Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Y BARDD ENGLYN.
Y BARDD ENGLYN. Brawdoliaeth y ber delyn-hidla wawd Ar odl wael anillyn- Y miri dwl-rigyma'r dyn Chwidog onglog, y Bardd Englyn. MATHAFARN.
GORFFENAF.
GORFFENAF. Gwir ffynniant ddwg Gorflenaf,-ar y mor, Hwn yw'r mis tirionaf Mis y mel, am oes molaf Dywydd brwd, a dyddiau braf. Lerpwl. G. MATHAFARN.
Y BABAN.
Y BABAN. Eilun, heb ei anwylacb,—am wenau Mwynion, pwy'n rhagorach ? Dewr a byw swynhudwr bach, Yw at loni'n triat linach. Ai rhyw fawr bencerddor fydJ?—neu deyrn ban Drwy'n byd, fel atbronydd 1 Ni wyddom:—Dwyfol Noddydd Wylia'i ffawd medd goleu Ffydd. Cwmtaf. AIRONTDD.
Y DYFFRYN.
Y DYFFRYN. Y dyffryn yug nghanol y wlad, A'i dai megis tai'r Cymry gynt, A'r bryniau o'i amgyloh fel cAd I'w gadw rhag llid garw wynt, t Yw cartref fy nhad a fy mam, I Ac yno mae'u bwth yn y coed, | A gardd wrth ei drws na rowd 11am Trwy'i blodau gan un sarff erioed ? Yn dringo mae'r ffawydd a'r ynn Hyd lethrau y lasfron sydd draw, Gan ado y dd61 yn y glyn Ym mhell yn y pellder is law, Daweled yw'r fangre a hedd Unigedd frenddwydiol y coed, Lie yw na bu tinciad y cledd Na rhuad y fagnel erioed. Afonig a ymdaith i lawr « Yn ddiog trwy ganol y Uan, A'r eglwys henafol ei gwawr A'r fynwent a'r yw ar ei glan A'r ysgol addurnol gerllaw, A'r plant oil yn chwareu yng aghyd, A'r bryniau yn edrych o draw Dros wyneb y Dyffryn i gyd I Y Dyffryn sy'n iach, ac yn lin, A'r awel gyfoetbog o rin A gerdd trwy y dolydd mewn cin, Heb lwch y gweithfeydd ar ei min I'r Dyffryn urddasol y 11am Fy ughalon o bob man trwy'r byd, Lie saif bwth fy nhad a fy mam, Fy Eden yw'r fangre o byd. EDNANT.
[No title]
Gellir cael copiau o anerchiad y Parch. D. Jones (Efrog) o Swyddfa y LLAN am 3a. y y cant; tal gydar archeb.
Mab Ficer Corris wedi ei Ladd.
Mab Ficer Corris wedi ei Ladd. Derbyniwyd y newydd torcalonus yr w yth- nos ddiweddaf fod yr Is-gadben T. 0. Thomas, ail fab y Parch. D. P. a Mrs. Thomas, Ficerdy, Corris, wedi colli ei fywyd tra yn arwain ei filwyr mewn ymiaddfa erchyll yn Ffrainc ar yr llegofia Gorpbenaf, yn 22. mlwydd oed. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sirol Machynlleth, ac yn Ysgol Coleg Dewi Sant, o'r lie yr ymadawodd dair blynedd yn ol i gymeryd svyd(I fel athraw yn Lloegr. Gan nad oedd ei iechyd yn dda, cynghorwvd ef gan ei feddygon i fyned i Bognor a Margate. Ymrestrodd gyda'r Royal Welsh Fusiliers yn mis Medi, 1914, ac hy- fforddwyd ef yn Epsom. Yn mis Mai, 1915, dyrchafwyd ef yn is-gadben yn y 17th Royal Welsh Fusiliers, a threuliodd wyth mis yn Ffrainc. Bu gartref yn Nghorris rhyw saith wythnos yn ol, ac yr oedd yn edrych yn gryf ac iachus. Yr oedd pawh yn hoff o hono, a mawr ganmolid ef gan ei ddynion, y rhai a'i dilynent i unrhyw fan. Derbyniodd ei rieni trallodus lytbyr oddiwrth gyd-swyddog iddo, yn yr hwn y dywedai Difficult and pain- ful as the task is, I hasten to inform you of the death of your brave and gallant son, Lieut. T. 0 Thomas, who died in action July the 11th, in what is considered the most im- portant part of the advance line. He died in charge and at the head of B. Company, and the men, without exception, miss him very much, as they had full confidence in him, and would follow him anywhere. Your son was shot in the great advance, and died