Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
.'. Y SENEDD.
Y SENEDD. Parha Mr Chaplin i wneud ychydig gynydd gyda'i Fesur er cynorthwyo Fferm- wyr bychain. Y Gyllideb fu prif bwnc y Senedd yr wythnos hon. Nos Lun daeth Mr Goschen a'i adroddiad o flaen y Ty. Y Gweddill mewn llaw eleni yw ychydig dros filiwn o bunau ( £ 1,067,000). Nis gallasai addaw gostwng dim ar y trethi eleni oher- wydd y symiau mawr a ofynir ganddo at Addysg Rad. Dywedir fod wyth miliwn 1 ( £ 8,000,000) o arian y trethdalwyr yn cael eu gwario yn flynyddol yn awr ar Addysg. Ofnai y byddai y derbyniadau oddiwrth yr Income Tax am y fl wyddynnesaf yn agos i haner miliwn yn llai nag eleni oherwydd yr arwyddion fod masnach yn gwaethygu.
. CYNGHOR SIROL CEREDIGION
CYNGHOR SIROL CEREDIGION O'r diwedd daeth yr Etholiadau cysyllt- iedig a'r holl Randiroedd i ben, a diau fod y rhan fwyaf os nad pawb o'r trethdalwyr yn teimlo yn falch o hyny. Wele ganlyniad y tair ymdrechfa olaf, pa rai a gymerasant le dydd Gwener, 8fed cyfisol.
CEINEWYDD.
CEINEWYDD. Syr Marteine M. O. Lloyd, Barwn 138 Mr J. O. Davies 107 Mwyafrif i Syr Marteine. 31 FELINFACH (YSTRAD). Mr W. T. Davies 186 „ D. Jones 96 Mwyafrif i Mr Davies 90 LLANDDEWI-BREFI. Mr D. J. Williams .100 171 D. Davies ••• 96 Mwyafrif i Mr Williams ••• ••• 4 |
Mewybdion Marchnadol ----+0+---i.'.,J..:.
Mewybdion Marchnadol -+0+- i. 'J Yd .—Tueddu i godi ychydig. Ymenyn.—Codi a gostwng. Pur ansef- ydlog. Oherwydd ein bod yn gorfod argraffu dydd Iau yr wythnos hon, methasom a chael y pris o Cork. Ei bris heddyw yw, Firsts 107, Seconds 92, Thirds 73 swllt yr 112 pwys. Cig.-Difywyd oedd y farchnad yn Llundain dydd Llun.
. Bwrdeisdrefi Caerfyrddin.
Bwrdeisdrefi Caerfyrddin. Gwnaeth Syr Charles Russell ei adroddiad nos Fercher. Major Jones yw y gwr ddewisodd yn ymgeisydd, a rhaid i Mr. Lewis Morris gilio.
. Eos Morlais
Eos Morlais RHYDD" Maelgwyn," yn ySouth Wales Weekly News am yr wythnos ddiweddaf, ddesgrifiad o'r cantor poblogaidd, Eos Morlais. Ymddengys iddo fod yn wael iawn am fisoedd; a byth er Eisteddfod Abertawe, yn Awst diweddaf, gorfod- wyd ef i alw ei gyhoeddiadau yn ol. Ond yr wythnos cyn hnny, gallodd gyflawni ei addewid '0 tD i arwain corau yr Annibynwyr yn Nowlais ar achlysur ei Gwyl Gerddorol. Ofnid oddiwrth ei olwg salw, guriedig, pan ymddangosodd gyntaf ar y llwyfan y tro hwnw, na fuasai'n alluog i fyned trwy'r gwaith, ond siomwyd pawb o'r ochr oreu-dychwelodd yr hen yni a'r tan a'i nod- weddai yn y dyddiau gynt, a phan ganwyd yr emyn 0, Fryniau Caersalem ceir gweled," ar derfyn yr wyl, trydanodd bawb trwy ddechreu ei hail ganu. Gallem feddwl y byddai'n chwith gan ei gyfeillion lluosog yn Nghymru a threfi Lloegr, ac a gofiant am y cantor llydan, cadarn ugain mlynedd yn ol, ei weled erbyn hyn mor dSneu, gwelw, a churiedig, Gobeithia miloedd, gyda dychweliad ygwanwyn, ac adfywiad natur, yr adferir iechyd a chan Eos Morlais.
