Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
ARAITH Y PRIFWEINIDOG.
ARAITH Y PRIFWEINIDOG. TYMOR y gwyllau yw hi ar bawb, ao ymdden- gys fod pawb a/I frawd ar eu heithaf yn mwynhau y tymor, a mwy o avian yn y llogell, hwyrach, nag y syd.d o synnwyr yn y pen. Boed hyn fel y bo, daeth yn bryd i'r Senedd hefyd i ymwasgaru a gohirio ei hym gynghoriadau am ddan fis-hyd Hyd. 2'2ain. Cyn terfynu yr eisteddfod, rhoddodd y Brenio ei gydsyniad i amryw fesurau a basiwyd, ac yn eu pHth, Deddf yr Eglwys Gymreig. Yn ol yr hen ddefod, cyhoeddwyd hyn gan y clerc yn Nhfr Arglwyddi yn yr hen ffurf- ymadrodd Leroile veult (Kwy31 ys y Brenio yw). Achyn gollwng aeiodau Tj'r Cyffredm yn rhydd, traddododd y Prif Weinidog araith faith yn adolygu sefyllfa'r wlad, ao yu bras- lunio gwaith y Llvwodraeth yn union ar 01 y gwyliau. Rbybudd a phryder a pherygl oedd cynnwys yr anerchiad. Cyffyrddodd a'r rhan fwyaf o'r pynciau sydd yn cynhyrfu cym- deithas ar hyno bryd, ac y sydd yn galw yn groch am ddyfarniad doeth a cbyfiawn. Dyna bwnc y glofeydd a'r streiciau dibendraw. Y mae'r mwnau yn y ddaear i ddyfod yn eiddo'r genedl yn ol cyngor Adroddiad Dirprwyaeth y Glo, ond nid ydys yn bwriadu eenedlaeth- oWr gweitbfeydd glo a'r mwngloddiau, am fod y ddirprwyaeth wedi methu cytuno ar y pen yma. Ond yr ydys yn bwriadu dileu gwas- traff cydyragais trwy UlJO trefriiadau y glo- feydd, a rhoddir liais i'r gweithwyr yn y trefniadau. Addewir ymhellach wythnos waith o 48 awr i'r rhan fwyaf o ddiwyd- iannau. Amcan y pethau hyn yw adferyd gweith garwch a diwydrwydd yn y wlad. Wedi terfyn y rbyfel, ymdaenodd ton o ddiogi a segurdod dros gymdeithas. Nid oes a fynno neb a gweithio yn ddiwyd ac yn onest. Llawer o ddifrio fu cyn hyn ar yr idle rich, ond dyma ddelfryd a nef- oedd adrannau niferus o weriu gwlad. DIgon o arlan a dim gwaith yw galr cyswyn y tyrfaoedd. Yr ydys yn gobeithio mai clefyd byr ei barhld ydyw hwn onide aifF y wlad dros y dibyn i ddiniatr anaele. Datod- wyd cylymau cymdeitbas gan ysgydwad erchyll y pum' mlynedd diweddaf. Diflan- odd ymddiriedaetb a sefydlogrwydd, a, daeth ansiorwydd a drwgdybiaeth yn eu lie. Dioddef y wlad oddiwrth brinder nwyddau, ac ar yr un pryd yr ydys yn seguran ac yn Uei- hau cynnyrch. Yn fwy, y mae rhai yn barod i ddifetha cynnyrch ac eiddo fel y gwelwyd yn Swydd Efrog ac yn Llundaln a Lerpwl pan streiciodd yr heddlu. Costiodd y