Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
- JACK Y LLONGWB
JACK Y LLONGWB Y FAINC YNADOL. Sefydliad angenrheidiol ydi Ynadaeth mewn gwlad, a thra y cerir y cyfryw yn mlaen ar linellau teg, cyfiawn, diragfarn, ni ddymunwn ddeyd gair yn frwnt na chon- demniol am y cyfryw. Ond y mae ag- wedd gas iawn enli wedi dwad i'r golwg ar Ynadaeth ein gwlad. Galla'i ddeyd nad ydi seilia' ffurf Ynadaeth yn ein plith ddim yn seilia' cyfiawilder. Nid cymhwysder cymeriad a gw'bodaeth ydi'i cymhwysder, ond meddiant o eiddo. Ac nid hvnv yn unig. Cyfyngir y cymhwysder hwnw i blaid a sect. Os Toriaid fydd mewn aw- durdod, Toriaid a 'neir yn ynadon; os Rhyddfrydwyr, Rhyddfrydwyr yn benaf a 'neir yn rhai. Pe bernid ffurf crefydd Cymru oddiwrth ynadon y wlad, gellid dwad i'r penderfyniad mai Eglwyswyr fyddai trigolion y wlad. Neu pe elid i benderfynu gwleidyddiaeth y wlad oddi- wrth yr ynadon, buasid yn dwad i'r pen- derfyniad mai Toriaid fuasai mwyafrif y trigolion. Ond y mae y ffeithiau yn hollol groes i hyn oil. Nid yw ynadon y wlad mewn gwleidyddiaeth na chrefydd i'w eymeryd fel yn cynrychioli y bobl. Nid yw mwyafrif yr ynadon ar y fainc fel cyn- ryohiolwyr y bobl, ac nid oes ynad yn Nghymru heddyw, bydded Ryddfrydwr, bydded Eglwyswr, bydded Dori, bydded Ymneillduwr, wedi cael ei benodi am fod y wlad yn ymddiried ynddo. Synir yn amlach o lawar na. fel arall pan welir rhai dynon yn cael eu dyrchafu i'r ynadaeth. Y mae dylanwadau cyfrinachol, dirgelaidd yn mynd yn mlaen gan gysylltiadau cym- deithasol, ac o bosibl teuluaidd, rhai per- sona' ag sy'n amcanu at fod yn ynadon, ac yn y man gwelir, er syndod i gym'dogion y persona' hyn, fod y cyfryw ddynion disylw, dibrofiad, diw'bod, diddim, wedi cael eu g'neyd yn ustusiaid beddwch. Mae'n dda fod lleni y tywyllwch ar weithredoedd ac ar gynllwynion rhai pobol ag ydynt yn amcanu at gyrhaedd y fainc ynadol. Yr hyn fydd yn fy ngwylltio i fydd gwelad ar y fainc ddynion yn cymeryd amynt wein- yddu cyfiawnder yn gyhoeddus, a hwythau wedi bod yn Ilawn triciau a chynllwyn tuagat gyrhaedd y fainc,—ie, gwelad dyn- ion yno na chant hwy ddim cym'int a chael eu dewis i fod yn aelodau o gynghor plwyf gan y bobol sy'n eu hadnabod ora. Y mae y sefydliad a ddylasai fodi uwch- law partiaeth, mewn crefydd, politics, a busnes, y sefydliad mwyaf partiol sy' yn y wla £ Yn ami iawn, pan fydd Toriaid Eglwysig a Rhyddfrydwyr Ymneillduol ar yr un fainc, ac yn rhoddi dyfarniad ar fater, oowch welad yr ynadon yh cymeryd eu hochor yn ddigamsyniol: y Toriaid hefo'u gilydd a'r Rhyddfrydwyr hefo'u gilydd. Bu y fainc yn fwy partiol a sectol nag ydi hi heddyw, ac wrth feddwl am hyny bydda'i yn dwbl synu fod Cymru wedi llwyddo cystal yn wleidyddol a chref- yddol. Er gwaethaf yr Ynadaeth yr enillwyd y rhyddid sy' gynon ni heddyw. Ond nid gwleidyddiaeth a chrefydd yn unig sy'n dylanwadu ar Ynadaeth. Mae dylanwad yr hen wr boneddig cyfoethog, mawr, hwnw, Syr Shion Heidden, yn an- rhaethol arno. Tydi Syr Shion ddim yn na Thori, na Rhyddfrydwr, Ymneillduwr, nac Eglwyswr ddim pellach nag y byddo hyny yn fanteisiol i 'nevd busnes, er fod ei dUeddiad o i fod yn Eglwyswr a Thori ar y cyfan. Mae Syr Shion yn gallu gwthio ei ddarllawyr" ei fragwyr, ei oruch- wylwyr, a'i gefnogwyr i'r Ytt&daeth, ac ni phetrusant hwy bleidio rhoddi trwydded- au. Ie, y mae Syt Shion yn gallu gwthio y boneddigion sy'n gyfranddalwyr mewn darllawdai, mewn hotels mawrion, mewn refreshment rooms, mewn tafamau mawr- i ion, i'r fainc ynadol, ac yno galluogir hwynt i amddiffyn eu busnes hwy mewn ffordd nas gall masnachwyr ereill amddiffyn eu busnes o gwbl. Gellir gweled ar y fainc ynadol oruchwylwyr darllawdai yn caniatau trwyddedau i'w cwsmeriaid hwy eu hunain! Fe dal i'r tafarnwyr brynu diodydd meddwol gan y dynion hyn. Onid ydach'i yn gwelad sut y mae petha' yn gweithio P Siwr! 'Does dim modd peidio gwelad! Er mwyn dangos i ch'i gymaint y mae dynion y darllawdai a'u goruchwylwyr yn hidio am yr Ynadaeth, gallaf gyfeirio at y ffaith na welwch'i mor giang ar y fainc yn ystod y flwyddyn ond ni pan y bydd achos rnyw dafam gerbron. By4dant yno y pryd hyny. Dynach'i ddangos i baddyben y mae y criw ynadol "*■ fcyn yn dda. Ac eto,' gofynir i ni beidio t" d.. dim anmharchus- am weithrediadau yr ^ynadon! Mi 'rydw'i yn credu fod eis- ieu dweyd y gwir am weithredoedd pawb, fydtiont; ac mi 'rydw'i hefyd -ei&eu i'x, persons' hpixanol sy'n llwyddo i v gyrhaedd safle mor bwysig yn ein gwlad a swydd ynadol, w'bod fod y wlad yn gallu eu deall hwy a'u holl symudiadau. Wrth ddweyd fel hyn gwn yn iawn fy mod yn deyd yr hyn y mae canoedd yn ei ddirgel gredu. Chewch 'i neb i draethu ar goedd fel yma ond rhywun dinod fel fi. Yohydig iawn gewch 'i yn mysg y bobol sy'n credu eu bod yn bobol fawr, gall, a godant eu lief yn erbyn llygredigaeth a chroes-droi sefydliad at amcanion gau, hunanol, a phersonol. Tydw'i ddim wedi fy ordeinio gan na ohapel nag eglwys, ac nid' ydw'i yn cael tal am 'gethu y Sabboth, ond er hyny meiddiaf bregethu yn fy ffordd fy hun, yn ngrym yr ordeiniad a gefais gan Dduw Ei Hun, pan blanodd o yn fy nghalon i at- ga6rwydd at anghyfiawnder, twyll, a ffug- honiadaeth o bob math, yn erbyn drygedd yn yr uchel-leoedd ac yn yr feel-leoedd. Ewch i'r cynadleddau eglwysig, a chewch glywed moroedd o siarad sych-dduiiol, a Uwythi mawrion o benderfyniada' difin, dieffaith, heb 'neyd na byd nac leglwys fymryn gwell, er yr holl golli amsar a gwario mawr arian. Rhyw gyfarfodydd fydda'i yn gwelad y oynadledda' a'r cyfar- fodydd crefyddol yma i'r bobol welad eu gilydd a mawrygu eu gilydd. Wedi yr efcmt heibio 'does dim gwaith wedi cael eu 'neyd. Waswn i yn leicio gwelad chwaral, neu waith glo, neu waith haiam, neu long, neu waith printio, neu bapur newydd yn cael ei gario yn mlaen hefo can lleied o broffit ag y cerir y oyfarfodydd a enwyd yn mlaen! Ni oddpfid y fath beth! Ac eto, mewn crefydd, caniateir y sefyllfa hon fodoli! Dylai pob enwad yn Nghymru godi ei lef yn erbyn darostwng yr Ynadaeth i'r safle y mae hi wedi cael ei darostwng yn awr. Ond ofnaf na wneir mo hyn bellach. Gallesid disgwyl ei welad yn cael ei wneyd lynyddoedd yn ol, ond heddyw mae'r en- wadau yn stwffio eu pobol yn ynadon, gan gredui fod hyny yn dwad a llawar o ogon- iant bydol iddyn' hw. Tydw'i ddim yn oondemnio yr oil o'r ustusiaid Ymneilldu- ol hyn. Mae rhai ohonyn' hw yn ddynion ardderchog, cydwybodol a defnyddiol. Ond 'does gen' i ddim llawar o feddwl o'r lleill, et eu bod yn cael eu gosod yn