Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Y RHYFEL.
Y RHYFEL. GAN ESGOB TYIDDSWI. YNG ngwyneb y newydd drwg o'r Eidal toimlftf mai y Rhyfel a ddylai fod fy nhestyn yr wythnos hon. Ceir yn y LLAN grynodeb gaduog bob wythnos o. newyddion y Rhyfel na oheir ei well, hyd y sylwais, yn y waag wythnosol. DjyLem oil gydym- dedznlo o gaJon a'r Eidalwyr yn eu profed- igaeth fawr. Ni ddylem anghofio iddynt gymeryd ein hochr yn Mai, 1915, pan yr oedd .Germani yn gadarn iawn. Ymladd- asant yn hynod a ddewr am ddwy flynedd a hanner, a llwyddasant y Hynedd ac eleni, tuhwnt i ddisgwyliad, yng ngwyneb an- hawsderau diriawr ym mynydd-diroedd y Trentino ac ardal yr Isonzo. Ofnid, y llynedd, pan ruthrodd yr Awstriaid i lawr i'r Trentino y llethid yr Eidalwyr, ond trwy fedr y Cadfridog Cadorna a gwroldeb ei filwyr treohwyd y gelyn y tro hwnw. Gwir fod rhuthr y Geraianiaid a'r- Awstriaid ynghyd dros yr Isonzo i wastadedd Friuli yn awr yn fwy bygythiol na rhuthr yr Awstriaid i'r Trentino y llynedd. Ond yn ol yr arwyddion pan ysgrifenir gellir gobeithio y gall Cadorna ddal eri dir ar lan yr afon Tagliamento hyd nes y gall Prydain a Ffrainc ac efallai yr America anion cymhorth digonol iddo. Y mae yna, afonydd eraill yn y gwastadedd tu oefn i'r Tagliamento, lie y gallai Cad- fridog medrus fed Cadorna sefyll pe gallai y Germiaiiiaid ruthro yn llwyddianus dros y Tagliamento. Felly, na fyddwn yn rhy bryderus. Nid hawdd a fydd i Germani a/C Awstria gludo ymborth ac adnoddau rhyfel i'w byddinoedd yng ngwastadedd Friuli, ac os nas gallant lethu yr Eidalwyr cyn i gymmhorth ddod iddynt o Brvdain j a Ffrainc dichon y try y rhuthr lawn yny pen draw yn siomedigaeth chwerw i Ger- maui gan y gellir parhau i yinladd yn y gauaf yng ngwastadedd gogledd yr Eidal pan nas gellir gwneuthur llawer hyd y gwanwyn yn Fflariders a Ffrainc. Ar y gwaethaf estyn1 hyd y Rhyfel ac nid eniil y Rhyfel yw y cyfan a all Germani obeithio am dano oddiwrth ei llwyddiant yn yr Eidal, oanys yn Fflanders a Ffrainc y pen- derfynir tynghed y Rhyfel, a oholli yn sicr er yn araf y mae Germani ym mhrif faes y brwydro, Difrifol iawn, er hyny, yw meddwl y dichon Rhyfel mor ofnadwy barhau yn llawer hwy nag y disgwylid y gwanwyn diweddaf. Galiesid gobeithio onibai am yr anhrefn a ddilynodd y chwyldroad yn Rwsia y gwelid gwawr buddugoliaeth achos cyfiawnder cyn y gauaf hwn. Metliiant Rwsia a roddes gyfle i Germani wneyd y rhuthr ffyrnig hwn ar yr Eidal, ac nis gellir disgwyl gweled hol, nerth yr America yn y maes am rai misuedd eto. Felly rhaid i ni yn awr ym Mhrydain ymbarotoi ar gyfer yohwaneg o aberth er mwyn dwyn barn i fuddugoliaeth. Y mae ymddygiad dideimLad y Grermaniaid ar for a thir ac yn yr awyr yn dangoa yn fwy eglur bob mis nad oes dim llai na lies dynolryw yn y glorian yn y rhyfel hwif. Pe llwyddai Germani, llethid V byd gan ei thraha milwrol hi, a methrid cyfiawnder a rhyddid dan draed. Y mae heddwch werthfawr, yn fwy gwelrthfawr c lawer nag yr arferem feddwl yn amser liawddfyd, y ond y mae cyfiawnder yn fwy gwerthfawr hyd yn oed na heddwch. Canys cyfiawn- der ydyw unig sylfaen heddwch parhaol. Pe caffai Germani heddwch, yn awr ar ei