Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Y Golofn Eglwysig,

EIN CYHOEDDIADAO EGLWYSIG.

[No title]

Y GOLOFN EGLWYSIG.

Bwrdd Addysg Esgobaeth Bangor.

Urddiadau y Garawys. -

Wedi ei brofi tuhwnt i Amheuaeth.…

FLWYF LLANDUDNO.

News
Cite
Share

FLWYF LLANDUDNO. Y GENHADAETH GENEDLAETHOL .—Cyn- haliwyd y Genhadaeth yn y plwyf yn ystod y mis diweddaf yn Gymraeg ac yn Saesneg, a daeth i'n plith y Parch. Lewis Jenkins at y Cymry a'r Parch. F. W. Bennett, rheithor Penarlag. Gelltr dweyd fod y cynulleidfaoedd yn dra bodd- haol, yr anerchiadau a'r pregethan ya effeithiol a dwys; ac, fel y dywed Canon William Williams, nid yw unrhyw ddyben i ddisgwyl ffrwyth ar unwaith. Digon yw i ni y teimlad hapus fod yr had da wedi ei blanu a'n bod ni yn dal i ofyn i Dduw roi y cynydd ysbrydol. Yr am- lygiad a'r cynydd ddisgwyliwn ydyw dyf*- had ysbrydol yn y rhai sydd a'u hysgwydd o dan y baich yia yr Eglwys-sel a mwy o weithgarwch gyda phob cyfarfod er hyr- wyddo gwaith yr Eglwys yn y plwyf. Y GYMDKITHAS FpYTHONAiDD.—Cyfarfu y Gymdeithas hon ar Chwefror 14eg i wrando ar bapur oedd yn llawn o ddyddor- deb ar 'Alawon Gwerin Cymru' gan f Parch. Henry Williams, B.A. Yr oedd yr ystefeJl yn orlawn gan fod y testyn yn hynod o newydd, a daeth priod ein cyfaill yno (Mrs. Williams) gan roddi dadgan- iadau o rai 0 hen alawon Cymreig, ac hefyd ein hysgrifenydd, Mr. E. J. Ro- berts, yr hwn sydd yn hen gynefin a. chanx gyda'r tanau. Newydd-beth i'r aelodau gael y delyn i'r Gymdeithas, a gwefreidd- iwyd y He gylda'r 'chorus' i rai o'r alawon. Bu'r llywydd am y noswaith, Mr. P. J. Roberts, yn ffraeth, fel arfer, yn ei sylwadau, ac arweiniodd y cyfarfod yn bur ddymunol. Cynygiwyd diolch- garwch i'r Parch. Henry Williams a'i briod dalentog gan aelodau o'r Gym- deitha, a therfynwyd cyfarfod hynod w ddyddorol t.rwy dalu y diolchgarwch &r- ferol i'r lhnvydd am y noswaith. Ar Chwefror 28ain, sef noeon cyn dydd dathlu GwyL Dewi Sant, rhoddodd un o'n haelodau bapur hynod amserol ar 'Fywyd Owain Glyndwr,' sef Mr. E. Griffiths. Yr oedd Mr. Griffiths wedi llafurio yn galed gyda'i bapur, ac nid bychan o waith ydyw crynhoi digwyddiadau yn mywyd y gwron ag y mae. Cymru mewn mawr ddyled pan y cofier fod Mr. Griffiths yn gorfod bod allan yn gynar yn y boreu a chyda'i waith hyd yr hwyr. Y mae ein dyled felly yn fawr i Mr. Griffiths am ei sel a'r dyddor- deb a gymer yn y Gymdeithas, ac ni fydd y tynict yn llawn heb gael papur gandde ar destyn a, ddewisa. Yr oedd y testyn yn gymhwys i'r noson, ac ni chawsom ein siomi, oherwydd fod y darllenydd bob amser yn rhoddi rhywbeth gwertb i ni wrando arno. Llywyddwyd gan y Parch. Henry Williams. Siaradwyd gan wahanol aelodau o'r Gymdeithas, a thalwyd di- olohgarwch gwresocaf y Gymdeithas i Mr. Griffiths. Y GARAWYS.-—Yr ydym wedi bod yn ffortunus i sicrhau gwasanaeth y Parch. J. L. Roberts, B.A., fioer Dolwyddelen, i roddi cypres o bregethau yn ystod y tymor. Gobeithio y bydd i aelodau o Eglwys St. George werthfawrogi y gwas- anaethau arbenig ag sydd wedi eu trefnu trwy fod yn bresenol a dod ag eraill i swn yr Efengyl sydd mor ddifater yngwyneb yr amser enbydus yr ydym yn byw ynddo. .Flrydlas.

^ LLANFAIR-TALHAIARN.