CYMRU AO ADDYSG.|1869-11-12|Y Tyst Cymreig - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

2 articles on this Page

CYMRU AO ADDYSG.

News
Cite
Share

CYMRU AO ADDYSG. Y mae pob dyn synwyrol a meddylgar ag sydd wedi talu sylw i arwyddion yr amserau yn ystod y blynyddoedd diweddaraf, yn deall fod pwnc addysg y genedl yn pwyso ar feddyliau arweinyddion y bobl yn Lloegr a Chymru. Ac y mae yr arwyddion yn cynyddu bob dydd y bydd yn rhaid i'r llywodraeth gymeryd y pwnc mewn llaw yn ddifrifol, ac egniol; ac y mae agos yn sicr bellach, mai cwestiwn addysg fydd un o brif gwestiynau y Senedd-dymor nesaf. Y mae llawer o bethau wedi cydweithio er dwyn y cwestiwn pwysig hwn i'r fath amlygrwydcl. Yr ydym yn llawer mwy cydnabyddus nag oeddym a sef- yllfa addysg gyffredin mewn gwledydd eraill, ac yr ydym o'r diwedd, wedi ein hargyhoeddi, er ein gofid a'n cywilydd, fod addysg y werin yn uwch ac yn fwy cyffredinol yn mhlith rhai o brif genhedloedd y byd nag yn ein plith ni. Cydnabyddir yn lied gyffredinol bellach, fod sefydliadau addysgol yr TJnol Dalaethau yn rhai tra rhagorol, a'u bod yn llawer mwy effeithiol er addysgu y plant yn gyffredinol na dim sydd genym ni yn y wlad hon. Talodd gwr urddasol ymweliad ag America gyda y bwriad o weled ysgolion y wlad hono, fel y gallai farnu drosto ei hun am eu teilyngdod. Argyhoeddwyd ef eu bod ar y cyfan yn rhai effeithiol, eu bod yn cael eu dwyn yn y blaen yn egniol, a bod diogi yn cael ei oddef yn ysgolion Lloegr na oddefid am ddiwrnod yn ysgolion cyhoeddus yr Unol Dalaethau. Yn ddiweddar cymerodd chwildroad mawr a sydyn le yn sefyllfa teyrnasoedd Ewrop. Ymladdwyd brwydr fawr Sadowa, enillwyd hi gan Prwssia, disgynodd Awstria a chollodd ei hen safle mewn diwrnod, a daeth Prwssia ysgwydd yn ysgwydd a Ffrainc, ac nid ydyw Napoleon wedi cysgu yn esmwyth byth er y pryd hwnw. Y mae Prwssia yn ddyledus am ei llwyddiant yn benaf, os nid yn hollol i rag- oriaeth ei haddysg. Cynhaliwyd arddangosiadau mawrion yn olynol yn Llundain, ac ar y Cyfandir, cafwyd allan fod crefftwyr gwledydcl eraill mewn llawer o bethau, yn fwy medrus a chywrain na chrefftwyr ein gwlad ni, yn unig am eu bod wedi derbyn gwell addysg yn moreu eu hoes. Trachefn, trwy y Riform, Bill diweddaf, rhoddwyd yr etholfraint i ddosbarth newydd a lluosog. Y mae llawer o'r dosbarth hwn, yn rhai tra anwybodus, a theimlir nad ydyw yn ddiogel a doeth rhoddi gallu mor bwysig i ddwylaw pobl mor anwybodus, a diddysg. Y mae yr holl bethau hyn, yn gystal a llawer o bethau eraill y rhai nid ellir yn awr eu henwi bob yn un ac un, wedi ei gwneud yn anheb- gorol angenrhcidiol i ni arfer pob doethineb a phob diwydrwydd i ddyrchafu safon ein haddysg gyffredin. Teimlir y diffyg yn ddwys a chyffredinol, ond y pwnc mawr ydyw, Pa fodd i wneud y diffyg i fyny ? Y mae yn Lloegr ddwy blaid gref yn yr achos hwn, y National Union, a'r National League. Mae yr Union yn dadleu yn dyn dros roddi addysg grefyddol yn ysgol- ion y llywodraeth, yn gwrthwynebu treth er cynal yr ysgolion, ac yn erbyn addysg orfod- ogol. Ond y mae y League