y ffrynt yn ein cyfarfodydd mawrion, crefyddol. Fe ddylid diddymu yr Ynadaeth yn ei ffurf bresenol, a sefydlu Ynadaeth daledig. NLs gellir dyweyd fod cyfiawnder yn cael ei weinyddu yn ein llysoedd ynadol bob amser. Mympwy yn aml sy'n llywodr- aethu nid cyfraith. Dicbon i ddyn mewn Uys gael ei ollwng yn rhydd, tra yr an- fonid ef i garchar pe buasaa mewn llys arail. Ni chwyd y bobol sy'n gwbod fwya am ddiffygion yr Ynadaefti-sef y twr- neiod-eu Haw yn eu herbyn busues ydir peth sy' gynyn hw. Yr wyf bron yn siwr 5ad <?es Iwma yn bod na chydwela efe a 14 aiwod" Seul C) UAtwl ij 8 cael M gweinyddu yn ein llysoedd ynadol ni, ond mympwy dynion. YR IAITH FAIN A'R PLENTYN. Yn ardal y Sarn yr oedd lodes fechan tua thair oed. Nis gallai air o Saesneg. Daeth perthynas yno i aros, gan ddwyn gyda hi fachgen tua thair oed. Nis gallai hwn air o Gymraeg. Methai y lodes fach a'i dldeall ef o gwbl yn siarad Saesneg. Meddyliodd fod rhywbath arno fo, a dy- wedodd, "Os na 'neid di siarad yn iawn, mi 'na i dy ro'i di yn nhwll tan y grisia' DIGWYDDIADAU ARDALOEDD Y CENIN, BWLCHMAWR, &c. Mae llwynogod Bwlchmawr yu anfon eu kind regarda at Sgweiar P-, Porth- madog. Mwynha'r hen ferchad eu bod yn cael "eu rowndio gan Jack y Llongwr, hyny ydyw, cael eu trin yn y golofn lion! Digwyddodd anffawd i'r drol oedd gan W- 1- yn ddiweddar, pan yn gweithio yn y gwair. Blinodd y drol a bod ar ei holwynion, a throdd ar ei hochr, y J. debyg iawn i wydd wedi ei chlwvfo. Dychrynodd W—, rhedodd, a gwaeddodd. Gwelwyd gwaa a meistr yn owffio yn ddi- weddar. Y gwas oedd y concwerwr. Tra yn bugeilio defaid yn y Bwlchmawr, daeth bugail ar draws llanc a merch ifanc yn caru yn ofnadwy. Brodor o Lanaelhaiarn oedd y llanc, ac o Bwlchderwydd y deuai hi. BWGAN YN DAL CARMON. Heb fod rhyw gan' milldir o ffordd o dre' Pwllheli yr oedd hen wraig, merch, a rhai merched ifanc er'ill mewn ty yn gwnio yn hwyr y nos. Yu y man gorchfygwyd yr hen wieigan gan drwmgwsg, ac aeth i'w gwely. Anghofiodd hi gau drws y gegin allan, a galwodd hi ar y ferch j fyn'd i gau y drws cyn dod i'r gweiy. 'Roedd hi tua hanar nos erbyn hyn. Yn ofnus iawn aeth y ferch alian a chauodd y drws. Y foment hono dyma dwrw yn y gegin allan. Rhaid fod y drws wedi ei gloi ar ryw greadur neu fod I yno fwgan. Cryfhaodd yr ofnau. Parha- odd y twrw i gynyddu. Methodd y merch- ed a dal heb lefain am help. Agorodd yr hen wreigan ffenast y llofft, rhoddodd ei chap nos hefo'i phen ynddo fo allan o'r ffenast, a gwaeddodd, "Ha, ddyn, pwy sy' yna ? Os na ddeydwch chi mi a i i nol J— J-, D y 1 G- W-, a Bob J Yna gwaeddodd, "Os dyn sy yna, deydwch, a. down i agor i chi." Yn nghanol y cwbl dyma drwst cerddad yn dyfod ar hyd y ffordd. Gwelwyd toe mai dyn oedd yn dwad c un o'i ymweliada carwriaethol. Erfyniwyd am ei gynorthwy. Petrusai ar y cyntaf ddangos ei hun rhag i'r merchad ei nabod o. Ond erfyniwyd arno i roi help llaw, ao ufuddhaodd. Dynesodd at ddrws y gegin, clywai y twrw, ac arswydai. "Cedweh yn glir oddiwrth y drws," meddai, "ac mi agora i o." Agorwyd drws y gegin yn sydyn, ac mor sydyn a hyny dyma gi cymydog allan fel shot, wedi cael llond ei stumog o laeth da! Y peth cynta ddeyd- odd y carwr anturiaethus wrth y merchad oedd, "Rwan, gwyliwch rhag i Jack y Llongwr gael gafael ar yr hanas!" HEIBIO LLANIESTYN. Bydd rhai dynion yn methu cael cariada yn eu lleoedd eu hunain, ac felly byddan yn mynd am foyads i leoedd ereill i chwilio am rai. Daeth dau ar y busnes hwnw y ffc,rdd hon yn ddiweddar. Lie go sal am ganada ydi y ffordd hon. Buasa mor hawdd gen i gael llwyth o 10 o Roshirwaen a chael cariad ar y coast hwn. Pa fodd byli- eg, mentrodd y ddau ddyn diath y job, ac yn siwr i bawb mi ddarun lwyddo. Y MERCHED O'RE. Yn y tren yn d'diweddar yr oedd dwy ddynes yn dwad o'r De i'r Gogledd. Tar- awsant ar gyd-deithiwrs, a chafwyd sgwr- sus am lawar o betha. Gofyaodd un dyn i'r merchad, "A welsoch chi Jack y Llongwr yn y South acw?" "Naddo'n wir, weh' welson ni mono fo. Un go ddrwg ydi o." "Mae o wedi mvnd am dro tua'r South y diwrnod o'r blaen," ebai y brawd. "We!, tewch a d,-yd! Rhen gena iddo fo. Mae o yn siwr o glywad ein bod ni ein dwy wedi mynd am dro i'r North. Ffei biti hefyd TRAMP 0 GRICCIETH TRWY LANYS- TUMDWY AC YN MLAEN. Dyma ardal arddelrehog am dramp yr amsar yma o'r flwyddyn. Pan yn hwylio o Griocieth gofynodd y Siwrin "Ble'n rhwym heddyw, Jack?" Gan fod y Siwrin yn un o foys cleniaf, doniolaf yr ardaloedd, a lot o ogla tar amo fo, a digon o yarns y mor gyno fo, mi ddeydais i ble ron i yn bound. "Sgwer sel iddi hi, machgen i, boo modfadd o'r ffordd," medda fo, ac ymaith a fi. Yn y man gwelais ddau ddyn yn oerdd- ad yn airaf,fei--p" gynyn nhw sgwrs &eiat. Edrychent o'u ewmpas fel pe bydd- ent. yn chwilio am rywbeth. Prysurais atyn nhw, a phan gyrhaeddais clywais eu sgwrs, a deallais be oedd eu busnes. Chwilio am le i ftldio capal yr oeddan nhw. Dyma fel yr oedd y sgwrs Numbar 1: Beth fasach'i yn feddwl o'r tir ymaP Numbar 2: 0, mae y dyn bia hwn yn methu gweled ei ddigon am ei dir. Numbar 1: Dyma chi dir arall. Be am hwn? Numbar 2: Mae perchenog hwn yn methu cael digon o dir. Numbar 1: Edrychwch, dyma lecyn go lew. Gwnai hwn y tro pe ceid o. Numbar 2: Na, wir, 'does dim gobaith am gael hwn. Y parson pia fo. Feiddia fo ddim gwerthu tir i hereticiaid godi addol- d V, am*. Numbar 1: Mae'n anhawdd cael tir hefyd. Bedi hwn acw? Choelia i ddim na nai o y tro yn iawn. Numbai 2: Os gallwn ni ffordd y per- chenog, fe allwn ei gael o, mi rwy'n siwr, burn. Yn mlaen yr awd o hyd. Numbar 1: Mae yn y fan hyn dir, ao mi cawn o yn rhad1, mi rydw'i yn siwr. Mae yma ddigon o geryg at fildio capal. Numbar 2: 0, nawn i ddim byd o honi hi yn y lie hwh. Dacw un capal eisoes yn y lie. A rhaid i ni neyd y capal yn y lie n«wya cyfleus i'r hen aeloda. oedd yn per- tbyn i ni ddwad yma i fyw, a dwad yn ol oddiwrth y didau enwad arall. Mae yn y pen isa rai hen ddwylo wedi troi, ond 'u bod heb gredu. Ar ol hyn oil aethum yn mlaen at efail CI wilog. Os bydd ar ddyn isio clywad y very latest, dyma'r lie. 'Roedd yn yr efail lot o ffarmwrs a dyrnwrs yn prysur drwsio yr injians at y dymu. Rhai da ydi'r ffarm- wrs a'r dyrnwrs am hanas., Bygythiai y naill a'r llall o honyn nhw attfbn eu hanas i Jack y Llongwr. 'Rwy' wedi gwbod yrwan yn mha le ora i gael y news heb i neb anfon i mi. Cymeryd y mail tren am Chwilog a thacio o'r stashion at Bont yr Inn, a bydd yno bethau rhyfadd yn cael eu dweyd a'u gwelad. Bydd gen i dipyn oddiyno y tro nesa.
