthur B. Roberts. Pentrefoelas. Adrodd i rai dan 14 oed, Yr lesn a wylodd, laf, Arthur Jones, Bryndu, Cefnbrith; 2il, Catherine Alice Jones, Penygaer 3ydd, Jane Ellin Jones, eto. Gwnaeth yr Arweinydd gyfeiriad yn y fan hon mai Mr. Ellis Jones, Ty'nymynydi, oedd awdwr y llin- fiMau tlysion hyn, a dywedai pe na buasai wedi cyf- ansoddi dim arall, y buasai y rhai hyn yn ddigon i'w restru yn mysg y prif feirdd. Credwn y dylasai enw yr awdwr fod wrthynt ar restr y testynau, gan fod enw awdwr y dernyn ddewiswyd i bob oed wrtho; paham yr oedd eisiau anwybyddu awdwr y llinellau hyn ? Parti wythí y don Presburg," rhif 404 yn Llyfr Uonau y M.C. Emynau o ddewisiad y parti.j-pParti Llanfihangel, dan arweiniad Mir. P. LI. Edwdlrcls, yn ullig ddaeth yn mlaen, a dyfarnwyd hwy yn deilwng o'r wobr. Arholiad ar I Brenhinoedd xvii-xix, i rai dan 16 oed-laf, Robert Jones, Pemdre, Llangwm; 2il. Evan Roberts, Bryn Eryr, Llanfihangel; cydradd 3. Pollie Jones, Pendre, a Tommie Williams, Ystrad Fawr, Llangwm. Englyn, "Pnlpnd,l. Tommy Jones, Tu Da, Cerrig. Wele'r Englyn- Lie i warchod ar bechod byd-Ile i was Duw Arllwys deddf ein bywyd Arweinfan i der wynfyd I swyn gwledd yn Seiou g1yd. Cor Plant, Rhyfel Bywyd" (Jonah Morgan, G.T.S.C). Daethdan gor yn mlaen, sef cor plant Llanfihangel, dan arweiniad Mr. R. Hughes, Llan, a chor plant Cerrigydruidion dan arweiniad Mr. Bob. art Pdrry, Top y Llan. laf, Cor Plant Cerrig. Dygodd hyn waith cyfarfod y prydnawn i der- fyniad. Dechreuwyd CYFARFOD YR HWYR. am 5.30., trwy ganu y don Ebenezer," ar y geiriau Beth yw'r udgorn glywai'n seinio," &c., mewn hwyl fawr. Unawd Soprano, "Unwaith eto'n Nghymru anwyl" (Dyfed Lewis)—un yn unig ddaeth yn mlaen. ac o ddiffyg teiJyngdod ni wobrwywyd hi. Arholiad ar I Brenhinoedd xvii-xix, i rai dan 21 oed —laf, Sissie Lewis, Myfyr House 2ail, Mary Alice Hughes, Tyddyn Tudur, Llanfihangel, Unawd Bass, Y Banerwr (W. Davies)—laf, J. W. Ellis, Llaethwryd, Cerrigydruidion. Llythyr (i fercbed), y testyn o ddewisiad yr ym- geiswyr. Cafwyd hwyl ryfeddol gyda'r llythyrau hyn.—laf, Miss Owen, Tycelyn, Llanfihangel; 2, Miss Jones, Penygaer. Darllen unrhyw ddeg adnod a roddid ar y pryd gan y Beirniaid, o'r wyth penod gyntaf o'r Rhufein- iaid.—laf, Hugh Edwards,Hendreuchaf,Bettws G.G. Yn nesaf galwyd am anerchiadau gan y Beirdd, ond gan nad oedd neb yn dyfod yn mlaen, daeth y llinellau canlynol yn fyrfyfyr i feddwl eich Gohebydd, Fe wawriodd Dydd Calan i wneud pawb yn ddiddan, Ond er dringo'r llwyfan, nid pavod wyf fi, 'Rol dyfod trwy'r oerfel i fro Llanfihangel I Gylchwyl one thousand nine hundred and three. Denawd i Tenor a Bass, "Y ddeilen ar y lli" (John Williams, R.A.M.,)—laf, D. J. Hughes a Richard Evans, Cerrigydrnidion. Araeth, "Hunanadnabyddiaeth,Neb yn ymgeisio. Unawd Tenor, Llances y Dyffryn" (W. Davies), —goreu gyda chanmolaeth, T. J. Griffith, Maes Gwyn. Pentrefoelas. Cyfarchwyd ef gan eich Go- hebydd a'r llinellau canlynol- Hynod fydd Tom mewn hanes, Hwylia'rpry' i bawlio'r pres. Prif Draethawd, Y casgliad goreu o enwau lleoedd yn ardal Llanfihangel, gvdag esboniad ar y cyfryw enwau Gwobr 5/- a Bathodyn gyda chanol aur, rhodde'dig gan gyfaill.-goreu gyda chanmol- iaeth uchel iawn, T. Jones, Bryndu. Adrodd, i rai dros 14 oed, Arwertbiant y Caeth- was (Gwilym Hiraethog)- eydradd laf, Hugh Ed- wards, Hendre Uchaf, Bettws G.G., a Robert Jones, Aeddren, Llangwm. Her Unawd (unrhyw lais), Pwy sy'n myn'd i'w fagu ef (W. Davies), gwobr Medal Aur. Ar ol cys- tadleuaeth galed enillwyd y medal anr gan T. J. Griffith, Maes Gwyn, Pentrefoelas, Triawd, Fy angel bach (Dr. Parry),—goreu, Robert Parry, Cerrig, a'i barti. Pedwar penill (8 lliqell), "Elias ar ben Carmel," —laf, William Thomas Williams, Cynfal. Prif Arholiad ar Rhufeiniad v (pob oed),—cydradd oreu Mrs. Hughes, Tyddyn Tudur, a Mr. Robert Jones, Hafoty'r Tyisaf, Llanfihangel. Talwyd y diolchiadau arferol gan y Parch. Lewis Owen, Gweinidog. Ar ol hyuy cafwyd cystadleuaeth y Corau Mawr, ar y darnau, y don Gwynfa (J. H. Roberts), ac 0 Dad D'anfeidrol nerth" (Handel). Dan gor ddaeth yn mlaen i'r ymdrechfa hon, sef Cor Cerrigydruidion dan arweiniad D. J. Hughes, a Chor Llanfihangel dan arweiniad Robert Hugues. Ar ol cystadleuaeth galed a brwdfrydig iawn, dyfarnwyd y wobr a'r Baton i arweinydd Cor Cerrigydruidion. Wedi hyny ymwahanodd pawb wedi cael gwledd ragorol. Cafwyd tywydd dymunol dros ben eleni, a chynulliadau lluosog iawn, ac yr oedd ymddygiad pawb yn ganmoladwy yn y fath dyndra. Gan fod yr Wyl hon yn myned yn boblogaidd iawn, gresyn na fuasai lie mwy i'w chynal. Credwn y bydd raid ei chael yn Eisteddfod Gadeiriol a Choronog cyn hir. Cerrigydruidion. MYFYK ABWEN.

Advertising