after- wards, and was buried by his friends. As the only officer remaining In B. Company, I can speak for myself and men that he was held in great esteem by us, and was exceedingly popular and always cheerful. It will be a consolation to you to know that your gallant son has made the supreme sacrifice at the call of duty, and also at the most critical period in our country's history. May you and your family be given strength to bear under this trying blow, and may you be abundantly blessed through this trying time. Shall do my best to give you more particulars should you want any.-Very sincerely yours, D. C. ROWE, 2nd Lieut. 0. C. Coy.' Fel un ag oedd yn gydBabyddus a'r swyddog leuanc, gallaf yn ddibetrua dystiolaethu i'w rlnweddau, ac y mae ein cydymdeimlad a'i rieni, ei frawd, a'i ddwy chwaer yn ddiffuant. Calarus.
Yn Nyffryn Teifi. -
Yn Nyffryn Teifi. (Gan JOB T GWAS). LLANDYSSUL. Newydd pruddaidd ddaeth i Llandysul a'r cylch am farwolaeth Pte. Albert E. Young, mab yr Heddgeidwad Young. Cafodd ei glwyfo ar faes y frwydr yn Ffrainc, a bu farw ymhen ychydig ddydd- lau. Er mai gyda'r Methodistlaid yr addolai, unodd yr enwadau a'r Eglwys i gadw gwas- anaeth coffadwrlaethol i'r gwron ieuanc yn Nghapel Selon nos Sul. Estynir y cydym- deimlad llwyraf a'r tad a'r fam drallodus a'r perthynasau yn eu hiraeth ar ol un anwyl a dewt. PBNBOYR.—Boreu Sul diweddaf, yali eglwys y plwyf, cymerwyd y gwasanaeth a phregeth- wyd gan y.Parch. R. D. Rees, ficer Clloenln. Balebial pawb fod yr eglwys wed! magu yn y plwyf gystal offeiriad I'r pwlpud. Dydd Llun, yn mynwent y plwyf, claddwyd gwedd- llllon geneth fechan o'r enw Harriet, merch Mr. Tom a Mrs. Sarah Rees, Penldn. Gweln- yddwyd gan y rheithor, y Parch. D. JenkiDS. Cydymdeimlir i'r tad a'r fam yn eu hiraeth ar ol yr un fechan dyner. Pleser oedd gan lawer weled adref am dro Pte. J. Lewis, mab Mr. a Mrs. D. Hugh Lewis, Cawdor Mills, ac un o gyn-ddlsgybllon Tsgol Sul St. Barnabas. LLANGZLZIL-Cymeirwyd rhan yn ngwas- anaethau egJwYI y plwyf y Sul diweddaf gan y Parch. Morgan Jones, curad Sciwen. Yn yr hwyr pregethodd I gynulliad lluosog. Un ydyw Mr. Jones o'r offelrlaid teuainc addawol fagwyd yn Llangeler. HNNLLAT;. Bore u dydd Sadwrn, yn Eglwys Henllan, unwyd mewn glio briodas Private Levi Hughes, o'r Glamorgan Yeomanry, a Miss Hannah Davies, merch Mr. a Mrs Sam Davies, Lan Cottage, Trebedw. Rhoddwyd y wralg leuanc ymalfch gan el thad, a chyn- wysaPr parti priodasol y Misses Sarah ac Anne Davies (chwlorydd), a Mr. D. Arthur Davies, Henfryn Mills. Gweinyddwyd y seremonl gan y Parchn. W. J. Evans, Llan- fair orllwyn, a E. J. Davies, Henllan. Mae teulu y wralg leuanc yn adoabyddus yn y gymydogaeth, ae yr oedd y gwr leuanc yn meddu oylch eang o gyfellllon oddlar yr amser y bu yn ngwasanaeth y Mllwrlad a MrL Newland, Dolhaidd. Eidduna eu llu cyfeilllon i Mr. a Mrs. Hughes briodas dda a dyfodol dedwydd. Derbyniasant lawer o anrhegion. ER CoF.-Pruddaidd lawn oedd genym weled yn y newyddladuron son am farwolaeth y Parch. D. Powell Riohards, M.A., F.R.A S., yr hyn a gymerodd le yn Little Haven. Cofir yn dda am el wasanaeth rhagorol ar lwyfan amddiffynol yr Eglwys yn y cylch pan fu yn gofalu am Eglwys Llandysul. Fel dyn, offeiriad, ysgolor, pregethwr, ac areltblwr, meddal hawl I sylw, parch ac edmygedd.
