Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
LLYTHYR LERPWL.
News
Cite
Share
LLYTHYR LERPWL. Mae y gwir anrhydeddus W. E. Forster yma hedd. yw yn rhanu gwobrau yn y Liverpool Institute; a chan ei fod yn dyfod, a gwybod fod ewestiwn addysg i ddyfod ger bron mewn modd arbenig yn y Senedd nesaf, galwyd cyfarfod ddydd LIun yn y Law Asso- ciatian Rooms gyda'r amcan o benodi dirprwyaeth i fyned at Mr Forster. Nis gwn pwy na pha fodd y alwyd y cyfarfod. Yr oedd wedi myned heibio cyn 1 nii wybod gair am dano. Yr oedd yno lawer o ltydclfrydwyr yn nghyd o wahanol olygiadau a sectau crefyddol. Ni welais enwau neb o'r Cymry yno, na chymaint ag un o'n gweinidogion. Pa fodd y bu byn P A wahoddwyd hwy tybed ? O. do, yr oedd yn gywilydd i'w calonaa nad aethai rhai o honynt. Os na ddo, mae eisiau rhyw ffordd i roddi ar ddeall i'r Saeson nad ydyw y Cymry ddim i gael eu snubbio fel hyn ganddynt. Pwy a edrycha i mewn i'r mater yma POnd pendenynwyd myned ato, a dyweyd yn gryf wrtho fod yn rhaid i'r cynllun o addysg, cyn y cymer gan y wlad, fod ar egwyddor- lon rhydd a hollol ansectaraidd. gCadwyd cyfarfod mawr gan y gwrthddefodwyr 1 y Collegiate nos Lun, dan lywyddiaeth T. B. orsfall, Ysw., yr hen aelod Toriaidd dros y dref n>vu oe^ y110 gynulliad lluosog iawn, a'r areithwyr oil yn gryf yn erbyn defodaeth. Nid oedd m yn rhy gryf nac yn rhy gas ganddynt i'w torwTf i am eu g^yM. Dynodid hwy ar yr un Jvi anffyddwyr a Phabyddion, fel gelynion yr vn K^n a'r "^adwriaeth; ac eto y mae y bobl yma rhvf Syda'u gilydd yn yr un cyfundeb. Mae yn o-nL • ,na byddai digon o eel yn y blaid yma a fyn und °Vfrif mor efengylaidd i ddyfod allan o gyf- sydd yn llochesu o'i fewn ddynion addynodir u "v a8' enwau mor dduon. Ond dyna, rhaid cw:r 1 ryw^e heblaw i'r Eglwys Sefydledig i v £ .am ?ys°ndeb. dnriuv,- wr ^nos Fawrth) yr oedd Dr. Cumming yn BrS.7° GoUe9i*te ar «Wahoddiad y Pab i Rhll/.arid ^yfod i'w Gyngor ^Ecumenical yn ar a'r ^arcb' J. Hughes yn darlithio agos iddi AJt1 ma^er. yn Fitzclarence Street. Rhyfedd i ddau ddya mor wahanol fod yn darlithio mor agos i'w gilydd yr un noson ar yr un testyn. Wrth reswm, fel dyn call aethum i wrando y Cymro, am y gwyddwn y cawn ganddo lai o freuddwydion a mwy o sylwedd. Cymerodd J. Ro- berts, Ysw., Hope Street, y gadair, a llanwodd hi, nid a'i gorff, ond a'i fedrusrwydd. Yn sicr i chwi, dyma rising man ein cenedl ni yn awr. Os bydd ar ryw gonstituency yn Nghymru eisiau aelod da, Rhydd- frydwr trwyadl, Y mneillduwr cydwybodol, a Chymro cynes ei galon,—dyma y dyn. Mae amryw o gyn- rychiolwyr Cymru yn myned ar eu hen sodlau, ac mi gynghorwn i arweinwyr y bobl i gadw eu llyg- aid tua Hope Street; a choeliwch chwi neu beidio, yr wyf fi yn rhyw un nad yw ei gyngor i'w ddir- mygu. Am y ddarlith, digon yw dyweyd ei bod yn deilwng o'r darlithydd—' Ymadrodd iachus yr hwn ni allaf beio arno.' Yr oedd y peth i'r amserau presenol. Dylid, yn ol awgrym y Parch. J. Thomas wrth gynyg diolchgarwch, ei hargraffu yn bam- phletyn, a'i rhoddi hyd y gellir yn llaw pob Cymro. 0, ie, bu agos i mi anghofio dyweyd, y mae Cynghor y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig wedi apwyntio y Parch. J. Thomas, J. Roberts, Ysw., y Cadeirydd, a Mr J. Lloyd Jones, yr Ysgrifenydd, yn gynrychiolwyr i'r Gynhadledd fawr yn Aberys- twyth. Disgwyllr hefyd am Great Demonstration yn Liverpool o hyn i ddechreu Rhagfyr. Dim rhagor yr wythnos hon. AS OWAIN.
