Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

SYMUD ^TN MLAEN.

----.---.---.-----...--*0--"'_.--liWTH…

FFORTIWN HE B BERCHENOG.

[No title]

__.--.---.---.___-.""..__-*--_.__c¥_…

News
Cite
Share

.c¥_ ANRHEGU Y PARCTT. J. WILLIAMS, BRYNSIENCYN. Nos Wener, yu Nghapel y Methodistiaid, Brj nsieucvn, Mon, cynha'iwyd cyfarfod cy- hoeddus i anrhegu'r Parch John Williams, ar ei ymadawiad i gvmeryd gofal eglwys Prince s Road, Lerpwl. Llywyddwyd ar gynulliad lluosog gan Mr G. J. Roberts, Trefarthin. Yr oedd yn bresenol yn mysg eraill y Parchn John Williams, Dwyran; Owen Hughes, Amlwch; Mr Samuel Hughes, U.H., Amlwch; Mr Williams. Moss Bank, Lerpwl; Mr J. P. Rowlands, Ysgol y Bwrdd Mr R. Hughes, Mostyn-terrace Mr David Williams, Mr T. Hughes, Tyddyn Adda. ° J 3 Dechreuwyd y gweithrediadau trwy ganu yr emyn "0 Arglwydd Dduw Rhaglun- iaeth," a gweddiwyd gan y Parch O. Hughes. Darlleiiwyd llythvrau oddiwrth y Parch James Donne, Llandudno Mr a Mrs E. J. Griffith, ac eraill, vn datgan eu gofid nas gallent fod yn bresenol. Y Cadeirydd a sylwodd nad oeddynt yn tristau heb obaiLh. Yn y cyfarfod a gyn- .i, liwy(I yu Llynlleifiad i groesawu y Parch John Williams yr oedd y teimladau yn bur wahanol i'r rhai a fodoiai yn y cvfarfod yn Mrynsiencyn y noswaith hono. Yn ymad- awiad y Piti$;Ii John AYilliams teimlent eu bod, nid yn unig yn colli gweinidog da, ond hefyd gyfaill liyddlou. Nid oedd y dysteb wedi ei chyfyngu i'r gymydogaeth hono yn unig, ond yn hytrach yr oeddynt wedi ei gwneyd yn agored i'r sir. Yn y cyfwng hwn rfcoddwj'd datganiad o Ti wyddost beth ddywed fy nghalon" gan Barti y capel. Mr Samuel Hughes, yr hwn gyda'r Parch 0. Hughes a gynrychiclai Gyfarfod Misol Mon, a ddy wedodd ei fod .vedi cael y fraint o gymdeithasu a Mr Wdliams er pan y de- enreuodd bregethu. Diau y buasai i'r eg- lwysi yno deimlu ei golled fel gweinidog a. phregc-thwr. Yr oedd yn ymadaol, ond gadawai ei latur ar ol, ac yr oedd yno ffnvyth toreithiog mewn canlyniad, am yr hyn y gallent lawenhau, Yn mna, gyfeiriad byn,,ic, yr edrychent, gallent weled fFrwyth ei lafur mawr, nid yu unig mewn cysylltiad a phethau allanol oud hefyd mewn cysyllt- iad a phethau ysbrydol. Yn y Cyfarfod Misol ac yn mhob cylch gwnaeth wasanaeth gwerthfawr. Er ei fod yn myned i Lyn- lleifiad nid oedd yn myned yn mbell, ac, yn wir, pe byddai yn myned i'r Amerig, ni byddai yn mhell oddiwrthych y dyddiau hyn. Ar wahaa i'w waith yn nglyn a'r cyfundeb yr oedd wedi bod yn flaenllaw gyda gwleidyddiaeth ac yn ei ymdrecbion i hyrwyddo addysg yn mysg pobi ieuainc y sir, ac i godi yr hen wlad yn ei hoi. Y Parch 0. Hughes a ddywedodd mai ychydig a feddyliodd y buasai i gyfarfod o'r fath hwnw gael ei ynal yn Mrynsiencyn, ac yn ddiau yr oedd yr amgylchiad wedi disgyn firnynt rnegys taranfoilt. Ond yr oedd yr annisgwyiiadwy wedi digwydd. Daeth ef (y siaradydd) o Amlwch i ddatgan ei ofid dwys oherwydd fod Mr Williams yn ymadael o'r ardal ac o Fon, ac nid oedd erioed wedi cael profedigaeth fwy llem. Nid oedd iVlr Williams yn anffaeledig mwy na rhywun arall, ond yr oedd yn ddiogel yn ei farn ac yn berii'aith onest yn ugweithiad allan ei argyhoeddiadau. Byddai yn golled fawr iddyut hwy yno ar ei ol, ac yr oedd yr anrhegion oeddynt yn ei roddi iddo yn ddadganiad o'u teimladau. Dyn i'r wlad yn gyffredinol oedd, a gwnaeth waith rhagorol y 0 C, o blaid Ymneillduaeth yn Mon, am yr hyn yr oedd wedi cael ei erlid. Yr oeddynt oil yn ddiau yn gobeithio y buasai yn dyfod. yn 01, a dynnunai "Ddnw yn rhwydd iddo." Mr