EGLWYSWRW.
EGLWYSWRW. UXDBB YSGOLION SUL.-Dydd Mereher, y 14eg cyfisol, am 2.30, yn nghapel yr eglwys, cynhallwyd cyfarfod brwdfrydlg mewn oy- sylltiad diz Undeb Ysgolion Sul, yr ymdrechir el ffurfio yn Neoniaeth Wiadot Kemes, pryd I y llywyddwyd yn alluog gan y Parch. D. G. Phillips, rheithor Trefdraeth, y Deon Gwlad- oi, ac yr oedd yn bresenol nifer dda o offeir- iaid a Ileygwyr, yn ychwanegol at y rhai a ddewiswyd i gynrychioli yr offeiriaid a'r Ileygwyr yn y Gynhadledd Esgobaethol, mewn cyfarfod o'r Ddeoniaeth Wlajol yn Nevern, Mai 30ain. Yn y cyfarfod crybwyll. edig yn Nevern, etholwyd y Parch D. G. Phillips, D.G., fel y cynrychiolydd offeiriadol ar Fwrdd Arianol yr Esgobaeth, ac yn y cyf- arfod hwn, dewiswyd Mri. G. B. Bowen a D. J. Edwards, fel y. cynrychiol wyr lleyg ar yr unrhyw. Etholwyd Mrs. Evans, Paut- yderi, yn ilywyddes Undeb yr Ysgol- ion Sul, a Mr. D. J. Edwards, yn dryaorydd Peaderfynwyd fod pob offeiriad yn y ddeoniaeth wladol i fod yn aelod o'r Pwyllgor, a cheisiwyd gan bob YsgoI Sul i ddewis Ueygwr fel aelod o'r unrhyw. Gyda'r Pwyllgor hwn y mae penderfynu ynahylchy gwobrwyon. Parthed y cynllun goreu i garlo ymlaen y gwaith, cafwyd anerchiadau pwrpasol gan y Parchn. D. G. Phil 1 ipa, E. P. Jones, L. Roderick, D. L. Daniel, D. Wil- liams, J. D. Evans, T. M. James, Mrs. Williams, a Mr. J. Thomas. Ceisiwyd ganyr ysgrifenydd i dalu ymweliad a'r gwahanol eglwysi i egluro y Gynllunwers, ac i roddi rhybudd o wythnos ymlaen liaw i'r gwahanol offeiriaid ynglyn a/i ddyfodiad. Talwyd di- olchgarwch gwresog i'r Deon Gwladol am lywydd^la therfynwyd drwy ganu Dan Dy fendith wrth ymadael,' a datgan y Fendith gnn y Deon Gwladol. Cyfranogodd y cyn- rychiolwyr o de, darparedig yn Ystafell yr Ynadon gan Mrs. Daniel, Sergeant's Inn. Cynbaliwyd cyfarfod arall yn Nghapel yr Eglwys, yn dal perthynas i'r un mudiad, ddydd Mercher, y 19eg cyfisol, am 7 o'r gloch, o dan lywyddiaeth Mrs. Evans, Pantyderl, pryd yr oedd yn bresenol gyurychiolaeth dda. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. D. L. Daniel, a darllenwyd cofnodlon y cyfarfod blaenorol gan yr ysgrifenydd. Derbyniwyd enwau cynrychiolwyr oeddynt wedi eu dewis eisoes gan y gwahanol Ysgolion Sul fel aelod- au o'r Pwyllgor. Trefnwyd fod pob Vagol Sul i gyfranu puiu swllt yr un at dreuliau yr Undeb. Penodwyd MnJ. Williams, rheitbor- dy Meline, i ddarllen papur ar yr Ysgol Sill, a'r Parch. J. D. Evans, rheithor Eglwyswen, ar