. Y Dyhiryn Deeming.
Y Dyhiryn Deeming Y mae liysbysrwydd-wedi ei bellebru o Mel- bourne fod y trengholiad ar gorph Miss Mather wedi ei gynal dydd Mawrth, dydd Mercher, a boreu Iau. Darganfyddwyd corph y foneddiges anflodus hon wedi ei gladdu mewn cement dan lawr t9' yn Windsor, ger Melbourne Australia. Cyn i weithrediadau'r llys ddechreu, rhoddwyd Deeming yn mhlith ugain o garcharorion eraill, a gadewid i wahanol bersonau a feddent adnab yddiaeth o'r gwr a drigai gyda Miss Mather yn Windsor fyned i mewn i edrych a adnabyddent y carcharorfel ycyfryw. Ery cyfnewidiad sydd yn ei ymddangosiad, adnabyddwyd ef yn ddi- betrus gan tua haner cant, a thri yn unig a ddangosodd unrhyw aml-ieuaeth. Cymaint oedd 0 y digllonedd Deeming tuag atynt fel y tarawodd un o'r rhai a ddywedent mai efe fu yn byw yn Windsor. Yn llys y trengholydd, ymddangosai Deeming yn eithaf didaro, a'i ddwylaw yn ei boced. Wedi gwrando llawer iawn o dystiolaethau, ac i'r trengholydd symio i fyny, dychwelwyd rheithfarn o Lofruddiaeth Wirfoddol" yn erbyn Deeming, yr hwn a draddodwyd i sefyll ei brawf ar warrant y trengholydd. Nid oes dim yn ei boeni yn fwy na bod dyn- ion yn llygadrythu arno; a phan ar y fordaith o Perth i Melbourne, taflodd lasiaid o wisci a dwfr i wyneb boneddiges a edrychodd i mewn i'w gaban. Yn awr, mae y Ilofrudd y ddyogel yma a cheir fod llawer iawn o sylw yn cael 0 ei dalu gan y bobl i'w brawf. Beth ddaw o hono ? Dywed y Detective Cawsey mai Deeming yw Williams, llofrudd Mrs Williams yn Windsor. Australia. Nid oes dolen o'r gadwen yn eisiau, meddai efe, i brofi y pwnc. Cafodd fodrwy Mrs Williams yn meddiant Deeming Cafodd arno, hefvd, ddarlun yn dangos menyw yn sefyll o flaen t, gyda'r enw, F.R. Deeming, 'vn llaw- ysgrifen y carcharor ar y cefn. Dywed y De- tective iddo fyned i ymofyn Deeming, gan gredu mai efe ydoedd Jack the Ripper,' ond, hyd yn hyn, nid yw wedi cael un prawf mai efe ydyw. Daeth y detective Brand i gell Williams-Deem- ing-Swanston heddyw, ac adnabyddodd ef yn un- ion fel y dyn a adwaeai efe yn Johannesburg, yr I ZD hwn eedd yn. eisiau am lofruddiaeth dau frodorYll 1888. Dywed Mr Webster, meistr carchar Hull, mai efe yw yr un dyn a Lawson, yr hwn fu yn ngharchar Hull am naw misyn 1890. Mae yn debyg fod Deeming wedi lladrata 30,000 p yn eiddo ariandy Johannesburg, ac iddo, pan yn gwario yr arian hyn, gweryla a dyn o'r enw Graham, yr hwn a laddodd drwy ymosod arno yn annisgwvliadwy ar y ffordd fawr. Gwelwyd y weithred ysgeler hon gan ddau ddyn du, ond ni fu Deeming yn hir cyn lladd y ddau, er mwyn eu rhwystro i fod yn dystion yn ei erbyn. Cym- erodd yr anfadwaith hwn le y noson wedi i Deeming gael swper ymadawol yn y dref cyn hwylio i Loegr. Wedi Uadd y tri dyn ffodd Deeming i Durban, a thaenodd y newydd am ei farwolaeth ei hun, a dododd gareg ar fedd, ac mae y gareg yn y fynwent heddyw yn dwyn y cerfiad— Er cof am Henry Bayley Deeming. Mae amryvviaeth barn yn nghylch y pwnc a ydyw y llofrudd yn wallgof ai peidio. Digon telJyg mae gwallgofrwydd fydd dadl fawr ei gyf- reithwyr. Y