Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

LLYTHYR LERPWL.

Y ' GOHEBYDD' AR LORD DERBY.

MABWOLAETH Y PARCH. J. WILLIAMS,…

LLOFRUDDIAD YN SIR GAERFYRDDIN.

Advertising

[No title]

News
Cite
Share

Bwriada yr awdwr yn y gyfrol nesaf fyned drwy hanes yr Eglwys yn y cyfnod dilynol i hwn, a diau y bydd ei sylwadau athronyddol yn gaffaeliad gwerthfawr yn y dyddiau hyn, pan y mae gwir natur Eglwys Crist yn debyg o dynu sylw cyffredin- ol ato yn fuan. Rhwydd hynt i Dr. Pressens6 i orphen y gwaith mawr a phwsig y maa wedi dechreu arno. Y mae cynyrchion ei feddwl addfed a thor- eithiog yn werth eu darllen a'u myfyrio. P. M. W. OODI'N FORIMOL, gan y Parch. Joseph Williams, Liverpool. Traethawd bychan gwerthfawr iawn ar destyn fwir angenrheidiol. Mae rhai dynion yn treulio eu ywyd allan heb wneud fawr ddim ynddo ond cysgu a bwyta, a bwyta a chysgu. Byddai i ieuenctyd ddarllen y traethawd hwn yn ystyriol yn sicr o ddysgu gwers bwysig iddynt—gwers bwysig i'w hiechyd yn gystal ag I'W deall. Mae Mr Williams Wedi dangos trwy ffeithiau diymwad fel y mae codi yn foreu yn effeithio yn dda ar iechyd a hir oe8. Mwy peth nag i'r awdwr parchus gael ei wobrwyo am y traethawd hwn fyddai iddo symbylu dynion ieuainc i godi yn foreu. ALMANAC T MILOKDD AX 1870. Cyhoeddedig gan R. Hughes a'i Fab, Wrexham. Dyma y geiniogwerth lawnaf o wybodaeth am bob peth ag a gynhygiwyd erioed i'r Oymry yn eu hiaith. Ceir yma gronfa o ffeithiau, a'r rhan fwyaf o honynt yn bwysig i'w gwybod. Nid rhaid i ni ei gymell, oblegid y mae y miloedd yn sicr o fyn", cael yr Almanac a ddarparwyd ar eu cyfer. Y BEIBNIAD. Ehif 42. Hydref, 1869. Rhifyn rhagorol. Llawn iawn o amrywiaeth, a'r oil wedi eu hysgrifenu yn rhagorol. Nis gallwn yma fyned dros yr erthyglau o un i un, gan gyfeirio at neillduolion pob un. Y cyngor fedrwn roddi ydyw 'Tyred a gwel.' Myned pob un a allo y Beirniad iddo ei hun. Yr ydym yn synu na byddai mwy yn ei dderbyn ac yn ei ddarllen. Ceir yn y rhifyn hwn ysgrifau ar Gyfaddasder y Beibl ar gyfer galluoedd meddyliol dyn-Prif nodweddion cenedl y Cymry—Pryddest ar Richard Cobden—Yr Eglwysi a'r Weinidogaeth—Beth yw pregethu Crist —-Gwir Fawredd—Adgyfodiad Lazarus—Esgyrn Modryb Gwen-Y ddadl Seneddol ar Gymru. Gall y bardd a'r hynafiaethydd, y daearegydd a'r duwin- ydd, yr athronydd a'r pregethwr, gael yma bob un flasus fwyd o'r fath ag a gar efe.