Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
" Morfa."
Morfa." AOHOS GWAREIDDIAD. Byr oedd araeth y Brenin wrth agor y Senedd, ond urddasol a chynwysfawr, ac yn rhoi crynodeb cryno o gyflwr pethau ar yr adeg all fod yn ol pob tebyg y cyfnod p.vysicif o'r rhyfel. Dengys fel mae y Cyngreiriaid yn benderfynol yr enill- ant yr hyn sydd mewn golwg, adferiad ac iawn am y camwri a wnaed, a diogelwch na fydd i'r fath drycbiueb ddigwydd eto. Cyn y rhyfel, gwelid arwyddion nas gallai Prydain Fawr, ar Den ei hunan, ddal ei lie na chynal ei masnach yngwyi eb symudiadau Germani. Fel canlyniad y rhyfel, mae a wnelo Germani nid yn unig A Phrydain Fawr, ond &'r Ymherodraeth Brydeinig, peth tra gwahanol. Ac ni fargeiniodd Germani au? hyn. Mae y rhyfel wedi dwyn yr oil o'r Ymberodraeth Brydeinig i weithrediad, i ymsymud fel un gwr. Mae Germani wedi cyfuewid yr Vmherodraeth Brydeinig o ieuenctyd i ddyndod megis & chyffyrddiad Ac wele hi, Germani, erbyn heddyw wedi tori ei chysylltiad frgetiedl 'neutral' fwyaf, esiampl yr hon ddilynir yn y pen draw mewn yspryd os nad mewn gweithrediad agored, gan bob cenedl 'neutral.' Bydd y ffaith fod yr Unol Dalaethau wedi tori cysylltiad & Germani yn cynyrchu efFeithi iu mor drymion a phellgyraeddol nas gellir rwan yn hawdd eu dirnad. Mae y Cyngreiriad yn ymladd dros gyfiawnder a dynoliaeth, ac wele yr America yn un A hvvynt. Os penderfyna yr America ymladd hefo ni, bydd _ei help yn fawr iawn. Cymer Germani arni fychanu a gwawdio IIerth milwrol a llyngesol yr Unol Dalaothau. Gwir mai bechan yw Byddin America, ond byddiu gref iawn a cbymwys yw, a 'reserve' mawr o swyddogion wedi eu hyfforddi. Mae adnoddau yr America mewn dynion yn fawr iawn, ac mae ganddi wrth ei llaw brofiad y Cyngreiriaid, yn enwedig profiad y wlad hon, i'w chynorthwyo i ddadrus y dyryebwnc all unrhyw foment rwan ei gwynebu hi. Y dyrys bwnc fydd hwn, sef sut i gael byddin genedlaethol at ei gilydd yn ddioed, dynion, gynau, 'munitions,' 'transport,' a I supplies.' Mae tymheredd yr American yn neillduol bwrpasol a pharod i gwrdd kg argyfwng o'r fath, yn hynod felly. Mae genym ni yn y wlad yma beirianwaith cyfan i hyfforddi milwyr, a'r oil mewn llawn drefniant gweithredol. Hwyrach y byddai yn hwylusdod i'r Unol Dal- aethau i ddefnyddio y wlad hon fel 'training ground," lIe y croesawid yn gynes awyddogion a dynion. Mae Llynges yr Unol Dalaethau yn ail yn y byd o ran nerth, a buasai ei defnyddioldeb dan yr amgylchiadau presenol yn ddibendraw, j'run ai elai yr America i ryfel ai peidio Bydd yn alluog i hebrwng llongau maanach yr America, ac amddiflyn ei glanau rhag mor-lad- ron Germani a dibenion anghyfreithlon. Bydd- ai chwanegiad llongau rhyfel America at 'pat- rols' y Cyngreiriaid o wasanaeth tuhwnt. Mae America wedi cyhoeddi y bwriada hi arfer y mor- oedd yn ol hawliau 'neutrals,' a lhaid