Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

EFfiNGYLWYlt TEITHIOL CYMRU.…

TAITH Y PERERIN.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

TAITH Y PERERIN. Mai 11.—Ar daith yn Rhosesmor. Methu deall paham yr oedd cynifer o bobl yn linio ochrau'r heol- ydd sydd yn arwain i'r pentref. Gofyn o'r diwedd i hen wr am esboniad. Yntau'n atteb mai Garibaldi oedd yn dyfod'yno. Pan glywais hyny, aethum fel Zacheus i ben coeden i weled Gwron Italy. Hwre, meddai'r plant, a gwelwn wr tordyn iawn yn dyfod, mewn gwasgod wen, a rug tryfrith ar ei fraich, ac yn edrych yn lluddedig. Erbyn iddo ddy- fod yn nes attaf, gwelais mai nid Garibaldi Italy, ond Garibaldi Dirwest, Rhyl, ydoedd. Sold again, ebe fi, ac i lawr a mi gynta gallwn. Deallais ei fod i draddodi araeth ar Ddirwest yn y capel Methodus, ac yno a mi. Yr un araeth yn union ag a glywais ganddo yn Llandudno. Sold again, ebe fi eilwaith. Cwyno wrth Esgob Pierce fy mod yn gorfod gwrando yr un peth ddwywaith. 'Oh!' ebe yntau, 'mae Henry Reespn pregethu yr un bregeth lawer gwaith drosodd, a minau hefyd o ran hyny, ac os ydym m vn swneud hyny, paham y rhaid i Garibaldi beidio i Y chwi sydd ar fai yn erwydro,' Diolch i chwi am v cerydd, ebe finau. Mai 12.—Gyda'r train heddyw i r Bala. Pedwar o efrydwyr athrofaol yn cael eu dwyn o flaen y Seiat am chwareu crkhei. Y bechgyn yn dadleu mai er ,,y mwjTi eu hieehyd yr oeddynt clwb. 'Iechyd yn wir,' meddai yr_ achwynydd ;0s oes arnoeh eisio exercise deuwch 1 balur ardd 1 mi, a chewch ddigon o exercise. Wedi lnr ddadleu dros ac yii erbynf penderfynwyd reflerio'r achos 1 Kilsby, J. R., a Huwco Meirion. I Mai 13.-Mary Ann (y wraio-) a mihau yn myned 1 Rutbyn. Ciniawa gyda'r hen sunt loan Jones. loan, druan, yn fwy digalon nag y gwelais ef erioed. Mwy o son yn Rhuthyn am Yr Eisteddfod nag am y seiat fisol, meddai ef. Y blaenoriaid yn mhwyllgor- Au'jr Eisteddfod yn rheolaidd, ond am wythnosau heb fod yn agos i'r cyfarfod gweddi. Mary Ann yn ei berswadio y gallai yr Eisteddfod fod yn achlysur iddo gael gwraig eto yn ei hen ddyddiau, ac felly y goruwchlywodraethid yr aflwydd er daioni. Ezra Roberts a'r tafarnwyr yn benben. Yr Ysgrifenydd eisiau cael y Pavilion yn y lie hwylusaf i ddieithriaid ddyfod o hyd iddo, a'r tafarnwyr eisiau ei gael yn mhen draw y dref, fel y bydd yn rhaid i'r dieithriaid fyned heibio drws pob tafarn wrth fyned yno o'r station. Rhydderch o Fon a Thalhaiarn i fyned yno i settlo'r pwnc. Rhydd Pererin ei ddylanwad dros ochr Ezra Roberts. Mai 14.—Mary Ann a minau yn myned am ein hiechyd i Rhyl—ymdrochle enwog. Tenyson, onide, ddywedodd,— Ewch eiddil blant nych iddi,—cewch ail wrid, Cewch ail rodio 'n heini; Ymdrechwch gael ymdrochi Foreu haf yn ei dwfr hi.' Cerdded drwy heol fawr y Parade. Holl wragedd y tai lodgings yn ein gwylio. Ambell un a mwy o bres ar ei gwyneb na'r lleill, yn mentro gofyn i ni ddyfod i edrych ei apartments. Cymmeryd un o gerbydau'r Jerusalem ponies i fyned drwy'r dref. Byne, Healing, Eryr Mon, Joseph Roberts, Thomas Ddwywaith, ac eraill yn anfon eu business cards i ni i'r cerbyd. Mary Ann yn penderfynu mai dyma'r lie i fyw pan y bydd dyn wedi casglu digon i fyw ar ei arian. Pawb yn gwerthu yn rhad. Owens y War a phapur yn ei ffenestr yn dyweyd ei fod yn gwerthu under cost price. Beth yn ychwaneg ellid ddisgwyl gan unrhyw siopwr ? Bodran yn cario'i wlaneni i gyd allan, ac yn dyweyd y rhydd hwy am ddim os gall neb werthu yn rhatach. Mai 15.