Hide Articles List

3 articles on this Page

--__-----_---; NEWYRTII ZACHRY…

News
Cite
Share

NEWYRTII ZACHRY Oll GADAiE WELLT. Zechariah Phillips yw ei enw priodol, ac fel Mr Phillips y cyfarcha y cymydogion ef ond Newyrth Zachry' y byddwn ni yn ei alw. Yma y gwelais i ef, ac yr wyf yn ei gofio o'r goreu er's pedair blyn- edd ar hugain, ac yr oedd yma ddeng mlynedd cyn hyny. Efe yw brawd hymtf fy mam. Ghyn ei oed yn lied agos, ond nid gwiw i mi ddyweyd ac nid oes'modd rhoddi.traTngwydd" mwy iddo na thrwy ofyn ei oed. Mae yn aelod parchus o'rfrawdoliaeth henlancyddol. Treuliodd foreli ei fywyd yn Lloegr, lie y gwnaeth geiniog gryno mewn amser byr, a hyny mewn ffordd digon gonest. Yfrth deithio ar ben cerbyd o "Worcester i Lunclain cafodd oerfel, ymafl- odd oerfel ynddo, trodd yn grydcymalau, ac aeth o ddrwg i waeth, nes y collodd agos yn hollol nerth ei aelodau. Wedi treio pob dyfais physigwriaeth, daeth yma at fy mam, gan fod ei fam wedi marw yehydig amser cyn hyny ac yma y mae wedi bod byth, ac yma y bydd bellajh mae yn debyg hyd ei fedd, a chwithdod mawr i ni fydd ei golli pan y daw "hyny. Gobeithio fod y dydd yn mhell iawn. Gair Newyrth Zachry ydyw y ddeddf gyda ni yma ar bob Fcth. Yr ydym wedi cynefino a'i iau, fel nad oes neb e honom yn ei tlieimlo yn drom. Bu ei ddyfod- iad yma yn help mawr i nhada mam wrtli cldechreu eu byd, ar amser lied galed; ac or na bu erioed ddyn mwy diwyd a gweithgar na nhad, eto nid oedd wedi cael manteision Newyrth Zatehry pan yn ddyn ieu- ange, a byddai fy nhad oblegid hyny yn ymgynghori Ily ag ef ar bob path. Dysgwyd ninau fel plant felly o'n mebyd i edrych i fyny ato. Yr wyf yn cofio amser pan y byddai yngallu symud tipyn wrth ei ddwy faglen; ond y mae er's blynyddoadd lawer wedi myned yn hollol ddiallu. Cariodd y nhad o'r gwely i'r gadair y boreu, ac o'r gwely i'r gadair y nos, am yn agos i ugain nnynedd ac wedi i'r ael- wyd lyned heb dad arni-ac y mae hono yn golled na fedr neb ei hamgyffre'I ond a'i teimlocld-y mae tin o honom ni v meibion o hyfrydwch calon bob hwyr a boreu yn gwneud yr un gwasanaeth i Newyrth Zachry. Eistedda yn awr er's blynyddoecld ar hyd y dydd mewn hen gadair wellt fawr gwmpasog, wedi ei leinio yn gynhes, a chlustog esmwyth arni; ae yma y treilia agos ei holl amser i ddarllen y llyfrau a'r papurau a welir yn bentyrau o'i gwmpas. Ar ei dde y mae ford fechan gron i ddal y llyfr neu y papur a, ddarllenir ganddo; ac oddifewn i'r simdde fawr ar y llaw aswy y mae dwy astell, ar y rhai y mae y llyfr- au a ddarllenir ganddo amlaf yn nghadw. Mae mat Penbre wedi ei daenu yn glyd dros yr aelwyd oil, ac un bychan arall ynychwanegoldan ei draed, ac yntau yn ymddangos yn lan a boneddigaidd yr olwg arno. Er fod ei gluniau yn hollol ddinerth, eto y mae ei glyw gystal ag erioed, a'i gof a'i ddeall heb eu han- mharu mewn un modd. Mae ei lygaid yn pylu, ond trwy gymhorth gwydrau y mae yn gweled yn ber- ffaith. Mae yn ddarllenwr mawr ar lyfrau Cymraeg a Saesneg, ac y mae yn fwy eang a diragfarn yn nghylch ei ddarlleniad na'r rhan fwyaf o bobl o'i oed. Annibynwr ydyw o waed a dygiad i fyny; ac a hwy hefyd yr ymaelododd ar ol dyfod yma. Der- byniwyd ef yn aelod yn y ty yma gan yr hen weini- dog, y diweddar Barch, Mr Jones, tua'r Iwycldyn 1840, pan yr oedd diwygiad gwresog yn yr ardal; a byddai Mr Jones yn dyfod yma i bregethu ac i roddi cymundeb iddo bob mis tra y bu byw; ae felly y gwna ei olynyddjy Parch., Mr Evans eto. Ond or fod Newyrth Zachry yn aelod gyda'r Annibynwyr, eto y mae yn bur ddiragfarn at bob enwad. Pan yn Bristol yn ddyn ieuangc, byddai yn arfer gwrando yr enwog Robert Hall, a pharodd hyny i'w ragfarn at y Bedyddwyr gilio. Ac er nad oedd dim Meth- odistiaid yi-i yr ardal 110 y; dygwyd ef i fyny, eto wedi myned i Lundain clywodd John Elias ac ereill o'u henwogion yn pregethu, fel y daeth yn h off o honynt, heblaw ei fod bob amser yn lied Galfinaidd eiolygiadau. Rhaid iddo gael gweled yr holl newydd- iaduron Cymreig, ac y mae yn darllen y rhan fwyaf o'r misolion, ac o'i gadair wellt ar yr aelwyd bydd yn rhoddi i ni ei ddedfryd ar y cwbl; a bum yn meddwl lawer gwaith y buasai ei syhvadau doeth, craff, a beirniadol yn werth eu cofnodi. Os caf gongl fechan o'r TYST, ysgrifenaf hwy owythnosi wythnos; a bydd gweled pa "groesaw a ga hwn yn nrws y Swyddfa genych chw,i, olygwyr parchus, yn awgrym i mi pa beth i'w wneud. Bydd. dywediadau, Newyrth Zachry ei hun .yn well esboniad ar ei neillduolion na. dim a ellir ei ysgrifenu gan Llysceninen. EI Nai.

LLONG-LWYTH RHYFEDD.

HWNT^AC YMA YN YR AMERICA.