OLD FALSE TEETH BOUGHT.
OLD FALSE TEETH BOUGHT. Many ladies and gentlemen have by them old or disused false teeth, which might as well be turned into money. Messrs R. D. and J. B. Fraser, of Princes street, Ipswich (established since 1833), buy old false teeth. If you send your teeth to them they will remit you by return post the utmost value; or, if preferred, they will make you the best offer, and hold the teeth over for your re- ply. If refence necessary apply to llotisri Ihc::u and Co., Bankets, Tprwich.
TON-It'RWY'N MYNU BOD YN AELOD.
TON-It'RWY'N MYNU BOD YN AELOD. Mae rhai am fod yn berchen ar Ryw fwy na mwy o arian, Mae ereill am gael bri a chlod, -Am hyn eu haur a wurian',— Ond nid wyf fi yn hidio dim Am bethau mor ddisylwedd, Gosodaf fi fy mryd yn llwyr Ar eistedd yn y Senedd. Mae rhai yn canu clod sir Gaer, Mae rhai dros Aberteifi, 0 Fon i Fynwy nid oes sir Na cheiT ryw rai i'w moli, Brycheiniog, Penfro, Arfon, Fflint, A'r lleill-fe glywch eu clodydd,— —Ond o bob sir yng Nghymru Wen Yr oreu yw Meirionydd. Mae llawer llanerch gu i'w chael Yn siroedd anwyl Cymru, Gysegrwyd ddyddiau gynt gan draed Y rhai fu'n efengylu, Ond o bob man dan wenau haul Y goreu, meiddiaf ddala, Yw'r ardal a gysegrwyd gan Athryiith Charles o'r Bala. Ryddfrydwyr Meirion, clywch fy nghri A rhowch i mi'ch pleidleisiau, —'Does genyf fawr o'r dawn na'r dysg Na'r dalent sydd yn eisiau, Ond cyfoeth sydd i mi'n ddidrai, Fel y mae rhai yn gwybod, —Ac nid yw'r Cymry'n gofyn dim Ond hyn yn awr mewn aelod. JOHN BOWEN ROBERTS. Hampstead, N.W.
Byrhau'r Ffordd o LerpwJ I…
Byrhau'r Ffordd o LerpwJ I Cymru. Da genym ddeall fod hyrwyddwyr y sy- mudiad i wneyd rheilffordd newydd o Lerpwl i Rhyl a Gogledd Cymru yn pen- derfynu myn'd yn mlaen. Yn un o bap- yrau Lerpwl, rai dyddiau yn ol, ymddang- osodd barn y trafnoddwr profiadol, Mr P. Mostyn Williams, ar y cynllun. Cred Mr Williams y byddai twnel tan y Ddyfrdwy rhwng Hoylake yn sir Gaer a'r Point of Ayr yn sir FfIint yn amgenach na phont trosti o West Kirby i Fostyn—yn rhatach ac yn ymyryd llai a mordwyaeth yr afon; a diau mai dyna'r cynllun goreu. Gwyr y sawl a gafodd gyfleusdra i deithio ar reil- ffordd danddaearol newydd Llundain, lie y defnyddir trydan fel ysgogydd, mor gy- surus ydyw rhagor yr hen Underground fyglyd a thaglyd lie y defnyddir ager. Byddai y reiltfordd newydd o gymaint budd masnachol a mantais i'r cyhoedd- fel y dylai Bwrdd Masnach helpu yr an- turiaeth mewn modd sylweddol trwy gyf- ranu yn helaeth at ei gwneuthuriad.
Pwy fyid Athrawon Cymru?
Pwy fyid Athrawon Cymru? GAN O. M. EDWARDS, M.A. 0 bob blwyddyn a fu, a hwyrach o bob blwyddyn a ddaw, y flwyauyn 1894 fydd y bwysicaf yn hanes Cymru. Yn y flwyddyn hon yr ydym yn gortten adeiladwaith moddion addysg ein gwlad. Os bydd yr adeiladwaith yn dda, bydd yn fagwrle i genedl wna les anrhaethol yn y byd; os mai wedi ei gam adeiladu y bydd, bydd ei dynuu i lawr yn well gwaith na'i adeiladu, ac yn waith anhawddach. Y mae ysgol elfennol, erbyn hyn, bron ymhob cwm. Y mae'r ysgolion canolradd yn prysur godi yn ein gwahanol siroedd. Y mae llwydd- iant ein colegau cenedlaethol yn rhyfedd- od. Ac y mae Prifysgol Cymru wedi ei sicrhau. Y peth cyntaf a broffwydid y mae'n awr yn faith,—"bydd gan Gymru'n fuan y gyfundrefn addysg oreu yn y byd." Ond yr wyf yn rhagweled peryglon; a gall rhai, a'r rhai hyny mewn awdurdod, fod yn agored iddynt yn ystod y flwyddyn bwysig hon. Un perygl ydyw diffyg mewn Cymry. Un o gwestiynau pwysig dechre'r flwyddyn ydyw,—Pwy a gawn yn athrawon ein hys- golion canolraddol? Y mae pob ateb wel- ais i yn cymeryd dau beth yn ganiataol. Un peth ydyw na fydd digon o Gymry i'r holl leoedd; a pheth arall ydyw mai o drugaredd ag ef, ac nid oherwydd ei gym- hwyster, y bydd raid apwyntio llawer Cymro. Y mae cymeryd y peth cyntaf yna'n ganiataol, yn sicr, yn sen i golegau Cymru nad ydynt wedi haeddu mohoni erioed. Y mae digon o Gymry, o alluoedd diamheuol, ac wedi cael pob cymhwyster fedr colegau Cymru a phrifysgolion Pry- dain roddi iddynt, i lenwi pob lie fydd yn agored. Sen greulonach i Gymro ydyw cymeryd yn ganiataol na fydd yn gystal athraw ag estron. Ni fuasai neb yn tybied hyn am Gymro ond un o'i genedl ei hun. Gwelais bapurau cannoedd o ymgeiswyr am ysgol- oriaethau Rhydychen,-cofier yr ystyrir y papurau hynny'n brawf goreu o allu'r gwr ieuano ao o'r gwaith wna yn y dyfodol,-ao ymysg goreuon y rhai hynny yr oedd bechgyn Cymru'n amlwg. Y mae medru Cymraeg,—iaith ag y mae symledd ac amlder geiriau darluniadol yn ei nodweddu,—yn ^mhorth anrhaethol i ysgrifennu arddull Saesneg dda. j "Rhodder y swydd i Gymro os na fydd eatron yn rhagori rhyw lawer arno." Wfft i'r fath ffolineb! Ai ychydig yw medrtt siarad ac ysgrifennu mewn dwy iaith, a meddwl ynddynt? Pe medrai Sais neu Ysgotyn neu Wyddel ryw iaith megis Francaeg, a hynny mor berffaith ag y medr Cymro Gymraeg, byddai ei gymhwyster i ddysgu yn debyg i gymhwyster Cymro. Ond, wrth gwrs, ni fydd mor ddefnyddiol yng Nghymru. Dechreuais i fy addysg dan athraw na siaradai ond Saesneg, a bu fy ysgol yn drueni ac yn waeth nag anwybodaeth imi. Bum mewn Ysgol Ramadegol dan Saia un- iaith,-n etholwyd gan Tai dybiai'r hen dyb greulon a diraddiol mai Sais fedr ddysgu Cymro orou, yr wyf wedi pen- derfynu, wedi profi chwerwder yr addysg waeth na diddefnydd honno, y gwnaf fy ngoreu i gyhoeddi'r gwirionedd yma, nas gall neb ddysgu bachgen o Gymro'n iawn, ond un yn medru'r iaith Gymraeg. Diffyg arall ydyw ofn ymddangos yn clannish. Y mae ar lawer llywodraethwr ysgol ofn gwneyd ei ddyledswydd rhag cael ei wawdio am ei clannishness. Yr wyf wedi byw yng Nghymru ao yn Lloegr ac yn yr Alban, a'm profiad yw hyn,—nad yw'r Cymro banner mor clannish a'r Sais, ac nad yw chwarter mor clannish a'r Ysgotyn. Ond yng Nghymru, y mae awydd am ymddangos yn deg yn peri i lyw- odraethwyr ysgolion wneyd cam dybryd a bechgyn Cymru. Diffyg clannishness yw ein bai ni. Y mae'n bryd i gyfiawnder gael ei wneyd a'r Cymry sy'n parotoi eu hunain at fod yn athrawon.