mae Deeming ei hun, ar adegau, yn credu ei bod ar ben arno. Dywedodd un diwrnod, Os bydd raid i mi grogi, mi gymeraf fy nghrogi b zn fel dyn. Nid wyf yn ymofyn i bobl Loegr godi cofadail nwch fy mhcn." Y mae ei han e yn un o'r rhai mwyaf melltigedig sydd wedi ei gofnodi ers llawer dydd. Ymddengys ei fod wedi byw ar ladrad a Uofruddiaeth yn Lloegr, Awstralia, Affrica, New Zealand, ac America. O'r hyn lleiaf, mae tair gwraig iddo yn eisiau, ac y mae ei blant baeh diniwed wedi diflanu. Os trwy rhyw ddiffyg y dianga efe y grogbren yn Awstralia, y mae heddgeidwaid yn barod wedi myned o Loegr yno i'w hawlio yn garcharor am lofruddiaethau Rainhill, gerllaw Lerpwl. Y mae pobl Cymru yn teimlo'n enbyd yn ngwyneb camwri yr anghenfil, gan fod uu Airs Deeming yn Gymreiges o Sir Benfro, lie y bu hi a'i phlant anwyl ar ymweliad au tadau, ychydig o flynyddau yn ol. Hynod ydyw meddwl fod y cyhuddedig wedi bod mewn cynifer o fanau, wedi cyflawni cynifer o droseddau ofnadwy, ac heb ei ddal hyd yn awr. O'r diwedd y mae yn y ddalfa, ae yn 01 pob tebyg cyflwynir ef i ofal y crogydd. .Ffordd troseddwyr sydd galed." Mae Llywydd Moesol Anffaeledig ar Orsedd y byd. Yr Arglwydd a'n cadwo ni rhag pob drwg. Dyn dyogel a dedwydd yw dyn da. Mewn canlyniad i'r rheithfarn o "Euog" ddygwyd yn y trengholiad yn erbyn Deeming am lofruddio ei wraig a'i blant yn Dinham Villa, tua'r 27ain o Gorphenaf diweddaf, cymerir mesur- au i ddanfon gwys i'w ddal a'i ddwyn drosodd i'r wlad hon, os na fydd iddo gael ei grogi yn Awstralia cyn hyny.
--+<>--VERWIG
--+<> VERWIG DOSBARTH SOL-FFA.-Yn ystod y pedwar mis diweddaf, bu dosbarth o bobl ieuainc yn derbyn hyfforddiant yn y Sol-ffa, yn Ysgoldy y Bwrdd, Yerwig, dan arweiniad Mr T. Davies, Crug, a Mr G. H. Mathias, ysgolfeistr. Dydd Gwener wyth- nos i'r diweddaf oedd ddiwrnod mawr mewn cysylltiad a'r Dosbarth. Arholwyd pawb sydd yn perthyn iddo gan Mr Wm. Jenkins, Aberteifi, yr hwn sydd yn un o Arholwyr y Sol-ffa. Pasiodd tua 40 yr arholiad yn llwyddianus, a derbyniasant Dyst-ysgrifau. Yr oedd yno rai mor ieuainc a phum' mlwydd Bwriedir cynal cyngherdd yn fuan er talu treuliau y Dosbarth.
llaneihangbl-Y-croyddin
llaneihangbl-Y-croyddin ETHOLIAD BWRDD YSGOL.-Cymerodd etholiad le yn Ysgoldy Pont-ar-fynach dydd Mercher, y 6ed eyfisol, er mwyn dewis saith aelod ar y Bwrdd Ysgol. Fel y canlyn y pleidleisiwyd :— Cadben Thomas Rowse 291 Dr John Morgan 235 Mr Thomas Hughes 149 Cadben John Owen 146 Mr James E. Raw 146 T. J. Waddingham. 143 John Evans 106 Yr ymgeiswyr aflwyddianus:- Mr J. Jones 87 t>, J.Edwards |?. 78 Daniel Jones. 66 T. Morgan 65 „ Abel Paul 43 Samuel Evans 4 H. Williams 3
LLANDDEWI-ABERARTH
LLANDDEWI-ABERARTH BWRDD Y GWARCHEIDWAID.—<BU etholiad yma eleni. Yr ymgeiswyr oeddent Mr Evan Jones, Feathers Hotel, Aberaeron a Mr Evan Evans, Coed, ffarmwr. Derbyniodd Mr Jones 186 o bleid- leisiau, a Mr Evans 24. Gwr o syniadau cymedrol yw Mr Jones, tawel, tirion, ac o synwyr cyffredin cryf. Bu yn gwasanaethu y swydd lawer gwaith o'r blaen, ac erioed ni bu rhagoraeh gwarcheidwad.
