Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
Y DYFODOL -+<>0- Ebrill l6eg, Arwerthiant Ffarm Rydd-ddaliadol— > Moelfryn-mawr, Llanbadarn-Trefeglwys, 11 yn y Castle Hotel, Llanbedr. Mr. J. Jones, Arwerthwr. Ebrill 28ain, Ffair Da a Moch yn Farmers, Caio. Ebrill 28ain, Anerchiad gan y Parch. Isaac Vance, Gweinidog Presbyteraicld o'r Iwreddon, yn y Neuadd Drefol, Llanbedr. Mai 3ydd, Ffair Flynyddol Llanrhystyd. Mai 6edia'r 7fed, Fair Dalis, Llanbedr. Mai 25ian a'r 26ain, Cyfarfod Misol Methodistiaid Aberteifi, Deheu, yn Llangranog. Mai lOfed a'r 11 eg, Cyfarfod Misol y Methodistiaid Calfinaidd Sir Gaerfyrddin, yn Carmel. Mai 24ain a'r 25ain, Cymanfa Annibynwyr Sir Gaerfyrddin yn Llansawel. Mehefin 14eg a'r lofed. Cymanfa Tair Sirol yr Annibynwyr, yn Llanbedr. CARDIGANSHIRE. VALUABLE FREEHOLD FARM, in the Parish of Llanbadarn-Trefeglwys, for Sale. MR. J. JONES has been instructed to sell by Public Auction, at the CASTLE HOTEL, LAM- PETER, on Saturday, the 16th of April, 1892 at 2 p m (Subject to such Conditions as shall be then and there produced) ALL THAT VERY DESIRABLE FREEHOLD Messuage, Farm & Lands, called illOELFRYN -MAWR, Situate in the Parish of Llanbadarn-Trefeglwys, in the County of Cardigan, containing by admeasurement 146a. 3r. 2p., or there-abouts, now in the occu- pation of David Thomas. The Farm contains Excellent Meadow, Pasture, and Arable Land. Further particulars may be obtiained of the AUCTIONEER, at Tivyside Hall, Maesycrugiau, R.S.O., or to MESSRS. D. LLOYD & SON, SOLICITORS, LAMPETER. TOWN OF LAMPETER, MR. JOHN JORDAN JONES has been in- structed to Sell by Auction, at the WHITE HART INN, LAMPETER, on Friday, the 29th day of April, 1892, at 2 o'clock in the afternoon, subject to such Conditions as shall be then and there produced, all that well known and old established FULLY LICENSED INN called the "WHITE HART," (Part of which is now used as a Saddler's Shop), situate in Harford Square and College Street, in the Town of Lampeter. The Inn is situate in the centre and best part of the Town of Lampeter for business purposes, where an extensive and lucrative business has for many years been carried on. The Licensed Premises contain commodious Rooms, with Coach- house. Stables, Yard, and two Cottages at the back, now used as Warehouses, and also two large dis-used Dwelling Houses formerly called Spring Gardens," now out of repair, but they may be converted into Warehouses or made suitable for other business purposes. The Premises are held under a Lease granted for a term of 99 years from the 1st day of May, 1826, subject to an annual ground Rent of X26 and the covenants contained in such Lease. Further particulars may be obtained upon application to the AUCTIONEER, Rhydygof, near Lampeter, or to MESSRS. DAVID LLOYD & SON, SOLICITORS, LAMPETER. LLANRHYSTYD. FFAIR CEFFYLAU. CYNHELIR y FFAIR FLYNYDDOL uchod DYDD MAWRTH, MAI 3YDD, 1892, yn mha un y mae y rhan fwyaf o Brynwyr Ceffylau y Deyrnas hon wedi addaw rhoddi eu presenoldeb. Dymunir ar i'r Amaethwyr ddyfod a'u Ceffylau yn gryno i'r Ffair, ac nid eu gwerthu gartref am brisiau islaw y Marchnadoedd. De'wch yn foreu- 8 o'r gloch. Dim tal am eu gwerthu. P.S.