Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
HYSBYSIADAU Cyhocddir Hysbysiadau yn Ye BRYTHON CYMREIG ar Y TELERAU RHAD CANLYNOL Bhybuddion Cyhoeddus, liinpn v Cyfreithiol, a Soneddol j ()C" mne11 ? tro- Al-werthiaditu 3c. Hvsbvsiadnu fYn ol trefniant, yn ymddibynu M snacho ar eu safle- nifer 7 troion iu,. snacnoi cyhoeddir hwynt, maintioli, &c. TELERAU NEILLDUOL AM FLAEN-DAL Am Hysbysiadau yn dal\ 20 gair neu lai, cysyiltind a Swyddi „ Unwaith, 6c. neu Leoedd, yn Eisiau. Ystnfelloedd, Tai, Tir, yn „ Tair gwaith, Is. 0c. Eisiau, ar Osod, neu ar I Werth. [ „ Chwech „ Is. 6o. Mnsnach, Stoc, Dodrefn, Peirianau, neu fan Am bob 10 gair ych- bethau, ar Werth, neu wanegol, haner y yn cael eu cynyg ar Hury prisoedd uchod. Ni chyhoeddir Hysbysiadau yn dal perthynas a Rhedegfeydd, Gamblo, Hapchwareuon, Cyfferi Crtich-feddygon (eithrir Cyfferi Breintiedig da eu gair), Arian Fenthycwyr, Proffeswyr y Gelfyddyd Ddu," neu ryw hysbysiad arall o natur wrthwynebol, ar unrhyw delerau. Cyfieithir Hysbysiada,u Saesonaeg, os bydd gal wad am hyny, yn rhad. Danfoner pob Gohebiaethau ac Archebion, mor gynar yn yr wythnos ag y byddo modd yn gyfeiriedig Y RHEOLYDD, WELSH PRESS OFFICE, LAMPETEB.
Advertising
ADVERTISEMENTS Advertisements will be inserted in ye BBYIBOX CYMBEIG at the following CHEAP SCALE OF CHARGES Parliamentary, Law, and 6d. per line per inner. Public Notices I tion. Sales 3d. do. do. Trade (arrangement, according to Advertisements P°sition, number of insertions, I space required, &c. SPECIAL PREPAID RATES For Advertisements re-v 20 words ferring to Situations, „ One insertion, 6d Wanted, or Vacant I Apartments, Houses, or I i„ Three In (VI Land, Wanted to Let, 1 U*0d' 'for Sale f „ Six ls.6d. Businesses, Stock Furni-1 ture, Mahinery, or Mis- Every additional 10 cellaneous Articles for words, half the above Sale or Hire. J prices. No Advertisements relating to Racing, Gam- bling, Lotteries, Quack Medicines (except Patent Medicines of good repute), Money Lenders, Astrologers," Fortune Tellers, or others of an objectionable character will be inserted upon any terms. English Advertisements will be translated, if required, free of charge. All Communications and Orders should be ad- dressed, as early in the week as possible, to THE MANAGER, Yv'I:i,sn: PllBSS OFFICE, LA MPRTHR.
Y PARCH H. PRICE HUGHES, M.A.