YR HEN WR LLON.
YR HEN WR LLON. "R'ych yn hen,, fewyrth William," meddai rhj n lane, "Eiell Ilaegwallt a'ch barf sydd yn wyn; ond lion y'ch er byny, a chiyfaoh na mi, O! d'wedwch pa fodd y mae hyn ? Mae'm giau i'n weinion, a'm archwaetb yn wall, Ac ofnwyf mai pychu yr wyf; Ond, er dwywaith fy oed, eich nertb chwi barha, Fel pe na ba'i diwedd i'ch nwyf. Mae'n rhaid fod rhyw achos i'ch iechyd di- ail, A hefyd i'm nychdod mawr i; Rhown haner fy nghyfoeth am feddiant o'ch nerth, 0 d'wedwch eich secret i mi." "Rwy'n iachus a nerth ol," atebai'r hen wr 'RwVn fywiog a dedwvdd, a rhydd: Ac os hoffech wybod paham 'rwyf fel hyn, Yr ateb yn syml iawn sydd. Na flinweh feddygon,na lyncwch Bills mwy, Ond gyrwch, nac oedwch yn hwy, Am Gwilym Evans Bitters, y peth raid i'ch gael Ar ei fynycK ddefnyddio, 0, byddwch yn hael, Ac ni theimlwch yn afiach byth mwy. Dylai y prynwr ochel efelychiadau o'r Bitters hyn, trwy edrych fod enw Gwilym Evans ar label, y stamp, a'r botel. Ar werth gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un, neu gellir ei gael drwy y post oddiwrth y perchenogion-Quinine Bitters Manufacturing Co., Limited, Llan- elly. South Wales.
[No title]
Cymerwyd dyn arall i'r ddalfa mewn cysylltiad a iladrad y gemau yn Moffat. Germanwr ydyw y carcharor, a bu yn gwasanaethu ar droion yn Ngwesty yr Hydropathic. Dydd Mercher derbyniodd glowr o'r enw Edward Phoenix, trigain mlwydd oed, yr hwn. oedd yn byw yn Railway terrace, Gwer- syllt, niweidiau difrifol drwy iddo syrthio yn nglofa Brynmally. Bu farw yn mhen deng munyd ar 01 hyny.
0 BEN Y TWR.
0 BEN Y TWR. YSGOL SIR DOSBARTH LLANBERIS. I Agorwyd Ysgol Ganolradd dosbarth Llanberis yr wythnos ddiweddaf. Def- nyddiwyd bazzaar at y pwrpas, er mwyn cyllid y sefydliad. Y mae sail i gredu fod llafur aaiferth y pwyllgor a, boneddigesau egnioL y dosbarth wedi ei goroni a mesur da o lwyddiant. Lleolwyd yr ysgoldy yn Mrynlrefail. Dair blynedd yn ol gallasai cellweirddyn ofyn gyda gwawd yn nhroell ei leferydd, "A ddichon dim da ddyfod o Bryn'refail, bro dinodedd?" Eto i ran y dreflan fechan hono treflan heb nag ysgoldy elfenol nag eglwys blwy' na chapel anwes- yr aeth yr Ysgol Sirol-gwrthrych blyst a brwydrau cethin tref Llanberis am lawer o fisoedd. Ac o ddamwain y bu. Lleoliad canolog y tri phlwy' a ffurfient y dosbarth a fu'r ffawd a benderfynodd y dewisiad yn ffafr y pentref hwnw. Amser a ddengys ai doeth ynte annoeth y dewis- iad. Gwyddoniaeth fydd prif neillduol- irwydd addysg yr ysgol. Yn ol cynUun addysg yr Ysgolion Canolradd y mae eiddo dosbarth Llanberis yn ffurfio un o drindod y Gwyddoniaid-Penygroes a. Bethesda yw y ddwy arall. YSGOLION CYMREIG-ATHRAWON SEISNIG. Nid yn fynych y bydd Llywiawdwyr Addysg Ganalradd Arfon yn cwympo i am- ryfusedd cadam ac yn cyflawni ynfyd- rwydd. Profasant yr wythnos ddiweddaf er hyny gywirdeb y wireb, "Pan gwymp y call efe a gwymp yn ddwfn." Heddyw y mae holl Gymru yn synu o'u plegyd. Penodasant Sais di-Gymraeg yn brifathraw Ysgol Ganolradd dosbarth Llanberis. A gwaeth na hyny, mynodd y cyfarfod droi dyfarniad y pwyllgor dewis o'r neilldu a gwrthodasant Gymro cyfarwydd, er ei fod goruwch y Sais fel ysgolhaig. Dodai y mwyafrif bwys ar radd wyddonol y Sais; ond megis y svlwodd y cyfreithiwr craff a Bwllheli, "Lol i gyd yw hyny." Da y gwyr yr hyddysg y gwna tipyn o wyddoniaeth elfenol y tro er hyfforddi ysgolorion bych- ain Ysgol Ganolradd. Y mae gweithred ehud fel hon yn tetntio y cyhoedd i goelio, fod rhyw ysbryd heblaw yr un gwladgarol yn cymell rhai o'r "mwyafrif" i wrthod yr ymgeisydd Cymreig, yr'hwn hefyd oedd yr ysgolhaig penaf. Os felly, nid oes fodd condemnio y weithred gyda gormod llym- der. Er yn dywedyd fel hyn, ni fynwn ymuno a'r byrdwn penffol, "Cymru i'r Cymro," nac hyd yn oed "Prydain i'r Pry- deiniwr.' GwelI o lawer egwydd'or mas- nach rydd mewn addysg megis yn mhob peth. Eled Cymry dysgedig yn benaeth- iaid sefydliadau Seisnig ac Ysgotaidd, a deued Ysgotiaid a Saeson hyfedr i Gymru; ac os yn meddu ar ragoriaethau na fedd ymgeiswyr Cymreig, ar bob cyfrif rhodder y swyddi iddynt. Ie, dewiser y dyn goreu, ond gofaler ei fod ef yn oreu. Ac yn sicr y mae bod yn hyddysg yn y Gymraeg yn gyfran lied bwysig yn y goreu hwnw. GYDA'R GWYDDONWYR Yn nhref Bradford y cyfarfu Cymanfa Gwyddonwyr Prydain y flwyddyn hon. Dechreuasant ar y gweithrediadau ddydd Mercher. Syr W. Turner, y meddyg hy- fedr o Edinburgh, oedd y llywydd. "Modd- ioii gwycHdoniae-th sylwgarwch ac ad- fyfyrdod," oedd pwnc ei anerchiad. Cy- merodd dram eang a thra dyddorol ar gynydd gwyddonol y ganrif. Wrth ddwyn ei sylwaaau i ben, syiwodd fod Iiriogaetli bywyd eto yn aros o dan leni tragwyddol o ddirgelwch. Pan aeth y gorciiv nyn allan, "Bydded bywyd," a bywyd a fu. Nis gellir dyweud ychwaneg am y dechr"U,id hwnw na'i fod! wedi cychwyn draw jnevvn pellder annirnadwy. Cj'merodd ffurfiau anei^f, ac o'r diwedd, JT olaf a'r godidocaf o'r holl ffurfiau, wele Ddyn yn llamu allan gan gydio yn awenau arglwyddiaeth ar yr holl ffurfiau. Ond i Gymro, yr hyn sydd yn meddu prif swyn yn Nghymanfa'r Gwyddonwyr eleni oedd presenoldeb ein cydwladwr hynaws o Rydychen-y Prif- athraw John Rhys fel llywydd adran Dyniaduraeth (anthropology). "Cenedleg cyn-hanesiol Brydeinig," oedd pwnc ei