Hide Articles List

9 articles on this Page

Y Golofn Eglwysig,

News
Cite
Share

Y Golofn Eglwysig, Stf, awgrymiadau a ckyfarieyddiadau ynglyn d'r Flwyddyn Eglwysig, o wythnot i wyth- nos ynghiid 49 Emynau addas i'r tymor, gan un o OJeiriaid Lleyn. Cywiriad. Llithrodd y gosodiad fod Credo S. Athanasius i fod ar Ddydd Mercher y Lludw i mewn i'r Golofn hon, mewn rhyw fodd nas gallaf eebonio. Diolch i "Cynwyl" am dynu rylw at hyn, a gobeithiaf y gwna ef ac eraiil eto wylio yn y dyfodol. Tra yn son fel hyn am ddefnyddio y Credo hwn, gwelwn ei fod i'w ddefnyddio ax dri-ar-ddeg o adegau, a'r rhai hyny wedi eu gwasgaru ar hyd y flwyddyn. fel ag y gallwn ddweyd ei fod i gael ei ddefnyddio o loiaf unwaith bob mis. Feallai mai agosrwydd dydd Mercher y Lludw i Wyl S. Matthias a drodd y fantol o blaid yr olaf yngolwg trefnwyr ein Llyfr Gweddi. Y Garawys (Parhad). Mewn ufudd-dod i'r Beibl a'n HeglwyB dylem gadw y prif ddyddiau ympryd, sef 1. Y Deugain nydd Garawys. 2. Dyddiau y cyd-goriau ar y pedwar tymor. 3. Tridiau y Gweddiau, o flaen Sanc- taidd Ddydd Dyrchafael ein Har- glwydd. 4. Pob dydd Gwener yn y flwyddyn- oddieithr iddo fod yn Ddydd Nadolig. Emynau Ychwanegol. Hymnau yr Eglwys.âRhif 183, 243, 291, 390, 343, 413. H. A. and M.âNoe. 279, 248, 277, 266, 268, 532. Cawn gyfeiridau mynych at Ymprydio yn yr Eglwys foreuol. Dywed Pliny (100 o.c.) fod'y Cristionogion yn gymunwyr boreu, ac yn addoli un Crist fel Duw. Tea-tullian (200 o.c.) a ddywed ei bod yn arferiad i gymoryd yr Eucharist oyn gwawriad y dydd, a chyn oaeJ; unrhyw fwyd arall. S. Cyprian (250 o.c.) a ddywed eu bod yn cadw gwyl Adgyfodiad ein Harglwydd yn y boreu. S. Sasil (380 o.c.): "Heb ympryd anhawdd ydyw anturio ar y Bwydd sanctaidd." 8. Chrysostom. (400 o.c.), mewn atebiad i gyhuddiad o fod wedi cyf- ranu y Cymun i bersonau nad oedd- ynt wedi ymprydio, a. ddywed: "08 wyf wedi gwneuthur y fath beth, bydded i fy enw gael ei ddileu allan o restr yr Esgobion. S. Awstin (400 o.c.): "GweLodd yr Yspryd Glan yn dda, er anrhyd- edd sacrament mor fawr, fod oorph yr Arglwydd i fyned i enau y Cristion o flaen unrhyw fwyd arall, ac am hyny y ddefod a gedwir dros y byd. Jeremy Taylor hefyd sy' ganddo air i ddweyd: "Ymprydio o flaen y Sacrament Sanctaidd ydyw arferiad yr Eglwys Gristionogol, ac wedi ei droeglwyddo i ni ddangoe parch i'r Dirgelwch trwy beidio camatau i ddim fyned i mewn i'n geneuau o flaen yr arwyddion, 'Bydded iddo fod y bwyd cyntaf a fwytao, a'r ddiod cyntaf a yfo' Hieblaw hyn, profiad dynion da a'n aicrha. mai cyfranogi yn foreu ar ol para- toad manwl yw y goreu cyn cyffwrdd a'r byd a'i befchatt. Buaaai ufuddhau hyn yn weithred o hunanymwadiad, ac yn ddangosiad o'n anrhydedd i Grist croeshoeliedig. Chwefror 24ain ydyw Dydd Gwyl S. Matthias, pan y cawn Golect, Epistol ac Efengyl, a phan Pi y defnyddir Credo S. Athanaaius. Ychydig iawn o hanes bywyd yr 19 Apostol hwn sy' i'w gael, ond dywedir ei fod wedi ei ferthyru yn Cappadocia. Pan aeth Judas Iscariot "i w leei hun," yr oedd dau ymgeiswyr yn cyflenwi yr amodau (Act. i. 22) angenrheidiol, sef 1. Joseph Barsabas a gyfenwid Justus, & 2. Matthias, yr hwn a etholwyd; trwy ddefnyddio coelbren, hen ddull o gael allan ewyllys yr Arglwydd, gwel Num. xxvi. 55; Diar. xvi. 33; Num. xxxiii. 54; Joe. vii. 15; 1 Sam. x. 20, xiv. 38-42. Buddiol feallai fuasai cael gwybod aicrwydd yr hyn gredaf wyf wedi ei weled yn rhywle, fod yr ymgeisydd anfuddugol- iaethus yma wedi parhau a'i ysgwyddau o dan y baich, yn ei sefyllfa iselradd, ac ei fod wedi boddloni ar etholiad S. Matthias i'r Esgobaeth wag fel "popular appointment." Emynau yr Eglwys.âRhif 200, 297, 408, 426, 424. H. A. and M.âNos. 408, 613. 430, 532. 620.

EIN CYHOEDDIADAO EGLWYSIG.

[No title]

Y GOLOFN EGLWYSIG.

Bwrdd Addysg Esgobaeth Bangor.

Urddiadau y Garawys. -

Wedi ei brofi tuhwnt i Amheuaeth.…

FLWYF LLANDUDNO.

^ LLANFAIR-TALHAIARN.