PENCARREG
PENCARREG ETHOLIAD GWARCHEIDWAID.—Daeth tri ym- geisydd allan am y ddwy sedd perthynol i'r plwyf hwn ar fwrdd y Gwarcheidwaid. Fel y canlyn y pleidleiswyd drostynt. Mr John Rees, Dolgwm- isaf, ffarmwr, 230, D. Evans, Coedmorfach, jffarm- wr, 165, Henry Davies, Tanlan, boneddwr, 151 Etholwyd y ddau flaenaf. Ni fu etholiad arall mewn unrhyw blwyf o fewn Undeb Llanbedr.
-1BLAENPORTH
-1 BLAENPORTH ETHOLIAD GWARCHEIDW AD.-Ni fu brwydr etholiadol mewn cysylltiad a Bwrdd y Gwarch- eidwaid mewn unrhyw blwyf yn Undeb Aberteifi eleni heblaw y plwyfhwn. Daeth dau ymgeisydd allan yma, sef Mr Evan Williams, Trewimwnt, yr hwn a dderbyniodd 80 o bleidleisiau, a Mr John Jones, Tanyreglws,yr hen wareheidwad, yr hwn ni chafodd ond 62, ac felly a gollodd y dydd.
LLANBEDR
LLANBEDR Y LLYS CHWARTEROL.—Cyfarfu y Llys hwn dydd Iau, y 7fed cyfisol, o flaen Mr J. Willis-Bund, y Cadeirydd, ac ychydig Ynadon ereill, Nid oedd yr un carcharor i'w brofi. Ar gynygiad yr Argl- wydd Raglaw fod mesurau i gael eu cymeryd i ad-drefnu Dosbarthiadau y Llysoedd Ynadol, dy- wedodd y Cadeirydd fod Pwyllgor yn bodoli eisoes i ystyried y mater, ond iddo ef ohirio ei alw er mwyn gweled y Census (Cyfrif y Boblogaeth) yn gyntaf. Disgwyliai y byddai yn barod yn mhen rhyw fis. Penderfynwyd fod y Pwyllgor i wnend adroddiad erbyn y Llys nesaf. Apeliodd Cwmni y Manchester & Milford yn erbyn Overseers Llanbedr mewn perthynas i Brisiant y Reilffordd. Ym- ddangosodd Mr. Griffith Jones, yn cael ei gyfar- wyddo gan y Meistri Smith, Owen, a Davies, cyf- reithwyr o Aberystwyth a Llanbedr, dros y Cwmni; a Mr D. Lloyd cyfreithwr, Llanbedr, dros yr Overseers. Caniatawyd yr apel gan y Llys, a gos- tyngwyd swm prisiant Gorsaf Llanbedr o £.17 gross i lb3 net a gorchymynwyd fod tenantiaid perthynol i'r Cwmni i gael eu prisio felly. GALWAD I WEINIDOG.-Derbyniodd Mr. B. Evans, myfyriwr yn Ngholeg Caerfyrddin, a brodor o Lanbedr, alwad oddiwrth eglwys Annibynol Seisnig, Abertillery, ac y mae yntau wedi ei hateb yn gadarnhaol. Dymunwn iddo bob llwyddiant yn y dyfodol eto.-Cyfaill.
