Hide Articles List

10 articles on this Page

- JACK Y LLONGWB

OLD FALSE TEETH BOUGHT.

TON-It'RWY'N MYNU BOD YN AELOD.

Byrhau'r Ffordd o LerpwJ I…

Pwy fyid Athrawon Cymru?

YR HEN WR LLON.

[No title]

0 BEN Y TWR.

News
Cite
Share

0 BEN Y TWR. YSGOL SIR DOSBARTH LLANBERIS. I Agorwyd Ysgol Ganolradd dosbarth Llanberis yr wythnos ddiweddaf. Def- nyddiwyd bazzaar at y pwrpas, er mwyn cyllid y sefydliad. Y mae sail i gredu fod llafur aaiferth y pwyllgor a, boneddigesau egnioL y dosbarth wedi ei goroni a mesur da o lwyddiant. Lleolwyd yr ysgoldy yn Mrynlrefail. Dair blynedd yn ol gallasai cellweirddyn ofyn gyda gwawd yn nhroell ei leferydd, "A ddichon dim da ddyfod o Bryn'refail, bro dinodedd?" Eto i ran y dreflan fechan hono treflan heb nag ysgoldy elfenol nag eglwys blwy' na chapel anwes- yr aeth yr Ysgol Sirol-gwrthrych blyst a brwydrau cethin tref Llanberis am lawer o fisoedd. Ac o ddamwain y bu. Lleoliad canolog y tri phlwy' a ffurfient y dosbarth a fu'r ffawd a benderfynodd y dewisiad yn ffafr y pentref hwnw. Amser a ddengys ai doeth ynte annoeth y dewis- iad. Gwyddoniaeth fydd prif neillduol- irwydd addysg yr ysgol. Yn ol cynUun addysg yr Ysgolion Canolradd y mae eiddo dosbarth Llanberis yn ffurfio un o drindod y Gwyddoniaid-Penygroes a. Bethesda yw y ddwy arall. YSGOLION CYMREIG-ATHRAWON SEISNIG. Nid yn fynych y bydd Llywiawdwyr Addysg Ganalradd Arfon yn cwympo i am- ryfusedd cadam ac yn cyflawni ynfyd- rwydd. Profasant yr wythnos ddiweddaf er hyny gywirdeb y wireb, "Pan gwymp y call efe a gwymp yn ddwfn." Heddyw y mae holl Gymru yn synu o'u plegyd. Penodasant Sais di-Gymraeg yn brifathraw Ysgol Ganolradd dosbarth Llanberis. A gwaeth na hyny, mynodd y cyfarfod droi dyfarniad y pwyllgor dewis o'r neilldu a gwrthodasant Gymro cyfarwydd, er ei fod goruwch y Sais fel ysgolhaig. Dodai y mwyafrif bwys ar radd wyddonol y Sais; ond megis y svlwodd y cyfreithiwr craff a Bwllheli, "Lol i gyd yw hyny." Da y gwyr yr hyddysg y gwna tipyn o wyddoniaeth elfenol y tro er hyfforddi ysgolorion bych- ain Ysgol Ganolradd. Y mae gweithred ehud fel hon yn tetntio y cyhoedd i goelio, fod rhyw ysbryd heblaw yr un gwladgarol yn cymell rhai o'r "mwyafrif" i wrthod yr ymgeisydd Cymreig, yr'hwn hefyd oedd yr ysgolhaig penaf. Os felly, nid oes fodd condemnio y weithred gyda gormod llym- der. Er yn dywedyd fel hyn, ni fynwn ymuno a'r byrdwn penffol, "Cymru i'r Cymro," nac hyd yn oed "Prydain i'r Pry- deiniwr.' GwelI o lawer egwydd'or mas- nach rydd mewn addysg megis yn mhob peth. Eled Cymry dysgedig yn benaeth- iaid sefydliadau Seisnig ac Ysgotaidd, a deued Ysgotiaid a Saeson hyfedr i Gymru; ac os yn meddu ar ragoriaethau na fedd ymgeiswyr Cymreig, ar bob cyfrif rhodder y swyddi iddynt. Ie, dewiser y dyn goreu, ond gofaler ei fod ef yn oreu. Ac yn sicr y mae bod yn hyddysg yn y Gymraeg yn gyfran lied bwysig yn y goreu hwnw. GYDA'R GWYDDONWYR Yn nhref Bradford y cyfarfu Cymanfa Gwyddonwyr Prydain y flwyddyn hon. Dechreuasant ar y gweithrediadau ddydd Mercher. Syr W. Turner, y meddyg hy- fedr o Edinburgh, oedd y llywydd. "Modd- ioii gwycHdoniae-th sylwgarwch ac ad- fyfyrdod," oedd pwnc ei anerchiad. Cy- merodd dram eang a thra dyddorol ar gynydd gwyddonol y ganrif. Wrth ddwyn ei sylwaaau i ben, syiwodd fod Iiriogaetli bywyd eto yn aros o dan leni tragwyddol o ddirgelwch. Pan aeth y gorciiv