Y PARCH H. PRICE HUGHES, M.A. Dam o ysgrif y Parch. John Evans (Eglwysbach) Ganed ef yn nhref Caerfyrddin ychydig dros ddeugain mlynedd yn ol. Y mae ei dad yn awr yn fyw, ac yn parhau i ddilyn ei alwedigaeth feddygol gyda pharchusrwydd mawr. Cymer ran belaeth hefyd yn amgylehiadau dinesig y dref. Y mae'n ddadleuwr rnedrus iawn, ac anfynych y dygwydd ffrwgwd cyhoeddus yn Nghaerfyrddin heb fod gan Dr. Hughes ran pur amlwg ynddo. Boneddiges ddiwylledig a chrefyd- dol iawn yw priod Dr. Hughes. Cymraes yw hithau hefyd, ac oddiwrth ei henw morwynol hi y cafodd ei mab enwog y "Price" sydd yn ei enw. Ganed H. P. Hughes i ganol llawnder, a derbyn- iodd fariteision addysg o'r fath oreu er yn gynar yn ei fywyd. Pan mewn ysgol yn y Mum- bles, gerllaw Abertawe, y rhoddodd ei hunan i'r Arglwydd, yn fachgen pur ieuanc. Ar ol iddo ddechreu pregethu a chael ei gymeradwyo fel ymgeisydd am y weinidogaeth danfonwyd ef i'r Coleg Duwinyddol, yn Richmond, gerllaw Llun- dain. Bu yno bedair blynedd a theimlid ei fod yn allu cyhoeddus yn mhell cyn diwedd ei dymor. Pan y cynhelid eyfarfod dirwestol yn Nghapel Spurgeon ynglyn a chynadledd Llundain yn 1867, yr oedd ef yn un o'r areithwyr ar yr ach- lysur. Dymay waith gyntafimi gael golwgarno. Myfyriwr yn y coleg ydoedd ar y pryd, ac edrych- ai yn llefnyn mawr, tywyll ei bryd, eiddil ac ysgafn drwyddo heb nemawr o arwydd yn ei gorph y buasai yn dal chwarter y caledwaith oedd yn aros am dano. Llefarai yr adeg hono mewn llais hyglyw a chynhyrfus, gyda rhwydd- ineb a dylanwad rhyfeddol. Traethai eiriau cryf- ion, yn hollol ddiofn, ac nid oedd neb o'r.enwog- ion hyawdl a gymerasant ran yn y cyfarfod yn cael ei dderbyn gyda mwy o frwdfrydedd. Yr oedd ei araeth yn llwyddiant hollol. Maes cyntaf ei lafur oedd Dover, yna Brighton, ar ol hyny Llundain, lie y bu hyd yn hyn, odd:- eithr tymor o dair blynedd yn Rhydychain. Cyfnod pwysigiawn yn ei fywyd oedd y tymor a dreuliodd ar gylchdaith Rhydychain. Dymay pryd yr enillodd ei 3rsbardunau fel Arweinydd. Cafodd y lie yn dawel a diwaith a dilewyrch ei wala. Ac un o'r aelodau seguraf yn y lie oedd y Mr. Nix, sydd yn awr yn un o weithwyr goreu St. James' Hall. Yr oedd y gylchdaith yn was- garog a chapeli bach y wlad ar drengu. Ond dael-h Hughes ar y tir, gollyngodd ei weinidog- aeth fel cawod o binau dur ar y bobl, a deffrodd pawb. Aeth gair o'i enau i galon Nix, a greodd gyfnod newydd yn hanes ei fywyd. Cyfododd aelodau Eglwys Wesleyaidd, Oxford, fel byddin Ezeciel o ddyffryn yr esgyrn sychion. Ymledodd dylanwad yr adfywiad i'r Brif Ysgol. Gwelwyd llawer o'r myfyrwyr a rhai athrawon yn ei gyn- ulleidfaoedd, a chafwyd amrai o honynt ymhlith lladdedigion yr Arglwydd ar derfyn yr oedfaon. Cynhyrfwyd yr holl dref. Mwy nag unwaith, arweiniodd orymdaith o bymtheg cant o bobl en- waededig Duw drwy heolydd Rhydychain, dan ganu hymnau a chwifio baneri. Ac yn lie fod