Hide Articles List

12 articles on this Page

BECHGYN A OENETHO&) YN YR…

DARGANFOD PENG LOG MEW PWLL.

COLLED AO ENILL.

|NEWTDDIOIX KTHO^IAOOL.

News
Cite
Share

NEWTDDIOIX KTHO^IAOOL. CHORLEY. Bu Toriaid Chorley yn dewis ymgeisydd nos Fawrth i ymgeisio am y sedd a aeth yn wag trwy Marwolaeth y Cadfridog Fielden. Arglwydd Bulcarres, mab Iarll Crawford, Wigan, ydyw yr ymgeisydd dewisedig. Penododd y Rhyddfrydwyr yr un noson bwyllgor i ddewis ymgeisydd Rhyddfrydol, a dywedir mai Mr A. T. Eccles, Darwen, fydd y dewisddyn. Yn 1835 y bu yr ym- drechfa ddiweddaf, gyda'r canlyniad:- Fielden (T), 5367; Wright (R), 2808. BWRDEISDREFI DINBYCH. O'r diwedd mae Rhyddfrydwyr yr ethol- aeth hon wedi deffro i'r pwysigrwydd o ben- derfynu ar ymgeisydd i ymladd yn erbyn Mr Tudor Howell, mab yr Archddiacon Howell (Llawdden), yn yr etholiad nesaf, pan y bydd Mr G. T. Kenyon yn ymneillduo. Dydd Mawrth bu gan y Rhyddfrydwyr gyfarfod yn Rhuthyn i ddewis ymgeisydd, ac wedi clywed a gweled yr Henadur Walter H. Morgan, cyfreithiwr, Pontypridd, dewis- wyd ef yn ymgeisydd, os bydd y gwahar'ol fwrdeisdrefi yn cymeradwyo. Mae Mr Morgan yn G,-ttieirydd Cyngor Sirol Mor- ganwg, ac yn Rhyddfrydwr aiddgarâun o'r rhai blaenaf yn y Deheudir. SWYDD INVERNESS. Dyd4 Mawrth derbyniwyd y wys i ethol olynydd i Dr Macgregor. Deallir y cymer yr etholiad le Mehefiu 12fed. Ar hyn o bryd mae tri o ymgeiswyr ar y aiaes sef Mr Macrae, ymgeisydd y Crofftwyr Rbydiii- frydol, Dr Mackeusie, ymgeisydd Rhydd- frydol arall, a Mr Baillie (U). Yn y cy' farfod i ddewis ymgeisydd Rhyddfrydol rhoddwyd pymtheg o bleidleisiau dros Mr Macrae a'r un nifer dros Dr Mackeusie. Aeth yn dipyn o deimlad ar y ddwy ochr, ac yn awr y mae Syr Charles Cameron, A.S., wedi ei anfon yno i setlo'r anghydfod ac derfynu y ddadl. CAERDYDD. Penderfynodd Mil Rhyddfrydol Caerdydd ofyn i Syr Edward Reed ail-ystyried ei ym- ddiswyddiad, ac iddo ddod ymlaen fel ymgeisydd dros Gaerdydd yn yr etholiid uesaf. Bygythiwyd cynyg gwelliant i'r penderfyniad uchod oherwydd ymddygiad Syr Edward yn nglyn ag Ymreolaeth, ond yn y diwedd gwnaed y gwahoddiad ar y telerau fod Syr Edward yn derbyu y Rhaglen Newcastle yn ei chrynswth. Tabyg ydyw na, wna Syr Edward gydsynio. BWRDEISDREFI MALDWYN. Bu Cymdeithas Ryddfrydol sir Drefal- d'.vyn yn eistedd yn y Drefnewydc1, ddydd Mawrtb, i ddewis ymgeisydd Rhyddfrydol i sefyll yn erbyn Syr Pryce-Jones, A.S.. yn yr etholiad nesa.f. Llywyddwyd gan Mr C. R. Jones, a chafwyd anercuiad rhagorol gan Mr Owen Philipps, perchenog llongau, Llundain, brawd i Mr Wynford Philipps. Dadgana ef ei hun yn gryf o blaid mesurau y Llywodraeth, ac yu enwedig y rhai sydd yn cyfarfod a dyheadau y Cymry. Ar gynygiad Mr J. Humphreys, pasiwyd pen- derfyniad yn cymeradwyo Mr Owen Philipps i sylw y Bwrdeiedrefi, er mwvn ei ddewis yn derfynol i sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn yr etholiad nesaf. YMGEISYDD JACOBAIDD. Ymddengys nad yw canlynwyr hen deulu y Stuartiaid wedi uarfod o'r tir. Mae gwr o'r enw Mr Herbert Vivian yn bwriadu cynyg ei hun fel ymgeisydd Jacobaidd dros Ogledd Huntingdon pan ddigwydd gwagle C. 11 r_1 nesaf. Ei waith yn y Senedi pan gaitf sedd yno, meddai ef, fydd cynyg diddymu y ddeddf a elwir, Act of Settlement," sicrhau rhyddid crefyddol, a chynyg diddymu bob cyfraith sydd yn erbyn teulu y Stewarts a'u cunlynwyr.

HEN FWTHYN BACH FY NAIN.

Advertising

ILLAFNAU DUK.

Advertising

GLYWSOCH eawii

HHODD 0' It lUUn.

YB "IDLER" A DDYWED:;

XMDDIDDAN DYDDOROL.