iddi felly roi ei Llynges ar waith i amddiffyn ei masnach. Rhaid cwrdd ig ymgyrch y Submarines yma trwy amddiftyniad arfog ac adeiladu llongau yn lie y rhai suddir gan y m6r-ladron. IJn o ang- henion mwyaf y dydd yw llongau. Mae gan yr Unol Dalaethau ship yards' lluosog, digonedd o 'engineering shops' a defnyddiau yn ddi-ben- draw, ac nis gallai yr America wneyd dim a fyddai yn fwy sicr o orchfygu y gelyn na rboi yr adnoddau sydd ganddi ar waith- I full pelt'—i adeiladu llongau. Os yr a. yn rhyfel, bydd boll longau Qermani ydynt yn mborthladdoedd Am- erica wrth law. Ac os eu suddo wna Germani, auddo ei llongau ei hun-dyna hi yn lleihau ei liawnlo byth adenill ei masnach ar y mor. Os dewisa yr America gymeryd Haw i roi lawr y m8r-ladrad duaf, hi wnslai y gwasanaeth mwyaf i achoa gwareiddiad sydd yn ei gallu i'w gyflawni. DYNION A BUDDUGOLIAETH." Dywedodd Mr. John Hodge y dydd o'r blaen fod y Llywodraeth yn gwneyd ei pharotoadau i ddiweddu y rhyfel y flwyddyn hon. Ond i enill y rhyfel anghenraid yw gorchfygu byddinoedd Germani ar y maes. Mor bell ag y gellir casglu, mae byddinoedd Germani wedi eu hyagwyd yn bur gia. Mae y deserters yn cynyddu, ac ys. bryd y milwyr yn isel. Arwyddion boddhaus. Ond erya y ffaith fod byddinoedd Germani heb eu trechu a'u bod o hyd yn meddianu tiroedd y Cyngreiriaid, ac yn gadarn iawn mewn magnelau, a machine-guns,' a safleoedd cedyrn. Gwybydd- us hefyd fod Hindenburg wedi trefnu byddineedd enfawr o'r newydd, gyda'r disgwyliad y gall ddal y tir enillwyd nes gorfodi y Cyngreiriaid i orfyn y am heddwch. Dyna'r sefyllfa, a rhaid i ni beidio •drych at y Cyngreiriaid i enill y rhyfel drosom, ona i ymladd fel pe mai ni fyddai yr unig allu yn y maes yn erbyn Germani. Rhaid i ni bannu a dyrnu arni hi yn y Gorllewin nes tori twll drwy y gelyn. Ond hyn nis gellir ei gyflawni heb ddigonedd o ddynion. Mor bell ag y gwydd- om, mae y cyflenwad presenol o ddynion yn an- nigonol at y gorchwyl mawr hwn. Bydd y I de. mand am ddynion, yn ol pob tebyg, yn fwy n'r cyflenwad presenol. Mae yna ddau beth i'w gwynebu. Naill ai ymfoddloni i bothau fel y maent, ac oberwydd hyny i orhfygiad, neu i wneyd yr aberthau gofynol a sicrhau ein hunain o fuddugoliaeth. Os derbyn y cyntaf wnawn, bydd ein holl aberthau hyd yn hyn yn ofer. Byddwn yn genedl orchfygedig, ac yn byw mewn braw a disgwyliad adnewyddiad y rhyfel pan bydd awr Qermani newydd a ebryfach wedi taro A byddai Germani yn gweithio gydag yni dau- ddyblig at ein dinystr, ac ni fyddai iddi yr undeb o Qyngreiriaid sydd yn ei herbyn heddyw. Gwanychid yr Ymherodraoth Brydeinig trwy orchfygiad ac anniogelwch. Byddai baich ein dyled yn orlethol, a masnach yn cefnu arnom, a r dyfodol yn dywyll. Dyna un dewisiad, Beth raid i ni wynebu os derbyniwn y dewisiad arall 1 Rhaid i ni wynebu galwad cynyddol o ddynion am rai misoedd i ddyfod. Rhaid