an- erchiad. Ac megis pob peth o'i eiddo, gwisgodd ef a swyn diddarfod. Yn ei ar- drem dilynodd genedleg y wlad hon o amserau pell y bobl fychain a enwir yn Dylwythion Teg. Hwynthwy oedd pres- wylwyr cyntaf neu foreuaf y wlad. Dilyn- wyd hwy gan do y Pictiaid-pobl yn ar- luneiddio eu hunain dros eu cyrff mes;is y gwna morwyr weithiau. Wedi hyny daeth yr Iberiaid, a'r Celtiaid ar eu lledol hwythau. Aeth Dr Rhys yn ol gan ail gychwyn eilwaith gyda chwrs ieitheg y Goedelaeg, Brythonaeg, a'r Gymrag. Yn yr un adran bu Mr Arthur J. Evans yn cyfarddu ei wrandawyr a'r dargan- fyddiadau rhyfedd a wnaeth efe yn Mhalas y Minos yn Knossos yn Ynys Crete. TRANSVAAL TIRIOGAETH BRYDEINIG. Ffaith fawr yr wythnos oedd gwaith Ar- glwydd Roberts yn cyhoeddi ei fod yn cy- meryd meddiant swyddogol o'r Transvaal, gan ei huno a'r Ymherodraeth Brydeinig. Wrth gwrs, teimlodd Mr Kruger ei bod yn dldyledswydd arno wrthdystio, a gwnaeth felly: ar yr un pryd, y mae pob argoelion yn oyfeirio at y ffaith ei fod a'i fryd ar ffoi i Ewrob, pe gallai. Dri mis yn ol cymer- wyd meddiant. swyddogol o Diriogaeth yr Afon Felen. Peidiodd y Weriniaeth yn Ne Affrig, gan hyny. Bellach, rhaid edrych ar y wiad anferth o'r Faal Uchaf hyd Afon y Crooodiliakl, ao o Mafeking hyd Fryheid fe' dam newydd o'r Ymherodraeth. Gwir fod De Wet a. Botha a Theran heb eu dal; pto, drwy y cyhoeddiad cyfnewidiwyd eu cy- meriad o fod yn gadfridogion byddinoedd estronol i fod yn ysgleifwyr a herwhelwyr Prydeinig. Bellach ymddygir atynt megis carnladron a gwrtbryfelwyr. Rhaid coelio fod mesur helaeth o anfoddogrwydd yn mhlith y cadlnoeddl Boeraidd. Heblaw y rhai sydd yn gwirfodldol roddi eu hunain i fyny bron yn ddyddiol, y mae minteioedd Botha ao eraill yn symud eu cad-ddarpar- iadau a'u defnyddiau ymborth o fan i fan. Pywedir eu bod yn ystod yr wythnos wedi eu symud i fangre o'r enw Gorphwysfa'r Pcrerin. A Mr Kruger a Mr Steyn yno hfcfyd. Y mae y lie hwnw rhyw 22ain mill- dir i'r gogledd-ddwyrain c Lydenburg. Gan dybied fod yn mryd y Booriaid i groesi'r ffin y mae Llywodraeth Portugal ar fedr an- fon cadlu o fil er atal hyny. Cyn gollwng y carcharorion Prydeinig o Nooitgedacht anerohodd y Cadlywydd Viljoen hwy gan ddweyd ei fod yn gobeithio cael eu cyfrif fel cyfeillion ar fyrder. Mewn atebiad i ymholiad, dvwedodd arwyddonwyr Botha wrth arwyddonwyV Buller na feiddient hwy roddi eu harfau i lawr: gorchymyn Botha oedd fod yn rhaid ymladd. Y casgliad, gan hyny, yw mai y tri neu bedwar o benaeth- iaid yn unig sydd yn mynu parhau yr ym- gyrch, a hyny yn benaf am na fynent fodd- lcni i'r syniad o gael eu halltudio i India. Ymddengys v bydd i Arglwydd Roberts a'r Cadfridog Baden-Powell gyrhaedd gartref vn fuan bellach. Cymer y Cadfridog Buller lo "Bobs."
Arddangosfa Arddwrol Talsarnau
Arddangosfa Arddwrol Talsarnau Dydd Iau, yn y Glyn, Talsaraau, cyn- haliwyd yr arddangosfa uchod. Mr R. Jones Morris, Ty Cerig, oedd yr ysgrifen- ydd. Beirniaid cynyrch y gerddi a'r ffrwythau, Mr John Roberts, Tanybwlch; y bwthynod a'r gerddi, Cyrnol Egerton a Mr R. Jones Morris, Ty Cerig; y gwniad- waith, &c., Miss Halliday, Glyn. Am yr ardd a drinir oreu yn mhlwyf Llandecwyn 1, Ellis Hughes, Penygareg; 2, Fanny Evans, Glanyrafon. Am y planhigyn ffenestr goreu 1, C. Jones, Bryn street, Talsarnau; 2, Kate Jones, Capel Fawnog. Am y bwysi o flodau wedi eu tori: 1, A. Hughes, Penygareg; 2, Ann Owen, Bron- ygarth Soar. Am y pytatws kidney (cynar) goreu: 1, John Lloyd, Ogof; 2, Hannah Williams, Soar; 3, Griffith Roberts, Bryntirion. Eto diweddar: 1, John Lloyd, Ogof; 2, G. Griffiths, Rhydgoch; 3, G. Roberts, Pandy. Am y pytatws crynion (cynar) goreu: 1, Edward Ellis, Harlech; 2, Ellen Morris, Llofft Seler; 3, G. Griffiths, Rhydgoch. Eto diweddar: 1, Ellis Hughes, Pc- gareg 2, G. Griffiths, Rhydgoch; 3, 1. Morris, Llofft Seler. Am y bresych goreu: 1, Edward Ellis, Harlech; 2, John Williams, Ty Capel; 3, J. Evans, Fuches wen bach. Am y wynwyn goreu 1, Edward Ellis, Harlech; 2, Ellis Hughes, Penygareg; 3, G. Roberts, Pandy. Am y wynwyn dodwy goreu: 1, John Jones, Glanywern 2, John Hughes, Ty'n- llan; 3, W. Jones, Glanllyn. Ffa yn eu codau 1, Ellis Hughes, Pen- ygareg; 2, Hugh Evans, Castell; 3, G. Roberts, Pandy Am y llysiau cochion: 1, John Williams, Fron Yw; 2, Ellen Morris, Llofft Seler; 3, Ellis Hughes, Penygareg; 4, J. Jones, Glanywern. Am y llysiau Gwyddelig: 1, John Lloyd, Ogof; 2, J. Williams, Fron Yw; 3, E. Ellis, Harlech; 4, Ellis Hughes, Peny- gareg. Maip: 1, J. Jones, Glanywern; 2, G. Roberts, Pandy; 3, Jonathan Parry, Tal- sarnau. Y casgliad goreu o ber-lysiau: 1, Hannah Williams, Soar; 2, Hugh Evans, Castell; 3, E. Williams, Ty Capel, Soar; 4, Ellen Griffiths, Bronygarth. Cenin: 1, Edward Ellis, Harlech; 2, John Lloyd, Ogof; 3, G. Roberts, Pandy. Ffa Ffrengig: 1, Ellis Hughes, Peny- gareg; 2, G. Roberts, Pandy. Pys yn eu codau 1, Morgan Evans, Glanrafon; 2, Ellis Hughes, Penygareg; 3, G. Roberts, Pandy. Y casgliad goreu o fwyd-lysiau 1, Ellis Hughes, Penygareg; 2, J. Williams, Fron Yw; 3, G. Roberts, Pandy. Betys (beetroot): 1, Ellis Hughes, Pen- ygareg; 2, E. Ellis, Harlech; 3, G. Ro- berts, Pandy. Afalau (dessert): 1, G. Roberts, Pandy; 2, J. Evans, Fuches Wen Bach. Eto (coginio): 1, Jonathan Parry, Tal- sarnau; 