nyn allan, "Bydded bywyd," a bywyd a fu. Nis gellir dyweud ychwaneg am y dechr"U,id hwnw na'i fod! wedi cychwyn draw jnevvn pellder annirnadwy. Cj'merodd ffurfiau anei^f, ac o'r diwedd, JT olaf a'r godidocaf o'r holl ffurfiau, wele Ddyn yn llamu allan gan gydio yn awenau arglwyddiaeth ar yr holl ffurfiau. Ond i Gymro, yr hyn sydd yn meddu prif swyn yn Nghymanfa'r Gwyddonwyr eleni oedd presenoldeb ein cydwladwr hynaws o Rydychen-y Prif- athraw John Rhys fel llywydd adran Dyniaduraeth (anthropology). "Cenedleg cyn-hanesiol Brydeinig," oedd pwnc ei an- erchiad. Ac megis pob peth o'i eiddo, gwisgodd ef a swyn diddarfod. Yn ei ar- drem dilynodd genedleg y wlad hon o amserau pell y bobl fychain a enwir yn Dylwythion Teg. Hwynthwy oedd pres- wylwyr cyntaf neu foreuaf y wlad. Dilyn- wyd hwy gan do y Pictiaid-pobl yn ar- luneiddio eu hunain dros eu cyrff mes;is y gwna morwyr weithiau. Wedi hyny daeth yr Iberiaid, a'r Celtiaid ar eu lledol hwythau. Aeth Dr Rhys yn ol gan ail gychwyn eilwaith gyda chwrs ieitheg y Goedelaeg, Brythonaeg, a'r Gymrag. Yn yr un adran bu Mr Arthur J. Evans yn cyfarddu ei wrandawyr a'r dargan- fyddiadau rhyfedd a wnaeth efe yn Mhalas y Minos yn Knossos yn Ynys Crete. TRANSVAAL TIRIOGAETH BRYDEINIG. Ffaith fawr yr wythnos oedd gwaith Ar- glwydd Roberts yn cyhoeddi ei fod yn cy- meryd meddiant swyddogol o'r Transvaal, gan ei huno a'r Ymherodraeth Brydeinig. Wrth gwrs, teimlodd Mr Kruger ei bod yn dldyledswydd arno wrthdystio, a gwnaeth felly: ar yr un pryd, y mae pob argoelion yn oyfeirio at y ffaith ei fod a'i fryd ar ffoi i Ewrob, pe gallai. Dri mis yn ol cymer- wyd meddiant. swyddogol o Diriogaeth yr Afon Felen. Peidiodd y Weriniaeth yn Ne Affrig, gan hyny. Bellach, rhaid edrych ar y wiad anferth o'r Faal Uchaf hyd Afon y Crooodiliakl, ao o Mafeking hyd Fryheid fe' dam newydd o'r Ymherodraeth. Gwir fod De Wet a. Botha a Theran heb eu dal; pto, drwy y cyhoeddiad cyfnewidiwyd eu cy- meriad o fod yn gadfridogion byddinoedd estronol i fod yn ysgleifwyr a herwhelwyr Prydeinig. Bellach ymddygir atynt megis carnladron a gwrtbryfelwyr. Rhaid coelio fod mesur helaeth o anfoddogrwydd yn mhlith y cadlnoeddl Boeraidd. Heblaw y rhai sydd yn gwirfodldol roddi eu hunain i fyny bron yn ddyddiol, y mae minteioedd Botha ao eraill yn symud eu cad-ddarpar- iadau a'u defnyddiau ymborth o fan i fan. Pywedir eu bod yn ystod yr wythnos wedi eu symud i fangre o'r enw Gorphwysfa'r Pcrerin. A Mr Kruger a Mr Steyn yno hfcfyd. Y mae y lie hwnw rhyw 22ain mill- dir i'r gogledd-ddwyrain c Lydenburg. Gan dybied fod yn mryd y Booriaid i groesi'r ffin y mae Llywodraeth Portugal ar fedr an- fon cadlu o fil er atal hyny. Cyn gollwng y carcharorion Prydeinig o Nooitgedacht anerohodd y Cadlywydd Viljoen hwy gan ddweyd ei fod yn gobeithio cael eu cyfrif fel cyfeillion ar fyrder. Mewn atebiad i ymholiad, dvwedodd arwyddonwyr Botha wrth arwyddonwyV Buller na feiddient hwy roddi eu harfau i lawr: gorchymyn Botha oedd fod yn rhaid ymladd. Y casgliad, gan hyny, yw mai y tri neu bedwar o benaeth- iaid yn unig sydd yn mynu parhau yr ym- gyrch, a hyny yn benaf am na fynent fodd- lcni i'r syniad o gael eu halltudio i India. Ymddengys v bydd i Arglwydd Roberts a'r Cadfridog Baden-Powell gyrhaedd gartref vn fuan bellach. Cymer y Cadfridog Buller lo "Bobs."

Arddangosfa Arddwrol Talsarnau

Advertising