thelerau ei hun ni byddai y fath heddwch ond dechreu rhyfeloedd newydd am fwy nag un oes. Rhaid darostwiig balchder milwrol. ei-eulawii y genedl ffyrnig a di- egwyddor hou cyn y caiff y byd obaith am heddwch parhaol. Felly rhyfel i ennill heddweh yn gystai a chyfiawnder yw y rhyfel dychrynllyd hwn. Hiraethu am ddyfodiad teyrnas Dduw ar y ddaear a ddylem. ond oofier nad yw teyrnas Dduw fwyd a, diod, ond "cyfiawnder, a thang- nefedd, a llawenydd." Cyfiawnder yw hi yn gyntaf oil, a tliangnefedd ar sail cyf- iawnder a llawenydd trwy dangnefedd sylfaenedig r gyfiawnder. Amoau yr vsgrif hon yw galw sylw at ddyledswydd orefyddwyr iiiewii amser mor ddifrifol. Ein dyledswydd yw gwneyd ein goreu droso ein gwlad yn achos cyfiawnder. Dylem roddi pob oefnogaeth yn ein gallu i'r Llywodraeth trwy ymdrechu yn ffvdd- lawn gyflawni yr oil a ofynir i ni ell wneyd, ac yn enwedig trwy fyw- yn gynil pan y ( mae ymborth yn brin, a phan y mae ar y wlad angen cymaint o arian ag a ellit gynilo iddi at draul dirfawr y rhyfel. Peth al-all a ddylem ei wneyd yw ymddiriedyn y "Llywodraeibh. Dangosodd Sir Ifric Greddes yn ei araeth glir a rhagorol mor ddisail ac afresymol ydoedd yr achwyn- iadau a wnelai rhai yn erbyn y Llywodr- aeth yng nglyn a'r llyngee. Dylem hefyd fod yn dawel ac unol, a, da iawn y gwnaeth ein glowyr wrthod y cais a wnaed iddynt beidio gweithio oherwydd tjvfiiiadai-i y Llywodraeth i gael yohwaneg o ddynion o'r glofeydd i'r fyddin. Ond y mae un diffyg mawr yn aros. Nid oes hanner digon o ystyriaeth yn y wlad eto mai yn llaw yr Hollalluog y mae dwyn buddug- oliaeth a byrhau y rhyfel. Galleeid meddwl y buasai edn siomiant ynghylch Rwsia yn dwyn y wlad i ystyried, ond nis gallaf fod arwyddion mai felly y bu. Gobeithio y bydd i'r newydd drwg o'r Eidal droi y wlad at orsedd gras. Hyd y gellir canfod y mae y rhyfel wedi dyfnhau Oifn yr Arglwydd yn y rhai a'i hofnent Ef o'r blaen. Ac, yn ol a, glywir, y mae lluaws o'n milwyr dewr yn y ffrynt na feddyliasent lawer efallai ynghylch crefydd pan oeddynt gartref wedi dyfod i ganfod eu hanghenion ysprydol yng nghanol yr aberthau mawr a wnant dros eu gwlad ac achos oyfiawnder. Ond y mae lie i ofni fod gormod o lawer o bobl gartref yn ein gwlad. sydd heb eu dwyn eto i gydnabod yn ddifrifol awdurdod y Goruchaf arnynt. Nid yw Eglwysi a chapel a u Cymru mor lawn o addolwyr ag y dylent fod mewn amser mor ddifrifol. Y mae cyfrifoldeb dwys am ddifaterwch y wlad yn gorphwys ar gymunwyi-. Ond ein llanw ni oil yn fwy ag yspryd gweddi a, ffydd fe welid diwygiad graddol yn y difater. Bu dydd gweddi oonedlae,thol yn yr America, yn I ddiweddar. Dylem ninnau ymbarotoi at ddydd gweddi genedlaethol ddechreu y flwyddyn newydd. Y mae hanes Israel yn dangos fod yr Arglwydd yn sylwi yn fanwl ar gyflwr ysprydol cenedl a'i fod yn fynych yn aros hyd nes daw cenedl o'i flaen ar ei gliniau cyn rhoddi buddugol- ¡ iaeth iddi. Gallwn nesau yn hyderus at orsedd gras Duw cyfiawnder i erfyn arno roddi buddugoliaeth i achos cyfiawnder, a chredaf ond i ni oil ag sydd yn ym- ddiried ynddo alw arno yn ddyfal ac yn daer y byrheid dyddiau y Rhyfel ac y deffroid 11awer o'u difaterweh at grefydd.