capeli bychain y wlad heb bregethwr ar y Sab- both, fel y byddent yn rhy fynych cyn hyny, elai gwyr ieuanc dysgedig ac achubedig y Brify-gol yn fan finteioedd ar eu traed i gynal ynddyut foddion cyhoeddus gwresog a gafaelgar, nes lleinvi y pentrefwyr a syndod ac a llawenydd, a mynych y dychwelent ar draws y wlad dan ganu odlau ysbrydol oherwydd gweled o honynt ffrwyth i'w llafur yn nhroedigaeth eneidiau. Ad- fywiodd yr achos trwy yr holl gylchdaith, fel pe buasai daeargryn yr Hollalluog wedi ei hysgwyd o derfyn i derfyn. Dychwelodd canoedd at yr Arglwydd, ail-ddychwelwyd llaweroedd o gref- yddwyr cysglyd, a gwnaed gwaith ag y bydd canu am dano byth. Pan symudodd i Lundain yn ol, cyflawnodd waith cyfFelyb yn Buxton, ac am y gwaith a wnaed trwyddo yn ystod y pedair blynedd ag y mae fel arolygydd y Genadaeth yn St. James' Hall, nis gellir cyfleu dirnadaeth am ei eangder na'i werth mewn erthygl fel hyn. Y mae ganddo dros ddeuddeg cant o aelodau heddyw mewn lie nad oedd achos Wesleyaidd o gwbl bedair blynedd yn ol; a hyny mewn parth o Llundain nad oes ar wyneb y ddaer bobl mwy anhawdd i'w cael at grefydd. Y maey dychwel- iadau a gymerant le yn yr addoliadau yn creu penod o hanes rhyfedd y naill wythnos ar ol y Hall. Ardrethir pedair o neuaddau at wasanaeth y genadaeth, ac y mae yr holl dreulion uwchlaw wyth mil o bunau yn y flwyddyn. Gellir barnu oddiwrth y ffeithiau hyn beth yw mawredd a phwysigrwydd y gwaith sydd ar ysgwyddau Mr. Hughes, ac yn wir wedi ei greu mewn pedair blynedd o dan ei arolygiaeth, ac yn benaf trwy ei lafur ef. Y mae dylanwad y mawr waith hwn yn cyrhaedd i bob parth o'r byd, ac yn foddion i achub Wesleyaeth yn y trefi mawrion. Ond beth am nodweddau y dyn hynod hwn? 0 ran ei ymddangosiad personol dyn lled dal yw, deneu, cyhyrog cyforiog o yni, tywyll ei bryd a'i wedd, gwallt a barf ddu fel asgell y fran, a'i ymddangosiad gyffredinol yn ieuengaidd iawn. Gorchuddir rhan isaf ei wyneb gan ei farf drweh- us a chwia; mae'n welw ei wedd; llygaid gwedd- 01 fawrion, hynod o fywiog, yn edrych allan trwy gymhorth gwydrau. Nid yw ei ben ond bychan, na'i dalcen yn uchel na llydan. Ysgrafella ei wailt yn llyfyn a threfnus, ac nid oes nemawr awgrym yn ei ddyn oddiallan o'r galluoedd ysblenydd a'r tan anniffoddadwy a ber- thyn i'w feddwl. Gellid gweled dwsinau o gurad- iaid mewn blwyddyn sydd yn EDRYCH mor ddoniol ag yntau. Cafodd fanteision addysg uwchraddol, a'r bwr- iad ydoedd ei ddwyn i fyny yn fer-gvfreithiwr; a diau y gwnaethai ddadleuwr dihafal. Enillodd ei raddau yn Mhrifysgol Llundain, fel A.C., yr hyn a ddyry safle iddo yn mhlith gwyr dysgedig y byd. Hynodir ei feddwl gan awchlymedd, cvflymdra, a chyflwynedd. Y mae ei feddwl bob amser yn fyw i'w amgylchoedd ar y pryd, ac mor finiog ag ellyn. Efe a wel y sefyllfa mewn eiliad, ac os bydd eisiau gall neidio i'r adwy a'i llenwi heb fynud o rybudd mor effeithiol a