Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

COLOFN Y BEIRDD. --

PEN ILL

-__-__-__ CORWEr1. ■0 W t&SVA…

GELLIOEDD.

News
Cite
Share

GELLIOEDD. Cynhaliwyd cyfarfod llenyddol cyntaf y tymor hwn yn y lie uchod nos Lun, Rhag. 15, pryd y cafwyd ty- wydd ffafriol, a chynulliad lluosog. Llywyddwyd gan Mr. R. Hughes, Llechweddfigin. Y gwahanol feirn- iaid oeddynt Mri, H. Jones, Ty'nyfoeias, Llangwm H. Ll. W. Hughes, Tytandderwen. Llawrbettws; T. Jones, Nantycyrtiau, Bala ac R. Hughes. Cyfeiliwyd gan G. H. Jones, Nantycyrtiau. Enillwyd y gwobrwyon fel y canlyn :—Adrodd i blant dan 10 oed, emyn 755 o'r Caniedydd, goreu Jane Ann Evans, Hen Gapel ail, C Hughes, Hen- bias 3ydd, Kate Evans, Hen Gapel. Unawd. i blaut dan 12 oed. Y mae bywyd trwy edrych," goreu. Lizzie J. Edwards, Tmewydd, Llangwm ail, Pollie Hughes, Pengob 3ydd, C. Hughes, Henbles; 4ydd; J. A. Evans, Hen Gapel. Beirniadfieth ar y crynodeb pregetb, t rai dan 16 oed, g-oreu, Emily Roberts, Hrt- fottyg(-rrig ail, Kate D. Roberts, Park. Oystadleu- aeth adrodd i rai dan 1B oed, emyn 928, cydradd oreu C. Hughes, Henblas, a D. Jones, Llwyncwbi; cyd- radd flil, D. Williams, Brynhyrddod, ac E. Roberts, Hafottygerriif. Deuawd i rai dan 15 oed, Mvvy i ganlyn," cydradd oreu, Alice Jones, Ty'nyffridd, a D. •Jones. Llwyncwbi a Lizzie Jones, ac E. Edwards, Tynewydd, Llangwm. Adrodd i rai dan 16 oed, •• Btocleiilr gauaf," goreu, A. Joaes, Ty'nyffridd ail, Elien Williams, Brynhyrddod. Cystadleuaeth unawd i rai dros 40 oed, y don Llydaw," goreu W. Row- lands, Llwyngwgan; ail, M. Lloyd, Hendre ucha. Cystadleuaeth denawd, y don Wynnstay," goreu, I R. Jones, Brynflfynon, a Jane Roberts, Ty'nyfawmg. Beirniadaeth yr englynion i'r "Ddafad." Ni ddneth ond un awdwr i'r cystadleuaeth, sef T. Roberts. Ha- fottygerrig, o theilyngodd y wobr. Unawd Baritone, I godi'r hen wlad yn ei hoi," goreu,R.Parry,Cei-rig; ail, R. Jones, Brynffynon. Beimiadaeth y trathawd ar Job, goreu, R. J. Jones, Cerrig. Dadl ddifyfyr, goreu, E Jones, Aeddren, ac E. Davies Ffriddgwair. Beirniadaeth y penillion i'r Melinydd." Ni ddaeth ond un cyfansoddiad i law, sef eiddo T.Roberta, Ha- fottyserrig, a theilyngodd y wobr. Unawd Soprano, "Neges y blodeuyn," goreu, Poline Buckley, Cerrig; ail, Jane Roberts, Ty'nyfawnog. Cystadleuaeth ar- eithio, Mwyaf trwst, llestri gweigion," i^oreu, R. Jones, Aeddren; cydradd ail, E. Jones, Aaddren, a T. Jones, Tydu, Cerrig. Cystadleuaeth pedwarawd, y don Talysarn," goreu, R. Jones, Brynffynon, a'i barti. Talwyd y diolchiadau arferol gan R. Jones, Aeddren, eiliwyd gan R. Roberts, Gellioedd, ac ym- wahanwyd wedi bod yn gwledda u«--chben y pasgedig- iOD breision am dros ddwv awr o amser.

Advertising

Advertising