Y ' GOHEBYDD' AR LORD DERBY.
News
Cite
Share
Y GOHEBYDD' AR LORD DERBY. Prydnawn dydd Mercher, Tach. 3ydd, cynhaliodd Annibynwyr Llangollen gyfarfod To eu hysgol Sab- bothol, ac ar ol hyny rhoddodd y Gohebydd ddarlith ar LORD DERBY. Cawsom i ddechreu gip olwg ar gychwyniad yr House of Stanley, yn amser William y Gorchfygwr—fod un o ddilynwyr William ag oedd wedi ymladd gydag ef yn mrwydr Hastings wedi cael etifeddiaeth am ei ddewrder, ac i *'yr hwnw briodi merch i hen Saxon o Staffordshire mewn He a elwid Stan-Lay, 80 i'r teulu gymeryd ei enw oddi- wrth y He hwnw, ac i'r enw lithro ar ol hyny yn Stanley. Wedi hyny dangosodd fod y Stanleys wedi cymeryd rhan arbenig yn mhob great event yn hanes Lloegr am saith cant o flynyddoedd. Cyfeir- iodd at eu gorchest ar Faes Bosworth, ac hefyd at un o'r teulu a lynodd yn ffyddlawn gyda Charles yn amser Cromwell a'i werin-lywodraeth ac iddo gael tori ei ben oblegid hyny. Sylwodd y Gohebydd mewn iaith gref fod dienyddiad y Stanley hwnw yn extreme measure, a bod extremes yn sicr bob amser o gynyrchu extremes, ac nid oedd amheuaeth ar ei feddwl nad oedd y weithred farbaraidd hono wedi effeithio ar ysbryd ac ymddygiad y teulu o hyny hyd yn awr. Teimlant yn anfoddlawn byth ar ol hyny i helaethu hawlfreintiau y werin, ac yr oedd y teimlad hwnw yn gryf iawn yn yr larll diweddar. Wedi hyny rhoddodd fras linelliad o'i hanes o'r amser yr aeth gyntaf i'r Senedd yn 1820 hyd ei farwolaeth. Crybwyllodd am ei araeth gyntaf-ei maiden speeeh-ar y Gas Bill i Manchester wneud argraph ar y ty a'r wlad. Hefyd am ei araeth yn erbyn y Railroad gyntaf a wnaed yn y deyrnas. Pan yr ymunodd a'r Whigs bod ei enw yn gysyllt- iedig a dau fesur a fyddant iddo yn enwogrwydd arhosol, sef Deddf Addysg i'r Iwerddon a Deddf Rhyddhad y Caethion. Wedi hyny manylodd ar ei hanes yn troi at y Tories, ac iddo o hyny allan wrth- wynebu pob meaur rhyddfrydig :-Rhyddfasnach, Dilead Treth y Papur. Wrth grybwyll am dreth y papur dangosodd rifyn o'r Times 1820, pris 7 ceiniog am bedwar tudalen; a rhesymodd mai felly y buasai y pris hyd heddyw pe cawsai Derby a'i blaid eu ffordd. Cyfeiriodd at yr aberth oedd yr enwog Gomer a'r anwyl Ieuan Ddu wedi wneud er ceisio cychwyn newyddiadur Cymraeg, ond fod eu hegni- adau wedi methu oblegid trethoedd trymion ar bob cyfrwng gwybodaeth felly. Gwnaeth wedi hyny gyfeiriadau