Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

I Heddwch y Byd. | .

News
Cite
Share

I Heddwch y Byd. | EI EROBLEMAU A'l ANHAWSTERAU. MELLTITH Y CYTUNDEBAU DIRGEL. 1 Dro ar ol tro yng Nghwrs y Rhyfel, am- lygwyd yn y LLAN y perygl i Werin y Byd a orweddai yng nghudd yn y Cytundebau Dirgel a wnaed rhwug gwlad a gwlad, a "■ rhwng cenedl achenedI, cytundebau na wydciai'r byd ddim am danynt, na wyddai y I hyd yn oed trigolion y gwledydd eu hunain ddim am danynt, na wyddai neb ond ychydig o bersonau yn Llywodraeth y gwledydd cyn- I wysedig yn y cytundeb ddim am danynt. Ac eta ymddibynai Heddwch y Byd yq ami ar y Cytundebau hyuy. Drwyddynt yn ami gwerthid cenedl yn gaeth i fod yn ddeil- iaid Llywodraeth a rail, trosglwyddid tir- iogaeth gwlad gyfan i ryw wlad arall heb ofyn caniatad deiliaid y naill na'r llall. Un o amcanion mavr proSesedig y Rhyfel o'n tu ni oedd gosod terfyn bytbol ar y cytundebau dirgel hyn, ac ar y posibilrwydd o'u parhau. Drwy gytundebau dirgel o'r fath y gyrwyd y byd i ryfel yn 1914. Con- demnid hwynt yn ddiarbed gan bawb a ddymunai sefydlu Heddwch y Byd o hyn allan. Yn eu dirgelwch, yn y gwaith o gadw ynghudd eu darpariaethau, y gorweddai eu perygl. Pe y gwneid eu cymwys yn hysbys i'r byd, naill ai ni allesid byth eu paslo a'u cadarnhau, neu tynasid o honynt y S, colyn angeuol a gynhwysid ynddynt. 0 dan Gyfansoddiad Cyngrair y Cenhedloedd gwneir pob cyfryw Gytundeb Dirgel rhwng y naiil t wlad a'r llall yn y dyfodol. yn anghyfreithlon a dirym. BUOM YMRON COLLI Y RHYFEL. Gall darllenwyr Y Llan sylweddoll pwysig- rwydd y mater hwn pan ddeallanfc ddarfod i ni ymron golli y Rhyfel, a syrthio yn ysglyf- aeth i'r Caisar drwy Gytundebau Dirgel a wnaed gan Brydain ei hun a'l Chynghreiriaid tra yr oedd y Rhyfel ar waith. Ar waethaf pob proffes gwnaeth Prydain, a Ffrainc, a'r Efdal, a Rwsla, a Japan, ac eraill o'r Cydwled- ydd oeddent yn ymladd yn erbyn Germani, Gytundebau Dirgel yn ystod y rhyfel, cytun- debau a beryglent Heddwch y Byd pan elai y rhyfel heibio, ac a fygythiant Heddwch y Byd heddyw, Y FFEITHIAU NOETH. .0 Yr oedd y ffeithiau yn hyspys i gylchoedd neilltuol ym Mhrydain a gwledydd eraill er's tro. Ond yr wythnos ddiweddaf y gwnaed hwynt yn hyspys i'r byd. Trwy yr Arlywydd Wilson, ac o'r America, y daeth y wybodaeth i'r wlad hon. Pan ymyrrodd yr America yn y Rhyfel, ac y trodd mantol y brwydro mewn canlyniad o'n tu ni ni wyddal yr Arlywydd ddim am y Cytundebau Dirgel a wnaed adeg y Rhyfel rhwng y wlad hon a gwledydd eraill-Cytun. debau a drossddent bob proffes a wnaed gan ein Llywodraeth ni ac eiddo gwledydd eraill pan yn cyhoeddi rhyfel. Drwy y Cytundeb- au hyn trosglwyddwyd gwlad a chenedl heb eu caniatad, i Genedl a Llywodraeth arall. Nid rhyddhau cenhedloedd caeth oedd hyn, eithr yn unig newid y meistr, Mae yn dra thebyg, yn wir, ymron yn sicr, pe y gwypu- asai yr America am fodolaeth y Cytundebau hyn ar y pryd, na fuasal hi wedi dod allan i frwydro o'n hochr ni. Yr oedd ei holl amcan wrth ddod allan i ryfela drosom ni a'n hachos yn groes I amcanion y Cytundebau dirgel hyn. Yr oedd Pedwar Pwynt ar Ddeg Wilson yn eu hanfod yn groes i ddarpariaethau y Cytundebau hyn. Pan gyfarfyddodd efe a. Mr. Lloyd George ac â. Chenhadon Ffrainc a'r Eidal oddeutu'r bwrdd yn y Gynhadledd Heddwch ar ol gorohfygu o honom Germani, y cafodd efe wybod gynfcaf am danynt. Bod olaeth y Cytundebau dirgel hynny a wnaeth | y gwaith o drefnu amodau heddwch mor j anhawdd, ac y aydd gyfrifol am yr oediad | anerferiadwy y pryd hwnnw, yn y gwaith o drefnu amodau heddwch. Gwrthwyneba America yr awr gynwys rhai o'r Cytun debau hynny, Bygythia rhai q arweinwyr America wrthod cadarnhau y Cytundeb Heddwch o herwydd hynny. Os daw i hynny, gwneir Cytundsb Heddwch Paris yn ddirym I -ac ni bydd Heddwch y Byd yn bod. A i hyn oil am fod arweinwyr y gwledydd wedi torri eu gair, wedi twyllo'r Werin, ac wedi i gwneud Cyttindebau Dirgel a gondemniasid ganddynt gynt. r-

Yn Nyffryn Teil. I

Llanbedr-pont-Stephan.

Advertising