phe buasai wedi cael tair blynedd i ragbarotoi. Cyfansodda ei brif areithiau yn gyffredin tra yn gwrando ar ereill yn llefaru. Mewn dadl y gwelir ef i'r fantais oreu. Dyma ei brif nerth yn ddiau. Y mae o'r bron yn anwrthwynebol yn hyn. Yn ail daw yr esgynlawr, yn enwedig os bydd eisiau dynoethi rhyw orthrwm, neu ysgythru rhyw gymeriad cyhoedd- us anfad, neu ynte argymell rhyw scheme bwysig a chodi swm mawr o arian at yr achos. Ychydig o flynyddau yn ol, galwyd arno i areithio ar y Genhadaeth Dramor yn y Brealc- jast Meeting yn Exeter Hall, Llundain. Yr oedd hyn ar foreu dydd Sadwrn. Efe odd y cyntaf i lefaru. Yr oedd ereill i ddilyn pe caw- sent amser. Ond cymerodd ef bwnc dyled y gymdeithas mewn Haw. Yr oedd y swm yn wyth mil o bunau. Dadleuai ef dros gyfodi haner y swm v boreu liwnw, a'r pedair mil arall y Llun canlynol. Gwenai y bobl ac ysgydwai y doethion y eu penau pan grybwyllodd y peth ar y cyntaf, ond daliodd ati i ddadlu a dadlu nes newid ton y cyfarfod a chreu awyddfryd angerddol yn mhawb am godi yr arian, O'r diwedd aed ati, a chafwyd, pedair mil o bunau yn y fan a'r lie. An- dwywyd haner dwsin o areithiau doniol a da yn ddiau, ond cafwyd yr arian, dilewyd haner dyled y gymdeithas y boreu hwnw, a'r gweddill y Llun canlynol. Ac y mae wrthi beunydd yn cyflawni gorchestion cyffelyb. Y mae yn bregethwr rhagorol hefyd, er na ddaw y Pulpud i gymeryd ei le yn ei hanes ef, ond am y trydydd grisyn. Nid yw erioed wedi cymeryd amser i gyfansoddi pregeth fawr. Y mae bob amser yn ddyddorol, yn ymarferol, yn hyawdl, ac yn llwyddianus i droi eneidiau at yr Arglwydd. Pwy a-ddichon ddyfalu gwerth gwas- anaeth gwr fel hwn i'w enwad ac i grefydd yn gyffredinol. Y mae'n creu cyfnod newydd yn ein hanes. Edrycha gyda dirmyg ar yr hen ddull rheithegol o bregethu, ac y mae y traddodiad llyfn a llithrig ac areithyddol oedd mor naturiol i'r anfarwol Morley Punshon ond mor ddibwrpas yn ngenanau ei efelychwyr, yn prysur ddarfod o'n plith; a dull mwy naturiol, cyfeiriadol a defnyd- diol yn graddol gymeryd ei le, er mantaia ddir- fawr i grefydd Crist ac eneidiau dynion. Ac at hyny, fe ddygir cyfnewidiad dirfawr o amgylch yn mesurau ymarferol ac yn agwedd ymosodol y cyfundeb gyda golwg ar ei genadwri ysbrydol yn y byd. Pwy bynag a fydd byw am ddeng mlynedd, a gaiff weled Wesleyaeth yn allu adnewyddol, aruthrol rymus tuag at ddeffroi yr eglwysi, lefeinio mudiadau cyhoeddus ac achub y wlad. A pbrif ys-ogydd y diwygiad mawr hwn oil yw Hugh Price Hughes. Bwriedir cyn- al y Gynhadledd am 1893 yn Nghymru am y waith gyntaf erioed, ae os gwna yr etholwyr eu dyledswydd, fe osodir H. P. Hughes yn y gadair lywyddol yn Nghaerdydd, ac os felly, rhoddir braich i'r "Forward Movement" a'i clydaddeng mlynedd ymlaen mewn deuddeng mis. Caffed ein harwr fywyd hir, ac iechyd da, a choroner ei holllafur a'r llwyddiant a garai.
YE BRYTHON CYMREIG YN AMERICA.
