Hide Articles List

2 articles on this Page

CYNNWYSIAD:

CRYNHODEB YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

CRYNHODEB YR WYTHNOS. Wele y TYST yn ei ffurf newydd; a'i ffurf ddiwygiedig, fel y credwn, o leiaf y mae yn y ffurf y mae nifer fawr o'n darllenwyr wedi hir ddymuno ei gael. Yr ydym fel y gwel y darllenydd wedi ein llwytho a defnyddiaxx o'r fath oreu; a chyda cynhorthwy parhaol y brodyr parchus sydd wedi addaw ysgrifenu t, nid oes ynom unrhyw betrusder na bydd y TYST yn newyddiaclur o'r radd flaenaf. Gwelir ein bod wedi gwasgu ein hysbysiadau i le 0 eyfyng fel y byddai genym ofod helaethach i bethau mwy dyddorol ac- adeiladol. Diwrnod mawr yn Llundain oedd dydd Sadwrn diweddaf. Mae gan rwysg a gwych- der brenhinol cldylanwad grymus ar bob dos- barth yn y wlad; ac yn enwedig y mae Y parch dyfnaf yn cael ei deimlo at ein Brenhines Victoria, oblegid y mae yn teyrn- asu yn serch a chalon ei phobl; ac oblegid 0 Inai dyma y tro cyntaf iddi wneyd ei hym- ddangosiad yn y ddinas er dyddiau ei gweddw- dod, rhoddwyd iddi y croesaw hwnw a fedr y Llundeinwyr ei roddi i'r neb y chwenychant ei anrhydeddu. Yr oedd y ddinas oil mewn cyffro, ond mai cyffro natur dda ydoedd. Llen- Wid y prif heolydd gan dyrfaoedd awyddus am gael cipolwg ar y bendefiges urddasol sydd yn gwisgo coron Prydain; ar eiliad y deuai i'r golwg ehwifid napcynau gan y merched, a throai y meibion eu hetiau o gylch eu penau, a chwyddid y gorfoledd gan floeddiadau y plant, a gwelwyd ami i wraig weddw yn y dorf fawr a'r deigryn gloyw yn disgyn dros ei grudd, am y gwyddai y medrai y foneddiges a anrhydeddid gydymdeimlo a'i thrallod hithau. Cariwyd y rhag-gynllun allan gyda manylwch, ac ni ddigwyddodd unrhyw ddamwain i ym- yraeth a'r trefniadau. Bu rhai yn bygwth fod y Ffeniaid yn myned i gynyg am fywyd ei Mawrhydi, a gwnaeth rhai o'r papurau oriaidd, fel bob amser, eu goreu o hyny i wasanaethu eu hamcanion politicaidd; ond profwyd y cwbl yn broffwydi gau; ac o ba genedl bynag yr oedd y miloedd cynnulledig, a pha beth bynag oedd eu golygiadau gwleidydd- ol, yn sicr ni bu torf fawr erioed yn fwy teyrngarol. Cyrhaeddodd yr orymdaith fren- hinol y pen agosaf i Surrey o Blackfriars Bridge tua chanol dydd. Cynwysai ei Mawr- hydi, y Tywysogesau Louise a Beatrice, a'r Tywysog Leopold, a'r osgordd arferol ar y fath achlysuron. Derbyniwyd ei Mawrhydi yno gan awdurJodau urddasol y ddinas, a chyflwynwyd iddi anerchiad; yna cyhoedd- wyd y bont wedi ei hagor yn rheolaidd, ac aeth yr orymdaith drosti yn gyntaf, a daeth- ant dros y Viaduct fawr yn Holborn, yr hon hefyd a agorwyd gyda seremoni gyffelyb. Y noson hono cynhaliwyd gwledd fawr gan yr Arglwydd Faer; allawen gyfarchwyd y ddinas ynddi, ar gwblhad dau o'r gwelliadau pwys- icaf i'r brif-ddinas a agorwyd yn gyhoeddus y diwrnod hwnw. Mae y dyngarwr Mr George Peabody, ac y mae ei enw yn air cyfarwydd trwy y ddau gyfandir, wedi ei dori o dir y rhai by w: ceir ysgrif helaeth ar ei fywyd a'i nodwedd mewn colofn arall. Hawlir ei weddillion gan ei wlad ei hun; ac oblegid hyny cymerir ei gorff yn ddioed drosodd i America, a chleddir ef yn medd ei fam yn Danvers Massachusetts. Yn ei ewyllys ddiweddaf, yr hon a arwyddwyd gan- ddo yn New York, yn Medi y flwyddyn hon, appwyntiodd Syr Curtis M. Sampson, a Charles Reed, Ysw., A.S. dros Hackney, yn ymddir- iedolwyr. Mae ein Brenhines wedi amlygu ei dymuniad, gan fod ei gorph yn cael ei gymer- yd i America, ar fod gwasanaeth angladdol iddo i