—The above Yearly Horse Fair will be held on May 3rd, 1892, the day previous to the Aber- ystwyth Horse Fair. Dealers are requested to attend at 8 o'clock in the morning. "THE PROTESTANTS OF IRELAND- THEIR POSITION & PROSPECTS." AN ADDRESS will be delivered at the TOWN HALL, LAMPETER, On THURSDAY EVENING, APRIL 28,1892, BY THE REV. ISAAC VANCE, Presbyterian Minister, Gransha, Comber, Ireland. The Meeting will commence at 7 p.m. Admission—Platform, 2s. 6d. Reserved Seats Is. Back of the Hall-Free. Tickets may be had at the WELSH PRESS OFFICE, Lampeter. NOTICE. GREAT DALIS FAIR LAMPETER. As the 8th of May, 1892, falls on Sunday, this Fair will be held (as usual) on FRIDAY and SATU R- DAY 6th and 7th of MAY. T. H. R. HUGHES, Mayor of Lampeter. LLANARTH, CARDIGANSHIRE. mo BE SOLD BY PRIVATE CONTRACT, J- that exceedingly desirable Freehold Farm GWARF FYNON, containing 13 acres 2 roods, or thereabouts, of excellent land. Apply, to MR. JOSEPH M. THOMAS, SOLICITOR, PONTYPRIDD. POISON for KILLING RATS.-Thousands have been killed by using SANFORD'S POISON. Hundreds of Farmers that have used it say it is the best Poison known, as they find a lot of Rats dead by using it. Post free, Is. 2d., 2s., 3s. box, of SANFORD and SON, Sandy, Beds. Send stamps and try it. Sold by Chemists. Also MICE POISON for dressing corn stacks. OMALL FARM of 10 to 30 acres of land 8 WANTED to BUY or on long LEASE in the neigh- bourhood of Lampeter. Apply :—J. Robinson, Esq,, care of Manager, Welsh Press," Lampeter. 11 A GENT WANTED in this District by a well known Firm of London Mill Furnishers to sell their specialities, consisting of Mill Stores, Waterproof Waggon and Rick Cloths, Beltiug and other Goods Address—Furnishers, c/o Bemrose& Sons, Old Bailey, London. COLLWYD, tua'r 7fed o Fawrth GAST DDEFAID C ddu, ambell fiewyn llwyddcoch, ac ysmotyn gwyn ar ei thalcen a dan ei gwddf, yn atteb i'r enw SCOT." Gwobrwyir y sawl rydd hysbysrwydd am dani i JOHN DAYIES, Rhiwonen, Ystrad, Talsarn R.S.O. WANTED A STYLISH MILLINER, able to serve. Welsh. Apply, Walter Davies, London House, Lampeter. IVTYDDWR DA YN EISIAU. Gwaith Par haus. Cyflog da. Apply Rees Price, Factory, Llanddewi-Brefi, Llanio Road, R.S.O. TXT"ANTED a g6od Coat hand, and a good Trouser and Yest hand. Apply to D. Jones, Tailor, &c., Pleasant Place, Tregaron. .="r.r:="C.=-O. "o-.
AT EIN DERBYNWYR A'N DOSBARTRWYR.
AT EIN DERBYNWYR A'N DOSBARTRWYR. Diolch i chwi un ac oil am bob cynorthwy dderbyn- iasom oddiwrthych 1 gychwyn ye BRYTHON CYMREIG- ar ei yrfa, Os dygwydd iddo fod yu hwy ar ei daith na'r amser arferol, neu na'r amser ddylai fod, gadawer i ni gael Post Cwrd, gyda chyfeiriad llawn y derbyn- ydd wsdi ei ysgrifenu yn eglur. Ar ol ei ddarllen, bydded i'n cyfeillion roddi amlen ddimai am dano a'i ddanfon rhag ei flaen at ryw gyfaill neu gyfeilles arall. Bydd yn dderbyniol iawn gan Frythoniaid yr Hen Wlad sydd yn gorfod byw yn rhai o drefydd mawr Lloegr, neu mewn parthau eraill o'r byd. G-wasanaetha yn ami fel "LIythyr o gartref a phob newydd ynddo i'r mab neu'r ferch sydd yn byw yn mhell oddiwrth eu rhieni a'u cyfeillion cyntefig Y mae genym eisoes rai derbynwyr yn mhob parth a Geredigion, ac hefyd mewn rhanau helaeth o Benfro a Chaerfyrddin. Rhagor yn eisiau eto. Danfonir ye BRYTIION (am flaen-dal) yn rhad gyda'r post ar y telerau canlynol:— Un copi Is. am 3 mis 2s. am 6 mi Daueto(i'r un cyfeiriad) Is. 6c. 3s. Tri eto 2s. Oc. 4s. „ Telerau arferol i Ddosbarthwyr.