y Genhadaeth Genedlaethol mewn cyfar- fod yn Ngbapel yr Eglwys, Eglwyswrw, Mereher, Medi y 6ed, am 5 o'r gloch. Siar- adwyd ar y gynllun-wcrs, ac ar y ruodd eff- eitbiolaf i sicrhau llwyddiant yr Undeb gan yr holl offeiriaid oeldynt yn bresenol, y Ilywyddes, a Mrs. Williams, rbeitbordy Mel- ine. Darllenodd yr ysgrifenydd lythyr calon- ogol oddi wrth y Parch. E. J Davies, rheithor Bangor Teifi, trefnydd ac ymwelydd galluog a medrus Y sgollon Sul yr Esgobaeth, yn dy- muno pob llwyddiant i'r mudiad. Talwyd diolchgarwch brwdfrycug i'r llywyddes, a therfynwyd drwy ganu Dyma Feibl anwyl le8u,' a datgan y Fendith gan y Deon Gwlad. ol.
DEONIAETH TWRCELYN.
DEONIAETH TWRCELYN. Y GENHADAETH G.NBDLABTHOL. Yo Rhos- ybol y bu cyfarfod o'r olerigwyr y mis hwn, sef ar Mereher, yr 20fed cyfisol. Yr oedd agos yr oil o staff y ddeoniaeth yn bresenol. Caed trafodaeth rydd ac adeiladol ar ddiben anodweddion y Genhadaeth, gyda mesur o eneinlad, 8e y peth hwnw na ellir ei gyowys mewn geirlau yr hiraethwn ac y gweddlwn am dano. Mynai un o'r brodyr mal nid paratol ar gyfer y Genhadaeth yr ydym, ond ein bod eisoes ynddi, a than rym el gweithredladal1 a chydsynial'n hyspryd ni a'i yspryd yntau mal felly y mae'r peth,—ebrwyed oedd ein Amen, ac o lwyrfryd calon. Awgrymai arall mai da fyddal parhau'r cyfarfodydd mlsol hyn wedi'r Al y Genhadaeth helblo. Cadd yutau hefyd gefnogaeth rymus ac unfryd. Telmlid ein bod eisoes wedi profi el gwerth yn gymaint fel mal anffawd, 08 nad rhywbeth gwaeth fydda'u dibarhau. Ni chelslwn. llwlo yn y radd lelaf mewn materlon mor ofnadwy bwys- ig, ond teimlwn yn ddigon dlamwys I ni els- oes gael1 rhai defnynau I lawr.' Po mwyaf y myfyrlwn ar ddysgeldiaeth y Meistr, mwyaf y gloewlr ein gobaith. Yn y darlun o gen- hadaeth yr Eglwys gelr ganddo Ef, rhagry. buddir ni o fethlant mewn rhai cyrau o'r maes, ond sicrheir ni y bydd yna gynhauaf ardderohogar y diwedd, so y oa'r rhai sy'n hau a'r rhal I)"n medi lawenyohu ynghyd. Felly y llysg yn fwy neu lal gloew filam gob- aith yr Eglwys o oes 1 oes yn ei hing a'i horiau tywyllaf. Ar ei glinlau mae'n anorchfygol. Wedi'r gwasanaethau oawsom o dan nenbren y Ficerdy gan Mrs. Roberts, Miss Yiolet Roberts, a Miss Jones, hawddamor a ohinio o'r fath a garem. Yr oedd eu hagwedd groesawus, a'u darpariadau helaeth yn adlon- iant I gorph a meddwl. Diolch wyd yn addai; 1 i Mrs. Roberts gan y Deon Gwladol. Cyfar- fyddiry mis nesaf yn Rheithordy Llanelllan.
