Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

,---JIWBILI EGLWYS FAIR, GELLI,…

News
Cite
Share

JIWBILI EGLWYS FAIR, GELLI, LLANDEGAI. j SYLWEDD PREGETH Y PARCH, i MORRIS ROBERTS, FICER RHOSYBOL, MON. # I WRTH bregethu ar yr achlysur diddorol uchod ddechreu'r wythnoshon,y-tl Eglwys Y Gelli, gwnae h Ficer Rhosybol, un o blant Eglwys flodeuog Y Gelli, amryw gyfeiriadau Ileol gwerth eu cofnodi. Syl- faenodd y Ficer ei sylwadau ar Dat. ii. 18, eef y Hythyr at Eglwys Thyatira. Dywed- cdd fod rhinweddau Thyatira wedi bod yn amlwg yn holl hanes Y Gelli, ac yn achos- ion ei llwyddiant. 1.—Cariad- Y cyntaf oedd Cariad. Wrth gasglu'r ] gwenyn i'r cwch, meddai, buddiol cael y Frenhines" ynghyntaf. Daw y rank and file i fewn ar eu hoi. Felly cariad mewn Eglwys enwir yn gyntaf yn y testun. Roedd llawer 'fJ'r gras hwn yn hen dadau a mamau'r Gelli. Carent y Gwared- wr y-n fawr, carent Ei Eglwys, carent Ei waith, ac ymaberthent er Ei fwyn. Buas- ai'r tan wedi diffodd ar yr allor ar y dech- reu oni b'ai iod ynddo ormod o wres cariad. 2.—Gwasanaeth. Gwasanaeth oedd yr ail ddawn. Gol- yga'r gair, meddai, cylehoedd o d efnydd- ioldeb. Lie i ddatblygu grasusau'r aelod- au fu bai'r Eglwys yn y gorffennol Y person yn bopeth. Collodd y bobl ddiddor- deb yn yr Eglwys. Nid felly y Parch. W. Morgan, oedd ficer Llandegai, pan ygch- wynodd Eglwys Y Gelli ar ei gyrfa. Civdai mewn rhoddi digori o waith i'r bobl. Pan gychwynodd Ysgol Sul yn y Pandy yn 1851, y bobl ofalai amdani. Hwynthwy fu wrth y gwaith yn codi cerrig i adeiladu'r hen Ysgoldy, yn gofalu am y Cyrddau Gweddi, Cyrddau'r Cymunwyr, Cyfarfodydd Canu, Cyfarfodydd -dlonizidol, Casglu at Gymdeithasau, etc. Cryfhaodd yr Eglwys dan ei chyfrifoldeb. 5 -Ffydd. Ffydd" yw trydydd rinwedd y testun. O flaen popeth ffydd yog Nghrist. Hefyd, ffydd yn Ei Eglwys a'i neges. Dyma, eto, un o achosion llwyddiant Eglwys Y Gelli, Credai'r hen dacLu fod yr Eglwys yn ddwyfol ei thardd- iad, fod ganddi ei neges a'i chomisiwn. Nid sect ymhlith sectau ydoedd. Y ffydd hon a'u galluogodd i gerdded o Waenhlr, Sling, Bodfeirig, &c., ac i Landegai ddwy waith ar y Sul, ac j'r Gelli y prydnawn—pymtheng mi-Itir o gerdded. Y ffydd hon a goron- wyd yn 1869, pan symudwyd yr arch o dy Obed-Edom "yr hen Ysgoldy annwyl i'r Deml hardd hon, a'r ffydd hwn a gludodd gannoedd o eneidiau'n fuddugoliaethus i ogo .iant. 4.-Amynedd. "Amyne d" oedd y dcRfcwn arall. Ystyr y gair, o'i gymhwyso at Thy- atira ydyw, y gallu i ddyfalbarhau dan erlidiau. Ac y mae y gras o amynedd Yn angenrheidio) i bob Eglwys. Bu raid i hen dadau a mamau Y Gelli wrth lawer o'r rhinwedd hwn. Nid ar unwaithy daeth yr Eglwys i'w bri presennol. 0 nage Bu raid hir ddisgwyl. Bu'r plant yng nghypwr y Cropian am amser. Nid ar unwaith y tyfodd y plentyn yn ddyn. Ni addfedodd y cynUuniau a'r bwriadau mewn un-dydd- un-nos. Haeodd yr amaethwr ei had yn y gaeaf a'rgwanwyn diweddaf, do; a bu'n dda ei amynedd yn disgwyl amdano hyd yn awr. A dyna hanes yr Eglwys hon-hau, dyfrhau, a disgwyl yn amyneddgar am y Cynhaeaf. V.