--""'-"'-I The Church Convention…
I The Church Convention at Cardiff I MR. JUSTICE SANKEY'S SPEECH. I (Continued). It may be that gradation of living is desirable. By that I mean this:-that livings should be divided into various classes, say of £250, £300, X350 and E400 a year and so forth. There are many cases I where the incumbent through no fault. of his own is a square peg in a round hole, and if I may say so also there are cases where the incumbent haar been a great deal too long in the same hole. (Laughter.) Now this might be permitted by giving I him a freehold in his constitution or in his benefice. By that I mean this:-that where a, man gets X300, £400, or JE500 he should never sink below it. If in addition to this you pay the incumbent the expenses of his removal, and secondly you relieve him of the cost of dilapidations, the in- him of the cost of dilapidations, the in- cumbent will give his claim to the so-called parsons' freehold. Then the Representa- J tive Body willi have to consider the case' of 1 the assistant clergy with whom, if I may say so, my sympathies are rather more than with the beneficed clergy. I hope a scale, may be devised ascending with the number of years the assistant clergy has been in Orders. And fiiially-aiid I think I leave the most important question to the last the Representative Body must at once proceed to the consideration of the question of superannuation or the provi- sion without delay of pensions to which the clergy are entitled. Now these are only some of the questions which will immediately demand-the atten- tion of the Representative Body, and the sooner thev begin to consider them the batter. I now turn to an entirely different ques- tion—the election of the Representative Body. In this scheme a, quality of repre- sentation is given to the various dioceses. In the Governing Body scheme, the repre- sentation is more or less proportionate, with the result that South Wales gets more. members than North Wales, and Bangor gets the smallest number of members of all. the four dioceses. Now this state o £ things is viewed with apprehension by the Bishop of Bangor and others who agree with him. His lordship has recently been good enough to communicate his views to me and has circulated certain amendments at the end of which he makes the following statement, which I will read :— Inasmuch I as the dioceses of North Wales are on the Representative Body, on an equal footing with the South Wales dioceses, while on the Governing Body they are in a positioiv of great disadvantage, the Representative Body shall be given greater independence when dealing with matters specially be- longing to them." I will stop there for a moment. Now let me at once say, and say as clearly as I can, that I am in entire sympathy with that feeling. I thought when Clause 23 of the Representative Body scheme was drafted, that- effect had been given to it, and that it had been given to it by making the sale of property im- possible without the, consent of the Bishop, and the same oases requiring the confirma- tion of the diocesan Representative Body as well. Now if that, be., insufficient I should agree (1) to provide still greater safeguards to protect the diocese: of Bangor, ) and (2) I would put it out of the power of the Governing Body to alter the represen- tation of the Representative Body without the consent of each of the dioceses. This would prevent Bangor being prejudiced by a reduction of its own members or by an increase in the number of members of other dioceses, but I except from this any ques- tion which may arise in the formation of a new diocese, which we shall all have to consider, of course, if such an event hap- pened. Now I think, my lord. no doubt will later on tell me, and I think that this really meets my lord and those who think with him, on every point except one, and I will now come to that. He desires that the Representative Body shall act by sub- divisions in each of the four dioceses. I beg that he will not press that. I will try and convince him that it would be inad- visable. Now I am sure that on occasions like this you would much prefer it if I spoke quite plainly. I know perfectly well that there is a certain^emount of jealously between North Wales and South Wales.. Some people are afraid of it. I am not, and I think a little amount of jealousy is a very good thing. I think it stimulates what we want in the Church-interest and activity. I am not a prophet, but I think you will find in the administration of the, ftitur-e; in the, Church in Wales that any struggle which does come will not be between North and South Wales, but will possibly be between the industrial areas and the rural areas, but it will never allow jealousy to run too far. My am- bition is to carry through these two schemes with the goodwill of everybody, and I would sacrifice. a good deal of what I think I am entitled to rather than see a defeated minority go ,home sore and disap- pointed, and I object to the sub-division of the Representative Body for these rea- sons: (1) I think it will tend to foment and not to allay that jealousy, if it exists. Under that system we should be meeting in private and secretly and secrecy, as you know, is the father of suspicion. It is by meeting together and hearing one another's views that we, prevent misunderstanding. We do not want the Church to be dio- cesan we want it to be national. My lord, if he will forgive me, saying so, is a, Bishop of the Church in Wales who hap- pens to preeside over the See of Bangor, and I as a member of Llandoff, am just as much entitled to his consideration and protection as you who are members of his own diocese. Another reason which I urge against sub-divisions is this—from a, busi- ness point of view. These separate sub- divisions would cause great delay which is injurious if you want either to sell or ex- change or to deal with property. We, lawyers are chaffed about our delay, and don't let the, owlesiasties be tarred with the same brush, but -a truce to argument. (To be continued).