YE BRYTHON CYMREIG YN AMERICA. At Olygydd ye BRYTHON CYMBEIG. Syr,—Yr wythnos o'r blaen anfonwyd i mi am- ryw rifynau o'r ye BRYTHON CYMREIG, a pheth hollol newydd yn hen sir fendigedig Ceredigion, sef papur Cymreig. Bum yn rhyfeddu er's blynyddau na fuasai rhywun wedi treio y fath an- turiaeth ardderchog a'r eiddoch chwi, sef cyhoeddi papur anenwadol a hollol annibynol, er dysgu y werin yn egwyddorion gwleidyddiaeth, Cristion- ogaeth, celfyddydiaeth, &c. Darllenasom yr holl erthyglau penigamp gyda bias ac awch Cymreig, a gailwn eich sicrbau fod newyddion da o wlad bell fel dyfroedd oerion i enaid sychedig. Mae amgylchiadau wedi ein trosglwyddo ni i gongl bellaf gogledd-orllewinbarth gwlad machlud haul, ac megis trwy rhyw spienddrych yr edrychwn yn awr ar Gymru fendigedig, paradwys y bardd, yr hon a adawsom er's llawer o flynyddau, gan wynebu ar wlad lie mae rhyddid yn llifo fel afonydd dyfroedd, a heddwch yn teyrnasu o for i for. Mae y plentyn wedi ei eni, ond bychan ydyw eto mewn corffolaeth, ond gyda gofal tyner a gofalus daw yn un mawr a chryf, os bwydir ef gyda bwyd iach a chryf, rhywbeth yn debyg i fwdram a bara barlys a digon o gaws nodedig sir Aberteifi. Mae yn ofynol cael tipyn bach o wenwyn ynddo er g'Blluogi yr organau i gyd- weithredu a'u gilydd, ac i wneud eu gwaith yn rhwydd Mae genym feddwl go dda.o dad y plentyn, fel gwr sydd am byfforddi ei blentyn yn mhen ei ffordd, a phan heneiddia ni ymadawa a hi. Trin y ddaear ydyw ein galwedigaeth ni, mewn un o'r llecynau mwyaf hyfryd yn ngwlad machlud haul, ac un o'r hinsoddau mwyaf tynerus a sefydlog sydd yn goreuro baner fendigedig yr Eryr a'r Brithresi, o dan yr hon y gobeithiwn y cawn y fraint o fyw a marw. Mae llawer o'ncyd- genedl Gymroaidd yn byw yn lied agos atom, mewn llanerch o'r enw Paradwys, ac yn wir gellir ei alw felly mewn ystyr ddaearol, er mai gwas- tadedd mawr llydan di-goed ydyw, gyda bythynod bychain o eiddo y sefydlwyr cyntaf yn britho yr holl ddyffryn, eto mae amser i ddyfod pan fydd palasdai hyfryd yn cymeryd lie y rhai hyn yn fuan, ac y gwelir cenedlaeth arall yno yn bur fuan. Naw mlynedd yn ol gwelsom amser caled a thrafferthus yn y wlad newydd hon, pan nad oedd yr un dyn gwyn yn byw yn agos atom, dim ond Indiaid cochion mor ami a morgrug bryniau Ceredigion. Yr adeg hono yr oedd yn cymeryd rhan o dri diwrnod i fyned i'r ystordy agosaf atom, a chymerai llawn cymaint i gyrchu llwyth o goed, &c. Ond erbyn hyn mae cloch yr ager- beiriant i'w chlywed yn ddyddiol yn adseinio yn nghanol Paradwys, a dynion gwynion wedi medd- ianu y tiroedd breision oedd yn perthyn i'r Llyw- odraeth, a'r Indiaid wedi symud eu gorsaf yn mhell oddiwrthym, ond deuant fel y diafol yn ami ar ymweliad a'r ardal. Mae y rhan fwyaf o'r Cymry yma yn enedigol o Ogledd Cymru, ac ychydig iawn o honom sydd o'r Dehau, yn enwedig o'r sir anwyl a bendigedig, yr hon sydd wedi bod yn famaeth ardderchog i fagu moch a phersoniaid, a dynion galluog o bob rhyw alwedigaeth, a'r sers" mwyaf dysglaer a lanwodd bwlpudau Cymru Fu wedi eu geni ynddi hi felly hefyd am gerddorion. a'r beirdd yn berchen ar yr awen wir. Gan ein bod yn teimlo awydd i weled yr an- turiaeth yn llwyddo, ac y bydd i'r BRYTHON CYMREIG wneud llawer o les er rhoddi yr egwydd- orion o flaen y werin yn gywir ac annibynol, treiwn wneud ein goreu i anfon gair yn ami, os bydd hyny yn dderbyniol. Gallwn ddweyd yn ddibetrus fod ye BRYTHON CYMREIG yn rhagori llawer yn ei ddestlusrwydd argraffyddol ar ei holl gyd-wythnosolion yn y Dywysogaeth. Gyda dymuniadau goreu ar ran ye BRYTHON CYMREIG i fyw am oesau a chwareu ei ran yn ys- blenydd ar y llwyfan hon, y gorphwys, JOHN R. LEWIS, Coulee City Wash, Chairman Douglas County Mawrth lleg, 1892. Board of Commissioners.