rhyfel 40,000,000,000p., a saif y ddyled geoedl- aethol yn y wlad hon yn awr yn y swm aruthrol o 7,800,000,000p. Ac yn lie dech- reu talu ein ffordd, parhawn i fenthyca ac i fyw yn yn afrad afrad. Gwelir felly beryc- led y sefyllfa a dued y dyfodol. Meddygin- iaeth y Prif Weinidog yw gweithlo'n galed a byw yn gynnll heb wastraffu dim. Hen recipe iawn ydyw hwn—cyfarwydydd ein cyn- deidiau, ond erys rbiuwedd yn y feddygin- laeth eto, ac ar wahan lddi, nid oes gwellbid i'r genedl, a bydd ei chlefyd hyd angeu. Ni ellir dweyd fod anerchiad Mr. Lloyd George wedi rhoddi boddlonrwydd cyffredinol. Beirniadwyd ef yn llym mewn bagad o gylch- oedd dylanwadol. Digiodd arwelnwyr Llafur yn aruthr am na chenedlaetholir y glofeydd. Y maent yn chwythu bygythion a chelanedd, gan dystio y gwnint y glofeydd yn ddiwerth i'w perchenogioo. Digiodd y masnachwyr am symud yr ataliadau mas- nachol ar ddadforion ym mis Medl. Cyhuddir I Mr. Lloyd George a Mr. Bonar Law o dorri eu haddewidion adeg yr otholiad. Yr oedd yr araith, meddir, yn rhy faith ac yn rhy I amheiiodol, yn argymell cynildeb, a'r Lly- wodraeth ar yr un pryd yn garndroseddwr yn I hyn o beth. Ofnwn fod y Cyd-blaid yn ddiffygiol mewn meddwl so nad oes weledig- aeth eglur. Y mae yr elfeunau sydd yn ei chyfansoddi yn unghydryw fel oa. cheir yn hawdd gytucdeb a chyt. gord ynddi ar gytilliin a pholisi. Of- nwn nad. yw'r Pitif Weinidog yn rhydd oddi wrth ddiffygion a gweadidaa cynheuid y Cymro—sef diffyg meddwl, egn-yddor a phenderfyniad. Cyhuddir ef o esgeuiuso darllen a myfyrio, fel y gellir cyhnddo llawer i swyddog mewn gwlad ac eghvys, gyda'r canlyniad nad ydyw yn gwybod ei feddwl ei bun an el fod yn byw o'r Haw i'r genen-yn dal Uygoden a'i bwyta hi • a'i gario hwnt ao yma gsn wyntoedd a thotioau mor poblog- rwydd heb lyw egwyddor a. chwmpawd gwybodaeth i ddwyn llong y wladwriaeth yn ddiogel trwy'r dymesfcl Bydd ganddo seibiant am dymor yn awr, a chaiff hamdden ond ndid yn el erioil yn Llydaw i fyfyrio ar e) waith ao i geisio gweledigaeth sglur. Ni allwn ei amddifiidu dn cydymdeiraiad a'n gweddiau yng nghanol belyntion helbulus yr an-Aser elthriadol hwn. Gwnaeth wasanaeth asxihriaiadwy i'r wlad ynawr dduaf y rhyfe!, I ac erys ein dymuniadau goren gydag ef hyd yn hyn, ar iddo ddiogelu a chadarnhau y fuddugoliaeth fawr, fel y bo iddo esgor ar y canlynladau bendithiol bynny y disgwyliwn mor daer am danynt.
