Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

Y BALA.

News
Cite
Share

Y BALA. CYNGHERDD.-Ein dyledswydd cyntaf yr wythnos hon ydyw annog ein holl ddarllen- wyr yn y cylch hwn i fynychu y cyngherdd uwchraddoi a gynhelir yn y Victoria Hall nos Lun nesaf er budd ein cyfaill Mr G. Lloyd Humphreys. Os oes rhywrai heb brynu toc- yn gwneled hyny ar unwaith. GWYL DE.âCyn'naliwyd gwyl de lwydd- ianus a difyr yn y Victoria Hall nos Wener diweddaf mewn cysylltiad a dosparthiadau ambulance Dr Williams. Wedi gwtedda cyn- haliwyd cyfarfod difyr o dan lywyddiaeth y Dr. Cafwyd unawdau gan Miss Kitty Rob- erts, Miss H. A. Roberts, Mrs Ingham, a Mr W. Ellis Jones, a phemhion gan Mr R. Rob- erts, Tairfelin. Yn garedig a hael yn ol ei arfer cynygiodd Dr Williams wobrau sylwedd- ol i'r goreuon am "bandaging," ac enillwyd y wobr gyntaf gan Miss Evans, National School; yr ail gan Mrs Morgans, Police Station a'r drydedd gan Miss Timothy, Tegid St. En- illwyd y wobr o gini (rhodd hael Dr Williams) am stretcher drill" gan Mr D. R. Roberts, Surveyor, a'i barti. Wedi hyny bu Mr R. Lloyd Jones yn difyru y cwmni gwda wax- works," ac yr oedd wedi myned i gryn draff- erth gyda'r rhai hyn. Mwynhawyd yr ardd- angosfa yn fawr, a threuliwyd noson lawen. Gweithredwyd fel ysgrifenyddion y mudiad gan Miss Blodwen Hughes, Tryweryn View, a Miss Annie Lewis, High St., ac y mae clod mawr yn ddyiedus iddynt am eu ffyddlondeb. LLENYDDOL.âNos Ian llywyddai E. W. Evans yn nghymdeithas lenyddol yr Annibyn- wyr. Cafwyd papur gan y ilywydd ar "Rydd- frydiaeth" Hefyd, cafwyd papur rhagorol, Ysgrythyrol, a llawn o wersi buddiol, gan Mr Evan Griffiths ar "Y mneiIíduaeth," Siarad- wyd yn ddilynol gan Mri J. R. Jordan, D. W. Jones, William Williams, R Davies, a J. P. Jones. FOOTBALL.-Bala Press Reserves were en- gaged in a friendly game at Bala on Saturday with the Trawsfynydd football team. The weather was very boisterous, and in conse- quence the game did not attract many spec- tators. The game ended in an easy win for the Reserves by 13 goals to two, Referee, Mr Richard Evans. CHWAREUYDDOL.âBydd cwmni enwog yn perfformio y chwareu digrif, "Why Smith left home," yn y Victoria Hall nos yfory (lau).

. CYFARFOD Y NADOLIG.

. Priodas Mr. H. Rogers-Jones…

CYNGOR PLWYF CORWEN.

CORWEN.

LLANUWCHLLYN.

Advertising