Yn Nyffryn Teifi. x
Yn Nyffryn Teifi. x (tJau JOHN T GWAS). PRIODAS.—Yn Eglwys Llangeler, boreu dydd Sadwrn, unwyd mewn glan briodas Miss Rachel Ann Evans, merch Mr. a Mrs. David Evans, Danwarring, a Mr. John Owen, College Green, Llangranog. Rhodd- wyd y feroh ieuanc ymaith gan ei thad. Gyda'r ferch yr oedd Miss Agnes' Evans, Square Hafl, Drefach, a'r gwas priodas oedd Capt. Da-vies, Castle Rock, Llan- granog. Gweinyddwyd y seremoni gan y I Parchn. H. Jones, fioer Llangeler. a D. Jenkins, rheithor Penboyr. Wedi'r briodas dychwelodd y parti priodasol yn ol i Danwarring, lIe y mwynhawyd y boreubryd. Unwyd a hwy gan y ddau offeiriad. Yn ddiweddarach yn y dydd ymadawodd Mr. a Mrs. Owen yn y modur i Gaerfyrddin, ac oddiyno gyda'r tren i Aberdar, Caerdydd, a Llundain. i dreujio y mis mel. Mae, y ddau yn hynod barchus yn eu cymydogaethau, fel y tystia y nifer luosog o u hanrhegion gwerthfawr a defnyddiol. Bendith nef to ar yr undeb Ddyddiau'ch oes yn mlaen o hyd, Mewn rhadlo nrwydd a sirioldeb Tyfed serch i wynu'eh byd. Ar y delyn boed alawon, Calon lan, boreuau hedd, A gwanwynau o gysuron Leinw'ch oes a bias y wledd. EIN MILWYK.—Yn Ysgoldy Aberbanc, nos Iau, rhoddwyd cydnabyddiaeth i Corporal Bough a Driver D. J. Herbert, Llain, ar eu dyfodiad yn ol am dro o faes y drin. Yn Yelindre, nos Iau, croesawyd trib'r milwyr, Corporals E. Powell, C.M., Percy Davies, a Despatch-Rider A. W. Lewis. Yr wvthnos hon daeth Despatch- Rider Thomas John Janes, Rock Cottage, yn ol am dro o Ffrainc. Dydd Sadwrn, dychwelodd Lieut. T. B.A., Aberbanc School House, yn ol i faes y frwydr. Llongyfarchir Lieut. David Evans, Penddol. Llandyfriog, ar ei ddyr- chafiad fel Cadben yn y fyddin Gwelodd ddyddiau brwydro vn Affrig a Ffrainc. Yr wythnos hon daeth Pte. David Jones, Llain, un o fechgyn Bangor Teifi, adref am dro o Ffrainc.
Advertising
ARGRAFFU RHAD, CYFLTM, A DESTLU8 YN SWYDDFA'R 'LLAJf
! TREGARTH.