i ni wneyd mwy o ymdrech na'r presenol i gyflenwi ein byddin- oedd & 'recruits.' Rhaid cael mwy a mwy o ferched at y gwaith, a bod yn barod i wynebu caledi mwy nag a freuddwydiom. O'r goreu. Oel yma le i betruso p'run o'r ddau ddewiswn ? Nag es. Rhaid i'r genedl fyned yn eofn ymlaen ac enill gwobr beryglus buddugoliaeth mae y dewisiad arall yn anmbosibl i ddynion dewrion ei wynebu. Ond pa fodd y ceir y dynion ? Rhaid cwtogi yr exemptions' yma yn wholesale a rhaid i'r Llywodraeth edrych ar gwestiwn y listio yma o safbwynt newydd. Beth am yr Iwerddon ? Onid yw yn bryd dwyn Gorfodaeth i weithrediad yma fel y gweddill o'r Deyrnas ? Eto mae yr Iwerddon yn mwynhau yr un amddiffyn- iad ac yn gobeithio medi o'r rhyfol yr un diogel. wch a Pbrydain Fawr. Pam raid trin yr Iwer- ddon yn wahanol i Brydain Fawr, a rhoi ffafraeth iddi Y rheswm yw, ofn. Ofn terfysg os ceir gorfodaetb. Gyda Llywodraeth mor gref ac unedig a hon, nid oes reswm yn y byd dros beidio gorfodi yr Iwerddon i fod dan yr un rheol &'r gweddill o'r Deyrnas. NEUTRALITY—AC WIJD'YN ? Dwn i ddim yn iawn beth yw'r gair Cymraeg am I Neutrality,' ond gwyr pawb o ddarlleiia-yr y LLAI ei ystyr, ac felly awn ymlaen i wel'd bsth ddywed y Church Times' ar y mater. Ni wnaeth yr un genedl gymaint i gadw'r heddwch & chenedl arall, cyfeillgar mewn ymadrold (Iud gelyngar mewn gweithred, nag a wnaeth America Dioddeftxld ymostyngiad gyda'r fath amynedd ac a'i gosododd hi yn agored i ddirmyg, nid yn unig y Cyngreiriaid, ond ei dinasyddion ei hun, y rhai oeddynt yn ofni gwel'd eu gwlad yn ym- beryglu ei anrhydedd. Rhoddodd rybudd ar ol rhybudd, ond i ddim diben. Gwelodd yr Arnericaniaid eu hunairi yn cael eu grtlw yn y Wasg gan swyddog Qermani fel 'these idiotic Yankees.' LIongau America wedi eu suddo, a deiliaid America eu llofruddio gan Allu cyfeillgar. Dioddefodd y President' befo Germani hyd y pen draw ond dydd Sadwrn aeth pethau dros ben Ilestri, a thorwyd y cysylltiad rhwng Wash- ington a Berlin. Rhoddwyd ei passports' i'r Count Bernstoff, a galwyd Mr. Gerard adref o Berlin Mae i'r President Wilson y sicrwydd fod y wlad yn solet' wrth ei gefn. Mawr yw ein dyled i America. Mae yna nifer fawr o bunynt yn ymladd drosom yn Ffrainc, ac wedi rhoi eu bywydau i lawr, heb son am y cynorthwy mawr iawn roddwyd i ni ynglyn &'r gwaith meddygol. A mawr ein dyled i Mr. Gerard am ei ofal am ein carcharorion yn Germani, a cholled drom i ni yw ei synridiad o Germani. Nid yw eto wedi myn'd yn rhyfel rhwng America a Germani, ond mae pobpeth yn argoeli mai felly bydd yn fuan neu hwyr. Gall un torpedo ddwyn y peth i ben— fel fflach Pa help bynag allai America roi i'r Cyngreiriaid, gallwn fentro y gwneir yr hyn a wnant yn llwyr. Ond beth allasai fod yr ystyr- iaethau a gynbyrfasant Germani i gymeryd y fath gwrs, ac i ddwyn ar ei phen eiddigedd a digllonrwydd