2, J. Shuttleworth. Eirin 1, D. Evans, Efail Crwm; 2, M. Morris, Eisingrig; 3, G. Roberts, Pandy. Mel: 1, John Williams, Aelybryn. Ymenyn (pwys), lie y cedwir dwy ..uwch: 1, Mary Griffiths, Rhydgoch; 2, Mary A. Morris, Eisingrig; 3, Sarah Lloyd, Ogof; 4, Ellen Jones, Tynyfron. Gwniadwaith (rhai uwchlaw 16 mlwydd oed.): Am y crys main 1, Margaret Roberts, Tanymarian. Am y crys plaen: 1, Annie Griffiths, Ynys; 2, Margaret Roberts, Tanymarian. Am y crys merch 1, Margaret Roberts, Tanymarian; 2, Elizabeth Jones, Soar; 3, Kate Hughes, Glasfryn. Hulyn gwely o glytwaith amryliw 1, M. Roberts, Soar. Par o ddillad babi: 1, Margaret Roberts, Soar. Par o hosanau wedi eu brodio: 1, Laura Roberts, Tanymarian; 2, Margaret Ro- berts, Soar. Par o hosanau ribs: 1, Elizabeth Jones, Soar; 2, Hannah Williams, Soar; 3, j Catherine Jones, Bryn street, Talsarnau. Par o hosanau plaen: 1, Hannah Wil- liams, Soar; 2, Elizabeth Jones, Soar; 3, Ann Jones, Lloyd terrace, Talsarnau. Crys merch (dosbpirth dan 16 mlwydd oed): 1 Ellen Jones, Gareg^ ro; 2, Jennie Roberts, Tanymarian. HoSanau wedi eu brodio 1, Esther Ro- berts, Tanymarian; 2, Jennie Roberts, Tanymarian. Gwaith brodio 1, Esther Roberts, Tan- ymarian; 2, Jennie Roberts, eto. Hosanau ribs 1 Laura Williams, Soar; 2, Kate Pritchard, Bron Yw. Olwt wedi ei wnio ar galico: 1, Elizabeth Jones, Soar; 2, Elizabeth Jones Gareg- yro. Unrhyw ddilledyn gwlanen wedi ei drwsio: 1, Laura Roberts, Soar; 2, Mar- garet Roberts, Tanymarian. Y bwthyn glanaf a mwyaf trefnus. Dos. I. Plwyf Llanfihangel y traethau: 1, J. M. Owen, Garth, Soar; 2, Kate Jones, Capel Fawnog; 3, Ellen Morris, Llofft Seler.—Dos. II. Yr hen dai: 1, Elizabeth Jones, Soar; 2, Martha Hughes, Ty uchaf. Am yr ardd a drinir oreu: 1, Griffith Roberts, Pandy; 2, John Williams, Fron Yw. Am y bwthyn glanaf a mwyaf trefnus yn mhlwyf Llandecwyn: 1, Elizabeth Wil- liams, Dolorgan 2, Elizabeth Griffiths, Cei Newydd; 3, Alice Hughes, Peny- gareg; 4, Fanny Evans, Glanrafon. :II$.
Advertising
I THOMAS' DRUG -TORES, 118, Kinvoland Pd., Lon^ n, N.R. Genito-Urin-try, Skin and Blood (tiMAMR. LoM of N. Power. Varicocele, ) And Allied n evibles, cured by Special Treatment, I "('' TQ"" 'F"IW'. I Rbestr o Lyfrau CYHOEDDEDIG AC AR WERTII GAN GWMNI'R WASG GENEDLAETHOL GYMREIG <CYF.), 8WYD0FA'R "GENEDL," CAERNARFON. W asilir cael yr oil ilyrmn load drwy y post ond anfon le. u War pob BwlN at y cludiad. r OLOCUTIO* AND ORJLIORL, mm Designed for Cuuaes and Private Sta- dents. By the Rev. T. C. EDWARDS, D.D., Professor of Elocution. Graduate of the National School of Elocution and Oratory, Philadelphia. U S.A. Price 2s. 6d CONTENTS How to Sa, QuesUOBS and Answers—Breathing ItioreigOO-Azdculation- Vocal Exercises Vocal Forms-Geature- Reading Poetry—Reading the Biblo-Hyma Heading — Dramatic Selections Oratorical Se,ections-Mismilaneous Selections. THE YISIONS OF THE SLEBiÏWG A BIRD, being Ellis Wynne's ftwrtedlf- J^thea y Bardd <Jwse." Translated hy .neddon Davies. Price a*. M. ILLUSTRAT-ONS Glasynys, tko birthlilao of Figs Wynxt; I. > of Ellis Wynnt's Handwriting- CONXHN Genealogical Tables-Introdue- don—The Author's Life—The Text—The Sum- mary- I. Vision of the World U. Vision of Death in. vision of Hell-Not. k rweInydd llysieuol I IECYD-DR. COFFIN, sef Meddygddysg Natunol yn wyneb Afiechyd; wedi ei gyfititho I r Gymraeg o'r Seithfed Argraphiad Saesoneg. Argraphiad newydd diwygiedig Prls 8s. 6e. CVNWJAD: Rbagarweiniad-I. Am Fywyd ag Ysgogiad 11. Parhad III. Am ranaa Cyfansoddiaaol y Corph Dynol-IV. Am Natur Afiechyd V. Am Gyfryngau Physygwrol yr Ysgolion Meddygol- VI. Parhad VII. Cyf. ryngau Iachaol Natur-VIII Llysiau Bolrwymol —IX. Meddyginiaethau Cryfhaol neu Chwerwoo —X. Dwfr-Beryddion XI. Meddyginiaethau Gwrth-Glafriol—XII Meddyginiaethau Giang) AliI. Cartholion, neu Feddyginiaethau Rhyda- baol-XIV. Sylweddau Uysnafeddawg-xv Enaint ac Elion-XVI- Am Ymborthiz-XVII. Anhwylderau Plant- Dolur 1 Genam-Magg T)anf-dd-Y Llyngyr-Y Frech Wen-Brech y Fuwch—Brechyrleir—YFreehGocn YClefyd Coch —Y Pis —XVIII. Diffyg Treuliad—Y Clefyd Metya-XIX. Y parlys-Y Gewynwsi —Y Gymalwst-Dawns St. Vitus-XX, Llewjnjj feydd Dirdyniadol—Haint Dygwydd— Ceydd y Fam —XXI. Y Par!/S Mud — XXII. ^ylymau Gwythi—Isder Ysbryd—Bolrwymedu —XXIII. Y Colic — Y Geri Marwol — XXIV. :;eri Asia-XXV. Rhyddni y Corph Clefyd 1 Gwaed-Clwyf y Marchogion-XXVI. Gwaeda drwy y Ffroenau Crychneidiad y Galon Taflfad Crach-Boer—Dolur o'r Pen XXVII. Chwydd Coch — Tan Eiddwf — Llosgiad yr Vmenydd Clwyf y Llvgad Dolur Gwddi Cbvyddedig XXVIII. Y Dolur Gwddf Pwdr —Dolur Gwddf (Croup)—Yr Eisglwyf-Chwydd Coch yr Ysgyfaint XXIX. Chwydd Coca y CyJla Chwydd Coch yr Afu—Chwydd yr Ymysgaroedd — Chwydd Coch yr tlwlod- —Y Gynddaredd XXX. Y Dropsi Asthma, neu Glefyd yr Ysgyfaint XXXI. Darfodedigaeth yr Ysgyfaint—XXXII. Parhad Darfodedigaeth -XXXIII. Y Man-Wynion a'r Scyrf-Dolur- iax. y Giust-Byddardod-Ytngrafu. t r yr Itch -L)osg Tin a Ysgaldiad-Liosg Eira eu Rew yn y Cnawd—XXXIV. Clefyd—XXXV. Byd vrreigaeth, ac Afiechyd Benywod — XXXVI Gosod Esgyrn XXXVII. Y Dolur Drwg- •vddysgiadau yn mherthynas i Gasglu a Chadw Rhisgl, ft ffims CYMRU. Gan Owtn M. livardl, .,I. Y mae y ddwy raa yw awr ya bared. Jhris Is. 6e. y* aa. .XZTjZKSI* Via •> LI,. CYNWYSIAD: Cymrs-T Cenhodloodd Cl tvydm —Y Rbafelnlaid- Y Sasson-Arthur-Maelgwn Gwynedd-Brwydr Caer-Colli'r GogJedd-Y Cexmedloedd Duon-Dan Frenin Galluog-YT Has Grefydd- Y Grefydd Newydd—Trem yn 01. Kb am ii. jiyd farvolaeth Graliydd ab ovass ya 11S7. CYNWYSIAD Ymosedwr Nowydd-Tri Chryl Arft-Dan Dywysog—Brycheiniog a Morgan- awr-Caetlûwed Gruffydd ab Cynan-Rhyfel- oedd y Brenin Coch Llethu'r Norman a'r Cymro—Geni Gwladgarwch Owen ab Cad- wgan Grufydd ab Rhys Eglwys Cymru— Diwedd y ddau Ruffydd pA FODD I DDARLLEN Y BEIBL. Gan y Proff. W. F. Adeney, M.A. Wedi ei gyfietthu gan y Parch. D. E. Jenkins, Porth- madog, gyda Rhagymadrodd gan y Parch. Rd Hughes, B A., Aberystwyth. Prls Is. Lllao, Is. 6e. 0 bob lie, fe ddylid dysgn'r gwir ya yr Ysgof Sul. ac i bob Cristion, y cwestiwn cyntaf yn, BETH SYDD WIR ? Cyn belled ag y mae yr oosibl, ar hyn o bryd, gall yr efrydydd gal" gwybod hyny yn y llyfryn bychan hwn. Dyl* fod yn meddiant pob Cymro." 1?.R MWYN IESU. Gan Owen M. EA Idwards, M.A. Prla SwUt. Cloriau Saled, Is. _f CYNMWYSIAD: Allor newydd — rtrainc ai'i Xesa Diwygwyr Paris—Y Gwenith Addfed- Dechreu'r Erlid-Bronin mewn penbletb-" Llais Udgorn TaD hen Aelwyd — Dinasoeda Noddia — Merindol — Yr Hen a'r Newydd- Deddf Greulon—Eglwys Galfiaaidd Ffrainc- Gobaitk am Noddfa—Arweinwyr—Cydfrad" ?• laeth Ajmboise-Cynhadledd Poissy-Diweinio'. Cledd—CynllT11 a BrA-ydrau-Cyflafan D. »wyl Bartholomew — Diwedd yr Hen Genheo aeth—Hiraeth yr Anialwch. E. GLADSTONE. Gan j di* • veddw IP fFARMWK. Pris 1 Lilian, It. 64. Un o'r llyfrau mwyaf cryno a ehynwysfov vn cynwys amryw ddarluniau. CYNWYSIAD: I. Bore Oes-II. Cychwyn £ •' Gwleidyddwr-III. Cymeryd Swydd-IV. Yr y Cyngor Cyfrin-V. Masnach Rydd-VI. Dyngarwr-VII. Ei Gyllideb cyntaf-VIII Ynysoedd lonia-IX. Treth y Papyr—X. NewiJ Etbolaeth-XI. Ei Weinyddiaeth tylcktaf-XII. Ya nhir neillduaeth—XIII. Ei Ail Weiayd^' iaeth-XIV. Ei Drydedd Weiayddiaeth—^ »■ Ei Bedwaredd Weinyddiaeth—XVI. U fiaul-XVII. Mr. Gladstone a ChymM Ei Bedwaredd Weinyddiaeth—XVI. Mae*4 rtanl—XVII. Mr. Gladstone a Chyrnm. *6, rjHWARRLI A CHWARB^yJ V Gan W. J. Parry. Bethesda, CyO'^Zv yr Undeb. Cynwysa wybodseth tra g^»rt» fawr, na cheir yn un man arall. W li^YNW*siAD: Map cyflawn o Chwarel y Pe«. ^hyn—Rhestr o brisiau Llechi o i»ia "jrd 189 —Hanes Strikes i8aj 1846, » 1884- Cynllun o Fwrdd Cyflafareddol—^rynhodeL a iltadegau y Llywodraeth—Sec-' TFAN MERfcDYDD: Rhamant Gym- JL rejg Digwyddiadau Cyffrous-Anturiaeth au Peryglus. Pris r CYNWYSIAD I- Ansaw yrndeithas, &c.— II. Syr Hugh Madog. Aberglaslyn—III. Cad- ben Ifan Meredydd — IV. Alice Madog —V Meredydd yn Dolfnog—vi. Ymladdfa farwol— VII. Cadben Rhys Wyn a'r "Liwynogod"— VIII. Castell yr Hatod—IX. FHam cariad a serch—X. Arglwydd Harold a Meredydd-XI. Comin Llanfrothen-XII. Cyflwyno'r Allwedd —XIII. Helynt y Saethu-XIV. Harold wedi ei lofruddioXV. Y Cwnstabliaid a'r Ustus- XVI. Meredydd yn galed arno-XVII. Rhwym- edig trwy lw — XVIII. Dirgelwch — XIX. Y Cwpbwrdd yn y mur — XX. Wil Wirion a'i negesau—XXI. Owain Llwyd y Cyfreithiwr- XXII. Cynllunio Bradwriaeth XXIII. Y claddu dan y goeden-XXIV. Ysgarmes flleinig XXV. Ystafell yr Ysprydion-XXVI. Rhy- buddion Difrifol-XXVII. Y Castell ar dân- XXVIII. Datguddio r gyfrinach-XXIX. Addef a Chydnabod-XXX. Hawlio'r Ystld-xxi. Llongyfarchiad. ORIAU YN Y WLAD, neu Gyd- W ymaith Gwyliau Haf. Gan Anthropos. Prit Is. Cloriau caled Is. 6e. CYNHWYSIAD Y Gwahoddiad—Yr Hen Gy- mydogaeth Pont Cwmanog liafdaith yn Lleyn- Yn Mro Goronwy-Haf-ddydd yn Eryr -Melin y Glyn -T-lythyr at Arfunydd-Tair Gdynia Gw.au ti on Fardd-Y Rhcdfa drwy yr Yd-Rhwng y Mynydd a'r Mor—Bedd i Bardd-Eglwys Dwynwen -Ffynon y Tylwyth Teg-Gweled Anian-Yn Mrig yr Hwyr Bardd y Gwanwyn-" Mis Mai. DARLUNIAU: Yn Nyffryn Gurynant-Pont Cwm anog—Yn Mro GoronuY-Haf-ddydd yn ErVri- Eglwys Llanrlzyddlad-Gwlad Eben Fardd-Liax. Dwyitwen—Bro y Llynau—Yn Nyffryn Canwy FJOFIAHT T PARCH. J, PRICHARTT Amlwch (gyda Darlun rhagorol o'r gw.-tb' rych). Gan ei Frawd, yn nghyda Rhagdraetft gan ydiwadftr Barch. W. R. Joues (Goleufry Ma II. Ie. CYNWYSIAD: Rhagymadrodd yr Awdwr Rhagdraeth —I. Aehan Hanes a nodweddioa ai mm Helyntion ei dad yn Mynydd Parya Aelodau eraill o'r teulu—II. Boreu ei oes- Gofal ei fam am dano yn ei ieuenctid- Tyst iolaeth ei hen gyfoedion Ei fywyd hyd ei Jderbyniad yn aelod eglwysig, etc. III. Yo dechreu areithio ar Ddirwest- Yn yr Ysgol Sab- bothol Ei gyfeillgarwch 4'r hen frodyr Yo darparu at y Weinidogaeth-Y gwrthwynebiad a gafodd, a chefnogaeth y Parch. William Roberts, Am] wch -IV. Yn dechreu pregethu- Ei dderbyniad ar brawf gan yr eglwys yt Amlwch Ei fynediad i'r ysgol yn Holt- Myned i'r Bala -Ei benod'ad yn genhadwr I Mancott-Ei briodas Ei ddyfodiad oddiyno I Amlwch—V. Ei ordeiniad i gyflawn waith y weinidogaett -Yn cael y diweddar Barch. David Morgan i Sir Fon, a'i weithgarweh cyn y dI. wygiad a chyd ag ef, yn nghyd a'i fynediad yn fugail i eglwys Peniel, Borth, Amlwch, &c.— VI. Colli ei Briod a'i Blentyn-Yn cyfansoddl Penillion Coffadwriaethol, &c.-Ac yn gofyp syniad y Parch David Jones, Caernarfon, as ?^ynt. &c.