TREGARTH. Yr wythnos ddiweddaf, bu Pte. Griffith Jones, Garw, adref am ychydig ddyddiau o seibiant o Ffrainc, ac yr oeddem yn falch o'i weled yn edrych mor dda. Hefyd mae Pte. Robert J. Roberts, Tanyffordd, mab ein parclius warden, adref o faes y frwydr o Ffrainc am ychydig seibiant haeddianol. Mae wedi bod allan yn y brwydrau mwyaf ag y mae son am danynt yn Ffrainc, ac wedi dyfod allan o bob un yn hollol ddianaf hyd yn hyn, ac yr ydym yn gobeithio y caiff ei gadw yn y dyfodol eto. Da genym ei weled yn cyfranogi o'r elfenau aanctaidd ddydd Sul yn Eglwys St. Mair lie yr oedd yn aelod ffyddlon a selog. Yr ydym yn dymuno. y goreu iddo, ar y bydd wedi troi yn ol cyn y gwel yr ychydig hyn oleu dydd. Nos Sul, bu Mr. D. D. Da vies, Brynderwen, yn rhoi haiies Cyn- hadledd Caerdydd i ni, a chafwyd ganddo araeth -ardderchog, ac yr oedd yr eglwys yn orlawn o wrandawyr. Talwyd diolch- garwch i Mr. Davies am dyfod i'n hanerch gan y Parch. John Hughes Jones, curad. —Machno.
-----.. DfiONIAETH ARFON.
DfiONIAETH ARFON. LLANLLYFNI. I Y Church leooin.-Y mae y Lance- Corporal William Henry Parry wedi an- rhegu yr ystafell uchod a dwy lamp bryd- I ferth. Yn 'Gaza, gwlad y Philistiiaid gynt, y mae ar hyn o bryd, ac oddiyno. yr II anion odd i bwrcasu y rhodd. Diolch fil iddo am gofio hen Eglwys ei gartref (ond gwyddom ei bod yn agos at ei galon bob amser), a phrysured y dydd y caiff ef a'n bTodyr ereill ddychwelyd yn ol i gymeryd eu lie fel arfer yn ngwaith yr Arglwydd yma. Y mae yn dda gweled fod y rhai sydd ar faes y gwaed yn cofio am yr Eglwys gartref. Offeiriad.—Llongyfarchwn y Parch. R. O. Williams am ei lwyddiant yn arholiad yr Esgob. Urddwyd ef yn Offeiriad yn Eglwys Gadeiriol Bangor Dydd Gwyl Sant Matthew. Dyma ddiwedd ar arholiadau yn ei hanesx ond nid ar efrydu. Y mae wedi gwneyd dechreuad rhagorol fel gwei- nidog yn Nhalysarn, yr hyn sydd argoel da o fywyd gwasanaethgar fel gweindiog 0 Efengyl lesu Grist. Dvmunwri iddo bob llwyddiant a bendith.
ST. MAIR, CAMBER WELL.
ST. MAIR, CAMBER WELL. RfiODD.-Ai-n nai blynyddoedd y mae addolwyr St. Mair wedi bod yn cwyno o eisiau rhywbeth gwell i gynheeu yr eglwys yn nhymhor oer y gauaf. Yr oedd gyda ni, yr hyn a elwir 'gas stoves," ond nid oeddynt- yn gwresogi digon, yn enwedig ar Suiliau oer fel ag a gawsom y gauaf di- weddaf. Gan mai Eglwys dlawd mewn ystyr arianol ydyw, nid oedd wiw i ni gael gwelliant heblaw i ryw gymwynaswr hiael dosturio wrthym. Aeth y Caplan a chwyn y gynulleidfa i'w osod gerbron Mr.' a Mrs. Francis, Shirley Lodge, i gael eu barn ar y mater. Atebodd Mrs. Francis, a dy- wedodd y buasai hi yn rhoddi rhywbeth gwell na r 'gas stoves' i ni. Felly bu, a hyfryd yw dywedyd bod naw o'r hyn a elwir 'Mars Radiators' wedi eu gosod i mewn, a'r bil wedi ei daJu gan Mrs. Francis, a diolch am hyny. Mae y teulu pa,rchus hyn wedi bod yn drai haelfrydig i Eglwys St. Mair am flynyddoedd ac yr ydym yn wir ddyledus iddynt am eu hael- ioni, a'n gweddi yw am iddyiit gaol eu harbed am lawer o flvnyddoedd eto. a Duw a,'u bendithio.
GLANOGWEN, BETHESDA.