ACT YR EGLWYS GY MBIG. .I
ACT YR EGLWYS GY MBIG. WELB'R Act uewydd bellach ar ddeddf-lyfr y wlad, ao 01 bydd st na son am ei diddymu megis y clywyd am Act 1914. Tarawyd bargen rhwng cyurychiolwyr y pleldiau crefyddol a gwleldyddoi a rhaid cadw telerau'i cytundeb. Ni wyddi3 pa fodd yr edrychir ar y drafodaeth gan luaws y gwahanol bleidiau -y rank and file, ond credwn fod eu syndod wrth y cyfan wedi eu haaiddifada am ennyd I o'u tafodau. Ond hyawd) yw y gr sydd yn chwedleua yn y Tyst am Hyn a'r Llall o Fabilon Fawr. Rhyw patched up job ydyw hon ar y goreu Y Prifwelnidog, ef allai, yn teimlo ei bod yn werth hyd yn oed miliwn o aur melyn i gael yr hen gwastiwn trafferthus allan o'r flfordd. Mae'n wir nad yw miilwn o aur melyn yn cael eu talu ar goat y Cymro. Telir y bill allan o gyllld y wlad. Rhyw banner can' mil fydd cyfran Cymru. Ond nid dyna'r pwnc mawr, ai e ? Y pwnc ydyw hwif: ai cyfiawn fod yr holl wlad ar adeg gyfyng fel hon i'w threthu er budd a lies unrhyw enwad crefyddol 1 Paham y rhaid i'r Eglwys yng Nghymru. fod yn Scot free? Bargen unochrog ydyw. Beth, wn i, ddywedasai Thomas Gee, Hiraefchog, a Henry Richard am y fargen hon ? Llanelwy a'i ffrindiau biau'r dafell oreu o'r dorth." Gwelir felly beth ellir ei ddweyd gan wrthwynebwyr yr Eglwys ar y mater. Dywedodd mechniafon yr Act el bod yn rhyddhau Eglwys Cymru oddi wrth bob drwgdyblaeth ynglyn â'l feheltl i'w meddian- nau, ac yn dileu pob amheuaeth ac amwysedd a ddichon berthyn i'w safle, ei hawdurdod a'i braint. Rhoddai derfyn, meddent, ar ymry- spn crefyddwyr. Yr ydys yn taer obeithio y gwireddir y disgwylladau yma. Ond nid ydys yn aler. Rhaid cyfaddef, gyda gofid, ei bod bob amser yn bosibl i'r gwrthwynebwr i ddifrio a phardduo gwrthrych ei gasineb. Nid mater o wirionedd lfeithiau ydyw dadl ac ymryson, ysywaeth, eithr o gydymdeimlad a gwrthymdeimlad. Felly yma. Nid oes byth brinder cerrig a llajld i'w taflu at wrth- rych casineb. Lladratelr yn awr oddi wrth yr Eglwys 50,000p. y flwyddyn, yn golygu cyfalaf o fillwn o bunnau. Dyma'r ffaith aych, noeth, galed. Eithr beth all ddlgwyddl Ebe'r Eglwyswr Dygwyd mlliwn o bunnau yn annheg oddiwrthym gan y Llywodraeth." Etyb el wrthwynebydd oyndyn Cawsoch fillwn o bunnau yn rhad ac am ddlm gan y I Llywodraeth Wrth gwrs, amryfus ac r angbywir fydd y fath haeriad, ond gei/ir dan- j nod hyn i'r Eglwys gan adyn diegwyddor. i Wrth gwrs, dyma Fesur siomedigaeth yr | ysbeiliwr. Wrth apelio at draehwant, gwanc, a chybydd-dod yr amaethwr y porthwyd y cynn wrf isel wael yn erbyn yr Eglwys. Per- swadiwyd y ffarmwr na byddai raid iddo dalu'r degwm ar ol y DatgysyVitlad, ac yn gadarn yn y gred boa gwrthododd fwy nag un ffercnwr o Eglwyswr ddodi ei enw wrth y ddeiaeb yn erbyn dadwaddoWr Eglwys, gan idewis Mammon yn hytrach na Duw. Efallai fod y fformwyr yu disgwyl pethau gwych i ddyfod ar ol Mawrth Slfed, 1920, yn y eyfeiriad yma. Os feliy, eu siomi a gant, eanys eroea i hynny maent ya d'od. Gwych o beth fyddai gofyn