LLANLLYFNI.
LLANLLYFNI. MARWOLAETHAU A CHLADDEDIGAVRHAU. Gyda gofid yr ydym yn gorfod cofnodi am dair o farwolaethau a chladdedigaethau yn ystod yr wythnos ddlweddaf. Bu farw yr Bglwyswraig ffyddlon, Mrs. Margaret Roberts, Rhedyw Road, Llanllyfnl, ddydd Sadwrn, yr 16eg cyfisol, a chladdwyd yr hyn oedd farwol o honi y dydd Iau canlynol. Yr oedd yr ymadawedlg yn un o ffyddloniald Eglwya y Plwyf, ac er yn 69 oed, clywid el llals swynol yn trelddlo trwy y gynulleidfa oil. Nid yn unig byddal yn gallu oynorthwyo yn helaeth gyda'r gwasanaethau, ond yr oedd yn ffydd- Ion ynddynt oil. Bu yn weddw am flynydd- oedd meithion. Cyfarfyddodd el phriorl a damwaln angeuol yn un o'r chwarelau. Magodd hithau dyld o blant, 6 mewn nifer, yn Eglwyswyr ffyddlawn. Deallwn fod un o honynt yn Awstralia bell, ac eraill mewn gwahanol rauau o'r wlad hon. Colled fawr i Eglwys y Plwyf oedd colli yr ymadawedig, a bydded i'r Arglwydd godi rhai eto i lanw y bwIch-Bu farw Mr. Robert Roberts, Water Street, Penygroes, dydd Llun, y 18fed cyfisol, yn 34 oed, a chladdwyd yr hyn oedd farwol 0 hono ddydd Gwener yn mynwentSt. Rhedyw. Brodor ydoedd o Penrhyndeudraeth. Cafodd gystudd trwm, a dioddefodd y cyfan ya dawel a dirwgnach. Mae ein cydymdeimlad llwyraf a Mrs. Roberts yn ei phrofedigaeth ichwerw. Mae'r ohwaer yn Eglwyswraig selog, ac wedi ei dwyn i fyny yn Eglwys In In Crist, Penygroes. Bu farw Mr. Evan Roberts, Hyfrydle Road, Talysarn, boreu Mercber, y 19eg cyfisol, yn 45 oed, a chladd- wyd yr hyn oedd farwol o hono yutau yn mynwent henafol St. Rhedyw ddydd Sadwrn y 22ain cyfisol. Dioddefodd gystudd caled, ond cafodd ras i ymdawelu trwy y cyfau i gyd. Gadawodd weddw a 6 o blant bach i alaru ar ei ol. Mae y tair Eglwys wedi ea el w yfo yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Bydded i'r teuluoedd a'r Eglwysi edrych i fyny am gynorthwy yn awr y brofedigaeth ddu at Dad yr amddifaid a Barnwr y gweddw- on. Gwasanaethwyd yn yr oil o'r angladd- au gan y Rheithor parchedig, Williams Peny- groes, a Williams, Talysarn.-Hefyd mae y rhyfel fawr ac arswydus hon wedi mynu taro EgIwys St. loan. Daeth y newydd fod yr Is-gadben Seth Owen, y crythor adnabyddus, wedi ei glwyfo, ond gobeithiwn y caiff adfer- iad buan. Derbyniwyd y newydd trist fod Mr. John Thomas, mab Mrs. Owen Jones Penyryrfa, wedi ei glwyfo yn angeuol yn Ffrainc. Nawdd y nef fyddo dros y teulu- oedd oil yn eu profedigaethau chwerwon. -B.J.
- CEI NEWYDD A'R CYLCH.