GLANOGWEN, BETHESDA. GWASANAKTH COFFADWPIIETIAOL.-Nos Fawrth, Hydref 23ain, cynhaliwyd gwas- anaetli coffa i'r diweddar Filwr Henry Williams, mab Mrs.. Jane Williams, Short Street, Grerlan, yr hwn a syrthiodd yn aberth dros ei Frenin a'i wlad yn nhiriog- aeth Ffrainc ddechreu mis Hydref Cy- merwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. Thomas. Yr oedd yr egiwys yn lied lawn o gyfeillion a chyfeillesau yn talu eh gwar- cgaeth 0 barch i'r ymadawedig, vr hwn fu yn filwr dewr, a pharod i wneyd unrhyw wasanaeth bob amser. Collodd brawd i'r ym.ada,wedig ei fywyd hefyd tra mewn brwydr ar y 4ydd o Fai y flwyddyn hon; yntau yn fachgen tyner, caredig, a.chy- mwvnasgar. Taened Duw ei aden raslawn dros v fam weddw a'i unig chwaer yn eu profedigaeth ddleublyg.—W.H.R.
DEONIAETH LLANBAl>ARNFAWR
DEONIAETH LLANBAl>ARNFAWR (0 dan Arolygiaeth y Pa, eh' T. R Davies, LLEDROD. -Male, Mr. Waddmgham, Hafod, wedi cyflwyno canwyllbrenau pres hardd at wasanaeth yr eglwys uchod. LLANFIHANGEL-Y-CREUDDYN. Cafwyd gwasanaethau coffadwriaethol foreu a hwyr am filwyr a golLasant eu bywydau yn Ffraiuc. Cafwyd cynulleidfaoedd mawr- ion, ac erys adgofion hir am y gwasan- aethau teimladwy. ABERYSTWYTH. Yn AberystwHh heddyw, dydd Llun, daeth cynulleidfa ynghyd i gyfarfod a'r Arglwydd Esgob. Enwyd perconau i'r Bwrdd Llywodr- aethol ar Bwrdd Cynrychiadol. Siar- adodd yr Esgob yn fanwl am sefyllfa bre- seno], yr Eglwys yn Gymraeg a, Saesneg. Cynygiwyd diolch iddo gan y Deon Gwladol, ac eiliwyd gan Mr. Greer Llan- badarn. Cafwyd cyfarfod da.
Mae yn yr Awyr.
Mae yn yr Awyr. Fel y mae yn Llanbedr, felly hefyd y mae yn Idangybi. Mae yn yr awyr. Nia gellir ei atal i ledaenu. Nis gellir atal pobl rhag aiarad. Nis gellir cuddio newyddion da. Mae pobl na wycldant dd-im am dano yn cael clywed am ei rinweddau drwy brofiad eu cymydogion. Mae peth o'r fath yn gynorthwyol iawn.. Darllenwch drosooh eich hunain. a Mr. J. Hughes, "The Cottage," Derty Ormond, Llangybi, a ddywed :Gan fy mod yn gweithio allan ar bob math o dywydd, mae yn anhawdd iawn ar adegau i gadw yn rhydd oddiwrth an hwy 1 derau yr elwlenod. Yr wyf wedi bod yn di- oddef oddiwrth boenatt Uym ae ymsaethol ar draws fy nghefn, a'r crydcymalau yn fy ystgwyddau. Poenwyd fi hefyd gan gur yn y pen ao ymosodiadau o syfrdandod yn awr ac yn y man, ac y mae y dwfr wedi bod yn fy mhoeni ac allan o dretfn. "Pa fodd bynag, ar ol defnyddio rhai o i Doan's backache kidney pills, teimlwn yn llawer gwell ymhob ffordd, a chyn hir daethum yn holl-iach. Gallwn ymsythu ar ol plygu, a theimlaf fy mod wedi cael gwaredigaeth lwyr. Qallaf gymeradwyo peleni Doan i symud j anhwylderau yr elwlenod, gan fy mod wedi profi eu gwerth. "(Arwyddwyd) JOHN HUGHES." Peidiwch esgeuluso eich elwlenod 08 canfyddwch unrhyw arwyddion digam- syniol o anhwylder yn yr elwlenod a'r ys- wigen, megis llygaid chwyddedig, chwydd- iadau dyfrol yn y fferoedd a'r aelodau, an- hwylderau dyfrol, grafel, crydcymalau, oefn poenus. poenau yn y Iwynau a'r ochrau, anewnwythyd, cryndod, iselder ysbryd, a theimlad blinedig parhaus. Bydd i Doau" s backache kidney pills eich cynorthwyo drwy glirio allan y gwen- wynau yn yr elwlenod, y rhai fuont yn ddechreu amryw afierhydon a derfynasant yn angeuol. Ar werth gan bob masnaohydd, neu am 2s.. 9c. y blyohaid oddiwrth Foster- MsClellan Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am backache neu kidney pills,-gofynweh yn bendant am Doan's backache kidney pills, i yr un fath rai ag a gafodd Mr. Hughes.