cenedl mor. aruthrol gadarn ag yw America, yr hon nad oes ben draw i'w hadnoddau. Ai meddwl wnaeth y fyddai i r Unol Dalaethau stnitio' am byth i fygythion Germani y byddai iddi gilio ei Hongau o'r moroedd ? A yw Germani yn ystyried ei gelynion presenol eu bod mor ychydig ac eiddil fel y gall hi ftorddio i ychwanegu atynt y mwyaf galluog o bob neutral' ? Ayw y Germaniaid oil yn wallgof ? "II eu a yw ei har- weinwyr hi, y rhai wyddant fod y diwedd yn agos- hau, a bod eu cynllwynion am heddwch buddug- oliaethus wedi methu a ydynt am daflu y cyfan ar un siawns, sef gallu dweyd wrth bob! flinedig- 'Nis gellir disgwyl i ni dreiddio ein ffordd trwy fyd cyfan mewn arfau. Gwnawn bellach heddwch ar y telerau goreu fedrwn gael.' Mae hyny yn bosibl. Rhaid fod yna rai meddyliau yn Ger- mani yn brysur yn dyfeisio ffordd o .ddiangfa rhag y gosp ofnadwy sydd yn ddyledus i gened), yr hon sydd o'i gwirfodd wedi rhoi her i bob deddf Duw a dyn. 13UDDUGOLIARTH. Pan dynodd Abraham Lincoln, Arlywydd yr Unol Dalaethau, y cleddyf o'i wain, gwrthododd ei roi yn ei ol nes sicrhau yr unig bendertyniad a allasai fod yn barbaol. Felly rwan rhaid ym- ladd y rbyfel yma i'r pen draw-i beiMerfyniad, a chan mai felly y rhaid iddi fod, gofalwn y bydd y penderfyniad o'n plaid ni. Nid yw'r German- iaid wedi esgeuluso dim maent wedi gwneyd ac yn gwneyd aberthau tryrnion. Maent wedi hawlio oddiar law eu pobl, a'r bobl wedi ateb yr alwad, y dyn olaf a'r geiniog olaf. A rhaid i'r genedl Brydeinig, os am fod yn sicr o fuddugol- iaeth, ddangos yr un ysbryd, a gwell. Rhaid i ni roi y dyn olar a'r geiniog olaf i sicrhau i ni ein hunain a'n plant y rhyddid a'r diogelwch hyny, heb ba rai nid yw bywyd yn werth byw. Mae y mater mewn Haw yn ddim Uai na ein bywyd cenedlaethol. Gyda Germani heb ei threchu a'i thraed ar Ogledd Ffrainc, Poland a Belgium, nis gellir gwneyd yr un heddwcb, oherwydd byddai Germani yn y fath safh yn hawlio y fath fanteis- ion nas gallai unrhyw uniad Ewropeaidd yn y dyfodol ddisgwyl na gobeithio llwyddo yn ei her- byn. A'r pwnc o'n blaen yw buddugoliaeth, a dynion Prydain yn unig fedrant setlo'r mater. Mae gan y Germaniaid fyddinoedd ofnadwy yn ymbarotoi. Rhaid i ni fod yn barod, nid yn unig i gwrdd &'r byddinoedd yma, ond eu trechu. Y perygl yw y bydd i ni dreulio ein hadnoddau trefniadol milwrol pan yn cwrdd Wr ymosodiad ftyrnig wneir arnom, ac na bydd genym ddigon- edd o ddynion ynghadw wrth law i droi y gelyn yn ei ol a'i rowlio ar ei gefn mewn gorchfygiad. I gwrdd á hyn, rhaid i ni fod yn barod i aberthau trymach nag a wnaed genym eto. Nis medrwn dynu ychwaneg ar ein poblogaeth amaethyddol, canys mae diogolwch y genedl yn ymddibynu ar amaethyddiaeth gymaint ag ar y Fyddin a'j Llynges. Pe baem wedi gofalu am amaethydd- iaeth mewn pryd, ni fuasai y perygl presenol. Heddyw mae yr aradrwr mor bwysig dyn a'r