gael ei gyflawni yn Westminster Abbey, am un o'r g'loch ddydd Gwener. Dygir ei gorff gan hyny ddydd Gwener o Eatdi Square i'r hen Abbey, ac oddiyno cymerir ef i Am- erica. Dyma un wedi anfarwoli ei enw trwy ei haelioni a'i gymwynasgarweh. Ynddo ef cyflawnwyd ynllythrenol eiriau Solomon, "A weli di wr diesgeulus yB. ei orchwyl? efe a saif ger bron brenhinoedd, acnid ger bron rhai iselradd." Mae y gobeithion a hir feithrinwyd, er dan lawer o anhebygolrwydd, am ddiogelwch yr anturiaethwr dihafal Dr. Livingstone, yn ymyl cael eu sylweddoli. Darllenwyd llythyr oddi- wrtho ger bron y I I Gymcleithas Ddacaryddol, I I nos Lun diweddaf, wedi ei gyfeirio at Iarll Clarendon; ac wedi ei ddyddio o Lake Ban- cucohy Gorph. 1868. Yr oedd pawb o'r rhai a weiniasent arno, ond pedwar, wedi ei adael. Ysgrifenodd y Ilythyr ar ddarn o bapur a fen- thyciodd oddiar benaethiad Arabaidd. Am- lygai yr hyder mwyaf yn llwyddiant ei daith. ond cwynai fod camddefnydd wedi ei wneyd o rai o'r newyddion a anfonodd adref. Darllen- wyd hefyd lythyrau gan Syr Bartle Frere a Syr Roderick Murchison, y rhai a dderbynias- ant; a darllenodd yr olaf ranau o lythyr a dderbyniodd y dydd o'r btaen o Zanzibar oddi- wrth Dr. Kirk, yr 1;lwn hefyd a ddanfonai ddifyniadau o lythyrau a dderbyniasai efe oddi- wrth Dr. Livingstone. Rhwng y cwbl y mae genym seiliau cryfion i gredu ei fod yn fyw ac yn ddiogel; ac y dychwel cyn hir i ddat- guddio i'r byd ffrwyth ei ddarganfyddiadau. Mae Dr. Short, Esgob Llanelwy, yn awr yn ei bedwarugeinfed flwydd oed; ac y mae wedi anfon at y Prif-weinidog i'w hysbysu ei fod am gyflwyno ei esgobaeth i fynu i'r awdurdod a'i rhoddodd hi iddo. Ni bydd neb yn cwyno, ond bydd llawer yn l<;tw(mhau. Mae yr hen Esgobion yn cymeryd mantais ar y ddarpar- iaeth a wnaed i'w galluogi i ymddeol o ofalon a chyfrifoldeb eu swydd; ond y maent yn taBu cyfrifoldeb ychwanegol ar y Prif-weir1; iog, yr hwn y mae yn sicr Gwym b)-21 y11 te"" > fod ganddo rywbeth rheitiach i fckl, yn ci na hen Eajrohion. Codir yr hen gri map yn lobyg am gael Esgob Cymreig i Lanelwy. Yn sicr nis gall fod genym ni ddim yn erbyn Ihyny; ond nid ydym yn gvveled pa beth sydd a fyno Anghydffurfwyr ag uno ag Eglwyswyr yn y fath gri. Ni waeth mor llawer pa un ai Cymry ai Saeson fyddant, y mae eu dyddiau wedi eu rhifo. Mae yr hen Esgobion yn teimlo fod urddas eu swydd yn cael ei golli fel nad yw ymneillduo o hoai yn un diraddiad yn eu golwg. Mae gweinidogion y goron yn cyfarfod yn eu cynghorau yn ami iawn y dycldiau hwi. Cwestiwn y 1M- yn yr Iwerddon, fel yr ym- ddengys, sydd yn cael mwyaf o'u sylw; a hwnw yw y cwlwm mwyaf dyrus ac anhawdd ei ddatod. Ond y mae genym lawn hyder y bydd i'r weinyddiaeth a fu mor llwyddianus gydag Eglwys yr Iwerddon. yr eistedcliad di- weddaf, fod yn llawn mor llwyddianus gyda hawliau tir yn yr Iwerddon yr eisteddiad nes- af. Bu yr hyn a elwir Ulster Tenant Right, dan sylw ganddynt. Cymeradwyid y cynllun hwnw mor belled ag y mae yn rhoddi i'r ten- ant sydd yn ymadael hawl i fynu gan yr un sydd yn dyfod ar ei ol ryw beth tebyg i ad- daliad am y gwelliadau a wnaoth ar y tir. Ond y mae fod y cwbl yn disgyn ar y tenant newydd, ac nid ar y tirfeddianydd, yn ei gwneyd yn anmhosibl i neb ond dynion arian- og i gymeryd ffermydd. Rhaid iddyiit nid yn unig feddu digon a arian i stocio y ffarm, ond hefyd ddigon i dalu yr hen denant am y gwell- iadau a wnaeth. Nid yw gweinidogion ei Mawrhydi eto wedi datguddio eu mesurau ar y cwestiwn pwysig yma.