CEI NEWYDD A'R CYLCH. AWYREN. Tua 3.30 prydnawn ddydd Mawrth, Gorphenaf 18fed, gwelwyd awyren yn myned heibio yma i gyfeiriad Ynys EuIli, a thua 8.30 yn yr hwyr gwelwyd awyrloug yn dycbwelyd i gyfeiriad Sir Benfro. Yr oeddynt yn hedfan uwchben y mor. Dyma y tro cyntaf i'r trigolion i weled y cyfryw yn myned beibio Cei Newydd. « BELGIAN FLAG DAY'-Dydd Llun, Gorph. lOfed, bu plant jr yagol ddyddiol oddiam- gylch yn casglu tuag at blant bach" Belgium, a chasglasant dros 8p. I FRENCH FLAG DAY.'—Dydd Gwener can- lynol, bu Misses Ethel Davies, Swn-y-don, a Lizzie Williams, 4, Rock St., yn gwerthu I flagg' tuag at y gymdeithas uchod, a gwerthasaot werth dros 3p. 10s. Cyfan- swm y ddwy gymdeithas, lip 10s. ANRHKGU MILWR.— Nos Sadwrn, Gorph. 22ain, yn Ysgoldy y Cynghor, cynhaliwyd cyfarfod arbenig i ddangos rhyw gydaabydd- iaeth feohan i Pte. D. Rees Bavies, Moel-y- don, yr hwn oedd wedi bod yn Ffrainc er ya pum mis. Anrhydeddwyd y cyfarfod gyda phresenoldeb Lieut. General Syr James Hillg- Johna, Dolaucothl. Llywyddwyd gan y Parch. E. Lloyd, rheithor, a gwnaeth gyfeir- iadau yn ei anerchiad agoriadol at amcan y cyfarfod, at gymeriad dymunol Sir James, at filwyr y Testament Newydd, ac at Pte. D. Rees Davies. Canwyd dwy unawd gan Mrs. Maud Davies, a Miss Megan Harriet Siarad- wyd hefyd gan Capt. Thomas, yr hwn ofynodd i bawb godi ar eu traed a rhoddi 'thr. cbeers' i Syr JamesJHills-Johns. Siaradwyd ymhellach gan Capt. Davies (Gwynfa), Mr. D. ,C. Jones, Capt. Davies (Araminta), Mrs. Malt- land Jones, Miss Longoroft, Pte. S. Lewis, Parch. D. T. Jones (curad Llanarth), Paroh. D. Evans, Mr. J. S. Evans a Syr James Hills- Johns. Rhoddwyd 2p. 2s. ar ran y lie i Pte. D. Rees Davies gan Miss Isawel Jones, Park Street, un o'r caglyddion, gydag ychydig air- iau pwrpasol. Dioldbodd Pte. Davies yn gynes i bawb am eu eydnabyddiaeth, ac am yr hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod. Dych- welodd ef yn 01 foreu dydd Llun, ac yn ddi- ameu fe fydd cofion melus o'r cyfarfod hwa yn llawer o gysur iddo pan ymhell o wlad 81 enedigaeth. Gofaled Duw am dano eto yn y dyfodol fel ag yn y gorphenol.-D.E.
DEONIAETH DYFFRYN OLWYD.
DEONIAETH DYFFRYN OLWYD. DYDD T Å WEL.cynhaliwyd yr uchod yn Eglwyø Rhuthyn, dydd Mawrth, y 18fed cyf., ac hefyd nos Lun y 17fed, Y pregethwr oedd Deon Bangor. Traddododd y Deon anerchiadau dwys ac hynod amserol gan roddi pwys neillduol ar wir angen yr Eglwys yn yr oes hon, ao ar ddylanwad a nerth yr Ysbryd Glin, ar yr offeiriaid yn ogystal a'r Ileygwyr, fel y cawn wir ddeffroad o'n cwsg, ao 1 ym roddi o hyn allan yn fwy penderfynol nag erioed i wasanaethu Hen Eglwys ein Tadau. Buddlot lawn yw myned o'r nellldu am enyd o swn y byd, ei ofalon, el brofedig- aethau, a'i Iwynlon7 Ein gweddi daer yw ar i Dduw fendithlo y Genhadaeth hon fel ag i ymlid pleserau, syohedd am gyfoeth a mawredd, gan wneyd yr holl wlad yn Baradwys ar y ddaear.—Mynydd Hiradtholf.
Y GAIR CYSSWYN : BYR A BYW.