milwr a'r morwr. Y cwestiwn yw, 0 b'le ceir ychwaneg o ddynion ? Ac i sicrhau buddugol- iaeth, RRAID eu cael o rywle. Bydded i'r Llyw- odraeth osod yr Iwerddon ar yr un tir a Phry- dain Fawr, a hyny yn ddi-ymdroi, deled a ddelo. Onid gwarthus meadwl fod Llywodraeth Prydain Fawr yn ofni'r Iworddon 1 PENILL. Life is an BclLo. Life is an echo, far away. Of singing spheres and dreams unknown We are the caverns, where delay Fragments of spacious voice and tone. Memory sits upon a throne Of the shadowy gold of yesterday, Stringing the beads of shell and boae- Life is an echo, far away. PERSONOL. Rhuthrodd y dyn i'r 'police-station' a gwaeddai am ddial. I was hit by a motor-car,' meddai and the number of the car was 4,265. I can prove that he was exceeding the speed limit, and 1 want him stopped.' You want a warrant for his arrest 1' Warrant! I should say not! What good would a warrant do me at. the rate he was going. What I really want is extradition papers.' Yr oedd hogyn bach y tY yn hoff iawn o ddangos y cathod bach i bawb dierth. Y fam yn galw allan Don't hurt the kittens, Henry.' No, mother I'm carrying them carefully by the stems.'
[No title]
Myner 'PERL Y PLANT' yn mhob if yn Nghymrn.
LLANDDEINIOLEN,
LLANDDEINIOLEN, Y GENHADAETH GBNEDLAETHOL.- Yr wyth- luos ddiweddaf, yr ydoedd y Genhadaeth yn cael ei chynal yn Llandinorwic a Llanfair-is- gaer, a chan fod y plwyf hwn yn sefyll rhwng y ddau blwyf a enwyd, manteisiodd amryw o'r plwyfolion ar y cenadaethau trwy roddi en presenoldeb. Nid oedd yn edifar gan yr un o honynt. Oul b'ai i'r hin droi allan mor anffodus, yu sicr buasai llawer yn ychwaneg wedi myned. Gobeithiaf yr erys ei dylanwad yn hir. Bendith Duw ar yr oil. MARWOLAETH.—Dydd Gwener diweddaf, tarawyd y owmwd hwn i syndod pan ddaeth y newydd am farwolaeth Yr Hen Ddoctor," sef Dr. John Rhiwen Roberts, M.D., gynt o Blia-yr-Eryr, Clwtybont. Yr oedd yr ym- adawedig wedi ymneillduo oddiwrth ei alwedigaeth er's amryw flynyddau bellacb, ac aeth at ei ferch, Mrs. Bodfan Griffith, i Up- pingham. Byddai yn talu ymweliad a'r hen ardal bob haf, ao felly y bu yr haf diweddaf; ond nid aeth yn ol, ac arhosodd gyda Mrs. Jones, yn Bryneithin. Yr oedd yr ymadaw- edig yn fab i Richard a Sarah Roberts, o'r Castell, Llanddeiniolen, ao yn frawd i'r boneddwr a'r amaethwr adnabyddus, Mr. Thomas Roberts, Y. H., Maesygrow, Llan- llechld (gynt o Tanyfynwent, Aber). Yr oedd yn hanu o un o deuluoedd henafol y plwyf. Gyda y teulu hwn y bu Mr. Edward Jones, mab i'r diweddar Barch. Humphrey Jones, rheithor Llanfaethlu, yn M6n, a Llanengan, yn Lleyn, yr hwn fu farw yn y Castell, Llanddeiniolen, yn y flwyddyn 1822. Yr ydoedd y meddyg ymadawedig wedi graddio yn y dosbarth blaenaf yn Athrofa Edinburgh, ac ystyrid ef, bob amser, yn wr addfed ei farn a'i gyngor, a bu cyrchu mawr ato o bob cyfeiriad. 