TRE'RDDOL
TRE'RDDOL LLYS YR YNADON.—Cynhaliwyd hwn ar y 7fed o'r mis hwn, o flaen Mri George Paddock, a James T. Morgan. Penodwyd Overseers dros y gwahanol blwyfi yn y rhanbarth. Yna cyhuddodd John Enos, Borth, Thomas Richards, David Jones, Eliza Williams, a Catherine Humphreys, o'r Borth, o wrthod talu gwahanol symiau o dreth y dwfr. Gorchymynwyd i'r cyntaf dalu, taflwyd yr ail allan, a thynwyd y ddau gyhuddiad olaf yn ol yn herwydd tlodi.—Cyhuddodd Albert Hernimon, Caerfyrddin, I.R.S.P.A., John Pugh a Lewis Pugh, Tycanol, Ynyslas, meibion ffermwr, o achosi creulonder i gi cymydog ar y 13ego fis Chwefror diweddaf. Ymddangosodd Mr W. P. Owen, Aberystwyth, dros y ddau ddiffynydd, a thaflwyd y mater allan. Cyhuddodd David Richards, Mynyddgorddi, ffermwr, ei was, James James, Tafarnyfagl, o ymadael yn anghyfreithlon o'i wasanaeth, a gofynai X5 7s 9c o iawn. Daethant i gytundeb heb wneud eu hymddangosiad o flaen yr ynadon.—Cyhuddodd Thomas Jones, keeper i Syr Pryse, Edward Evans, Felingyffin, gwas fferm, o drespasu ar ol helwriaeth ar dir fferm Pwllglas ar noswaith yr 8fed o'r mis diweddaf, ac o ladd cwningen ar yr un amser. Tynwyd y cy- huddiad cyntaf yn ol, a dirwywyd ef i 5s a'r costau am yr ail. Ymddangosodd Mr Evan Evans, Aberystwyth, dros yr erlynydd, a Mr John Evans ar ran y diffynydd.-Cyhuddodd Catherine Davies, Bryntod, Clarach, David Thomas, Taliesin, o fod yn dad i'w phlentyn anghyfreithlawn, a gorchymynwyd iddo derlu 2s yr wythnos.
ABERPORTH
ABERPORTH DAMWAIN.-Digwyddodd damwain dost dydd Iau, y 7fed cyfisol, yn Penarisaf. Fel yr oedd bachgen o'r enw John Williams yn gyru y ceffylau oeddent yn troi y peiriant dyrnu darfu i'w whip rywfodd ddyrysu yn yr olwynion, ac wrth geisio ei chael yn rhydd aeth ei droed i'r werthyd. Yn ffortunus darfu i'w lef fod yn foddion i wneud i'r ceffylau sefyll neu ynte mae yn ddi- ddadl y buasai ei droed yn chwilfriw man. Ar ol ei dynu yn rhydd cafwyd fod y cnawd wedi ei dori yn agored a'r esgyrn yn y golwg. Daeth Dr. Phillips, Aberteifi, i'r lie mor fuan ag oedd bosibl, ac er dirfawr esmwyth-had i'r dyoddefydd a'i rieni, hysbysodd y meddyg nad oedd esgyrn wedi eu tori, Mae yn awr yn gwella yn raddol.-D.
CAERWEDROS
CAERWEDROS DIGWYDDIAD CYFFROUS.—Fel yr oedd ysgol gan yn cael ei chynal yn yr Ysgoldy yn y lie hwn yn ddiweddar, er parotoi ar gyfer cyfarfod llen- yddol Llanarth, yn sydyn gwnaeth asyn hir flewog ei ymddangosiad yn yr adeilad. Yn ffodus ni frawychwyd neb i lewyg. Bernir mai rhyw weilch direidus ddarfu gymhell yr hir glust i wneud ei ymddangosiad yn yr ysgol gan, ac nid unrhyw awydd i ymuno a'r cantorion. FFEIRIAU CEREDIGION.-Teimla Iluaws o ddar- llenwyr ye BRYTHON yn yr ardal hon y byddai yn gaffaeliad mawr i'r wlad yn gyffredinol pe byddai i chwi gyhoeddi rhestr gywir o'r ffeiriau a'r marchnadoedd gynhelir yn sir Aberteifi yn eich papur clodwiw, yr hwn gyhoeddir genych mor rhad, fel ag y mae yn cael y fath gylchrediad cyff- redinol mewn amryw ardaloedd. Nid oes genym yr un newyddiadur y medrwn ymddibynu arno am gywirdeb ein ffeiriau, oherwydd fod rhai ffeiriau yn symudol, megis Emlyn, er engraifft. Carwn weled ye BRYTHON yn cyflenwi ein fcangen a rhagori ar newyddiaduron eraill yn yr ystyr yma.-Hanesydd. [Bydd yn bleser genym wneud yr oil a allwn i foddlom ein gohebydd, ond rhaid i ni ofyn am gynorthwy ein gohebwyr yn mhob ardal i ddanfon i ni wybodaeth gywir a sicr. Cofier nad ydym yn hollwybodol, ac am hyny ni fedrwn roddi gwybodaeth gywir am bob ffair heb help.- GOL.]