AT EIN DARLLENWYR.
AT EIN DARLLENWYR. Peidier anfon arian mewn llythyrau. Derbyn- iasom lythyr y dydd o'r blaen a Dau Swllt ynddo, a gorfu i ni dalu Wyth Ceiniog am dano. Mae gan awdurdodau y Post reolau a threfniadau, ac un o'r cyfryw ydyw gwrthod cludo arian bathol (coin) mewn llythyrau. Mae Stamps i'w cael yn awr gan bob llythyr gludwr ac yr ydym yn ber- ffaith foddlawn derbyn gwerth ychydig sylltau o'r cyfryw yn lie tal. Danfoner rhai Dimai.
GREAT DALIS FAIR
GREAT DALIS FAIR In order to facilitate the sale of Horses during the fair week, we make an offer to the farmers of Cardiganshire and Carmarthenshire to advertise their stock at a special cheap rate in ye BRYTHON CYMREIG for the next few weeks. We will also undertake that copies of the paper be sent to all the principal horse dealers who frequent these fairs.
. FFAIR DALIS FAWR
FFAIR DALIS FAWR Er mwyn hyrwyddo gwerthiant Ceffylau yn ystod wythnos y ffair, yr ydym yn gwneud cynygiad i ffernrwyr CeredigieiAi Chaerfyrddin i wneud eu stoc yn hysbys drwy gyfrwng ye BRYTIION CYM- REIG ar delerau neullduolo rad am yr wythnosau dyfodol. Ymrwymwn hefyd i ddanfon copiau o'r papur i'r oil o'r prif brynwyr ceffylau fydynt yn arfer mynychu y ffeiriau hyn.
CYNRYCHIOLAETH CEREDIGION.…
CYNRYCHIOLAETH CEREDIGION. FEL yr hysbysasom ein darllenwyr yn ein rhifyn am yr wythnos cyn y diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod pwysig gan Rydd- frydwyr Undebol Ceredigion yn Llandyssul, yn mha un y rhoddwyd gwahoddiad cynes ac unfrydol i Mr. WILLIAM JONES, o Birmingham i ddyfod allan fel ymgeisydd Undebol am gynrychiolaeth y Sir. Byth er hyny, mawr yw y twrw a gedwir gan organau y blaid Gladstonaidd. Codant bob math o fwganod er ceisio dychrynu Mr. JONES rhag ateb yr alwad yn gadarnhaol. Yn y South Wales Daily News am heddyw (dydd Mercher), dywedir wrtho y bydd yr helynt yn nghylch Capel-y-Bont, Llanbryn- mair yn crogi o amgylch ei wddf fel maen melin Wrth hyny, ceisir rhoddi ar ddeall, mae yn debyg, fod Mr. JONES i gael ei ddal yn gyfrifol am bechod y tirfeddianydd sydd wedi achosi y cyffro yn Llanbrynmair Ai tybed y medr rhagfarn fyned yn mhellach ? Heblaw hyny, y mae Toriaid Ceredigion, neu yn hytrach rai o'r hen Doriaid eithafol, yn ceisio codi cri yn crbyn Mr. JONES am ei fod yn bleidiol i Ddadgysylltiad. Tebyg fod ganddynt fwy o ffydd yn Mr BOWEN ROWLANDS, yr aelod presenol, am ei fod yn Eglwyswr, ac yn ganlynwr ffyddlon i Mr. GLADSTONE, yr 'hwn, fel y gwyr pawb ydynt heb eu dallu gan bleidiaeth, sydd hefyd yn Eglwyswr ffyddlon a chywir, ac hyd yn hyn naill a'i wedi pleidleiso yn erbyn Dadgysylltiad neu ynte wedi absenoli ei hun o'r Ty, er mwyn peidio pleidleisio o gwbl. Nid yw yn rhyfedd felly fod rhai o'r Toriaid yn dewis pleidio Mr. BOWEN ROWLANDS yn hytrach nag addaw pleidio Mr. JONES, oblegid Anghydffurfiwr ydyw yr olaf and credwn yn gryf y caiff Mr. JONES gefnogahth wresog ac unol y dos- barth mwyaf, Rhyddfrydig ac eang eu syniadau o'r Ceidwadwyr, yn nghyd ag eiddo y mwyafrif o Ryddfrydwyr Ceredigion. Boreu heddyw, derbyniasom