Hide Articles List

3 articles on this Page

--__-----_---; NEWYRTII ZACHRY…

LLONG-LWYTH RHYFEDD.

HWNT^AC YMA YN YR AMERICA.

News
Cite
Share

HWNT^AC YMA YN YR AMERICA. (Par had.) Ni ddylwn basio i;mi olygfa arall. Gwelais SANT AR Y DDAEAR. Pwy ydyw ? Ai loan y dysgybl "anwyl wedi adgyfodi ydyw? Un tebyg iawn. Dyn byr, bach, tawel, wedi ei goroni a mwynder. Dr. Robert Everett, Steuben (gynt o Ddinbych), ydyw. Cyfaill boreu oes i fy hen athrawây Parch. Michael Jones, yr Hen Olygydd o Dol- gelley, y Parchn. J. Roberts, Llanbrynmair, a Williams o'r Wern. Yr oedd yn ddigon o dal am y daith i'w weled ef yn cydio yn un ochr i'r Llyfr Hymnau, a'r Parch. Morris Roberts yr ochr arall, ac yn cyd-ganu o'u calon fel dau sant ar borth y nef. Dyma Bioneers y weinid- ogaeth Gymreig yn yr America. Dylem eu parchu. 'Cefais gyfle wrth fyned a dod oSva- hanol fanau i dreulio amryw oriau yn Utica. Nis gallwn feddwl'-gadael;'heb weled chwaer i'r Parch. J. Jones, Llangiwc, a Mrs Howells, gweddw y Parch. Llewelyn D. Howells, un o'm achyddiaeth o Lanuwchllyn, ac amryw o rai cytfelyb. Bum yn swyddfa Y Drych-iiewydd- iadur a olygir yn alluog gan Gwyneddfardd, oddiyno aethum i gael tynu fy narlun. Buasai yu dda genyf fyned i York Mills lie y mae fy hen gyfaill a adwaenid pan yn fyfyriwr yn y Bala fel Mr Edward Jones, Manchester. Cefais ychydig o ymddiddan ag ef ddiwrnod y Gy- manfaâdrwg oedd genyf weled cymaint o ol cystudd arno. Saif yn barchus nodedig yn ngolwg ei frodyr. Aethum o Utica i ganlyn trefniadau y Gymanfa i Floyd. Derbyniwyd ni yn garedig gan y Parch. Mr Griffiths a'i bobl. Trodd y tywydd yn anffafriol iawn ddydd Gwener. Dyna YSTORM 0 FELLT A THARANAU enbyd a gawsom. Ni welais ddirn cyffelyb erioed yn Nghymru. Pan yr oeddym yn dod o oedfa y boreu dechreuodd fwrw, ac aeth yn waeth waeth o hyd. Rhuai ytaranau nes y crynai y ddaear a fflachiai y mellt nes yr ofnem gael ein llosgi yn golsod ar amrantiad, a thy- walltai y gwlaw fel llifeiriant o'r cymylau. Cydiai y Parch. M. Roberts yn Haw fy ngwraig ar ganol y dymhestl, a dywedai yn ei dclull teuluaidd ef ei hun, Dyma'r America ngeneth i, pan y mae hi yn gwlawio-gwlawio yn iawn y mae hi weli di.' Felly yr oedd hi mewn gwirionedd. Ysgubid y pontydd, a dryllid y ffyrdd, fel y methai llawer gyrhaedd y capel, ac o'r braidd y gallodd y neidiwr ystwythaf oedd yn nghyffiniau y lie gyrhaedd. Drwg oedd genyf ddeall i feliten daro ysgubor gwraig weddw yn y gymydogaeth a llwyr losgi gwerth yn agos i fil o ddoleri. Tywyll iawn yw ffyrdd Rhagluniaeth. Enynodd hyn gydymdeimlad llwyraf y lle.. Nid gweinidogaeth^,i'w dibrisio ydyw hono sydd yn creu cydymdeimlad. Oddiyma aethom trwy Utica i Waterville, tref fechan brydferh, frith o goed, tebyg ei maint i'r Bala. Dyma faes llafur fy anwyl gyfaill y Parch. E. Daviesâdyn ag oedd yn cael ei werthfawrogi yn fwy po fwyaf yr oedd yn aros yn Nghymru. Wedi pregethu boreu Sabboth aethum i dy Mrs Thomas (merch y Parch. M. Roberts) i giniaw. Dyma balas ar- ddercliog Yma cefais weled r HEN FFBYND I FY MAM, sef Mrs Jones, chwaer i Miss Owen, Ivy House, Bala; a Mrs Jones, Bryntegid; a mam i Mrs Rowlands, Bala. Yr oedd hi a'i dwyferch yma yn aros am ychydig, ac yn wir nis gallent ddethol man mwy hyfryd braidd yn y byd. Aethom fel mellten yn ein hymddiddan i'r Bala. Yr oedd yn dda genyf gwrdd a hi a gweled ei merched,t dymunwn ,wahodd y rhai a ynfyd dybiant mai gwlad haner farbaraidd yw yr America i geisio cael golwg ar y ddwy chwaer hyn er eu bod yn hollol ddirodres ni welais ferched ieuaingc mwy refined erioed. Y mae yn gysur i rieni sydd ganddynt blant i'w magu i weled cynhyrchion mor rhagorol i