dyddorol [at Lord Derby fel Bardd a Lienor, Gwladgarwr a Chyfaill, a Boneddwr a Christion, yn nghyda rhagolygon y Toriaid ar ol ei golli. Yr oedd ei ddarluniad o'i ymddangosiad a'i araeth ddiweddaf yn y Senedd yn nodedig daraw- iadol. Yr oedd y tu cefn iddo ar y Platfform Oil Paintings o'r Senedd-dai gan Ap Caledfryn, ao arluniau life-size 0 Derby, Dizraeli, Bright, a Glad- stone. Yr oedd yn dda genym weled cynulliad mor luosog yn gwrandoar y fath ddarlith. Nid oes modd i adroddiadau am gyfnod mor bwysig yn hanes ein gwlad beidio bod yn nodedig 0 ddifyr ac addysgiadol. Ni threuliasom erioed ddwy awr yn fwy dedwydd, a dyna oedd teimlad pob dosbarth o'r gwrandawyr. Gwyddir bellach mai Politics ydyw hobby' y Gohebydd, ac y mae yn rhyw foddhad neillduol i glywed un yn trin mater ag y mae yn ei ddeall yn gyflawn.
MABWOLAETH Y PARCH. J. WILLIAMS,…
News
Cite
Share
MABWOLAETH Y PARCH. J. WILLIAMS, CASTELLNEWYDD. Pan ar fyned i'r wasg, daeth a ganlyn i'r Swydd- fa. Derbynir y newydd galarus gyda syndod gan filoedd. Bydd genym ragor i'w ddyweyd yr wyth- nos nesaf AT OLYGWYR Y TYST CYMREIG.' Foneddigion,—Y mae yn ofidus genyf eich hys- bysu chwi, ynghyd a darllenwyr lluosog y TYST, fod Mr Williams, Castellnewydd, wedi marw boreu heddyw. Nis gallaf roddi dim manylion pellach. Anfonaf hanes llawn yr wythnos nesaf. Yr eiddoch oil, &c., T. SELBY JONES, Taohwedd 9, 1869. Trewen.
LLOFRUDDIAD YN SIR GAERFYRDDIN.
News
Cite
Share
LLOFRUDDIAD YN SIR GAERFYRDDIN. Ar y 4ydd o'r mis hwn, cyflawnwyd llofruddiad erchyll yn ffermdy Blaendial, ger Llanpumsaint. Yr oedd geneth ieuanc o'r enw Esther, merch i lafurwr yn byw yn mhentref Llangelar, wedi bod yn gweini am rai blynyddoedd gyda John a David Davies a'u chwaer, y rhai a gadwent fferm o'r enw Ffrydiau, ger Conwil. Yr oedd y ddau frawd, sydd o 43 i 45 oed, wedi bod yn talu eu cyfarchiadau i'r eneth ieu- anc Esther, yr hon oedd oddeutu 22 mlwydd oed, ac ymddengys ei bod wedi bod yn analluog am dymhor i benderfynu pa un i gymeryd. O'r diwedd, modd bynag, cytunodd i ymbriodi a John Davies, a gad- awodd y fferm. Aeth ei thad gyda hi i ymofyn ei dillad, a phan yn ymadael dywedodd wrth ei thad fod David wedi bygwth na chaffai byth farw yn ei gwely. Wedi aros gartref am beth amser, perswadiwyd Esther gan y chwaer i ddyfod yn ol atynt fel mor- wyn, a chynhygiodd ragor 0 gyflog iddi; a