y llytjayr rhagorol a ganlyn oddiwrth Mr. JONES. Gadawn iddo siarad drosto ei hun Ashted Row, Birmingham, Ebrill 12fed, 1892. CYNRYCHIOLAETII CEREDIGION. Foneddigion, Mewn atebiad i'r cais oddiwrth y Rhydd- frydwyr Undebol am ganiatad i ddwyn fy enw yn mlaen fel ymgeisydd am gynrych- iolaeth y Sir adeg yr etholiad agoshaol, yr ydwyf wedi rhoddi ystyriaeth bwyllog i'r mater, ac yn dymuno cynyg fy hun at eich gwasanaeth. Tueddir fi i ddyfod i'r pender- fyniad hwn yn benaf gan yr apeliadau taer a difrifol sydd wedi ac yn cael eu gwneud gan y miloedd o'n cyd-grefyddwyr yn yr Iwerddon, yn erfyn am ein cydymdeimlad ac am ein cynorthwy i wrthwynebu Ymre- olaeth Wyddelig. Gwyddant hwy yn dda oddiwrth y driniaeth y maent wedi dderbyn yn yr amser a aeth heibio, os .llwydda y Glaclstoniaid i gario Ymreolaeth, y bydd eu sefyllfa hwy yn yr Iwerddon yn druenus i'r eithaf. Diameu ganyf mai eu llygad-dynu ar gyfeiliorn gafodd Anghydffurfwyr Cymru adeg etholiad 1886, neu ni buasent byth mor barod i aberthu eu brodyr crefyddol ar all or Ymreolaeth; a bod Iluaws o honynt, ar ol derbyn goleuni oddiwrth ddygwyddiadau diweddar," yn awyddus am gyfleusdra i brofi i'w cyd-grefyddwyr nad yw Anghydffurf- wyr Cymru, wedi'r cwbl, mor anffyddlawn ag y myn rhai i'r byd gredu ein bod. Heblaw iiyny., byddai caniatau Senedd yn yr Iwerddon yn sicr o arwain, nid i undeb calonau," ond i wrthdarawiad parhaus rhwng y ddwy wlad, ac yn lie bod yn ddechreuad ar gyfnod o heddwch a theimladau da, bydd- ai yn achlysur i ymrafael, a mwy na thebyg i dywallt gwaed. Mae y llwyddiant anghyffredin sydd wedi coronl ymdrechion Mr Balfour yn yr Iw- erddon yn profi doethineb y Llywodraeth bresenol yn ei hymwpeud a'r wlad hono, ac os galluogir hi er gwaethaf gwrthwynebiad- au, i gario ei mesur o Lywodraethiad Lleol, bydd wedi cwblhau yr oil o'i rhaglen, a gall gyda chydwybod glir apelio at y wlad am ddedfryd ar ei gweithrediadau. Mae yr undeb rhwng y Rhyddfrydwyr Undebol a'r Ceidwadwyr wedi dal ei dir, ac wedi ateb ei bwrpas yn rhagorol er pan ei sefydlwyd, ac ni bydd i mi wneuthur dim i beryglu yr undeb hwnw. Mae yn angen- rheidiol dwyn i gof rhai pobl dda, mai y cyngrhair gafodd ei ffurfio rhwng y rhai hyny a ymgyfenwant yn Rhyddfrydwyr a gelynion y wlad hon yn yr Iwerddon a wnaeth yr undeb hwn yn anhebgorol er amdcliffyniad y Deyrnas Gyfunol. Os bydd i mi gael yr anrhydedd o gyn- rychioli fy Sir enedigol, bydd i mi dalu sylw arbenig i'r hyn fydda thuedd ynddo i wella amgylchiadau ac i ddyrchafu moesau ei phreswylwyr. Mater tra phwysig i bawb sydd yn pres- wylio mewn gwlad amaethyddol fel Sir Aberteifi, ydyw y lleihad parhaus sydd yn cymeryd lie yn nifer y boblogaeth. Mae hwn yn fater pwysig i'r tir-feddianwr, i'r amaethwr, i'r gweithiwr, ac i'r masnachwr, oherwydd pan mae y bobl yn gadael yr ardaloedd amaethyddol am y gweithfaoedd a'r trefi mawrion, mae yr amaethwr yn methu cael dynion i godi ei gynhauaf, ac yn gorfod talu cyflogau mor uchel nes y mae yn ami yn methu talu ei rent. Mae Cwmniau y Reilffyrdd hefyd fel pe wedi