- AT AWDTJRDO'R I TYST.)|1869-11-12|Y Tyst Cymreig - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

3 articles on this Page

- AT AWDTJRDO'R I TYST.)

News
Cite
Share

AT AWDTJRDO'R I TYST.) Fonddigions, Rydach chwi chwedi poeni llawer arna i o dro i dro, drwy anwon ata i hefo hwn a'r llall, i geisio gen i sgyrfenu rhwbeth i'r TYST, ac yn y dwaetha, mi wela'ch bod chi 'coeddi ar goedd gwlad a thre mod i chwedi addo gneyd. Ddewis i ddim pellach na hwrach y sgyrfenwn i rw bwt ne ddau, a hyny i ydrachgawn i lonydd gynthoch chi. Mae narw o beth na cha hen gryadur wel fi lonydd bellach. Mi ydawn i lonydd i bawb pe cawn i lonydd gen bawb. Mae arnoch chi eisio i mi sgyrfenu, mae arna ine eisio gwbod pwy sy dalu. Ydach chi'n disgwil i mi sgyrfenu ar y mwyd ffun i chi, tybed P A blaw hyny, on does gynthoch chi list cyd a'r ffordd fawr o enwe rhai i sgyrfenu i chi; a mi ddyliwn i bydd raid i chi gael seet o bapur gimint a llenllian fawr y Postol Peder i brintio'r TYST arni hi i gael digon o le i gyn-wys yr hollt wystwilod, a'r pedwar cyrn- olion, a'r sgrublied, a'r mlusgied rheini o sgyrfen- wrs, bod ag un, a gadel llonydd i mi. A mi rydach chi'n addo y gna i sgyrfenu yn ffarddull gwreiddiol ffun. Be ydach chi'n feddwl wrth hyny tybed ? Ai meddwl i mi sgyrfenu ar y pechod gwreiddiol rydach chi P Na, tydw i ddim mor benwan a hyny, beth bynag. Mae llywerodd o rai callach a mwy sgedig na fi chwedi bod yn sgyrfenu ar hwnw o bryd i bryd, ac medde'r darllenwrs mawr yma wrtha i, y mae nhw i gyd chwedi gadel y pwne yn yr un fan yn inion ag y gydawodd Adda fo, pen oedd o'n ga- del gardd Eden, ac ono y ceith o fod o ran dim agyr- fena i arno fo. A mi rydach chi'n cymryd y'ch cenad i ddeyd hefyd y gna i sgyrfenu ar byncie'r dydd. Be ydi rheini ? Be wyr hen wr wel fl., ynghanol y wlad, am byncie'r dydd ? Os oes gen y dydd byncie hefyd, sgyrfenwch y'ch hinen arnyn nhw. Os mynwch chi, mi sgyrfena i ar rw bwnc drawo yn y mhen i, os sgyrfena i hefyd. Y gwir yw, rydw i chwedi mynd yn hen, a rhy garbwl a thrwsgwl, i sgyrfenu dim ar bwnc yn y byd. Y fath gnewidiad sy arna i ac ar y byd er pan oeddvra i narfer sgyrfenu i'r hen Amsere es talwm. Mae pum gaia ar higen chwedi mynd trost y mhen i er hyny, ac y mae o chwedi mynd yn llawer gwynach a gwan- ach erbyn hyn, er na leiciwn i neb arall ddeyd hyny chwaith; ond mae o'n ddigon gwir er hyny. Y mae ffen ddarllenwrs i yn ramsere, lawer iawn o honyn nhw, chwedi mynd a madel o'r byd yma, a chen- hedleth newydd o ddarllenwrs, na wydda nhw ddim byd am dana, chwedi codi ar 'u hoi nhw,—lywerodd o honyn nhw heb i geni i'r byd pen oeddwn i yn scriblo i'r A-msere. Mi roeddwn i'n gallud gneyd yn birion hefo'r hen ddarllenwrs. Pobol simpil, ddyniwed, wel fi ffun, oedde nhw. Ond y mae'r genhedleth yma'n bobol gall a gwbodus trost ben, a wna ddim ond ysgwyd 'u pene mewn doethineb uwch ben fysgrifeniade i a math. Y mae gen i, er hyny, amal un o ffen gweillion gynt yn aros yma ac acw eto, a hwrach y bydd yn birion ganddyn nhw gwar- fod a fi eto er mwyn yr amser gynt-y rhen amser gynt; ac yn 'u mysg nhw, dene'r hen Bio Nono o Rufen; y mae naw byw cath yn rhen gryadur hwnw. Mae o'n gwbod am dana i'n reit da: mi sgyrfenis i amal lythyr ato fo ystalwm, a mi rois lawer cyngor da iddo fo taswn i nes er hyny, wrandawe fo ddim arna i; a mi rydw i'n oael ar ddallt i fod ynte, wel fine, yn mynd yn wrionach fel mae o'n mynd yn hynach. Ond wel y dwedis i o'r blaen, y fath gnewidiade sy chwedi cymryd lie yn y byd yma er ramser hwnw! Ni faswn i na Pio Nono byth yn credu y cowsen fyw i weld y pethe mawr a rhyfedd sy chwedi digwydd yn Ewrop, tase rywun yn deyd wrtho ni tua'r adeg hono. Ond mae pethe rheini yn ffeithio yn bur ewahanol arno ni'n dau. Mae Pio'n crio, a mine'n canu, wrth feddwl am danyn nhw. A mi hoffwn i i mi ag ynte gael byw nes y gwelo ni'r Babeth chwedi marw'n gelen, a mi nawn ine farnad iddi hi, a mi gae Pio 'i chanu hi i gael oeniog oddiwrthi hi. Dene ddigon tro yma. RiIEN FFARSCWB.

--_---!LLYTHYR Y MEUDWY.

[No title]