-Ei Gweithredoedd. Gras ara11 amlwg iawn yn Thyatira oedd Gweithredoedd." "Mi a adwaen dy weithredoedd," meddai wrth bob un o'r Saith Eglwys—ie, hyd yn oed Laodicea, ddi- fFrwyth a chlaear. Mae'n bwysig i Eglwysi gofio ac ystyj ied fod yr Arglwydd yn gwybcd eu hanes. Mae'n debyg fod yna lawer o siarad yn Sardis a Laodicea, ond fawr o wneyd. Mae llawer Eglwys heddyw hefyd yn siarad mwy nag maent yn wneyd. Un o I nodweddionamlwg y Gelli ym mhob cyf- nod o'i hanes yw ei "Gweithredoedd." Dysgwyd hi o'r dechreu fod ganddi i ddwyn I ffrwythau'r Yspryd," a bu hyn yn un o achosion ei llwyddiaht. Pan ofynai'r hen dadau i'r Ficer. Morgan ofyn i Arglwydd Penrhyn am y peth yma a'r peth arall, atebiad doeth yrhen wr bob amser fyddai— Gadewch i mi wel'd ynghyntaf pa beth > mae' r Gelli yn wneyd" Gwn yn dda mail beio'r ficer y fyddwn ni am hyn, gan; cwyllysio i bawb ond y ni i gymeryd y baich; ond, yn sicr i chwi, yr oedd yr hen ficer yn iawn. Yr oedd dysgu Eglwyswyr i fod yn Hawn gweithredoedd da yn erthygl bwysig yn ei gredo. Cofiaf, fel pe ond er- ddoe, iddo ddyweyd, wrthyf fi pan yn dechreu fy ngweinidogaeth, rhyw dair a deugain o flynyddoedd yn ol, Morysbach, toiTwch ddigon o waith i'r bobl. Dysgweh hwy fod ganddynt ddyledswyddau i'w cy- y flawni." Ac fe ddysgwyd y wers fuddiol hon i'r Gelli, a fu'n un o brit achosion ei llwyddiant. A daw hyn a ni at ein sylw olaf, sef VI.-Cynnydd yr Eglwys. A bod y rhai diweddaf yn fwy na'r rhai cyntaf." Ystyr y geiriau yw ei bod yn Eglwys a'i grasusau, a'i gweithredoedd da yn myn'd ar gynnydd. Sohia St. Petr am rhyw bobl a'u diwedd yn waeth na'u dech- reuad." Ac y mai rhai Eglwysi felly, ond diolchwn i Dduw, ar ddathliad Jiwbili Fair, mai nid felly y mae yma. Y Pasg diweddaf, pa niferoedd wrth Fwrdd yr Arglwydd? Uwchlaw 200, onide? Mwy nag erioed. Pa beth am eich haelioni crefyddol? Yn ei flaen, ynte. Pa beth am eich zel genhadol? Mentrtif ddweyd fod yma lawer mwy ohono yn Eglwys Fair y Gelli nag yn unrhyw Eglwys Gymraeg trwy Ddeoniaeth fawr Arllechwedd, ac nad oes ond ychydig yri yr Esgobaeth yn ihagori arni. # Byddwch falch o'ch safle an- i rhvdcdduH i'r hon, trwy ras Duw, y'ch dvgwyd. Daliwch eich gafael yn eich etifeddiaeth. Sylwch ar y 25ain adnod, a gwnewch hi yn arwyddair-" Yr hyn sydd gennych, deliwch hyd oni ddelwyf." Chwi bobl ieuaine y Gelli, tynghedaf chwi yn en,w hen dadau a mamau Y Gelli-daliweh afael yn eich etifeddiaeth. Ewch rhagoch at berffeithrwydd." Daliweh y faner i gwhwfan. Rhodiwch yn ol traed hen ffyddloniaid a duwiolion Y Gelli. Fel hwythau gwnewch yr hen emyn hwnnw'n brif emyn eich calon. "Yn Dy waith y mae fy mywyd, Yn Dy waith y mae fy hedtd," etc.

,,--_,-,-_---FFYDD A GWEITHREDOEDD…

DEONIAETH LLANRWST.

GWERSi AR Y CATFCIS31 A GWASANAETH…

LLITH ' MORFA.*

THE JOY OF TONGUE :-AND PEN.

Advertising