—Cymmeryd cerbyd i Rhuddlan. Wynne Edwards wedi dychrynu Robart Hughes yn ofnadwy. Yn dyweyd y codai ei ardreth yn ddwbl am ei fod yn gwerthu Petitions (yn y Tyst) am geiniog yr un o blaid cynygiad Gladstone. Roger Hughes yn dyweyd y safai wrth gefn Robert, ac yn ei anog i werthu cynifer ag a allai o'r papur newydd. Llwydd- iant i'r achos, ebe finau. Rhaid gwneud yma fel y gwnaed yn Prestatyn, sef tyngu special constables. Aeth Dowell y Methodus am fygyn o'r cetyn cwta' un diwrnod i dy cymydog, a phwy oedd yno ond un o Olynwyr yr Apostolion,' a deiseb yn erbyn y Pab- yddion ganddo, meddai ef. Peidiwch ag arwyddo'r ddeiseb,' meddai Dowell. 'Nid yn erbyn y Pab- yddion, ond yn erbyn Gladstone, y mae'r ddeiseb.' Meindiwch eich busness eich hun,' meddai'r offeir- iad, ac aeth yn fath ffrwgwd fel y bu rhaid tyngu cwnstabliaid i gadw'r heddweh. Oni fyddai yn well i'r Olynwyr fod yn ddistaw, oblegid nid yw Glad- stone, na Miall ychwaith, am gyffwrdd LYe Interests. Mai 16.—Omicron yn yr H. 0. yn ysgrifenu dwlni. Yn dyweyd mai dau sydd yn holl Sir Gaernarfon a Sir Fon gyda'r Methodistiaid allant bregethu Seis- naeg Adwaen weinidog T. C. yn Mon fu yn gen- hadwr Seisnaeg cyn geni Joseph Jones a Daniel Rowlands (fel pregethwyr). Wrth son am Mr Jones, gwelaf yn yr H. C. ei fod wedi dyfeisio cyffes ffydd ddirwestol newydd. Un erthygl ydyw peidio yfed diodydd meddwol (yn ol yr hen gyffes). Yr ail erthygl ydyw peidio yfed yn y tafarndai. Bydd y system hon yn boblogaidd yn ddiddadl. Gall blaenor- iaid a phregethwyr arwyddo Dirwest Joseph Jones, a yfed potel o whiskey bob un yn y dydd, ond pcidio etc hyfed yn y tafarndai Mary Ann yn dyweyd y dylai Herbert Williams (Apostol cadence) edrych yn well ar ol ei Esgob. Cyffes ffydd i'r Borthaethwy, ac nid i Gymru, ydyw peth fel yna.—Cyfarfod Us- tusiaid yn Aber rnywle. Jack Fforddlas yn gorfod talu 5s. a'r costau am dori asenau ei wraig, a Bob Shingaro yn gorfod talu dwy bunt a'r costau am edrych ar ei gi yn methu tori asenau na dal cwning- en! Wel, wel,' meddai Edward Llwyd y Lledr, 'Pa faint gwell yw dynes na chwnigen p' Os a Bob i ddal ewningod eto, peidied a gadael i neb ei weled. Mai 17.—Treulio'r Sabboth yn Dyserth. Synu gweled Ty Dduw (yr Eglwys) yn hyllach na hen ysgubor ddegwm, a thy'r offeiriad yn balasdy hardd. Myned i gapel y Corff nos Sabboth. Y pregethwr a'r gwrandawyr ddim yn deall eu gilydd am amser dechreu'r odfa. Y pregethwr yn dechreu am 6, a rhan luosog o'r gynnulleidfa yn meddwl mai i awr wedi 6 oedd yr adeg. Y rhai olaf fyddant flaenaf, felly, y rhai oedd i awr 'ar ol yr amser yn dyfod i'r odfa oeddynt flaenaf yn myned allan, a hyny cyn diwedd y cyfarfod Gwir fod y pregethwr dipyn yn hir ei wynt. Dangosodd y teiliwr mawr ei ivatch iddo o'r diwedd. 'Ho! John,' meddai yntau, 'y clock ydyw fy arweinydd i, ac nid dy hen watch siom- edig di. Gwn nad oes genyt ti dy hun ddim ffydd ynddi, o herwydd gwelais di fwy nag unwaith yn ei dodi wrth dy glust i edrych oedd hi yn tipian. Nid oes genyf byth ymddiried mewn watch pan y gwelaf ddyn yn ei dodi wrth ei glust.' Mary Ann yn synu at impudence dyn y watch, ond yn barnu y cawsai fwy o fendith dan y bregeth pe buasai yn fyrach ac yn drymach. Pwy a ddyfeisia beiriant i dori darn o hyd y pregethau, a'i ychwanegu at eu lied ? Llunier i gall haner gair, Lie dau angall a dengair.' Ar ei daith. Perbein.

LLANBRYNMAIR AC AMERICA.

BRYN, LLANELLI.

ARFON OGLEDDOL.

BRYNGWENITH, CEREDIGION.

SALEM, MEIDRYN.

BETHEL, VICTORIA.

CYFARFODYDD MAWRION MAI.

iNODION A NIDIAU.