Robert Hughes, Moatyn terrace, a ddy- wedodd ei fod yn cynrychioli 300 o aelodau yr eglwys i ddadgau gofid oherwydd yma- dawiad y Parch John Williams'. Yroedd rhan fawr o bobl ieuainc yr eglwys wedi eu geni yn ystod yr amser y ba Mr Williams yno yn gweinidogaethu, ac yr oedd hyn wodi bod yn foddion i greu cwlwm anwyl- deb yn y seiat ac yn y dosbarth darllen. Y Parch J. Williams. L wyr an, addadgan- odd ei ofid oherwydd ymadawiad Mr Wil- liams, a gallai wneyd hyny heb wenieithio. Yr oedd yn feddianol ar argyhoedd- iadau dyfnion, ac arferai sefyll wrth- ynt. Pan gymerai utrhyw ochr yr oedd yn wrthwynebwr cryf. Nid cedd angen iddo ddweyd am y golled fel pre- gethwr a fuasai y Cyfarfod Misol yn ei gael. Clywodd ef yn pregethu lawer gwaith, ond ni chlywodd erioed bregefch wael ganddo, a byddai bob amser wedi cymeryd trafferth fawr gyda'i bregethau. Nid heb fawr dra- fferth yr eedd wedi cyrhaedd i'w safle bre- 4 senol. Dymunai iddo bob llwyddiant yn ei faes newydd. Rhoddwyd dadganiad o Ffarwel i Fon gan Mr David Owen. Yr oedd y geiriau wedi eu cyfansoddi gan Mr Rooert Hughes, Mostyn terrace. Anerchvvyd y cyfarfod yn mbellach gan Mr Williams, Moss Bank, Llynlleifiad, un o ddiaconiaid hynaf capel Princes Road. Yn daethpwyd at brif waith y cyfarfod, sef cyflwyno i Mr Williams anerchiad gor- euredig hardd, album yn cynwys euwau y tanysgnfwyr tuag at y dysteb, darlun ohono ef ei hun (gan Mr Leonard Hughes), a llestri arian. Parotowyd yr anerchiad a'r album gan Mr J. Vaughan, Caernarfon. Cyflwynwyd yr anerchiad gan Mr D. Williams, swyddog hynaf yr eglwys. Ar- wyddwyd hi gan Mr G. J. Roberts, Cad- eirydd y pwyllgor; R. Hughes, Trysorydd; a J. P. Rowlands, Ysgrifenydd. Wrth gyflvvyno y darlun sylwodd Mr T. Hughes, Tyddyn Adda, na fyddai i Mr Wil- liams fod yn llawer enwocach ar ol ei ym- adawiad oddiyno. Tybiai fod yr enw Bryn- siencyn ar ol ei enw yn llawn cystal a phe buasai ganddo M.A. Cyflwynwyd yr album gan Mrs Williams, Ceryg y Barcud, a'r llestri arian gan. Miss Jones, Ty Croes. Wrth gydnabod yr anrhegion dywedodd y Parch John Williams ei fod yn dymuno diolch iddynt yn ddiffuant am'yr hyn oedd- ynt wedi ei wneuthur. Yr oedd yr anrheg- ion yn ddatganiad o deimladau caredig, °a rhoddai fwy o bris ar hyny na dim. Aeth- ant drwy lawer math o dywydd yn ystod y deunaw mlynedd y bu yu eu plith, ond cyn- yddu wnaeth y teimladau da, ac mewn can- lyniad yr oeddd parhad ynddynt. Yn awr daeth yr adeg iddo ef eu gadael. a theimlai ei fod yn gadael llawer iawn o bethau ar ei ol. Byddai iddo yn ddiau deimlo mwy o golled wr eu hoi hwy nag y byddai iddynt hwy deimlo ar ei ol ef. Cofiai ei ddyfodiad i'w plith pan yn 23ain mlwydd oed. Daeth yno yn bryderus, llawn hoewder ac asbri, ac yn hynod ddibrofiad. Aeth i ddosbarth dar- llen, lie yr oedd oddeutu 35 o bobl wediyni- gynu'l. Darlleuid yn efengyl loan, a theimlodd ar unwaith ei fod wedi ei anfon gan Ragluniaeth i fan lie yr oedd yn rhaid iddo weithio, oherwydd yr oedd y bobl yn ymddangos yn neillduol o oleuedig yn yr Ysgrythyr. Bu yn llafurio yn galed am flynyddau, ac ui wyddai neb faint o boen ac ing a ddyoddefodd yn yr ystafell fechan gerllaw. Yn yr ardal hono yr oedd y c/i- eillion goreu oedd ganddo ar y ddaear, a gpteithiai weled yr adeg pan y cai ddod yn ol i Fon, a'r man goreu yn Mon oedd Bryn- sieucyn, lIe y dymuuai fyw weddill ei oes.1 I Wedi datganu y gan Yn iach i ti,Gymru," a chael ychydig sylwadan peilach, daeth y cyfarfod i derfyniad.

[No title]

DAMWAIN ANGEUOL I FEDDYG CYMREIG.

Advertising