BLAENPENNAL
BLAENPENNAL ETHOLIAD. GWARCHEIDWAD.- Ni fu yr un irwydr etholiadol am sedd ar Fwrdd y Gwarch- eidwaid yn Undeb Tregaron mewn unrhyw blwyf eleni heblaw yn y plwyf hwn. Daeth yma ddau ymgeisydd allan, sef Mr Daniel Jones, Esgerhendy, dros yr hwn y rhoddwyd 53 o bleidleisiau, a'r Parch. John Owens, yr hwn a dderbyniodd 44, ac -lelly Mr Owens sydd allan eleni.
[No title]
Hysbysir fod Mr. Bowen Rowlands, A.S., wedi cymeryd ty i aros dros ran o'r haf yn Nghriccieth, swydd Gaernarfon a hysbysa y Western Mail fod y si ar led mewn rhai cylchoedd fod yn mryd Mr. Vaughan Davies, Tanybwlch, i ddyfod allan fel ymgeisydd Glastwraidd (erfyniwn faddeuant ein dar- llenwyr, Gladstonaidd oeddem yn fwriadu ysgrifenu) dros Geredigion. Nid ydym mewn sefyllfa i sicrhau fod y naill na'r llall o'r honiadau uchod yn gywir. Derbyniasom luaws o lythyrau yn holi pwy yw Teryll y Bannau," ac a ydym yn cytuno a'i olygiadau. Nis gallwn ddyweyd rhagor mewn ffordd o atebiad i'r gofyniad cyntaf, na'i fod yn Gymro, eithafol o wlad- garol a chenedlgarol, yn byw yn Llundain, ac yn un o'r rhai mwyaf enwog a galluog yn yr alwedigaeth mae yn ddilyn. Nis gallwn ddywedyd ein bod yn cytuno yn hollol a'r oil a ysgrifena, ond rhaid i ni gyfaddef ei fod yn dywedyd llawer o wirioneddau pwysig. Beth yw yr helynt fawr sydd yn ngwer- syll yr Aelodau Seneddol Cyrnreig y dydd- iau hyn ? Ymddengys eu bod yn cymeryd arnynt ffromi yn aruthr wrth Mr. Arnold Morley, y whip Gladstonaidd, am na buasai yn gofalu enwi un o honynt hwy ar Bwyll- gor Dwfr Birmingham. Darfu iddo eu cynhyrfu yn waeth drwy enwi Mr. P. Stanhope, yr aelod dros Wednesbury, tref sydd yn dal cysylltiad uniongyrchol a'r gwaith. Y mae Birmingham, Wednesbury, a Llundain yn cael eu cynrychioli ar y Pwyllgor yma, ond nid oes neb o Gymru-y wlad o ba un y caniateir cymeryd y dwfr Paham ? Am na wnaeth yr A.S. gwirion Cymreig eu dyledswydd. Bod yn ffyddlon i Mr. Gladstone, fel yr ymddengys, ydyw prif ddiben eu presenoldeb hwy druain di- niwed, ac nid gwasanaethu buddianau eu gwlad. Ac y mae prif ivhip Mr Gladstone wedi dangos iddynt pa faint y mae yn hidio am danynt drwy beidio cynyg neb o Gymru ar y Pwyllgor a gofalu bod yno ddigon i gynrychioli trefydd mawrion Lloegr. Dyma ganlyniad ethol haid o gyfreithwyr dros Gymru i'r Senedd, pobl sydd fel rheol yn gwneud mwy dros y Blaid y perthynant iddynt, a thrwy hyny, wrth reswm, dros eu hamcanion personol eu hunain, na thros eu gwlad. Y dydd o'r blaen derbyniasom lythyr o gymydogaeth Pont-y-gwr-drwg (ond nid oddiwrth ei Fawrhydi, cofier), yn cynwys arian ac archeb am ye BRYTHON. Nid oedd dim yn ysgrifenedig ar yr amlen, nac unrhyw gyfeiriad heblaw y penill can- lynol I LLANBED 'r wy'n dy anfon, I Swyddfa fawr I Y, BRYTHON,' At y I GOLYGYDD,' cofia hyn, Paid aros yu anffyddlon."