chan fod y briodas wedi ei gohirio-am ychydig, cydsyniodd a'r cais. Wedi aros yno am rai misoedd, gadawodd i ymbriodi a John. Ar wahanol adegau, pan yr eis- teddai John gyda hi yn nhy ei thad, byddai David, y brawd arall, yn sefyllian 0 amgylch y ty, ac yn edrych i mewn drwy y ffenestr. Ar ol y briodas, aeth Esther i fyw gyda'i gwr i fferm Blaendial, lie y daethant yn mlaen yn bur gysurus. Nos Iau wythnos i'r diweddaf, aeth ei phriod i bentref cyf- agos i gyflogi gwas. Aeth hithau ar neges i dy cyfagos, ac aeth brawd bychan iddi gyda hi. Dychwelodd oddeutu haner awr wedi wyth. Yr oedd yn noson bur dywyll. Wedi myned i'r ty, aeth i ystafell nesaf at y gegin i barotoi swper i'r gweision, a gosododd len ar y ffenestr. Mewn ychydig funudau, gollyngwyd ergyd drwy y ffenestr, a saethwyd hi.yn ei mynwes oddeutu modfedd yn is na'r galon. Aeth y fwled drwy ei chorff yn glir. Neidiodd at ddrws y gegin a gwaeddodd, 0 'r an- wyl, pwy sydd wedi fy saethu!' Yr oedd tri o fech- gyn yn y ty, yr hynaf oddeutu 20 oed, a geneth fach. Yr oedd arnynt ofn myned allan. Yn mhen oddeutu 10 munud, aethant i ffermdy cyfagos i gael ey- northwy, ond bu farw y wraig ieuanc yn eu hab- senoldeb yn mhen 20 munud wedi iddi gael ei saethu. Daeth y gwr adref oddeutu deg o'r gloch, ond ni hysbysodd yr heddgeidwaid hyd boreu dran- oeth. Wedi i'r heddgeidwaid ddyfod yno, gwelsant olion rhyw un wedi bod yn cerdded yn nhraed ei hosanau yn y llaid, ac wedi eu dilyn, cafwyd fod yr adyn wedi rhoddi ei esgidiau am ei draed, a'r olion yn arwain i'r ffermdy lie trigai y brawd eiddigus. Nos Wener, aeth heddgeidwad i dy David, a chy- merodd ef i fyny ar dybiaeth mai efe oedd y llofrudd. Dywedai na wyddai efe ddim yn nghylch y mater, a'i fod ef am naw o'r gloch y noson hono wedi myned i garu merch mewn ffermdy dair neu bedair milldir o dy ei frawd. Aeth yr heddgeidwad i'r ffermdy hwnw, a dywedir fod y ferch ar y cyntaf wedi gwadu fod David wedi bod yno ar yr adeg hono, sef naw o'r gloch, ond tyngodd wedi hyny ei fod wedi bod. Gwyddis fod ganddo ddryll, ond dywed yn awr ei fod wedi rhoddi ei fenthyg i gymydog, ac addefa y cymydog hyny. Dydd Sadwrn, dygwyd ef o flaen yr ynadon yn Nghaerfyrddin, ac anfonwyd ef i garchar hyd ddydd Iau, yr lleg o'r mis hwn. Yn y trengholiad, dychwelwyd y rheithfarn o lofruddiad gwirfoddol yn erbyn rhyw bereon an- adnabyddus.'
