Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

22 articles on this Page

[No title]

YMDDISWYDDIAD MR. STANTON.

^ AMERICA.

! MI WELAIS, MI GLYWAIg.I

CYF ARFODYDD MAWRION MAI.

FFRWYDRIAD ,DYCHRYNLLYD.

News
Cite
Share

FFRWYDRIAD DYCHRYNLLYD. TRI 0 DDYNION WEDI EU LLADD YN Y FAN. Cymmerodd un o'r damweiniau mwyaf dychryn- llyd le yn Liverpool ddydd Mawrth diweddaf, rhyAv gwarter wedi unarddeg yn y boreu, yn Ngweithfa Tan Gwyllt Meistri Joseph Hope, a James Harper, lie yr oeddynt hwy a thri o bersonau eraill o'r enw Thomas N. Collister, John Quarrell, a John Dix, yn Dee Street, allan o West Derby Road. Gadawodd Mr Collister y weithfa rhyw ddeg munud wedi un- ardddeg, a Mr Quarrell rhyw ychydig eiliadau ar ei ol, gan adael Hope, Harper, a Dix yn yr adeilad. Nid oedd Mr Quarrell wedi myned ond ychydig latheni oddiwrth y lie, pan y clywodd y ffrwydriad, ac wrth droi ei olwg yn ol gwelodd yr adeilad yn cael ei chwythu i fynu. Ymgasg-lodd tyrfa o bobl yn fuan.o gylch y lie, a chafwyd cymhorth yr hedd- geidwaid fel y caed cyrph Meistriaid Harper, Hope- a Dix allan o'r adfeilion yn fuan. Ymddengys idd- Ily ynt farAV yn uniongyrchol, ac yr oedd y ffrwydriad mor ddychrynllyd nes tynu g-Avadnau esgidiau y tru, einiaid oddiwrth y cefnau. Yr oedd golwg echryslon ar y cyrph-yr oedd braich i un ohonynt wedi ei chwythu ymaith, a choes un arall ychydig uwchlaw y penlin. Caed oriawr arian yn mhoced Hope, yr hon oedd wedi stopio yn union am ugain munud wedi unarddeg. Dyn sengl oedd Hope, 43 oed, ond yr oedd ei bartner Harper yn briod, a gadayyodd wraig a phump o blant i alaru ar ei ol. Yr oedd Dix yn 60 oed, ac heb un math o gyssylltiad a'r Cwmni. Galwai yno fel cyfaill i edrych am Hope a Harper, a phan y gadawodd Quarrell, yr oedd yn y gwaith o ddarllen papur llowycld i'r ddau. Pan y clywodd Mrs Harper am y ddamwain, cyflymodd i fyned i'r lie, a cheisiai fyned at gorph ei gAvr, ond atelid hi gan y merched oeddynt Avedi ymgasglu yno a gwaeddai yn ddolefus, Ow fy mhriod druan!' Yna lleAvygodd, a chymmerwyd hi i'w chartref galarus. Yr oedd amryw ddynion yn gweithio yn agos i'r lie ond y mae yn ail i wyrth na chafodd yr un ohonynt niweid. Nid oes siemvydd eto am yr achos o'r ffrwydriad, ond bernir fod rocket. wedi taiiio wrth ei lhyytho rywfodd.

FFRWYDRIAD ARALL DYCHRYNLLYD…

ETHOLWYR BRADFORD.

CYMANFA MORGANWG.

LLOFRUDDIAETH BABAN YN LIVERPOOL.

RHYL.

CONWY.

RUTHYN. ::;

DINBYCPI.

[No title]

TRELECH.

PONTYPOOL.

[No title]

BEDDARGEAFP ' ' U .J,

(GydtCr Cable.'')

- MORWYR PRYDEINIG WEDI EU…

Y SENEDD NOS FA WRTH.