Y GAIR CYSSWYN BYR A BYW. Gorffenaf- Englyn gorphenedig ac yn taro'r hoel ar ei phen, a phwy fyth a fynai fwy gan fardd. Mae yn hwyr glas i Orphenaf eleni hwyl- io ati i haeddu molawd hapus y birdd, sef 1 Mis tirionaf,' Mis y mêl,' dywydd brwd a dyddiau braf.' Y Bardd Englyn.—Englyn cnoawl campus iawn. Ceir gafael a grym a graen ar eu goreu glas yma Deuwch gan amled ag y mynoch, syr. Y eyfizeividiad. -Penillion tlysion, a'r ergydyn hapus iawn a'r gwead a'r gweitbiad allan yn dyner a deheuig. 7 Dyffryn.—Darlun bycban (miniature) pryd- ferth odiaeth heb ddim yn eisiau nid oes yma ormod o liw ac y mae pob dim yn ei le, a'r Eg- lwys yn gogoneddu'r olygfa dlos. Ceir yma ami darawiad penigamp, megys 4 A'r bryniau o'i amgylch fel cAd.' 'A'r bryniau yn edrych o draw.' Molawd ir fyddin BrydUinig.— Llinellau llithrig o'r Ffrancaeg, yn darllen yn hynod ya- twyth ac esmwyth. Llwyddodd y rheithor i daro cywair croew yr awdwr, gan ei fod yn ffydd- Ion i'r 4 llythyren,' yn ogystal a disgyn arno ef ddeuparth ysbryd y Ffranewr. Diolch am droai peth mor amserol ac awenol. Mae eroesaw i chwithau ddyfod yma amled ag y mynoch, syr.
MOLAWD I'R FYDDIN BRYDEINIG.
MOLAWD I'R FYDDIN BRYDEINIG. (O'r Ffrancaeg). Henffych i filwyr gwych gwlad Prydain Fawr, Yn Iluoedd a ddaethant i ymladd o'n tu, Law a chalon i wared ein gwlad sydd yn awr Dan hunllef yr Ellmyn a'i erch waedlyd lu, Henffych i filwyr gwych wlad Prydain Fawr. Troi cefn ar aelwyd glin, clyd, er ein mwyn, Ar alwad eu teyrn, heb na grwgnacb na braw, A'u alon ar din gan eu hyder i ddwyn Buddugoliaeth o'r diwedd—y dydd sydd gerllaw, Troi cefn ar aelwydydd, glin, clyd, er ein mwyn. O'r Marn hyd yr Yser bu Uinder a phoen, Lws a Neuf Ca-pel brofodd ffyrnig a brwdi, Oela yr Ellmyn, ymchwyslyd ei ffroen. Oncf, ein brodyr f eich clod fydd heb lvgredd na rhwd, O'r Marn hyd yr Yser bu blinder a phoen. Ein daear yn Arto a olehwyd l'u gwaed, Gwyr traed a gwyr meirch yno orwedd ynghyd Er gwlawio'r peleni, un rheng hwy a gaed, Tra meirwon y gelyn ar wasgar i gyd, Ein daear yn Arto a olchwya wu gwaed. Esmwyth eich htin filwyr gwych Brydain Fawr, Er chwalu o'r fagnel y clai uwch eich bedd Un ai'r ffos neu y fynwent y'ch rhoddwyd i lawr, Boed ar eich malurion briddyagafn-A hedd. Esmwyth eich hftn filwyr gwych Prydain Fawr. Llanddona. BINJAMIN THOMAS.
EIN CYHOEDDIADAU EGLWYSIG.
EIN CYHOEDDIADAU EGLWYSIG. Bydd yn bleser gan y Manager anfon copiau o'r LLAN, Yr Haul a'r Perl, i'r milwyr sydd ar y maes, neu yn parotol, am ddim ond; pris y papur a chost y cludiad, sef y LLAN am Chwarter, 1/7t. 99 am Haner Blwyddyn, 3/3. II Haul" am Chwarter, 1/- II am Haner Blwyddyn, 2/- Purl" ani Cli wat-ter, 41c. am llaner Bwyddyn, 9c