0 ran ei ddaliad- au politicaidd Sosialydd ydoedd, a llawer i awr ddifyr dreuliodd Dinas Dinorwlg yn ei gwmnl yn MlSs-yr-Eryr, yn traethu ein bar&. ar brif faterion y dydd. Dydd Llun diweddaf, rhoddwyd ef I orphwys yn mynwsnt Eglwys y Plwyf gyda'i anwyl brlod a'i anwyl blant, y rhai oeddynt wedi ei ragflaenu flynyddau yn ol. Gwasaiaethwyd yn ei angladd gan y Parchn. T. A. Morgan Jones, rheithor, a R. Wynne Griffith, curad. Nawdd y Nefoedd fyddo dros y teulu yn eu trallod. MARWOLAETH.—Dydd Mercher diweddaf, ar ol cystudd maith, bu farw y brawd Richard Williams, Waen, Pentir, yn 71 mlwydd oed, a'r dydd Sadwrn canlynol, bebryngwyd ei weddillion marwol at ei deulu i fynwent Eglwys y Plwyf i orphwys. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parch. Hughes, M.C., ac yn yr eglwys gan y Parchn. J. H. Parry, curad,- Pentir, a R. Wynne Griffith, curad y glwyf. Y mae ein cydym- deimlad a'r teulu yn eu profedigaeth, ac yn enwedig â,'i brlod, yr hon sydd wedi cael ei chaethiwo er's amser maith i'w hystafell wely. —Dinas Dinorwiy.
LLANDDANIELFAB, SIR FON.
LLANDDANIELFAB, SIR FON. MARW A Cl gofid dwys yr ydym yn cofnodi marwolaeth a, chladded- igacth Mr. Robert Jones, Cloth Haill. Bu farw dydd iaiawrth," y 6ed cyfisol, ac a gladdwyd y dydd Gwenor dilynol yn myn- went Eglwys Llanedwen. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. John Davies, ficer Llanerchymedd, ac yn yr Eglwys ac ar lan y bedd gan y Parchn. R. Evans, Llan- idan; Daniel Jones, Llanfihangel-Tre'r- be,irdd; John Davies, Llanerchymedd, ac O. R. Owen Llanddaniel. Yr oedd hefyi yn bresenol y Parchn. Thomas Davies, Pemnynydd, ac Is-Ganon Hughes, Bangor. Cafodd yr ymadawedig angladd tywysog- aidd, a hawdd ydoedd gweled ar y dorf ddaeth i'w hebrwng i dy ei hir gartref eu bod dan deimlad dwys yn herwydd ei golli. Danfonwyd nifer luosog o bleth- dorcliau piydferth gan ei berthynasau a'i gyfeillion. Y nos SuL dilynol cynhaliwyd gAvasanaeth coffa yn Eglwys Llanddaniel- fab, pryd y traddododd y Parch. O. R. Owen bregeth. Canwyd emynau addaa i'r amgylchiad, ac hefyd yr anthem, 'Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn.' Ar ddiwedd y gwasanaeth ehwareuodcl MifiB Hettie Pring Hughes, y 'Dead March.- Cafodd ein cyfaill ymadawedig gystudd maith a caled, ond dioddefodd y cyfan yn dawel a dirwgnaoh. Cyll Eglwya Llan- ddaniel yn ei farwolaeth un o'i haelodau ffyddlonaf. Meddai feddwl mawr o'r Eglwys, a phobth cysylltiedig a hi. Bu yn chwareu yr offeryn am flynyddoedd lawer yn yr Eglwys; ac yr oedd hefyd yn athraw ac yn arolygwr yn yr Ysgol Sul. Nid oes genym amheuaeth nad oedd marw yn elw iddo. Gwyddai beth oedd ystorm- ydd y byd, ond amlwg ydoedd, oddiwrtA y nertli a gafodd i'w dal, ei fod yn dal cymundeb a'r Anweledig, yn yr Hwn y rhoddodd ei obaith. Y GARAWYS.—Disgwylir dyeithriaid i bregethu yn yr Eglwya hon yn nhymor y Garawys.
Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney.
Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney. Y mae Rhiwmatio yn ganlyniad uri* acid erytiult yn j llywsfchav »'r effaith gonnod o uric add yn y oywiuodd- i&d y methodd yr olwlod (kidneys) ei tymvril fel y bwriadodd natur; gyda hya y cytuma pob meddyg graddedig. A'r acid hw» yw'r achoa o boon yn y cefn, lumbagt, sciatica, gout, anhwyldeb y d-tT, mrrog, grafel, a dropay. Mae llwyddiant Tabledi Eatora at drui Rhiwmatio a ffurfiau eraill o anhwyldeb yr elwlod i'w briodoli i'r ffaith eu bod yu adfecru yr elwlod i weitjn-odan natuziol, a thrwy hynny symudir achoe yr anhwyidefc, yr hyn o angenrheidrwydd a gymttda'r effeithiau drwg a ddeillia o hono; as mil wedi iaohau achoeion dirifedi gwedi motti- iant meddyginiaethau ereill, yr hyn .n cyfrif am danynt yn prysur gymeryd ]le'r meddyginiaethau hen ffaaiwn a werthir am brisiau sydd allan o gyraedd pawb ond y cyfoethog. Mae Tabledi Eatora yn llawn deilyngu y desgrifiad ohonyntr-meddyginiaeth on am bria goneet—la. 3c. y blwoh o 40 dabledi, neu chwe' blychaid am 6o. 9c. Ar werth gan Fferyllwyr ymhob man, neu'ø rhad trwy'r post, am y prisiau hyn, oddi- wrth Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C. MERCHED. Dioddefa Merched yn fynych oddiwrth saldra, cur a phoen, o dan yr argraff e. bod yn ebyrth i aftchydon sy'n gyffredin i'r ystlen deg, ond yn amlach nag i'r gwrthwyneb y mae i'w briodoli i'r elwlod (kidneys), ac mewn achoeion o'r fath fe fydd i flychaid neu ddau o ESTORA TABLKTI eu llwyr adferu! 0 leiaf, mae'r prawf yn werth ei wneud, gan fod dedwyidweh a llwyddiant merch ar hyd ei hoes yn di- bynnu yn hollol ar ei hieohyd.
EIN CYHOEDDIADAU EGLWYSIG.
EIN CYHOEDDIADAU EGLWYSIG. Bydd yn bleser gan y Manager anfon copiau o'r LLAN, Yr Haul a'r Perl, i'r milwyr sydd ar y maes, neu yn parotoi, am ddim ond pris y papur a chost y cludiad, sef y LLAN am Chwarter, 1/71. „ am Haner Blwyddyn, 3/3. Haul am Chwarter, 1/- „ am Haner Blwyddyn, 2/- Perl am Chwarter, 4ic. I am Haner Blwyddyn, 9c. or
I PORTH MA DOG A'R CYLCH.