i'r fferrn wr wrthododd ar- wyddo'r ddeiseb, ^a ydyw wedi myn'd i ddwfr y m6r ar y degwm nad oes rhaid iddo dalu, mwyach Cyn pen blwyddyn, druan, sylweddola ei fod wedi ei dwyIlo gan bregefehwyr a gwleidyddwyr anwireddus. Y mae gwleidyddwyr yn troi yn awyrgylch afiach hooed a thwyll. Ebe'r Tyst: Aelod ffraeth o'r Blaid. Wyddeiig, pan yn traethu syniadau ar y mater (sef yr Act dan sylw) yn dwayd fod dwy adran yn per- chyary Biaid Gymreig ar hyn o bryd-un ,.dran wedi cael eu teitliu a'a beiidithiOD, a'r ilai) yn byw mewn gobaith 1" lë, dichell, cyfrwystra, cynllwyno—dyna'r pethau a welir y tu hwnt i'r lien ar Jwyfan gwleidvdd- iaeth yn ami, Mor wahanol i'r sant a goffawyd y SuI diweddaf-yr Iaraeliaid yn wir yn yr hwn nid oes dwyll." Yr ydys yn ofn,i nad rhyw ddisglairiawn fyddai Nathan- ,j| aei fel seren yn y ffurfafen wleidyddol. Ond Israeliad yn wir" ddylaf fod yng ngwaith a gweinyddiaeth Israel Duw. A thaer obeitbiwn mai dyma'r awyrgylch a fydd yn Eglwys Cymru Fydd. Gwnaed ymgaia yn Nhy'r Arglwyddi i ad- feryd y mynwentydd i'r Eglwys, ond yn y diwedd, dileodd y Ty ei weliiant, a basiodd ar y mater, oblegid cytidynrwydd y. Cyffredin. Gwrthwynebwyr pybyraf yr ys- beilio oedd y Ceciliaid, ac ennynant ein p-Aroh a, n hedmygedd diflfuant, oanys dyma Israel- iaid yn wir, yn y rhai nid oes dwyll. Ceis- iwyd gwneyd oyfaddawd fod yr holl fynwent- ydd yng Nghymru i'w harolygu gan bwyllgor yn cynrychioli yr Eglwys a'r enwadau, ond gwrthododd yr enwadau y cynllun. A rhaid cyfaddef nad blin gennym hyn. Gwell gennym eu gwel'd yn myn'd l'r, oynghorau gwladol ar unwaith, a bod y lladrad yn amlwg i bawb. Gall y lleidr fy nhrechu am ei fod yn gryfach na mi, ond nid oes rhaid I 3 mi gytuao ig ef, a bod yn gyfrannog yn ei j ysgelerder. A lladrad ac ysbail yw'r cwbl a ddygir oddi ar yr Eglwys Dyna argy- ''fl hoeddiad dros gan' mil o Ymnellltuwyr a *1 osodasant eu henwau wrth y ddeiseb yn erbyn dadwaddoliad. Dyna'r tir y safodd amddiffynnwyr yr Eglwys arno ar hyd y blynyddoedd, ac nid ydym yn myn'd i droi'r gath yn y badell yn awr yn ol moeseg drofaus gwleidyddlaeth bleidgarol. Atafaeliwyd eiddo a theitlau dilys iddo gan ei berchenog- ion, ond, dilynir y precedent mewn ffyrdd anhyfryd i'r yspellwyr, a'r rhai a beuodd y gwynt a fed y corwynt.
Llandudno Junetion.
Llandudno Junetion. Mae Eglwyswyr y rhan hon o blwyf Llan- gystenyn wedi dechreu oasglu at gronfa er adeiladu Eglwys newydd. Mae'r Junction wedi tyfu yn bentref mawr yn ystod y 30 mlynedd diweddaf. Eglwys haiarn sydd yma yn bresenol, ond penderfynwyd gwneyd yr hyn a ellir elenl o fewn y plwyf tuag at y gronfa heb fyned at ddleithriaid. Yr ydys wedi amcanu at swm neillduol oyn diwedd y flwyddyn, ac yna gwneir apdl gyffredinol. I helpu'r Gronfa bu Tê a ohwareuon yma Ddydd Mercher, Awst 13eg. Gwerthid hefyd ffrwythau, llysiau, a theganau. Agorwyd yn ddeheuig gan Mrs. Jones-Mortimer, Bryn Eisteddfod. Ar ddiwedd y dydd, trosglwydd* wyd y swm sylweddol o XSI i'r Trysorydd.