Advertising
Advertising
Cite
Share
Pas HOLLOWAT.—Cy/ansoddxadau loch. — Pan byddon oorph wedi ei wanychu trwy fod yn rhy agored i'r tywydd, anghymedroldeb nen esgeolnstra, te wna'r gilla yma adilen't drwg. 0» cymmerir hwynt ynol y cyf&rwrddiadau mewnoljo rykh pob box, rhoddant adnewyddiad nerth yn mhob engraifft o wen did gewyncd, trwy yr hyn 7 nychir yr holl fywyd, ae y rhwyatrir rhyddrediad y tevned- Y maent yn cryfhaii ft arohwaath a'r treuli&d, yn rneoleiddio yr afu, ao yn eweithredo yn esmwyth toe y cylla. Y Maer pila yn addas i bawb o bob oedran ac arferion. Y mae un dyoddefydd yn ysgrifenu 'Nid oea eiiiea ond gwybod am eich pila chwi iddynt gael 811 vwerthfawrogi. Ghwuiaia yn ofer am wellhad am lawer • fiymyddoedd, ae yr oeddwn yn myn'd yn waelach bob d]iSflt m& lenrrd fl yn funn wedi Oefeyddio riobpflwcA'wl.*
[No title]
News
Cite
Share
Bwriada yr awdwr yn y gyfrol nesaf fyned drwy hanes yr Eglwys yn y cyfnod dilynol i hwn, a diau y bydd ei sylwadau athronyddol yn gaffaeliad gwerthfawr yn y dyddiau hyn, pan y mae gwir natur Eglwys Crist yn debyg o dynu sylw cyffredin- ol ato yn fuan. Rhwydd hynt i Dr. Pressens6 i orphen y gwaith mawr a phwsig y maa wedi dechreu arno. Y mae cynyrchion ei feddwl addfed a thor- eithiog yn werth eu darllen a'u myfyrio. P. M. W. OODI'N FORIMOL, gan y Parch. Joseph Williams, Liverpool. Traethawd bychan gwerthfawr iawn ar destyn fwir angenrheidiol. Mae rhai dynion yn treulio eu ywyd allan heb wneud fawr ddim ynddo ond cysgu a bwyta, a bwyta a chysgu. Byddai i ieuenctyd ddarllen y traethawd hwn yn ystyriol yn sicr o ddysgu gwers bwysig iddynt—gwers bwysig i'w hiechyd yn gystal ag I'W deall. Mae Mr Williams Wedi dangos trwy ffeithiau diymwad fel y mae codi yn foreu yn effeithio yn dda ar iechyd a hir oe8. Mwy peth nag i'r awdwr parchus gael ei wobrwyo am y traethawd hwn fyddai iddo symbylu dynion ieuainc i godi yn foreu. ALMANAC T MILOKDD AX 1870. Cyhoeddedig gan R. Hughes a'i Fab, Wrexham. Dyma y geiniogwerth lawnaf o wybodaeth am bob peth ag a gynhygiwyd erioed i'r Oymry yn eu hiaith. Ceir yma gronfa o ffeithiau, a'r rhan fwyaf o honynt yn bwysig i'w gwybod. Nid rhaid i ni ei gymell, oblegid y mae y miloedd yn sicr o fyn", cael yr Almanac a ddarparwyd ar eu cyfer. Y BEIBNIAD. Ehif 42. Hydref, 1869. Rhifyn rhagorol. Llawn iawn o amrywiaeth, a'r oil wedi eu hysgrifenu yn rhagorol. Nis gallwn yma fyned dros yr erthyglau o un i un, gan gyfeirio at neillduolion pob un. Y cyngor fedrwn roddi ydyw 'Tyred a gwel.' Myned pob un a allo y Beirniad iddo ei hun. Yr ydym yn synu na byddai mwy yn ei dderbyn ac yn ei ddarllen. Ceir yn y rhifyn hwn ysgrifau ar Gyfaddasder y Beibl ar gyfer galluoedd meddyliol dyn-Prif nodweddion cenedl y Cymry—Pryddest ar Richard Cobden—Yr Eglwysi a'r Weinidogaeth—Beth yw pregethu Crist —-Gwir Fawredd—Adgyfodiad Lazarus—Esgyrn Modryb Gwen-Y ddadl Seneddol ar Gymru. Gall y bardd a'r hynafiaethydd, y daearegydd a'r duwin- ydd, yr athronydd a'r pregethwr, gael yma bob un flasus fwyd o'r fath ag a gar efe.