CEI NEWYDD A'R OYLCR.
CEI NEWYDD A'R OYLCR. CLADDEDIGAIETHAU. Dydd Sad win, Hyd. 27ain, oladdwyd gweddillion marwol Miss Mary Jane Benson, Rock St., yn mynwent Eglwya Llanllwchaiarn, yu 53 mlwydd oed. Dydd Mercber, Hydref Slain, claddwyd gweddillion marwol Arthur Pritchard Wil- liams, baban 3 mis oed y diweddar Mr. Arthur Williams a Mrs. Williams, Hazel- dene, yn mynwent Llanllwchaiarn. Dydd Gwener, Tach. 2il, oladdwyd gweddillion marwol James Ho wells, baban Mr. a Mrs. Howells, Mason Square, yn mynwent Llan- llwchaiarn. yn 9 mis oed. Cysured Duw y rhieni a'r perthynasau oil. COLLI EI Fywy. Yr wythnos ddiweddaf daeth y newydd prudd yma fod Pte, Charles Wilson, Coybal, wedi raarw o'i glwyfau yn Ffrainc. Yr oedd yn gwasanaethu yn Coy- bal pan yr uuodd a'r fyddin, ac erbyn hyn y mae wedi rhoddi ei hun yn aberth dros ei wlad. CROEBAW. Nos Iau, Tach. laf, cynhal- iwyd cyfarfod cyhoeddus yn Festri Tabern- acle i roddi croesaw ac i ddangos ein cyd- nabyddiaeth i Lieut. Gomer Davies, Park Street, yr hwn oedd adref am ychydig ddydd- iau. Llywyddwyd gan y Parch. E. Lloyd, iheltbor. Siaradwyd gan y llywydd, Capt. Williams, Mr Thomas, Parch. E. Aman Joi es, Mrs. Phillips, ac eraill, a chanwyd N gan Mr. G. J. Davies. Terfynwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol.—D.E.
ABERGYNOLWYN.
ABERGYNOLWYN. Digwyddodd i wasanaethau diolchgarwh am y cynhauaf elenl ddisgyn ar yr un diwrnod a gosodiad y Rheithor newydd mewn medd- iaiat o'r plwyf 'Dochreuwyd ar y gweithred- iadau trwy weinyddiad o'r Cymun Beodigaid am 8 30. Am 10 30 darllenwyd y Foreuol Weddi gan y Parch. J. P. Jones, rheitbor Talyllyn, a phregethwyd gan y Parch. D. T. Davies, Llwyngwril. Yn y prydnawu am 2.30, daeth yr Hybarch Archddiacon Meir- ionydd. Darllenwyd y rban gyntaf o'r Goa- per gan y Parch. W Noel Williams, Towyn. Yna ymgymerodd yr Archddiaoon & gwasan- aeth y gosodiad, a rhoddodd anerchiad doeth ac amserol, gan anog yr Eglwys i gynal breicbiau y Rheithor megis y gwnaeth Aaron ac Hur ddal breicbiau Moses. Yn yr hwyr am 7, cymerwyd y rhan gyntaf o'r Gos- per gan y Parch. W. N Williams, yr ail ran gan Reithor Talyllyn, a phregethwyd 'eto gan Reithor Llwyngwril. Yr oedd holl ael- odau y c6r yn y ganghell yn rhifo tua 36, ac o dan arweiniad medrus Mr. Ellis 0. Ellis. Canwyd yn ngwasanaethau'r prydnawn a'r hwyr yr anthem 'Jerusalem fy nghartref gwiw yu fendigedig. Barn Rheitbor Llwyn- gwril oedd na chlywodd bywiocaoh a gwres- ocach gwasanaeth er's tro byd. Er fod y gwlaw yn tywallt yn bistylloedd, daeth tyr- faoedd ynghyd—yr Eglwys yn llawn yn yr hwyr. Sylwyd ar bresenoldeb dau weinidog Ymneillduol yn ngwasanaeth y prydnawn. Os cywir y si, y mae'r Rheithor newydd eisloes wedi enill serch a chalon ei bobl, ac ymddangosai pob un fel yn wir awyddus i wneyd ei ran.-S. W.