—VII Mr. Prichard yn y cyfar- fodydd eglwysig — Tystiolaeth Mr. Owens j 'aenPr am dano—Yn nghyfarfodydd y plant, s ysti°laeth Miss Eleanor Owens am dano— 1 ••• Xp prynu tyddyn—Yn rhoddi ei swydd fugeiliol 1 fyny-Yn dychwelyd i eglwys Amlwch j ■ am e' ^cdyr mewn masnach—Y|j gadeiryda-Ei brofiad a'i sylwadau yn y cwrdd eghyYSlg-IX. Ei bregeth ar Rhuf. v. io-Ej syni»d*u — Ei lafur trwy y Wasp Gymreig Llywydd Cymdeitbasfa Gogledi Cymru A- Adgofion ara Gymdeithasfaoedd y bu yn pregetn" ynddyni,— Llanelli—Caernarfon —Cwm Rh^n ?•—Y Bala—Bor th, Aberystwytis &c—XI. Ei on^u olaf—Ei farwolaeth-Dydd ei Arwyl-Anercbladau ei frodyr-Pregeth ang. laddol Dr. Hughs-Awdl Goffadwriaethol gas Robyn Ddu Eryrl-Yn, nghyda'r Golofn Gota- dwriaethol-XlI- byniadau y Wasg Gymreig- am Mr. Prichard, fel Dyn,^Pregethwr, a Gweia- ldog-Coffi(i y Dyddiadur MethOdistLidd'-Braslun,, Clorianydd yn y Genedl Gymreig—Tystiolaeth r Llusem, Ac.—XIII. Cymdeithasfa y Rhos— Aneachiad ymadawol y Llywydd- Urddas a- Dylanwad ein Cyfundeb IV. Amryw an. erchiadau Ordeiniad gweinidog — Cyngor leaeDoriald -Holwyddori yn yr Ysgel Sul- *V. Hanes y ddadl ar "Fedydd Lydia a) o'i dechreu hyd ei therfyniad — Syi. y wasg-Ynghyda pump o'i Bragetbio, Taflen o'i Destynan. ft^ySUITHAO CYMRO YItt » Hanes Taith i FeusydH Aar „aJ^tat>eleland (y ddwy ran yft un llyfr). Gan W,niam Griffith> M. Iut| uf, gynt o Borthdinorwig. pg. U tW. UTWWTSIAD L-I. Dechrevr dg=Z-;i Fianrelio-II. I r Anlalwch-Milltir yr awr- Ill. Helyntion ar y ffordd-IV. Gyda'r Cen- UMon V. Profian newydd VI. Cyfarf04. Gweddi Rhyfedd—VII. Liewl uew; VH £ Nadroedd a Seirph IX. Kama a Lobengula- X Difyrwch ar y ffordd XI. 200 ulpidat < Goedwig—XII. Y Bechgyn duon-Xiii. A ydd a Chrocodilod—XIV. Cartref Brenhinea Sheba—XV. Yn nghanol y Llewod—Shan IL I. Cyfarfod a Damwain II. Merched Ma. thonaland-iii. Creulondeb y Matabele-tv. Btenhin a Brenhines hynod — V. Syaiadaa". Pagan am Dduw VI. Ofergooliaoth-VKL k ddion Cynhaliaeth-VIII. Budreddi'r Bro- dorion-IX. Pryfaid ac Ymlusgiaid-X. Y Lo- custiaid—XI. Y Morgrug—XII.—Y Behemoth a'r Elephaut XIII Gwaredigaethaa rhyfedd XIV. Adrodd Cbwedlau-XV. Clefydon y Wlad. Ac. DiUOHiA#aftm—A* draws gwlad—Mr. Rhodes—Kama, mtmiMch*. axalatid-Bargeinio am fuyd-Gtmo y wlad—Llew yn rhuthro ar y mulad—Y Fintat Gyn*af—Yp Hospital, Fort Salisbury—Y Gwersyll—Ty a Thnjfe B"dorni Ptntre Brodbrol Y E hemoth too Dobson a r Lkw- l.kw yn ymosod ar Gymro. Oelllr eael f rhanan ar vakaa un Bvllt yr uu ft.WEDI BRAD A GOFID, yn gosod allan Fywyd Cymru yn ei lyfn a'i arw, a chymeriadau Cymreig yn eu teg a'u hagr. Gaa T. Gwynn-Jones. Pris 2s. e. CYNWYSIAD: I. John Llwyd-11. Meistr John Llwyd-III. Beth fydd 1 eaw fo "-IV. Rht., bert Dafydd ac enwau Plant-V. Cyfrinach j Nos-vi. Tin "-VII. Dr. Dafis a'r hyn. a welodd—VIII. "Yr Ysgol bob dydd '-IX. Y Bit Fawr—X. Cysuroa, yr Aelwyd-XI. Byd hgendod-XTI, Prys y TwrnXUI. Bus nes- Teulu Newydd—XIV. Cwt y Glep-XV Ymweliad y Gweinidog—XVI. Own. y Byd— Myfanwy Bowen—XVII. Penbleth. I for Llwyd -XVIII. Pethau UQ Noson-XIX. Ymweliad, Thaaybryn—XX. Pobol Fawr-XXI- Hea yu yiedd-" Sais I "-XXII Marwolaeth, Galar, a Serch-XXUI. Cynhebrwng-XXIV. Ar laa y mor-XXV. Gweu'r rbwyd -XXVI. Llad- aoo "—XXVII. Dyn parchus a dyn anmhatchna —XXVIII. Datod un rhwyd a mvned'fr Uy— XXIX. Wedi'r hoU flynyddoedd ry Ohinek dwbt-XXXI- 1 dial alaf-XXXJi. ¥ tA mid W0FELAD POBLOGAIDD MR A. CHAELK8 ii. BHELDOV. Prig 10. So VBe I. YN EI GAMRAU EF; trxn BKTH WMAB- TU,U ylt IgSt. lpig Ylll FY LLE I? S. CROESHOELIAD PHYLIP STRONG 3 WYTHNOS OLAF RORERT HARDY a BaaCDD^YD aj^gantyniadao. rXBWELYK PARRI. Ffug-Ranat yn gosod allan Echryslonrwydd Bywyd y Medd^yn, a Bendithion Llwyrymwrthodiai pan Llew Llwyfo. Pris 6c. Y 0 RITHINFYNYDD: Helynt Carwriaethol Cymru Fu. Gan y ddi ^••ddar Mrs. Oliver Jones, Birkenhead. Pris fie. DAKLVNIAV Mrs. Oliver Jones.—DaJyH Gwilym. CYNWYSIAD I. Maesaleg-II. Y Daitl- I lpon -111. Dafydd ab Gwilym-IV. MorfuAd-V Y Pedair-ar-hugain—VI.—Ymweliad ag Eithin- K* nydd —VII. Aflwyddiant — VIII. Mi -fudda afydd — IX. Marwolaeth Angharad — X. Y Briodas ya y Llwyn—XI. Dwvn Morfudd ymaitb -IM. Yr Ail Briodas-XIIl. Brynllyn y Bala —XIV. Ymweliad Dafydd-XV. Y Ddihangfa- XVI. Yr Erlynjad-XVII. Yn Nghoed lfor- XVIII. Dwyn Morfudd Adz-f-XIX. Carchaf led. Rhyddhad-XX. Y Diweddglo. NIDEXRIAU IS-QWOO- Gan All- thropon. Lliss hardd, is. CYHWYSIAD Gair o r Gadair—Dadblygiad J Gad air—Cadair Crefydd—-Cadair Gwleidydd- laeth-Cadair y Llefarydd "—Cadair y Bardd —Cadair y Golygydd Cadair yr Awdwr Y Gadair WAIK-CiiLdair yr Aelwyd-Cadair Angel. DARLCNIAC Cadatr Goldsmitk Cadair Ten- mstn —Cadair Dr. Watts- Cadair y Coror.iad — Cadair Shahs}**rt Cadair Butty an—Cadair Charlet Diehens-—Cada\r L*ngjt\iQW—Cadair Robert Roberts, Ctynnag- BSBOIflADAU Y PARCH. RICHARD *-?N?? £ r5T8' BONTNEWY'DD. GENESIS, 8a. EXODflS, a*. JOSUA, lg. SAMUEL, la, rjHWARELI A CHW^HELWYB, W. J. Parry, Bethesda, Cyn-Lywydil yr Undeb. Cynwysa wybodaeth tra gwerth- fawr, na cheir yn un man arall Pris ostyngol 1».> a lg. 6e. CYNWYSIAD: Map cyflawn o Chwarel y Fen- rhyn—Rhestr o brisiau Llechi o 1812 hvd 1897 —Hanes Strikes 1825 1846. 1865, a 1884— Cynllun o Fwrdd Cyflafarecidol-Crynhodeb < Ystadegau y Llywodraeth—&c., &c. Argraphwyd i Gwmni'r Wasg GenedlaethOo. Gymreig, Cyf., gan Thomas Jones a-* Ellis Owen, a chyhoeddwyd ganddrfc hwy yn gwyddar "Genedl,' New .aa -:l&¡ ¡