PORTH MA DOG A'R CYLCH. DRRCHAFIAD EGLWYSRA. — Da genyf drwy hyn gael y fraint o longyfarch y Parch. Richard Hughes, M. A., o Goleg y Brifysgol, Durham, ar ei henodiad yn ficer Llanfihangel- y-Pennaut, Ahergynolwyn, ger Towyn Meir- ionydd. Bu Mr Hughes vn gwastaiiaothii fel curitd yn Llangefni 1896-1906; Porth- madog 1906-1917. Felly gwelir ei fod wedi gwasanaethu mewn curadaethau pwysig, a cheir ynddo ddyn rhjujlon a siriol, a phob amaer a gwfi i ar ei wYneb, ac hefyd yrn wel- ydd cyson â'i braidd Llougyfarchaf bobl Abergynolwyn ar eu ficer newydd, ac y bydd iddo ael lla^er o ddyddiau yn eich plith. MARWOLAETH A CHLADDEDIGABTH— Boreu I ddydd Sadwrn, Chwefror 3Jdd, fe'm tarawyd a braw, gan y newydd o firwolaeth Walter Harris, bachgen 5 mlwydda 7 mis oed, mab Mr. Lewis Jones, 16 New Street. Cafodd y bychan bob gofal gan ei nain, Mrs. Jones, yr hon a'i magodd er pin ydoedd yn wythnos oed, a mago Jdef gv(la'r gofal mwyaf. Yr yd- cedd yn hogyn bach pert a doniol, a magwvd ef yn ofn ac athrawiaeth yr Arglwydd. Ychydig oriau cvn mar", dywedndd y Credo yn groew a llithrig, a chanodd einyn a ddvs- tiodd yn yr ysgol ddyddiol, gan gryfbau fv. y. fwy fel yr elai ymlaen. Claddwyd ef ddydd Mawrth, Chwefror 6ed, yn y gladdfa gyhoedd- us, pryd y gweinycld w vii gan y ficer, y Parch. D. Jenkins Yn y cynhebrwng yr ydoedd y corph ar gerbyd rnodur, a'r cerbyd cyntif Mr. Lewis Jones ftad), y ficer, y Parch. J Williams, a Mr. Gwiiym Hughes yr ail ger byd, Mri. John Kyffin Griffith Humphreys, El mer Jones, a W. 0 Williams, eich Goheb- ydd. MARWOLAKTH. (jyrla gofid y eofnodaf farwolaeth Mr. John Owen, Brynawn Vaults, yn yr oed ran o 19eg nilwydd. Cafodd gys tudd maith, a daliodd ef yn dawel. Bachgen tawel ydoedd J. 0., ac hoffus gan bawb, a thra daliodd ei iechyd byddai yn ffyddlon yn yr Ysgol Sul a gwasanaethau eraill yr Eglwys. ETO.—Gyda gofid y darllenais am farwol- aeth a chladdedigaeth Mrs. Williams, Canton House, Penygroes, Llanllyfni. Owelais hi ddiweddaf pan yn dychwelyd o Faugor ar ddydd y graddio o'r Eisteddfod, ac nid ydoedd yn dda ei hiechyd. Disgwyliaf y bydd i'r Parch. John Williams, Penygroes, gyflwyno fy nghydymdeimlad & theulu Canton Houae yn eu profedigaeth. Mae'm cyfeiilion adre'n myned 0 fy mlaan o un i un.' NODION MORFA'- Mewn atebiad, i'ch gohebydd ffyddlon I Morfa' pan yn son am awdwr y ddn Bodawen yn y I Cyfaill Eg- lwysig,' ydyw y mae y Parch Cadwaladr Williams, B A. (gynt curad Corwen), yn awr rheithor Gwytherin, ger Llanrwst, yn frawd i mi, eich gohebydd distadlaf.-Gestianwr.
I Gwyl Dewi Sant yn Llundain.…
Gwyl Dewi Sant yn Llundain. Cynhelir y gwasanaeth hwn yn Eglwys St. Benet, Queen Victoria Street, gerllaw Eglwys Gadeiriol St. Paul, nos Fercher, Chwefror 28ain. Llafargenir y gwasan- aeth gan y Prifathraw D. J. Thomae, M.A., Y.H., o'r Home and Colonial College; a'r gweddiau gan y Parch. H. Withers, caplan St. Padarn; darllenir y llithoedd gan y Parch. Howell Watkina, 13.A., caplan St. Rliystyd, a'r Parch. G. Hartwell Jones, D.D., D.Litt., rheithor Nutfield; a phregethir gan y Parch. Grif- 6 fith Thomas, Caerfyrddin, tra y bydd Mr. R. Meyrick Roberts wrth yr organ. Hy- derwn gael gwasanaeth da a hwyliog, a cliynulleidfa lawn. Ni fydd tocynau yn angenrheidiol y tro hwn. Trosglwyddir y casgliad at gronfa y milwyr. Hyderwn y ceir cynulleidfa gTef ar yr achlysur.