o'r ochr arall, am gyfyngu yr addysg i bethau tymorol, am dreth i gynal yr ysgolion, ac am orfodi yr holl blant i fynychu yr ysgolion hyn, oddieithr eu bod yn cael addysg mewn ysgolion cymwys ar draul eu rhieni. Eglwyswyr selog, yn benaf, sydd yn perthyn i'r Union, a phobl selog dros addysg yn annibynol ar sectau a phleidiau, sydd yn perthyn i'r League. Amcan mawr yr Union ydyw cadarnhau y drefn bresenol, ac amcan mawr y League ydyw dwyn holl blant y wlad dan addysg dymorol. Compromise rhwng y ddwy blaid fydd y canlyniad. Felly y mae pobl Lloegr wedi arfer gwneud agos bob amser gyda deddfwriaeth, ac feallai mai hyny sydd oreu ar y cyfan. Y mae gwahaniaeth rhwng lie a lie, a rhwng ardal ac ardal. Cyn y gall unrhyw fesur fod yn llesiol iawn, y mae yn rhaid iddo fod i raddau yn dderbyniol gan y bobl. Pa mor rhagorol bynag ydyw y cyn- llun o gynal ysgolion drwy drethiant lleol, a gorfodi y plant i fyned iddynt, nid rhyw lew- yrchus iawn y byddai ysgolion felly, mewn ardaloedd ag y byddai dylanwad yr offeiriaid yn gryf, ac yn wrthwynebol iddynt. O'r ochr arall, y mae dosbarth o blant lluosog yn ein trefi mawrion, ag y mae yr holl ysgolion sydd genym wedi methu yn deg cael gafael arnynt. Ac nid oes dim a all gael gafael yn y dosbarth hwn, ond cyfraith i'w gorfodi i fyned i ysgolion yn cael eu cynal trwy dreth. Y mae yn rhaid i gymdeithas ymgymeryd a'r gwaith o addysgu y barbariaid ieuainc hyn, neu ddwyn y baich o'u cynal mewn carcharau am flynyddoedd, wedi y deuant yn henach. Yn ardaloedd amaethyddol Lloegr, cynllun yr Union fydd y mwyaf llwyddianus; ond yn y trefi a'r dinasoedd poblog, cynllun y League fydd yr unig gynllun effeithiol. Y mae o leiaf, ddau foneddwr yn y weinyddiaeth bre- senol—Mr Bruce a Mr Forster-yn deall y sefyllfa yn dda iawn, ac y mae yn fwy na thebyg mai compromise rhwng y ddwy blaid fydd mesur addysg y llywodraeth. Ond y mae Cymru yn sefyll ar ei phen ei hun yn ei pherthynas a'r cwestiwn pwysig hwn. Y mae Cymru ar y blaen ar bob rhan o'r deyrnas, mewn addysg grefyddol, ond yn mhell ar ol mewn addysg dymorol. Peth anghyffredin yn mhlith y Saeson a'r Gwydd- elod ydyw cael rhai yn medru darllen, ac heb fedru ysgrifenu, ond yn Nghymru ceir llawer yn ddarllenwyr godidog, ac heb fedru ysgrifenu o gwbl. Dysgasant ddarllen yn dda trwy gymorth yr ysgol Sabbothol. Rhodder i Gymru ysgolion ansectol i ddysgu pethau tymorol yn dda, gellir ymddiried addysg grefyddol y genedl sydd yn codi i ofal y rhieni, yn cael eu cynorthwyo gan ymdrech- ion gwirfoddol athrawon ein hysgolion Sab- bothol. Dylid arfer pob gofal pan fydd mesur y llywodraeth yn cael ei gynyg a'i ddadleu, a'i fabwysiadu, na bydd dim ynddo yn tueddu i wneud cam ag Ymneillduaeth y Dywys- ogaeth. Gwaith yr ysgol ddyddiol ydyw rhoddi manteision addysg yn nwylaw y plant, ac nid eu gwneud yn Eglwyswyr neu yn Ymneillduwyr. Gweithied pob enwad ei ffordd trwy gywirdeb ei egwyddorion a chy- sondeb ei ymdrechion, a bydded cywilydd gan bawb sydd yn proffesu crefydd Crist i geisio cymorth anheg ac anghyfreithlon.

TEYRNGED I GEORGE PEABODY.