Coleg y Brifysgol Cymru, Abeystwyth.
Coleg y Brifysgol Cymru, Abeystwyth. Y mae Mr. W. M. Childs, B.A. o Goleg Keble Rhydychain, wedi ei benodi yn ddarlithiwr ar Hanesyddiaeth a Politcal Economy yn y Coleg hwn. Sieryd ei athrawon yn uchel iawn am ei gymwys- derau i gyflawni y gwaith sydd wedi ei ymddiried i'w ofal. Bu Mr. Childs yn flaenorol yn ddarlith- iwr ar Hanesiaeth ac Economies mewn cysylltiad a Extension Lectures perthynol i Brifysgol Rhyd- ychain. Y mae Syr Martine Lloyd, Barwnig, Bronwydd, ger Llandyssul, wedi anfon anrheg werthfawr i Lyfrgell y Coleg, yn cynwys 142 o gyfrolau wyth- plyg, yn cynwys holl weithiau yr awdwyr clasurol. Yr argraffiad a gyhoeddwyd gan Mr. A. J. Valpy, yn y blynyddoedd 1819 i 1830. Hefyd, y mae Mr. R. H. Cooke, Llundain yn anfon rhodd wertbf awr, yn cynwys oddeutu 800 o gyfrolau, yn ychwanegol at y lluaws llyfrau yr oedd wedi eu hanfon yn flaenorol.
Glowyr Durham.
Glowyr Durham. Mae y cweryl rhwng y glowyr a'r meistri yn ymddangos yn mhellach oddiwrth gael ei derfynu nag erioed. Mae y naill ochr mor benderfynol a'r llall i beidio symud oddiar y safle a gymeras- ant i fyny ar y dechreu. Yn anffodus cymerodd rhai terfysgoedd le y dyddiau diweddaf, ac aeth y dynion yn amlwg dros y terfynan priodol iddynt. Ond y mae y teimlad yn gryf ymhlith y glowyr mewn rhanau eraill o'r deyrnas fod eu brodyr yn Durham yn cael cam, ac mae'n amlwg na fyddant yn fyr o gael eu helpu ag arian tra y pery y streic.
<» Aelodau taledig i'r Senedd.
<» Aelodau taledig i'r Senedd. Er na lwyddodd Mr. Fenwick i gael Ty y Cyffredin gydag ef ar ei gynygiad y dydd o'r blaen, i dalu i Aelodau Seneddol o gist Canghell- ydd y Trysorlys, llwyddodd i dynu cryn sylw at y mater. Cynygiai Mr. Fenwick fod y tal yn ol 365p. yr aelod, yr hyn a olygai gyfanswm o rywbeth fel 244,550p. Mae teimlad y wlad, ac hyd yn nod teimlad llawer o'r arweinwyr, yn newid ar hyn fel ar lawer o bethau, ac y mae aelodau taledig yn debyg o fod ymhlith gwell- iantau y dyfodol.
. Ewyllys Mr Spurgeon
Ewyllys Mr Spurgeon Y mae ewyllys Mr Spurgeon newydd ei n phrofi. Y mae yn ysgrif syml, sef haner sheet foolscap, ond nid yw yn llawysgrifen Mr Spurgeon. Gadawodd yr ymadawedig y cwbl o'i eiddo yn hollol i Mrs Spurgeon. Dyddiad yr ewyllys ydyw Mai 17, 1862. Nid oes un gair afreidiol yn vr ysgrif fach. Tystion i'r ewyllys ydyi-t Charles Blackham o Wandsworth-road, a Mary Arnold, Nightingales-lane. Gwerth yr iddo presenol yw 11,160p. 2s. 6c. Talwyd 170p. o dreth etifeddiaethol"