ymdynghedu yn erbyn yr amaethwr Prydeinig. Hwy a gludant gynyrch y tir L os bydd wedi tyfu mewn gwlad dramor am lawer llai o bris nag y cludant gynyrch fyddo wedi tyfu yn y wlad hon. Arwydd er daioni, yn ddiau, ydyw gweled y Llyw- odraeth drwy ei Gweinidog Amaethydd- iaeth yn deffro i weled pwysigrwydd y mater hwn, ac yn prysur gynllunio, er cario mesurau i gynorthwyo y gweithwyr i gymeryd neu i brynu darn o dir neu ffarm feclian, ac i godi tai cymwys iddynt, er mwyn gwneuthur bywyd yn y wlad yn fwy dengar ac yn fwy cysurus. Credaf y gellid gydag ychydig gymhorth oddi wrth y Llywodraeth wneuthur llawer o ddaioni i'n gwlad trwy sefydlu llynges bysgotta mewn lleoedd cyfleus fel Aberteifi, Aberporth, Llangranog, CeineAvydd, Aber- aeron, ac Aberystwyth, a phaham na ellid cael Reilfyrdd ysgeifn fel sydd yn yr Iwerddon i gludo y pysgod i,r farchnad! Mae y Llywodraeth hon wedi gwneud llawer eisoes er diogelu bywydau y mor- wyr a'r mwynwyr fel y tystia Mr Plimsoll ac eraill, ond credaf y gellid gwneud llawer eto i ddadblygu cyfoeth mwnawl ein gwlad. Gan mae mesurau ac nid dynion" ydyw un o brif erthyglau fy ngredo wleid- yddol nid wyf yn petruso dweyd y bydd i mi gefnogi gwladlywiaeth y Llywodraeth Undebol. Am y chwe blynedd diweddaf y maent wedi cario ymlaen lywodraethiad y deyrnas a'r Ymerodraeth gyda llwyddiant digyffelyb, wedi cadw heddwch a galluoedd tramor, wedi cadw i fynu barch a dylanwacl Prydain fawr, wedi gostwng y trethi, ac wedi lleihau y Ddyled Genedlaethol, wedi sefydlu cynghorau Sirol, wedi rhoddi mes- ur Addysg Ganolradclol, wedi rhoddi yr add- ysg yn yr ysgolion elfenol yn rhad; ac wedi rhoddi cymhorth arianol i'n colegau. Os parha y Llywodaaeth i dderbyn y gefnog- aeth a haedda, gallwn edrych ymlaen am ddiwygiadau pellach eto, megys Cynghorau Parthedigol neu Bentrefol; blwydd-dal i hen bobl i'w cadw rhag myned ar y plwyf; gwell tai i'r gweithwyr; mesurau er hwyl- uso pryniad a gwerthiad eiddo tirol; lleihad yn y costau sydd ynglyn a throglwyddiad tai a thiroedd &c, Gobeithiaf cyn hir gael cyeflusderau i egluro fy ngolygiadau yn fwy llawn a man- wl, ac i ddyfod yn fwy adnabyddus yn mhob rhan o'r Sir; a chan fy mod yn bwr- iadu dyfod i fyw i Dregaron, byddaf mewn gwell mantais i ymgydnabyddu ar bobl, ac i wybod am eu hangenion. WILLIAM JONES. C. E. D. Morgan-Richardson, Ysw.; H. T, Evans, Ysiv., Y.U.
[No title]
Dywedir fod yn mryd Anghydffurfwyr Ulster i ddanfon amryw o'u gweinidogion drosodd i'r wlad hon cyn yr etholiad cyff- redinol, i'r dyben i geisio argralfu ar feddyl- iau eu brodyr yn Nghymru a Lloegr y perygl y gosodir hwy yn Ulster ynddo gan Mr. Gladstone a'i ganlynwyr, os llwyddant i basio Mesur Ymreolaeth i'r Iwerddon. Mewn colofn arall gwelir hysbysiad am gyfarfod gynhelir yn Neuadd y Dref, Llan- bedr, pryd y traddodir anerchiad gan y Parch. Isaac Vance, gweinidog Presbyteraidd enwog, fu yn ymweled a Chymdeithasfa y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhreforris yn ystod yr haf diweddaf, araeth yr hwn foy- cotiwyd gan y Wasg Gladstonaidd Gymreig,